David H Chambers


Tim China / Li T'i-Mo-T'ai: The Story of how a Welsh Farmer's Boy was Instrumental in the Modernisation of China

York Publishing Services, 260tt, £6.99, 2012

Adolygu

Tim Tsieina

O Sir Gâr i Shanghai


Rowan Zhao

Amser darllen: 7 munud

30·03·2018

Pwy oedd ‘Tim Tsieina’? Dyma lysenw Timothy Richard. A phwy oedd Timothy Richard felly? Mae ei enw’n ymddangos – yn y ffurf Tsieineeg ‘Li T’i-mo-t’ai’, wrth gwrs – ym mhob cyfrol, bron â bod, ar hanes Tsieina yng nghyfnod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ond ychydig iawn o bobl yn y Gorllewin sydd yn gwybod unrhyw beth am yr unigolyn hwn. Nid yw hynny mor anodd i’w esbonio: treuliodd y rhan fwyaf o’i fywyd yn Tsieina ac yno y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf. Bwriad y bywgraffiad hwn gan David H Chambers yw adrodd hynt ei fywyd a chyflwyno’r Cymro anhygoel hwn i’r Gorllewin.

Ganwyd Timothy Richard yn 1845 yn Ffaldybrenin, Sir Gâr, i deulu o ffermwyr. Symudodd y teulu i Danyresgair, ddim ymhell oddi yno, pan oedd Timothy yn bump oed. Yn ei flynyddoedd cynnar bu’n cynorthwyo ar y fferm. Mynychodd ysgol a oedd yn cael ei rhedeg gan eglwys Gynulleidfaol. Roedd ganddo ddawn i feistroli ieithoedd. Cymraeg oedd ei iaith gyntaf, a dysgodd Saesneg, Lladin a Hen Roeg ar ei liwt ei hun. Yn un ar bymtheg, dechreuodd weithio fel athro ysgol mewn pentref glofaol ac arbedodd ddigon o arian ar gyfer addysg bellach yng Ngholeg Normal Abertawe. Tua’r un pryd ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr. Aeth ymlaen i Goleg Hwlffordd, a datblygodd ei ddiddordeb mewn ieithoedd a diwylliannau gwledydd y Dwyrain, yn enwedig Tsieina. Roedd y diddordeb hwn mor gryf nes ei ysgogi i wneud cais i fynd yn genhadwr dros Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr yn Tsieina. Ar 17 Tachwedd 1869, gadawodd Timothy, nad oedd eto’n Tim Tsieina, Brydain a hwylio am Shanghai.

Mae’r holl wybodaeth ymarferol am fywyd Timothy Richard ym mhennod gyntaf y gyfrol hon yn hynod o ddiddorol i ddarllenwyr o Tsieina sydd wedi dysgu am ei gyfraniad trwy gyfrwng gwerslyfrau hanes yn yr ysgol uwchradd. Nid yw’r gwerslyfrau hynny yn sôn fawr ddim am ei fywyd cyn iddo gyrraedd Tsieina. Ond i’r mwyafrif o ddarllenwyr yn y Gorllewin, mae’n debyg mai’r prif gwestiwn fyddai pa fath o wlad oedd Tsieina pan gyrhaeddodd Timothy Shanghai. Canolbwyntir yn yr ail bennod ar esblygiad y berthynas rhwng Tsieina a’r byd yn ehangach dros y canrifoedd, o gyfnod Brenhinlin Tang hyd y 1850au; ac ar yr elfennau gwleidyddol hynny a oedd yn gyfrifol am weddnewid Tsieina o fod yn wlad agored i’r byd i fod yn wlad gymharol gaeedig ac amheus o dramorwyr. Trafodir y rôl a chwaraeodd Llywodraeth Prydain a chwmnïau Prydeinig yn hyn, gan gynnwys yn y fasnach opiwm, o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Cawn syniad o’r amgylchiadau a wynebai Timothy pan ddechreuodd ar ei waith cenhadu yn Tsieina – amgylchiadau yn llawn rhwystrau. O’r drydedd bennod ymlaen cawn wybod am nifer o ddigwyddiadau y bu’n rhaid i Timothy eu hwynebu, a’r rheini’n creu naratif dramatig, hyd yn oed yn arddull blaen a gwrthrychol David H Chambers.

Cyrhaeddodd Timothy Shanghai ar 12 Chwefror 1870. O fewn pythefnos, teithiodd i Chefoo (Yantai) yn nhalaith Shantung (Shandong). Mentrodd cyn hir ymhellach eto, i Manchuria, a hyd at y ffin â Korea. Ar y daith hon wynebodd fanditiaid arfog, cafwyd llongddrylliad, tywydd eithafol ac roedd yn rhaid dygymod â phobl leol a oedd yn amheus ohono. Nid oedd yn anarferol i’r cenhadon gael eu gweld fel gweision y diafol oherwydd eu hwynebau dieithr a’u gwisg – yn fyr, cafwyd pob elfen y gallai rhywun ei dymuno mewn nofel antur.

Cawn wybod sut yr aeth Timothy ati, maes o law, i sefydlu ac ehangu ei ddylanwad yn Shantung, er mwyn creu cyfleusterau i gynnal a hybu’r gwaith cenhadu yn yr ardal. Ymdrechodd i ddod i adnabod y bobl leol a oedd yn ddylanwadol yn strwythur y gymdeithas, yn fawr eu parch oherwydd eu deallusrwydd, ac ar yr un pryd yn arddel meddwl agored. Llwyddodd i ennyn cefnogaeth ar ffurf cyfleusterau pwrpasol, nid dim ond yn y cyfnod hwnnw yn y 1870au, ond trwy gydol ei yrfa yn Tsieina. Yr hyn fu’n bennaf cyfrifol am ddod ag enw Timothy – Li T’i-mo-t’ai – i amlygrwydd ymhlith swyddogion uchel eu statws a phobl gyffredin fel ei gilydd yn Shantung a thaleithiau cyfagos oedd ei ymdrechion i sicrhau bwyd a chyflenwadau i’r bobl yn ystod y newyn difrifol yng ngogledd Tsieina rhwng 1876 ac 1879. Er gwaethaf anawsterau o bob tu, llwyddodd i uno amrywiol enwadau’r cenhadwyr Cristnogol yn yr ardal, a ffurfio sefydliad Cymorth i’r Newynog i gydweithio â’r swyddogion lleol. Sicrhawyd bod y bwyd a’r cyflenwadau’n cael eu dosbarthu’n deg ac yn cyrraedd y dioddefwyr mewn pryd. Wrth weld ei lwyddiant yn Shantung, yn 1877 gwahoddwyd ef gan lywodraethwr talaith Shansi (Shanxi) i helpu yno yn yr un modd. Yma, roedd yr amgylchiadau’n waeth fyth. Ond o fewn ychydig fisoedd, llwyddodd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy ei allu ymarferol a’i ddyfalbarhad, ac erbyn 1878 yr oedd y sefyllfa wedi gwella gryn dipyn. Nid yw’n syndod deall i lawer o Tsieineaid yr ardal hon droi at Gristnogaeth ar ôl derbyn y cymorth hwn.

Erbyn dechrau’r 1880au, breuddwydiai Timothy am weddnewid Tsieina o fod yn wlad geidwadol, ddrwgdybus o estroniaid, i fod yn wlad fodern ac agored, a hynny drwy sefydlu systemau rheilffordd, telegraff, a bancio modern. Roedd am ddangos i ddeallusion y wlad pa les y gallai gwybodaeth a thechnolegau’r Gorllewin ei gynnig i Tsieina, ac roedd angen creu dosbarth o bobl leol a allai gyflwyno’r newidiadau economaidd a ystyrid yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu Tsieina fodern. Yn ail hanner y cofiant hwn, gwelir yr holl ymdrech a wnaeth Timothy wrth gydweithio ag amrywiaeth o bobl trwy gydol gweddill ei oes. Weithiau, byddai’n llwyddo, weithiau’n methu’n sydyn oherwydd amgylchiadau annisgwyl yn Tsieina neu mewn gwledydd cyfagos – digwyddiadau sydd yn cynnwys rhai o’r helyntion mwyaf arwyddocaol yn hanes y wlad, megis y rhyfel rhwng Tsieina a Siapan yn 1894–1895, Can Niwrnod y Mudiad Diwygio yn 1898, a Gwrthryfel y Bocswyr yn 1900. Rhoddir ystyriaeth i bwysigrwydd bwriadau gwreiddiol Tim Tsieina a’i bengaledwch wrth wynebu’r amrywiol rwystrau, gan roi i ni ddarlun cyflawn o’i gymeriad.

Y weithred olaf gan Timothy, a gofir hyd heddiw yn Tsieina, oedd sefydlu prifysgol fodern yn Shansi. Dechreuodd yn 1901 trwy adeiladu ystafelloedd dysgu, gan gychwyn o ddim. Pan agorodd y brifysgol hon ei drysau am y tro cyntaf, nid oedd yr un o’r myfyrwyr, mae’n debyg, yn deall Saesneg a neb o’r darlithwyr yn deall Tsieineeg. Synnaf wrth ddarllen bod Timothy wedi datrys y broblem hon trwy recriwtio cyfieithwyr o’r dinasoedd ar hyd yr arfordir yn nwyrain Tsieina – ardal a oedd wedi bod yn agored i dramorwyr ers peth amser – i gyfieithu cynnwys y darlithoedd ar y pryd i’r myfyrwyr. Llwyddwyd i sicrhau cynnydd sylweddol yn addysg y myfyrwyr o fewn blwyddyn neu ddwy. Gyrrwyd rhai ohonynt i Loegr i ddysgu techneg cloddio glo a pheirianneg rheilffyrdd.

Rhoddodd y brifysgol hon dalaith Shansi ar y map, a dechreuodd taleithiau eraill ei hefelychu a cheisio sefydlu prifysgolion tebyg yn eu hardaloedd hwythau. Ond nid aeth yr ymdrechion hyn ymhell oherwydd cwymp Brenhinlin Qing o ganlyniad i’r Chwyldro Tsieineaidd yn 1911–1912.

Treuliodd Timothy tua hanner canrif yn Tsieina. Rhwng 1869 ac 1916, dim ond ddwywaith y dychwelodd i Brydain, am gyfnod byr bob tro. Yn 1916, dychwelodd am y tro olaf; bu farw ar 17 Ebrill 1919 yn Llundain. Angladd dawel a gafodd. Yr oedd digon o’i ffrindiau o Tsieina a Siapan yno i ffarwelio, ond ychydig iawn o Brydeinwyr. Yng ngeiriau’r awdur, ‘ymhlith ei bobl ei hun, yr oedd yn ddieithryn bron, ond ymhlith “dieithriaid” y Dwyrain roedd parch mawr iddo – gŵr doeth a wasgarodd ddoethineb, a chariad heb ddisgwyl dim yn gyfnewid’.

Bywgraffiad cronolegol mewn iaith blaen ac arddull ddisgrifiadol yw’r gyfrol hon. Ond peidiwch â chymryd hynny fel gwendid. Gellid dadlau mai dyma’r ffordd orau i gyflwyno dyn a gafodd fywyd mor lliwgar a llawn anturiaethau, fel rhoi lliwiau ar gynfas wen er mwyn eu gweld yn iawn. Gan ddilyn llinyn amser, mae’r darllenydd yn darganfod gwahanol agweddau ar fywyd a chymeriad y Cymro, Tim Tsieina, fel cenhadwr ac fel arloeswr a gynorthwyodd Tsieina i ddatblygu’n wlad fodern ac agored. Nid nofel mo’r gyfrol hon, ond mae cyffro nofel i’w ddarganfod ynddi.


Mae Rowan Zhao yn fyfyrwraig ymchwil yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 6, Tsieina, Hanes

 


Mae’r holl wybodaeth ymarferol am fywyd Timothy Richard yn y gyfrol hon yn hynod o ddiddorol i ddarllenwyr o Tsieina sydd wedi dysgu am ei gyfraniad trwy gyfrwng gwerslyfrau hanes yn yr ysgol uwchradd

Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Rhys Llwyd

Yn 1974, bu R Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw na ddylai ddatgan a…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Meddai bardd Her Gyfieithu 2019, Julia Fiedorczuk o Wlad Pwyl: ‘Yr hyn sy'n ddelfrydol i mi ydy barddoniaeth sydd yn ymgomio gyda disgyblaethau eraill, er enghraifft bioleg; barddoniaeth sydd yn agored i ystod eang o fodau ac emosiynau, ond sydd hefyd ar yr un pryd yn ostynedig ac yn…

Dadansoddi


Aled Gruffydd Jones

‘La verdad no le interesa a nadie’, nid yw’r gwir o ddiddordeb i neb. Rhain oedd geiriau rhybuddiol ac iasoer un o gyfeillion Javier Cercas pan glywodd am fwriad disyfyd yr awdur i gychwyn cloddio i hanes ac ymdreiddio i feddylfryd ewythr ei fam, y ffasgydd brwdfrydig Manuel…

Dadansoddi


Gareth Leaman

Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i'r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw'r adain Gymreig i'r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn…

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Boz Groden

Bu ein cartwnydd yn y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant ac yn tynnu lluniau o'r hyn a welai'n digwydd o'i gwmpas yn ystod y pythefnos dwys hwn o brotestio yn Llundain.