Cyfansoddiadau a Beirniadaethau

Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 428tt, £10, Awst 2017

Siarad mewn barddoniaeth
Adolygu

Siarad mewn barddoniaeth

Ystyried pryddest fuddugol Eisteddfod 2017


Elan Grug Muse

Amser darllen: 8 munud

16·08·2017

‘Trwy ddrych’ oedd testun y Goron eleni. Y mae drych, yn ôl ei natur, yn dangos i ni ryw ddarlun o’n byd. Llun sydd efallai’n gyfarwydd, ond nid yr union lun yr ydym wedi arfer ei weld gyda’n llygaid noeth. Falle mai gweld pob dim o chwith fyddwn ni, a’n llaw dde yn chwifio at ein llaw chwith. Neu, os ydi’r gwydr yn geinciog a gwyrdroëdig, y gwelwn ni onglau a siapiau cwbl ddiarth, rhyfedd, a bygythiol falle. Ac efallai mai’r hyn sy’n medru codi’r ofn mwyaf weithiau yw’r ffaith ein bod ni, wrth edrych, yn gorfod cydnabod ac adnabod rhyw lun ohonom ni’n hunain wedi ei adlewyrchu’n ôl atom yn y drych hwnnw.

Dyna oedd yng nghefn fy meddwl i wrth fynd ati i ddarllen pryddest fuddugol Gwion Hallam yn y Cyfansoddiadau eleni. elwyn/annie/janet/jiws oedd ffugenw’r bardd – teyrnged, mae’n debyg, i rai o’r bobol a ysbrydolodd y gerdd. Ond i fyd Lilian y cawn ein tywys – byd dryslyd, dyrys, brawychus ac, ar adegau, hardd a doniol; byd unigolyn sy’n dioddef o ddementia. Ia, anodd ydi ysgrifennu’r geiriau hardd a doniol yn yr un frawddeg â dementia. Ond person yw Lilian, nid ymgorfforiad o glefyd. Ac wrth i ni ddilyn y bardd ar ei daith, wrth iddo ddod i nabod Lilian, a dysgu sut i ymateb i’w chyflwr, fe gawn ni ymhyfrydu gydag o o weld sut mae Lilian, wrth ymladd yn erbyn y cyflwr, yn defnyddio math o farddoniaeth fel arf pennaf wrth geisio dal ei gafael ar ystyr. Er enghraifft, pan fydd y gair ‘bach’ yn llithro o’i gafael mae hi’n gorfod canfod ffordd arall i fynegi ei ystyr:

‘Ond tydw i’m yn ...’

‘Beth?’

‘Chi’n gwybod, yn ... hynny!

Tydw i’m yn ...

llai nag yr ydw i.’

Ac wrth gael ei gorfodi i ganfod ffordd newydd o ddweud ‘bach’, mae hi’n cael ei hun yn dweud mwy nag y bydde ‘bach’ wedi medru ei gyfleu byth, ac yn siarad mewn barddoniaeth.

A dyna ddod at un o brif themâu y gerdd felly, sef natur barddoniaeth, a’i berthynas â iaith ac ystyr, mynegiant a deall. Mae’r gerdd yn agor gyda dyfyniad gan Elwyn (sef 'Elwyn' y ffugenw am wn i ac un o breswylwyr cartref dementia Bryn Seiont):

‘Dw i’n licio barddoniaeth, mae’n aros ’run fath. Yn deud hi fel mae. Mae’n ffaith i chi, yndi – barddoniaeth.’

Barddoniaeth yn aros yr un fath? Onid ydi hi’n cymryd ystyr newydd yng nghlust pob un sydd yn ei chlywed? Ac eto, er medru newid ei hystyr a’i harwyddocâd yn ôl pob amser a chyd-destun, mae’n wir dweud ei bod hi’n llwyddo i wneud hynny gan gadw ei ffurf wreiddiol, fwy neu lai. Gall yr un trefniant o eiriau, heb newid dim ar ei ffurf a’i strwythur, olygu pob math o bethau. A’r ansefydlogrwydd hwnnw rhwng y geiriau a mynegiant ar un llaw, ac ystyr a deall ar y llaw arall sy’n lliwio llawer o’r dweud yn y bryddest hon.

Ond dyna ni ddigon o baldareuo, gadewch i ni droi at y gerdd ei hun. Yn y rhan gyntaf, mae’r bardd yn dod wyneb yn wyneb â Lilian am y tro cyntaf, neu ‘Lili Wen Fach’ fel y mae ei mam yn ei galw. Ceir deialog, lle mae’r bardd yn ceisio ennill ymddiriedaeth Lilian, sy’n holi beth yw ei fwriad wrth gasglu ei geiriau hi ar bapur:

‘I’w dwyn nhw?

A’u troi nhw!’

                                                                                    ‘I’w gwario nhw’n gall a’u cadw

                                                                                    nhw’n saff am y tro.’

‘I’w cofio?’

                                                                                    ‘Am byth. I’w gweithio nhw’n gerdd

                                                                                    ac adrodd eich stori am oes.’

Yn yr ail ganiad wedyn, mae’r bardd yn ymweld eilwaith, a daw dryswch Lilian yn fwyfwy amlwg wrth iddi golli gafael ar rai geiriau:

‘Rhai bach ydy’r gwaetha! Y lleia ohonynt

sy’n syrthio drwy’r tylla fel blawd.’

Llais Lilian sy’n arwain y naratif, gyda llais y bardd yn gwthio weithiau, yn gwrando ac yn cofnodi. Ac mae Lilian yn ymwybodol o hynny, ac yn datgan: ‘Y fi, nid y chi, ydy’r bardd!’. Nid dioddefwraig ddiymadferth ydi hi oddi fewn i’r naratif, ond tywysydd trwy fyd dryslyd ei chyflwr. Ac er fod y bardd a’r darllenydd yn chwerthin weithiau ar bethau nad ydi hi’n sylweddoli eu bod yn ddoniol, ni allwn ni fod yn siŵr bob amser ar bwy mae’r jôc. Nid yw’r bardd yn caniatáu’r fath dir cadarn i’w ddarllenwyr.

Yn y rhan nesaf wedyn cawn fyfyrdodau’r bardd, lle mae’n egluro ei dasg a’i swyddogaeth wrth ymweld â’r cartref preswyl. Mae’r bryddest yn pendilio rhwng y deialogau bywiog efo Lilian, a’r myfyrdodau dwysach hyn, a rhaid cyfaddef mai dyma’r rhan o’r gerdd lle mae’r mwyaf o ôl straen i’w weld ar y dweud. Tra fod y sgyrsiau gyda Lilian yn naturiol ar y cyfan, ac yn gynnil, teimlaf mai prif bwrpas y penillion hyn yw egluro i’r darllenydd beth sy’n digwydd a hynny'n ddianghenraid, yn ogystal â rhoi saib inni rhwng deialogau Lilian er mwyn cyfleu llif amser. Dyma lle mae’r dweud fwyaf barddonllyd, er bod yna ambell ddelwedd drawiadol, er enghraifft:

Yng nghanol static llwyd

ei chof clustfeinio a wnaf

am nodau glân

Yn nes ymlaen yn y bryddest, dechreua’r myfyrdodau fynd braidd yn ailadroddus hefyd, ac mae yna duedd i or-egluro swyddogaeth y bardd.

Ond yn y bedwaredd ran, daw’r gerdd i gresendo dramatig. Mae Lilian yn lled-rybuddio, lled-herian y bardd fod yn rhaid iddo fod yn ofalus, fod peryg iddi golli ei chof yn llwyr os na fydd o’n ddarbodus ac yn brydlon yn ei waith. Yna mae hi’n codi ac yn rhoi araith hir, sydd yn ein gwthio o ddifri i ystyried beth sydd yn farddoniaeth, a natur ei pherthynas hithau ag ystyr. Fel petai’n adleisio ansefydlogrwydd y cynnwys, mae ffurf y gerdd yn newid hefyd, yn ystumio’n siapiau ar hyd y dudalen. Adrodd hanes ei bywyd y mae Lilian, ond mae ei chronoleg dros bob man, ei brawddegau’n llifo i’w gilydd ac yn ailadrodd nes troi’n frawddegau newydd; yr un geiriau ond ystyr newydd – ac eto? Mae’r bardd yn holi ai bardd oedd gŵr Lilian:

[...] y gŵr oedd yn rhaffu ei

odla a’n charmio ni i gyd nes y cafodd

o drawiad wnaeth stopio pob dim

a dangos y drwg yn

ei galon.

Ond mae hi’n ei gywiro yn syth bin: ‘Na, electrisian’. Ac eto, os mai siarad mewn barddoniaeth yr ydym, mae yna wirionedd yn y ddau ddatganiad, on’d oes?

Yn y rhan nesaf, sgwrs ddychmygol rhwng Lilian a’r bardd a geir. Mae’r bardd yn rhwystredig wrth geisio ’sgwennu ei gerdd, yn methu â chanfod Lilian, ac yn sgwrsio gyda hi yn ei ddychymyg. Ac mae hithau, yn ei dull anuniongyrchol, chwareus arferol, yn rhoi cyfarwyddyd iddo ar sut i’w chanfod:

Ond dyma fi! Dw i yn dy law

yn dawnsio’n dy nodiadau,

dilyn rhythmau blêr y sgwrs -

dw i yno rhwng y nodau.

Amwysedd sy’n nodweddu’r neges yn y fan hon hefyd. Nid trwy rythu ar ffeithiau moel y mae deall hanes Lilian, ond trwy rhyw gil edrych arnyn nhw yn slei bach.

Yn y chweched rhan wedyn ceir mwy o fyfyrdodau’r bardd, a’r bardd erbyn hyn yn nesáu at oleuedigaeth ynglŷn a sut i sgwennu am Lilian ac mae’r dweud yn ailadroddus braidd yn y fan hon. Mae yma ormod o ddweud ar draul dangos – mae’r darllenydd wedi rhyw ddeall ers y rhan flaenorol fod y bardd yn nesáu at ddeall sut mae adnabod Lilian, ac nid oes gwir angen ailadrodd hynny mewn Cymraeg plaen(iach). Nid yw’n dweud fawr ddim newydd yn y rhan hon a wela i ddim sut y byddai’r gerdd ar ei cholled o’i hepgor.

Ond dyna ddod wedi hynny at y rhan olaf, a rhan fwyaf dirdynnol y bryddest. Dychwela’r bardd i ymweld â Lilian, a hynny wedi mis o absenoldeb. Yn y cyfamser, mae Lilian, yng ngeiriau’r nyrs, ‘wedi mynd’. Mae’r bardd yn siarad yn blaen ac yn syml, heb flodeuo’r dweud â sentimentalrwydd stroclyd o gwbl. Wedi dod a’i gerdd iddi mewn amlen mae o, yn rhodd:

Mae’n gadael yr amlen ar erchwyn 

y gwely. A gadael y golau ymlaen.

Wrth ffarwelio â Lilian, nid yw’n syrthio i’r trap ystrydebol o fod ‘yn rhy hwyr’, ac mae hynny ynddo’i hun yn arwyddocaol. Mae’n gwneud i’r darllenydd holi ei hun beth yw ystyr gadael cerdd mewn amlen ar wely rhywun sydd eisoes ‘wedi mynd’. Beth yw pwrpas y cerddi o gwbl? Ai yn y dyfyniad ar ddechrau'r gerdd y mae'r gyfrinach - sef bod cerddi'n ‘aros ’run fath. Yn deud hi fel mae. Mae’n ffaith i chi, yndi - barddoniaeth’?

Neu ai am eu bod yn cynnig rhyw fath o sefydlogrwydd, rhywbeth parhaol a digyfnewid y mae iddynt bwsigrwydd? Neu a ydynt yn tanseilio’r union gysyniad hwnnw o sefydlogrwydd, wrth guddio lluosogrwydd o wirioneddau oddi mewn i’r un trefniant, ffug-sefydlog o eiriau?

Daw rhywun yn ôl at y ddelwedd wreiddiol o ddrych, a gofyn pa gydnabyddiaeth yn union a gafodd ac a welodd Gwion Hallam wrth edrych drwyddo ar fyd Lilian? A be welwn ninnau tybed?


Cyhoeddodd Elan Grug Muse ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Ar Ddisberod (Barddas), ym mis Mai 2017. Mae hi'n un o gyd-sylfaenwyr Y Stamp


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Barddoniaeth, Elan Grug Muse

 


Wrth gael ei gorfodi i ganfod ffordd newydd o ddweud ‘bach’, mae Lilian yn siarad mewn barddoniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 16·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy…

Cyfansoddi


Marion Muller-Colard

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg (2014), yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y…

Cyfansoddi


Robert Walser

Cyhoeddodd Robert Walser ddarnau cyson ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt yn 1907-8 ac yn y cyfnod 1925-1933, gan gynnwys 'Llythyr gan Ewropead' ym Mai 1926. Mae nifer o'r darnau hynny ar ffurf llythyr sy'n cyfarch y darllenydd yn bersonol, yn lythyrau caru sydd wedi eu cyfeirio at foment ddychmygol. Yn wir, yn 1930, penderfynodd y papur wahodd nifer o…

Dadansoddi


Daniel Huws

Mae canu'n ymestyn lawer pellach yn ôl yn ein hanes nag ysgrifennu. Genir canu yn y cof ac yn y cof y'i diogelir. Cof sy'n gwneud dyn. Mae grym y cof dynol yn rhywbeth y mae pawb ohonom wedi cael achos o bryd i'w gilydd i…

Dadansoddi


Huw L Williams

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn…

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr…

Adolygu


Alun Llwyd

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â…