Sian Northey


Rhyd y Gro

Gomer, 208tt, £8.99, Mawrth 2016

Alys Conran, cyf. Sian Northey


Pijin

Parthian, 264tt, £8.99, Mai 2016

Alys Conran


Pigeon

Parthian, 262tt, £8.99, Mai 2016

Adolygu

Un cymeriad, dwy iaith


Matthew Clubb

24·07·2016

A chychwyn ar nodyn arwynebol braidd, pryd welsoch chi nofel Gymraeg mor bert ei golwg? Mae cyfrol newydd Sian Northey, Rhyd y Gro, yn datgan ei bwriad yn glir – ‘nofel o chwaeth ac ansawdd ydw i': y llythrennu anarferol, y lliwiau brownbinc a glas tywyll, y leinobrint prydferth gan Judith Stroud. Cofiaf y bu cwyno mawr ar un adeg fod diwyg a dyluniad nofelau Cymraeg yn edrych yn amaturaidd tost, gan beri embaras i'r Cymry llengar a'u gorfodi i ddarllen eu nofelau Cymraeg y tu ôl i ddrysau a llenni caeedig. Daeth tro ar fyd: dyma gyfrol y gallwch ei darllen ar y trên â balchder, neu ei gadael o gwmpas y gegin i godi gwerth eich tŷ. Trueni, o ystyried holl waith gwych Gomer ar y clawr, fod cwpl o wallau amlwg yn nau dudalen cyntaf y testun.

A'r sylwedd y tu mewn i'r cloriau? Nid yw ansawdd yr ysgrifennu yn siomi. Bu llawer o ganmol ar nofel gyntaf Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn, a'i harddull gelfydd a swynol. ‘Pencampwraig y dweud cynnil,’ meddai Elinor Wyn Reynolds. Mae gan Sian Northey feistrolaeth anghyffredin ar ysgrifennu rhyddiaith naturiol a bachog, ond bod y naturioldeb yn cuddio crefftwaith gofalus a manwl. Mae ei hysgrifennu megis gwaith arlunydd pwyntiliaeth, yn paentio â geiriau a'u gosod yn fanwl ac yn ofalus i greu ei darluniau. Dyma'r prif gymeriad, Efa, sy'n feichiog ac yn cael sgan: 'Rhoddodd fymryn mwy o'r jeli oer ar fy mol a gwthio'n galetach a studio'r freuddwyd ar y sgrin yn ofalus.' A'r un gair annisgwyl hwnnw, 'freuddwyd', yn cyfleu cymaint o deimladau annelwig, gobeithion, a phryder efallai, y ddarpar fam. Mae Efa yn disgwyl ei babi cyntaf. Bu farw ei mam hithau, Carys, bum mlynedd ynghynt ac, er i Efa ofyn i’w mam ar sawl achlysur, ni soniodd hithau erioed pwy oedd ei thad. Nawr, mewn pecyn a anfonwyd ati’n ddienw, mae llythyr oddi wrth ei mam yn datgelu iddi o'r diwedd pwy yw ei thad, sef awdur adnabyddus, Steffan. Tynnir y darllenydd i ddilyn hynt Efa wrth iddi benderfynu a fydd hi’n ceisio cysylltu â’i thad, a’r awdur yn celfydd brocio ein chwilfrydedd wrth inni gael ein tynnu i fyd Efa a’i hymdrechion, er ei gwaethaf, i feithrin perthynas â’i thad newydd. Am yn ail â bwrlwm bywyd Efa, cawn weld sut mae Steffan yntau’n ymateb i’r sioc o gael e-bost gan ei blentyn biolegol ar ôl deng mlynedd ar hugain, sydd yn chwalu ei fydysawd trefnus lle-i-bopeth, hunangynhaliol. Ond mae presenoldeb arall sy’n ymwthio i’r naratif, sef Rhyd y Gro, y tŷ y bu Carys a Steffan a dau ffrind arall yn ei rannu pan oeddent yn eu hugeiniau, y tŷ sy’n cadw’r cyfrinachau sy’n dal i bwyso ar y presennol. Fesul dipyn, fesul darn rhwng y tad, y ferch a Rhyd y Gro, daw’r darlun at ei gilydd, ac mae Sian Northey yn cyfrwys arwain y darllenydd i fyd y cymeriadau:

‘Does ’na ddim pwrpas i mi ddweud ’tha ti beidio gneud dim byd efo fo, nag oes? Ond bydd yn ofalus, Efa fach. Dyn od ydi o, sti.’ Petrusodd am eiliad cyn ychwanegu, ‘Mi fedra i ddeud petha wrthat ti os ti isio. Ond rhaid i ti ofyn.’

Dyna’r rhybudd am Steffan a’r cynnig y mae Efa’n eu cael gan ei ffrind Lora. Bu hi hefyd yn ffrind i’w mam, un o’r hen griw o ffrindiau yn Rhyd y Gro. Mae Efa’n gwrthsefyll y demtasiwn, er bod y darllenydd, mae’n siŵr, yn gofyn, ‘Be? Pa “betha”? Gofynna iddi, er mwyn dyn.’

Mae’r cymeriadau yn un o gryfderau’r nofel ac mae'r awdur yn llwyddo i ennyn cydymdeimlad â nhw er gwaethaf eu ffaeleddau. Mae Efa yn fenyw gref a ffraeth – ac mae’r darllenydd yn twymo ati’n syth, yn maddau iddi ei styfnigrwydd a’i phyliau achlysurol o ddicter, hyd yn oed ei hymateb chwyrn yn erbyn ei thad ar ôl geni ei mab, Now. Mae’n arwydd o gryfder Sian Northey fel awdur ei bod hi’n llwyddo i wneud inni gynhesu at Steffan wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, er cymaint o ben bach yw e pan wêl Efa am y tro cyntaf: ‘Roedd hi’n rhyddhad ei bod hi’n dlws. Dw i’n gwybod na fyddwn i wedi bod yn hapus petai gen i ferch hyll.’ Ac yn raddol, wrth iddo ddod i adnabod ei ferch, gwirioni arni a dechrau gadael iddo’i hun deimlo cariad tuag ati, gwelwn ei agwedd yn graddol newid tuag at ei gymar yntau, Sali. Daw i sylweddoli ei bod hi’n fwy na chymar rhywiol sy’n dipyn o boendod i’w fywyd trefnus: ‘Symudais y sgwrs yn ei blaen trwy sôn am Sali a synnu mod i’n swnio mor frwdfrydig amdani.’

Yn ogystal â chariad a’i gymhlethdodau, mae hon yn nofel sy’n ymdrin â gonestrwydd a chyfrinachau. Mae’r gyfrinach gyntaf, sylfaenol, mai Steffan yw tad Efa, yn arwain at ddatgelu mwy ohonynt: y cyfarfodydd cyfrinachol rhwng y tad a’r ferch, a rhwng Sali ac Efa, y gyfrinach y mae Steffan yn ceisio ei chadw am ei iechyd, a’r cyfrinachau sydd rhwng Steffan a’r pedwerydd ffrind o Ryd y Gro, Rhydian. Mae hon yn nofel hefyd am orthrwm y gorffennol ar y presennol – mae rhai o’r cyfrinachau hynny yn cyfyngu ar fywyd Steffan o hyd, ac wrth i Efa ei orfodi yntau i wynebu’r gorffennol hwnnw, mae e’n llwyddo i ymryddhau o’r diwedd.

Pe bai rhywun yn chwilio am fan gwan, efallai y gellid dweud nad yw Sian Northey yn bachu ar y cyfle i ddefnyddio ei dawn ddiymwad i dreiddio’n ddyfnach i argyfwng Steffan, i orfodi’r darllenydd i deimlo’i wewyr a’i ddryswch a’i euogrwydd. Ond cadw at ei chynildeb y mae’r awdur, ac mae’n braf darllen gwaith awdur Cymraeg nad yw’n rhoi popeth ar blât ac wedyn yn rhofio’r arlwy fesul llwyaid i geg y darllenydd; dyma awdur sy’n ysgrifennu i oedolion. Ac er mor deimladwy a thyner yw’r nofel, mae digonedd o ysgafnder a hiwmor ynddi, yn enwedig drwy gyfrwng y prif gymeriadau benywaidd, Efa a Lora.

Gwahanol iawn yw prosiect diweddaraf Sian Northey, Pijin, ei chyfieithiad o nofel gyntaf Alys Conran, Pigeon, y cyhoeddir y ddwy gyfrol ar yr un pryd. Ac eto y mae’n dyst i grefft Northey ei bod hi wedi llwyddo i greu ieithwedd galetach sy’n gweddu i’r dim i’r llechweddau a’r pentrefi llwyd y mae Pijin yn rhan ohonynt, ac sydd yn wahanol iawn i’r portread tyner a gofalus a geir o fywydau a phroblemau cymeriadau dosbarth canol Rhyd y Gro.

Dau blentyn sy’n cael eu magu ar y cyrion yw Pijin ac Iola, yn rhedeg yn lled-wyllt ar fryniau a strydoedd cymuned y chwareli o’u cwmpas. Mae Iola wedi colli ei theulu i gyd heblaw am ei chwaer hŷn, ac ni fu gan Pijin deulu erioed ar wahân i’w fam. Aelwyd go ddedwydd yw hi, serch hynny, tan i gariad newydd mam Pijin, ‘Fo’, feddiannu’r tŷ a’r fam fel ei gilydd. Mae Pijin yn dewis symud i’r sied i osgoi byw o dan yr un to â Fo. Yn y fan honno, mae’n casglu geiriau a straeon, yn eu rhannu ag Iola, ac yn cynllwynio yn erbyn Gwyn, dyn y fan hufen iâ. Wrth i Pijin greu ei straeon am Gwyn – ei fod yn llofrudd, yn arteithiwr – ac wrth iddo gyfleu ei gasineb at y llystad treisgar, gŵr na all Pijin wneud dim i'w rwystro rhag gormesu a churo, a throsglwyddo’r casineb hwnnw i Gwyn, y dyn bach deche, mae’r doniolwch tywyll yn dod yn fwyfwy tywyll ac yn llai doniol. Mae’r nofel yn gafael yn y darllenydd ac yn ei lusgo, bron yn ddidrugaredd, drwy gyfres o ddigwyddiadau trasig sy’n peri i Pijin gael ei anfon i sefydliad i droseddwyr ifainc yn Lloegr lle mae’n dysgu diosg ei Gymraeg a chladdu ei eiriau ei hun yn ddwfn yn ei berfedd: ‘mi ddysgodd Pijin bod Saesneg yn arf, ac y gallai fod yn darian’. Saesneg yw ei iaith pan ddaw yn ôl i Gymru a cheisio ailafael yn ei fywyd.

Mae iaith a grym geiriau’n hollol allweddol yn y nofel hon ac mae Alys Conran yn llwyddo i’n hatgoffa mai Cymraeg yw prif iaith cymuned y cymeriadau. Mae hi’n defnyddio brawddegau cyfain o ddialog, ac weithiau’n cynnig cyfieithiad neu aralleiriad i’r darllenydd di-Gymraeg. Weithiau mae’r testun hwnnw’n gymorth i ddeall yr hyn a ddywedwyd ac ar adegau bydd y darllenydd di-Gymraeg yn cael profiad gwahanol i’r darllenydd Cymraeg ei iaith wrth ddarllen y nofel Saesneg:

‘Awn ni mewn?’

Pigeon doesn’t usually ask questions. Which is good, cos I don’t much like choosing answers. Like now, I really don’t know. But I nod.

Pigeon looks surprised.

Bydd y darllenwyr Cymraeg yn synnu ar yr un pryd â Pigeon; bydd y darllenwyr di-Gymraeg yn drysu, efallai, ac wedyn yn synnu pan ddeallant fod Iola wedi cytuno i fentro i dŷ Gwyn.

Mae llenyddiaeth Saesneg o Gymru, neu am Gymru, yn gallu bod yn ddiffygiol iawn wrth ymdrin â’r Gymraeg, ac yn anwybyddu ei bodolaeth yn llwyr weithiau. Neu, fel ‘Ach y fi!’ Jack Black Llareggub, defnyddir yr iaith fel smarti ar ben cacen neu, fel yn Gavin & Stacey, yn gyff gwawd. Mae hi’n chwa o awyr iach iawn gweld awdur yn creu gwaith Saesneg sy’n portreadu ardal draddodiadol Gymraeg a llwyddo i ymdrin yn ddeallus ac yn realistig â’r iaith. Byddai’n ddiddorol iawn clywed gan ddarllenydd di-Gymraeg am y profiad ieithyddol hwn. Wedi dweud hynny, mae angen crybwyll un man yn y llyfr a allai beri camddeall anffodus efallai. Ar ôl i lyschwaer Pigeon gael ei hanafu a’i tharo’n anymwybodol, mae Gwyn yn ceisio ei deffro: ‘“Tyrd!” Gwyn says, over and over, come on...’

Oni fyddai’r ffurf ‘tyd’ yn well yma?

Bydd y darllenydd Cymraeg sy’n darllen y Saesneg gwreiddiol yn uniaethu â’r plant a’r gymdeithas o’u cwmpas, ac yn teimlo’r ‘trais’ ieithyddol wrth iddo Fo gyrraedd a newid iaith aelwyd Pigeon. Bydd yn teimlo rhwystredigaeth a siom Iola wrth i Pigeon wrthod siarad â hi yn Gymraeg wedi iddo ddychwelyd o’r sefydliad i droseddwyr ifainc yn Lerpwl. Ac mae’n bosib y bydd Alys Conran yn cyflawni cryn gamp yma, os bydd yn llwyddo i roi cipolwg i’r darllenydd di-Gymraeg ar bwysigrwydd a gafael emosiynol ein hiaith arnom, gan ddangos bod iaith yn fwy na geiriau.

At hynny, un peth a allai ymddangos yn chwithig braidd i’r darllenydd Cymraeg yw’r diffyg ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig y tu hwnt i’r iaith ei hun:

[...] er nad ydi Pijin wedi clywed y gair o’r blaen, Taffy, a tydi o ddim yn teimlo dim byd. Tydi o ddim yn teimlo fel Cymro. Pijin ydi o, dim ond Pijin.

Digon teg; mae gan lawer o siaradwyr Cymraeg agwedd debyg, wrth gwrs. Ond rydym yng Ngwynedd tua’r flwyddyn 1990 ac nid oes yn y nofel sôn o gwbl am y diwylliant Cymreig a Chymraeg ar y pryd. Dim sôn am bosteri ‘Nid yw Cymru ar Werth’, y sîn roc Gymraeg ar ei hanterth, y llosgi tai haf, Treth y Pen, CND, diwedd oes Thatcher. Mae Pijin yn grwt deallus, un ar ddeg oed, sy’n ymhyfrydu mewn geiriau, ac wrth ei fodd yn pori drwy bapurau newydd. Does dim o hynny yn rhan o’i fyd nac yn wir o fyd y nofel.

Bydd darllenwyr Cymraeg a Saesneg yn cael argraffiadau a phrofiadau ychydig yn wahanol wrth ddarllen Pigeon, a bydd darllen Pijin yng nghyfieithiad Sian Northey yn brofiad go wahanol eto. Mae enw’r prif gymeriad hyd yn oed, yr enw sydd mor bwysig iddo, yn newid drwy’r nofel Gymraeg rhwng y Pijin y mae ef ei hun yn ei ddefnyddio, ac a ddefnyddir gan y siaradwyr Cymraeg, a’r Pigeon a ddefnyddir gan y siaradwyr Saesneg. Rhennir ei hunaniaeth rhwng y ddwy iaith, a’r darllenydd Cymraeg yn meddwl efallai, yn y lle cyntaf, am ‘Pijin’ fel cymysgiaith yn hytrach na cholomen.

Mae Pijin yn teimlo’n dywyllach na Pigeon: ‘occasionally hilarious’ meddai’r broliant ar gefn clawr Pigeon ac, er bod ‘hilariws’ yn ei gor-ddweud hi efallai, yn sicr mae yna ddigrifwch i’w gael, er enghraifft, yn yr iaith a’r troeon ymadrodd a ddefnyddir gan yr Iola a’r Pigeon ifainc ar ddechrau’r nofel: ‘Then I begin it, the riaction alergick we’ve been practising by Pigeon strangling me [...]’, a’r ymadrodd ‘riaction alergick’ hwnnw efallai’n rhoi rhyw naws chwareus i’r ‘strangling’. Ond ni cheir ysgafnhau cyfatebol yn y Gymraeg: ‘Yna dwi’n dechra, yr ymateb alergaidd ’da ni wedi bod yn ymarfer trwy gael Pijin i fy nhagu[.]’ Ond annheg fyddai rhoi’r argraff nad oes yna ddim o hiwmor Pigeon yn Pijin:

‘Ana lais,’ meddai Pijin.
‘Snot “anna lice”, stewpit, it’s analyse.’ Ond mae Pijin yn codi a gostwng ei ’sgwydda fel ’sa ddim ots ganddo fo a dechra ana leisio’r sudd melyn[.]

Efallai fod y tywyllwch yn fwy tywyll yn Gymraeg oherwydd bod creulondeb y plant tuag at Gwyn yn teimlo’n fwy diffuant, yn llai o jôc, ac yn wirioneddol ysgytwol mewn iaith nad oes ganddi draddodiad tebyg i draddodiad Lord of the Flies a Clockwork Orange. Efallai fod y sioc yn gryfach am ein bod yn teimlo’n nes atynt, a hwythau’n blant bach Cymraeg ...

Mewn cyfieithiad, gall un gair bach roi rhyw naws wahanol. Ar ddiwedd y nofel mae Pijin a Iola bron â chymodi ac yn eistedd gyda’i gilydd ar ben yr Allt: 'Rhoddodd ei fraich o’i hamgylch. Roedd ogla braf ar ei gwallt.' Ac yn y Saesneg: 'He put an arm around her. Her hair smelt good.' Onid oes yna dinc pendant o rywioldeb yn y Saesneg nad yw i’w weld yn y Gymraeg?

Dyma enghraifft arall lle mae Sian Northey yn creu darlun ychydig yn wahanol, lle mae’r Pigeon Saesneg yn ein hatgoffa o’r golomen yn hel briwsion ar lawr pafin: ‘Pigeon scuffs around the town [...] He’s a scavenger, a scavenger for comfort.’ Mae’r Pijin Cymraeg yn fwy amffibiaidd: 'Mae Pijin yn llyffanta o amgylch y dref [...] Mae’n chwilio am sborion, sborion bach o gysur.'

Mae’n ddiddorol hefyd fod Sian Northey yn newid ychydig ar ddigwyddiad arwyddocaol iawn ar ddiwedd y nofel, sef y tro cyntaf i Pijin siarad Cymraeg ag Iola ar ôl dychwelyd o’r sefydliad i droseddwyr ifainc. Yn y nofel Saesneg nid yw Pigeon yn dychwelyd at y Gymraeg, at Iola ac ato fe ei hun tan y paragraff olaf un. Ond mae Pijin yn dechrau siarad Cymraeg eto ryw naw tudalen ynghynt yn y fersiwn Gymraeg: ‘“Tyd i dop yr Allt efo fi, Iola.” Ei ddweud yn sydyn. Roedd rhaid cael y geiriau allan cyn iddyn nhw sychu ar ei dafod. Edrychodd Iola, yn ei ffedog nyrs, arno fo’n syn.' Gellid dadlau bod hyn yn tynnu oddi ar ergyd y diweddglo ac eto, er ei fod yn newid eithaf sylweddol i’r testun, mae’n teimlo’n hollol ddilys yng nghyd-destun yr hyn sy’n digwydd rhwng y cymeriadau, wrth i Pijin ddechrau dod yn ôl ato’i hun, fel petai, a rhoi gobaith i Iola ei fod am ddod adref.

Mae iaith y cyfieithiad yn rhywiog ac mae yna hefyd Gymraeg llafar pert. Pan fydd Alys Conran yn chwarae â geiriau yn y Saesneg, mae’r Gymraeg yn ymateb yn go lwyddiannus: ‘ysgol prepian-clebran-cario-clecs’ yw’r ‘tit-for-tat-tattletale school’, er enghraifft. Ac mae Sian Northey wedi llwyddo i gyfleu rhyw lymder yn yr iaith, rhyw galedi nad yw’n nodweddiadol o’i gwaith arall.

Rhaid dweud bod lleisiau llafar y cymeriadau yn gallu bod yn rhwystr i’r deall ar adegau: un enghraifft yw’r defnydd o ‘o’ am yr hi ‘wag’ (yr it Saesneg), sydd yn gallu arwain at gamddealltwriaeth: ‘Mae Pijin yn gafael yn Ceri, ym mhob rhan ohoni, ac yn ei chusanu. Mae o’n afiach.' Mae hyn, i mi, yn golygu mai Pijin sy’n afiach, ond ‘It’s disgusting,’ medd Iola yn Saesneg. 

Dyma anfantais fawr y sawl sy’n trosi nofel o’r Saesneg i Gymraeg – mae pob un o ddarllenwyr y cyfieithiad hefyd yn gallu darllen yr iaith wreiddiol, sefyllfa anarferol i’r rhan fwyaf o gyfieithwyr llenyddol. A synnwn i ddim pe bai rhai yn mynd ati i gribo drwy fanion y testun a chwilio am bethau i anghytuno â nhw! Ond methu’r pwynt yn llwyr fyddai hynny, wrth gwrs. Y mân wahaniaethau, y newidiadau bwriadol neu anfwriadol, y lliwiau tywyllach, y symudiadau ychydig yn nes atom – y rhain yw’r pethau sy’n golygu bod yna werth i’r cyfieithiad, ei bod hi’n nofel ychydig yn wahanol. Bydd rhai yn gofyn ‘Beth yw’r pwynt?’ – a dyma fe: bod iaith yn fwy na geiriau a bod y cyfieithiad yn fwy na chreu union ddrych o’r Saesneg. Mae’n greadigaeth newydd.

Un o rinweddau pwysicaf cyfieithu llenyddiaeth, wrth gwrs, yw ei fod yn gallu ehangu ffiniau iaith a llên y iaith darged (y iaith y cyfieithir iddi), ac er bod gennym doreth o lenyddiaeth yn ymdrin ag ardaloedd y chwareli, mae Pijin yn gwthio ffiniau ein llên, ac yn cynnig golwg ffres – a chignoeth hefyd – ar fywydau bob dydd ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.

Dros ddegawd yn ôl dywedodd gwleidydd Cymraeg wrthyf, wrth drafod cyfieithu’r Cofnod o Drafodion y Cynulliad: ‘Wrth gwrs, byddai'n well gen i ddarllen rhywbeth yn yr iaith wreiddiol, bob amser,’ fel petai hynny’n arddangos rhyw rinwedd foesegol anghyffredin, os nad gorchest ddeallusol a haeddai wobr Nobel.  Ac i'r rhan fwyaf ohonom, ‘Saesneg’ a olygir pan sonnir am 'iaith wreiddiol'. Mae niwro-wyddoniaeth wedi dangos bod adeiledd niwrolegol yr ymennydd yn ffurfio’n wahanol yn narllenwyr gwahanol ieithoedd, a bod y prosesau sy’n digwydd wrth ddarllen iaith a chanddi orgraff sy’n agos at ei ffoneteg (megis yr Eidaleg neu’r Gymraeg) yn dra gwahanol i’r hyn sy’n digwydd yn yr ymennydd wrth ddarllen iaith llai ffonetig ei sillafu (megis y Saesneg neu’r Ffrangeg). Mae'r ieithoedd rydym yn eu darllen yn effeithio ar ein hymennydd ac mae'r rhwydweithiau niwrolegol hynny yn gallu newid drwy gydol ein hoes, yn gallu cryfhau o’u defnyddio ac edwino ac ymddatod drwy ddiffyg defnydd. Os na ddarllenwn ddigon o Gymraeg, mae peryg i ymerodraeth y Saesneg feddiannu ein meddyliau! A ninnau’n hollol fodlon darllen Homer, Kafka, Simenon, neu Camus mewn cyfieithiadau i’r Saesneg, pam na fynnwn ni ddarllen Mark Twain, Orwell, Katherine Mansfield, Achebe neu Le Carré yn y Gymraeg? Wrth gwrs, mae rhai awduron na fyddem am golli eu ffordd unigryw o drin y Saesneg am bris yn y byd – fel Wodehouse neu Flann O'Brien – ond pam mae hi mor od inni feddwl am gael profiad o lenyddiaeth fyd-eang y Saesneg yn ein hiaith ein hun?

Peth go anarferol yw cyfieithu nofelau i’r Gymraeg, a rhywbeth prin eithriadol yw cyfieithiadau o nofelau Saesneg i oedolion. Dylid llongyfarch Parthian, Alys Conran a Sian Northey am ymgymryd â’r prosiect hwn, a llongyfarch yn enwedig felly y penderfyniad i gyhoeddi Pigeon a Pijin ar yr un pryd. Dyma gyfle prin i gyfranogi o ddiwylliant Saesneg Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg.


Mae Matthew Clubb yn gyfieithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 1

 


Mae'n dyst i grefft Northey ei bod hi wedi llwyddo i greu ieithwedd sy'n gweddu i'r dim i'r llechweddau

Dyddiad cyhoeddi: 24·07·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ned Thomas

Y mis hwn, hanner canrif yn ôl, daeth rhyfel Biafra i ben. Methodd yr ymdrech i sefydlu gwlad annibynnol i'r bobl Igbo (yn bennaf) yn ne a de-ddwyrain Nigeria. Parhaodd y rhyfel am dros ddwy flynedd a hanner, a lladdwyd o gwmpas…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Ysbrydolwyd Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn: ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft…

Cyfansoddi


Geraint Lewis

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.

Geiriau Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn (1653) yw y rhain, yn fynegiant o’r athrawiaeth a fyddai, yn ôl M Wynn Thomas, yn…

Cyfweld


Ivan Krastev

Wrth i'w gyfrol ddiweddaraf gael ei chyhoeddi – The Light That Failed: A Reckoning (2019, gyda Stephen Holmes) – bu Eurozine yn cyfweld ag Ivan Krastev, un o ddadansoddwyr amlycaf y newidiadau mawr ar waith yn Ewrop ar hyn o bryd, gan gynnwys cysyniadau sydd ynghlwm wrth Brexit megis 'y mwyafrif dan fygythiad'. Dadleua Ivan Krastev a Stephen Holmes…

Adolygu


Jane Aaron

Yn ôl rhagair Tegwen Morris, cyfarwyddwraig bresennol Merched y Wawr, ‘nid ffeministiaeth sy’n cael ei bortreadu’ yn y gyfrol hon ond ‘bywyd bob dydd’ menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Eto i gyd, yr hyn sydd yn debyg o daro darllenwyr yr 21g wrth iddynt droi tudalennau’r…

Dadansoddi


Keith Chapin

Cysyniad hynafol yw’r ‘aruchel’ a gafodd ei ddychmygu o’r newydd dro ar ôl tro. Hupsous yn yr hen Roeg, sublimis yn Lladin, sublime yn Ffrangeg a Saesneg, Erhaben yn Almaeneg: mae’n dynodi uchelder arbennig (neu’r safle oddi tano, sef ‘sub’ ‘limen’ – yn llythrennol, o dan drothwy). Roedd ‘arddull yr aruchel’ (stilus sublimus) â’i holl ddefnydd o drosiadau llachar, cymalau coeth ac ieithwedd gain, yn rhan…

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ...