David Graeber


Bullshit jobs: a theory

Allen Lane, 368tt, £20, Mai 2018

Swyddi da-i-ddim
Adolygu

Swyddi da-i-ddim


Dyfrig Williams

Amser darllen: 7 munud

09·10·2018

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am y gyfrol ddylanwadol Debt: The First 5,000 Years (2011). Fel anarchydd y disgrifia ei hun ac mae ganddo ddiddordeb ysol yn holl hanes trafodion cymdeithasol ac economaidd.

Nid syndod felly yw darllen ei feirniadaeth gref o'n system gyfalafol gyfredol. Yn y gyfrol ddiweddaraf hon, sydd wedi ei hysgrifennu mewn arddull fywiog a phryfoclyd, mae Graeber yn mynd i'r afael â’r problemau sydd wrth wraidd swyddi 'da-i-ddim', eu goblygiadau i ni fel unigolion ac i gymdeithas yn ei chyfanrwydd. Ond sut mae adnabod swydd 'da-i-ddim'? Dyma ddiffiniad Graeber:

[...] math o waith cyflogedig sydd mor ddiwerth, diangen neu amheus fel na all hyd yn oed y gweithiwr gyfiawnhau ei fodolaeth, er ei fod yn teimlo rheidrwydd i roi'r argraff nad yw hyn yn wir, i fodloni'r amodau cyflogaeth.

Yn ôl ymchwil a wnaethpwyd yn dilyn ysgrif wreiddiol Graeber ar y pwnc, a gyhoeddwyd pum mlynedd yn ôl yn y cylchgrawn radical Strike!, mae rhwng 37 a 40% o'r boblogaeth ym Mhrydain o'r farn nad oes unrhyw ddiben i'w swyddi. Mae hwn yn ystadegyn gwirioneddol ddifrifol o ystyried mai 'yn y gwaith' y treuliwn y mwyafrif o'n hamser – gan gymryd ein bod yn ddigon lwcus i fod 'mewn gwaith'. O ymestyn y diffiniad i gynnwys y swyddi hynny sydd, yn eu tro, yn cefnogi'r gwaith diwerth hwn, yna cwyd y canran i 50%.

Rhennir swyddi 'da-i-ddim' yn bum categori gan Graeber. 'Flunkies' yw’r cyntaf. Prif bwrpas 'Flunkies' yw gwneud i bobl ymddangos yn dda neu'n bwysig. Un enghraifft fyddai Cynorthwyydd Personol diangen, neu dderbynnydd mewn swyddfa lle nad oes digon o alwadau i'w gyfiawnhau. 'Goons' yw swyddi ag elfen ymosodol iddynt sy'n bodoli dim ond er mwyn creu argraff heriol i gyrff eraill cystadleuol o fewn yr un maes. Datrys rhyw wendid neu broblem mewn sefydliadau a chwmnïau y mae 'Duct Tapers', ac yn aml, tasg y gweithwyr hyn yw dadwneud 'niwed' a achoswyd gan weithwyr o statws uwch yn yr hierarchaeth. Crëwyd swyddi 'Box Tickers', ar y llaw arall, i roi'r argraff bod mudiad yn bwrw ati i daclo problem, er nad ydynt yn gwneud hynny, mewn gwirionedd. Caiff y swyddi hyn eu ffurfio ar ôl sgandal ac yn amlach na pheidio, gorfodir y cyflogedig i gydymffurfio â phroses fiwrocrataidd er mwyn cyrraedd safonau arbennig. Ond canlyniad hyn, yn ôl Graber, yw arwain at fwy o wastraffu amser ac adnoddau.

Y categori olaf yw’r 'Taskmasters'. Mae'r rhain naill ai'n creu gwaith di-werth i gadw gweithwyr eraill yn brysur – gan gyfrannu at wastraffu mwy o adnoddau eto – neu'n chwarae rôl goruchwylwyr lle nad oes angen goruchwylio mewn gwirionedd.  Graeber ati i ddangos sut y mae'r hierarchaeth hon wedi ei phlethu i'r system waith. Dadleuir bod ein ffyrdd o weithio yn seiliedig ar yr hyn a elwir yn 'Taylorism' (neu 'Reolaeth Wyddonol'), arfer sydd yn ddibynnol ar y rhagdybiaeth fod angen haenau o reolaeth arnom er mwyn hwyluso effeithiolrwydd y rheng flaen.

Nid Graeber yw’r unig un i feirniadu’r system waith gyfredol. Mae'r feirniadaeth yn gyffredin hefyd ym maes meddylfryd systemau, er enghraifft yng ngwaith yr awdur a'r seicolegydd galwedigaethol John Seddon (1952- ) a arbeniga ar hyrwyddo newid yn y diwydiant gwasanaeth. Ym marn Seddon, mae'r gagendor rhwng y sawl sy’n rheoli a'r gweithwyr yn y rheng flaen yn golygu nad ydy’r rheolwyr yn medru gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar y darlun cyflawn. Canlyniad hynny, wrth gwrs, yw eu cymell i wneud penderfyniadau gwael.

Cawn ein cyflyru i gredu bod cyfalafiaeth yn annog effeithlonrwydd. Ond dros wythdeg mlynedd yn ôl, yn 1930, proffwydodd John Maynard Keynes y byddai cenhedlaeth ei wyrion yn gweithio wythnos waith bymtheg awr. Ac er yr amlinellwyd buddion amrywiol wythnos fyrrach gan y New Economics Foundation yn eu hadroddiad '21 hours' bron i ddegawd yn ôl, rydym yn parhau i weithio oriau neilltuol o hir; yn wir, mae gweithlu Prydain ymhlith yr uchaf yn Ewrop, a hynny ar draul effeithlonrwydd. Yn ôl yr OECD, mae Prydeinwyr yn gweithio 1676 awr y flwyddyn, sy'n gyfartaledd o 32 awr yr wythnos. Mae hyn dipyn yn fwy na'r wlad sydd ar flaen y gad, sef yr Almaen lle mae gweithwyr yn gweithio 1363 awr y flwyddyn, neu tua 26 awr yr wythnos ar gyfartaledd.

Ceir tystiolaeth o fanteision gweithio oriau gwaith byrrach yn Sweden hefyd. Mae polisi o'r fath mewn rhai gweithleoedd – er enghraifft yn y byd nyrsio – wedi arwain at ostyngiad mewn absenoldeb oherwydd salwch. Mae yna lygedyn o obaith ym Mhrydain yn ogystal: cyhoeddodd y TUC yn ddiweddar eu bod yn bwriadu gwneud wythnos waith pedwar diwrnod yn ganolbwynt i'w hymgais i ddiwygio’r byd gwaith. Gwerth nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio ail-ddiffinio gwerth gwaith trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r ddeddf hon yn ymgais i symud y ffocws o'r budd economaidd tymor byr i'r canlyniadau hirdymor. Cadarnhaol yn sicr yw gweld cydnabyddiaeth yng Nghymru nad ydy’r hinsawdd waith bresennol yn hwyluso amgylchiadau byw iach a ffyniant cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy. 
 

John Maynard Keynes (ar y dde) gyda'r artist Duncan Grant, aelod arall o grŵp Bloomsbury (Wikipedia)

Ond yn wyneb y ffeithiau hyn, pam fod swyddi diwerth ar gynnydd? Nid oes unrhyw un, mewn gwirionedd, wedi mynd at wraidd y broblem a gwir gwestiynu gwerth gwaith ers i Francis Fukuyama ddatgan, os braidd yn fyrbwyll, fod hanes (ac esblygiad cymdeithasol-ddiwylliannol, felly) wedi dod i ben yn 1989. Hyd yn oed yn ein cyrff cyhoeddus, rhown systemau ar waith sy'n codi o’r drefn gyfalafol, a hynny er bod y sector yn gweithredu mewn cyd-destun llawer mwy aml haenog na maes fel gweithgynhyrchu. Dyfeisiwyd methodoleg rheoli prosiectau PRINCE 2 gan Swyddfa'r Cabinet ar gyfer sefyllfaoedd syml, ond caiff ei gweithredu gan y llywodraeth mewn cyd-destunau gwaith cymhleth. Ar ben hynny, gwerthwyd prif gyfran y model hwn i Capita, y darparwr gwasanaethau busnes technolegol. Tybed a fyddai Graeber yn gweld hyn yn ddoniol, neu fel sgerbwd ffilm arswyd?

Digon posib mai er mwyn amlygu diffygion y system gyfalafol ehangach y rho Graeber sylw i swyddi 'da-i-ddim' yn y gyfrol hon, ond byddai wedi bod yn ddiddorol clywed mwy am y tasgau di-werth sydd yn rhan o gymaint o swyddi buddiol hefyd. Efallai y byddai hyn wedi dadlennu mai problem eang iawn yw hon, nid rhywbeth sy’n effeithio ar swyddi 'da-i-ddim' yn unig. Er enghraifft, yn ddiweddar, darganfyddwyd mewn un asiantaeth bod y staff yn gwario 40% o’u hamser yn ateb ebyst. Nid syfrdanol mo hynny o bell ffordd o ystyried mai dim ond 39% o amser staff sy'n cael ei wario ar ddyletswyddau cynradd. Ymddengys mai’r dosbarth gweithiol sy’n gwneud y gwaith gwirioneddol werthfawr, gan mai ffocws llawer o'r swyddi hyn yw gofalu am eraill. Dadl Graeber yw bod ‘gwerth’ a ‘gwerthoedd’ yn gwrthdaro, ac y gallai Incwm Sylfaenol Cyffredinol (lle derbynia dinasyddion swm rheolaidd o arian gan y llywodraeth) ein cynorthwyo fel cymdeithas i fagu economi a byd gwaith iachach.

Os nad yw cyfalafiaeth, yn groes i'r addewid, yn sicrhau systemau effeithlon, pam nad ydym yn chwyldroi'r drefn sydd ohoni? Ai oherwydd bod yn well gennym y cyfarwydd ar draul yr hyn sy'n llesol? A yw herio'r system yn golygu gormod o ansicrwydd? Mae'n anodd arbed arian a chynllunio ar gyfer dyfodol ein plant, wedi'r cyfan, os nad ydym yn sicr beth fydd amgylchiadau'r dyfodol. Rydym yn dibynnu ar y system bresennol i gefnogi ein teuluoedd a’n ffyrdd o fyw, ac yn ymwybodol nad doeth bob amser brathu’r llaw sydd yn ein bwydo, fel dywed y Sais.

Rhagwelir gan y Resolution Institute y bydd anghydraddoldeb ym Mhrydain yn codi i'w lefel uchaf eto erbyn 2020. Yn sgil y wasgfa economaidd a ragdybir ar hyn o bryd a phrinder adnoddau, a fydd newid mawr fel Brexit yn ein hysgogi yng Nghymru i ail-ystyried beth yw ystyr gwneud gwaith o werth? Neu ai breuddwyd ynfytyn yw hyn ac a fyddwn yn bodloni ar barhau yn yr un hen rigol gyda llai o swyddi o ansawdd, a hynny yng nghyd-destun ehangach awtomeiddio? Mae'r naratif cyfredol yn mynnu mai nifer y swyddi presennol sy'n bwysig yn hytrach na’r ansawdd, a deillia hyn o’r tueddiad i fesur yr hyn sy'n hawdd ei fesur, yn hytrach na’r hyn sy'n angenrheidiol er lles hirdymor. Rhaid gofyn beth yw gwir ddiben gwaith. Os ydym yn cydnabod bod pob unigolyn â chyfraniad i'w wneud, mae’n hollbwysig ein bod yn craffu eto ar ein swyddi.



Mae Dyfrig Williams wedi bod yn gweithio i geisio gwella gwasanaethau cyhoeddus am bron i bymtheng mlynedd, gyda Chymunedau yn Gyntaf, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru. Bellach, mae'n Gydlynydd Dysgu i Research in Practice, sy'n cynorthwyo mudiadau i weithio gyda phlant, oedolion a theuluoedd mewn modd sy'n seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth.
 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Gwaith, Economeg

 


Ymddengys mai’r dosbarth gweithiol sy’n gwneud y gwaith gwirioneddol werthfawr, gan mai ffocws llawer o’r swyddi hyn yw gofalu am eraill

Dyddiad cyhoeddi: 09·10·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ruth Richards

‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’ ​Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a…

Dadansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Ym myd cyhoeddi, nodir yr Hydref gan Ffair Lyfrau Frankfurt sydd, gyda llaw, yn arddel ei henw swyddogol Almaeneg, Frankfurter Buchmesse, hyd yn oed wrth gyfathrebu’n Saesneg ac yn rhyngwladol. Dyma ganolbwynt y farchnad ar gyfer y diwydiant hwn, gyda dros 7,000 o stondinwyr, 10,000 o…

Adolygu


Dyfrig Williams

Cyfrol i herio ein persbectif ar fyd gwaith a'r cyd-destun economaidd sy'n ei hybu yw Bullshit Jobs: A Theory gan yr anthropolegydd David Graeber. Mae'r awdur, sydd yn Athro yn yr LSE, eisoes yn adnabyddus am fathu'r slogan y mudiad Occupy Wall Street, 'We are the 99%', ac am…

Cyfansoddi


Frank Olding

Casgliad Frank Olding ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y Goron eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi detholiad o'r cerddi ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2018.

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd y cwpwrdd tridarn yn unigryw i Eryri a’r ardal gyfagos. Fe’i gwelid yn aml yn nhai ffermwyr cyfoethog a boneddigion. Tra dechreuodd arddulliau newydd ddylanwadu ar ddodrefn mewn mannau eraill, goroesodd y traddodiad lleol a ffynnu, o tua 1660 i tua 1770.

Gwneid…

Dadansoddi


Andrew Green

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, Caerfyrddin oedd prif ganolfan argraffu a chyhoeddi Cymru. Tua 1792, cyhoeddodd John Daniel, yr argraffydd blaenaf yn y dref, bamffled un ar bymtheg o dudalennau, ar werth am geiniog, a ysgrifennwyd gan ddyn anhysbys, ‘Cymro, gelynol i bob…

Dadansoddi


Andrew Green

Roedd Evan Roberts yn gyn-löwr ifanc o Gasllwchwr oedd yn hyfforddi i fod yn weinidog gyda’r Methodistiaid. Ym mis Tachwedd 1904, ym Mlaenannerch ger Aberteifi, fe’i llethwyd gan weledigaeth ddwys. ‘Pwysodd iachawdwriaeth eneidiau yn drwm arnaf. Teimlais ar dân am fynd trwy Gymru gyfan i ddweud wrth y bobl am y…