Public Service Broadcasting


Every Valley

PIAS Recordings, 44:58, £5.99, 2017

Public Service Broadcasting
Adolygu

Public Service Broadcasting

Taith ‘Every Valley’


Ceri Williams

Amser darllen: 6 munud

06·02·2019

Nodweddir perfformiadau Public Service Broadcasting gan gyfuniad unigryw o gerddoriaeth roc electronig egnïol a ffilmiau archif gwreiddiol – 'think Pathé meets Pet Shop Boys,' meddai'r Guardian. Trefnwyd y daith ddiweddaraf, a ddaeth i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe yn yr hydref, ar gefn llwyddiant yr albwm Every Valley.

Dyma un ymhlith nifer o ymatebion clodwiw i effeithiau diwylliannol a chymdeithasol tranc y diwydiant glo a ryddhawyd yn gymharol ddiweddar, gan gynnwys y ffilmiau PrideStill the Enemy Within a’r gyfres deledu Adam Price a Streic y Glowyr yn 2014. Yn eu hamrywiol ffyrdd, mae pob un o’r cynyrchiadau hyn yn ystyried y streic a gwrthsafiad yr NUM a’r cymunedau oedd yn gefn iddynt. 

Albwm cysyniadaol yw Every Valley sy’n adrodd hanes meysydd glo de Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Mae apêl y grŵp yn eang tu hwnt: ymhlith eu dilynwyr mae pobl hŷn sy’n ymddiddori mewn hen ffilmiau, ochr yn ochr â'r genhedlaeth iau sy’n mwynhau cerddoriaeth bop arbrofol.  

Cynigir llwyfan trawiadol gan Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe. Yn y brif theatr y cynhaliwyd y perfformiad – ystafell grand, hen ffasiwn a balch yr olwg. Cafodd yr adeilad ei atgyweirio’n ddiweddar ac mae'r theatr hon ar ei newydd wedd yn atgof o lewyrch materol y dref ar un adeg, a pharhad ei llewyrch diwylliannol.  

Cafwyd cynulleidfa ddiddorol ar y noson: roedd cyfran fechan o’r dorf yn ffans go iawn, yn gwisgo eu crysau t ac yn ymuno yn y canu. Ond ar y cyfan, pobl de Cymru oedd yno, o wrando ar yr ymddiddan cyn y cyngerdd yn y bar clyd. Hefyd yn bresennol oedd arweinydd cyfredol undeb y glowyr Wayne Thomas, a Margaret Donovan, aelod o grŵp cefnogaeth i fenywod adeg streic 1984-85. Bu'r ddau, ymysg nifer, yn cynorthwyo'r band i greu'r deunydd trwy ymchwilio neu gyfrannu i'r clipiau archif. 
 

J Willgoose Esq. Llun: Public Service Broadcasting.


Tipyn o gamp yw teithio i wlad ac i gymuned arall i greu darn o waith reit gymhleth ar bwnc mor emosiynol â hanes diwydiant glo de Cymru. Cydnabyddwyd y gwrthgyferbyniad diwylliannol hwn reit ar ddechrau’r cyngerdd wrth i’r prif leisydd, sydd yn arddel y ffugenw J Willgoose Esq, gyfarch y dorf yn hwyliog: 'It’s a pleasure to be back in south Wales. We’re from south London.'

Digon posib bod rhai yn teimlo mai methiant nawddoglyd yw albwm a thaith Every Valley ond mae’n amlwg nad oedd y gynulleidfa ym Mhontardawe yn rhannu'r farn honno. Roedd J Willgoose am bwysleisio iddo wneud gwaith ymchwil trwyadl cyn creu’r cyfanwaith. Bu ymgais glir i gynnwys pobl Cymru yn y gwaith – fel rhan o'r clipiau archif, a hefyd trwy gyfrwng cyfraniadau gan artistiaid cyfoes megis Lisa Jên a James Dean Bradfield (nad oeddent yn ymddangos yn y sioe fyw). Cyfansoddwyd y gân 'You + Me' ar y cyd â phrif leisydd y grŵp 9Bach. Deuawd ddwyieithog am wrthsefyll yn sgil colledigaeth yw hon: 'er bo'r cof yn gry / safwn fel un'. Yn ôl J Wilgoose mae'n ymdrech i gydnabod 'hanes ymddygiad affwysol y Saeson tuag at yr iaith Gymraeg'. Cafodd ei chwarae'n rheolaidd ar slot Radio Cymru C2 pan ryddhawyd yr albym gyntaf.

Mae Public Service Broadcasting yn sicr wedi aeddfedu fel perfformwyr. Pan welais i nhw ddiwethaf rhyw 5-6 mlynedd yn ôl, cefais y teimlad eu bod ychydig yn ansicr ynghylch yr ymateb a fyddai i’w gwaith; bryd hynny, llenwyd y gofod rhwng caneuon â jôcs sâl a sylwadau gor-ddiymhongar am eu cerddoriaeth. Ond y tro hwn, teimlo eu hangerdd a wnes i – tuag at eu cerddoriaeth a hanesion personol cymuned. Cryfhawyd y trio gwreiddiol ar y drymiau, yr allweddfwrdd a'r gitâr gan adran offerynnau pres fywiog a grymus. Os cafwyd gorddibyniaeth yn y gorffennol ar glipiau archif fideo i ddiddanu’r dorf, bellach mae perfformiadau'r grŵp yn llwyddo i gyfleu sioe fyw go iawn. 
 

                                        Golygfa o sioe Public Service Broadcasting, White Star Liner, Intrepid Museum, Efrog Newydd

Yn y gân ‘Mother of the Village’, defnyddwyd delweddau trawiadol o lewyrch y chwedegau yn y Cymoedd: delweddau o bnawn siopa prysur ym Mhontypridd, sef y brifddinas answyddogol, yn oleuadau llachar, yn brysurdeb gwaith a bywyd bob dydd. Ond ysgytwad i f'enaid oedd gwylio hyn, a finnau wedi arfer â thlodi strydoedd siopa'r Cymoedd. O’u gwylio, gallwn ddeall o’r newydd dristwch fy mam bob tro y byddem yn ymweld â bro ei magwraeth. Mae tristwch am dlodi ardal gymaint yn fwy dwys o fod â chof byw am y llewyrch a fu. I’r rhai sydd yn dal i fyw yno, o adnabod yr hyn a gollwyd, rhaid fod y dicter gymaint yn gryfach hefyd. 

A dyna mae'r sioe hon gan Public Service Broadcasting yn ei gyfleu: trwy gyfrwng cerddoriaeth fyw, sy'n teimlo'n berthnasol a chyfoes, mae'n tynnu'r gynulleidfa i uniaethu â theimladau’r trigolion ar y pryd, â chyffro (a gobaith) y rhai hynny a hyrwyddai’r diwydiant yn y saithdegau. Daw’r perfformiad ag agweddau eraill o’r diwydiant i’r wyneb hefyd, agweddau a anghofiwyd erbyn hyn – y modernrwydd, yr entrepreneuriaeth, y cyfoeth materol. Dyma gyfle i weld hanes o safbwynt y cyfnod; y modd y gwelai, neu y syniai pobl am eu bywydau a’u gwaith. Mae'r gân a’r fideo, ‘People Will Always Need Coal’ yn cyfuno delweddau o ffilm recriwtio'r Bwrdd Glo o’r saithdegau ynghyd â chlipiau sy’n portreadu'r diwylliant hamdden ar y pryd. Adlewyrchir cyfnod o optimistiaeth.

Golygfa o'r ffilm Pride (2014). CBS Films.

Mae’r eironi dramatig yn drwm ar y pwynt hwn: yn ôl adroddwr ffilm y Bwrdd Glo, gallwn fod yn ffyddiog y bydd pyllau’r de yn cynhyrchu glo am ganrifoedd i ddod. Mae'n cyfleu balchder corfforaethol yn safonau’r diwydiant a’u gallu i gynnal pobl mewn swyddi da. Mae’r lluniau o offer a thechnegau modern hefyd yn cyfleu sut y bu i’r diwydiant gwladoledig fuddsoddi'n sylweddol mewn offer a pheiriannau, gan arwain at gynnydd nodedig yng nghynhyrchiant glo o gymharu â’r sefyllfa flaenorol dan berchnogaeth cwmnïau preifat.  

Nid fod yma unrhyw ymgais i osgoi'r pynciau mawr, pynciau sydd eisoes wedi derbyn cryn sylw wrth i ni gofio chwarter canrif ac yna deng mlynedd ar hugain ers y streic. Mae ‘They Gave me a Lamp’ yn dathlu cyfraniad grwpiau o fenywod a gefnogodd y glowyr. Ceir cyfeiriadau at y ffilm Pride mewn clipiau o’r archif sy'n dangos pacedi o fwyd yn cyrraedd Neuadd Goffa Onllwyn, rhyw 12 milltir o Bontardawe. Roedd pobl dan deimlad wrth wylio’r darn hwn, gan gofio fod Margaret Donovan, sef un o arweinwyr y grŵp sy’n ymddangos yn y gân, hefyd yn y gynulleidfa.  

Ond uchafbwynt y noson yn ddi-os oedd ‘All Out’. Cyfleir dicter, trais a defnydd grym y wladwriaeth yn erbyn Undeb y Glowyr yn y gân hon. Taflynwyd delweddau o frwydrau ar y llinell biced a gwelwyd mwy nag un dwrn yn yr awyr yn y gynulleidfa. 'Dyma gân ddig,' meddai J Willgoose cyn tanio gitâr i sain pync roc trwm. Llwyddodd i roi mynegiant i deimladau’r cyfnod a holl hyllter a thrais y Streic Fawr.

Un o rinweddau mawr Every Valley yw’r modd y mae’n rhoi sylw i sawl agwedd ar gymuned lofaol y de dros dri degawd, gan ein hatgoffa eto o lewyrch a llwyddiant y diwydiant yn gymaint â’i dranc. Dyma gyfraniad celfyddydol sylweddol i'r weithred o gofio a chlodfori profiad cymunedau dosbarth gweithiol. Mae hefyd yn gam tuag at ddeall ein sefyllfa bresennol ar drothwy cyfnod newydd o argyfwng ynni. Ar y noson, yng Nghanolfan Celfyddydau ysblennydd Pontardawe, cefais gyfle i fyfyrio ar effeithiau pellgyrhaeddol Streic 1984-85, a'r modd y mae'n parhau i ddylanwadu ar benderfyniadau cyfoes o bwys, megis dyfodol yr Wylfa a morglawdd Abertawe. 

#Gwrandewch ar ddetholiad o'r albwm Every Valley.


Mae Ceri Williams yn swyddog polisi ym maes gwasanaethau cyhoeddus a'r economi ac yn byw yng Nghaerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Y Cymoedd, Cerddoriaeth

 


Tipyn o gamp yw teithio i wlad ac i gymuned arall i greu darn o waith reit gymhleth ar bwnc mor emosiynol â hanes diwydiant glo de Cymru

Dyddiad cyhoeddi: 06·02·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…