Adolygu

‘Y llais iawn ar yr adeg iawn’

Pum llyfr a ddylanwadodd arnaf


Angharad Penrhyn Jones

Amser darllen: 15 munud

28·02·2018

Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard (Gwasg Gee, 1961)

Oes yna unrhyw un yn y Gymru lenyddol nad yw wedi ei aflonyddu a’i gyfareddu gan y nofel hon? Fe’i darllenais am y tro cyntaf yn bymtheg oed ac wedyn ei hail-ddarllen dro ar ôl tro nes i’r tudalennau ddechrau breuo. Cafwyd addasiad o’r nofel yn Theatr Clwyd, gyda’r dramodydd John Owen yn cyfarwyddo. Es i i weld y ddrama dair gwaith, fel rhyw fath o groupie ecsentrig a masocistaidd, gyda dagrau yn powlio i lawr fy ngruddiau yn ystod pob perfformiad. Fe lwyddais i gael gafael hyd yn oed ar y trac sain a gwrando arno nes i’r rhuban yn y casét (a phawb o fy nghwmpas) ddechrau datgymalu. Dyma’r tro cyntaf imi ddod ar draws techneg llif yr ymwybod, a hynny o safbwynt plentyn; nid oeddwn wedi dod ar draws deialog heb ddyfynodau ’chwaith, mewn Cymraeg gogleddol, llafar, agos atoch. Aeth y nofel o dan fy nghroen. Roedd fy nhaid ar ochr fy nhad yn tarddu o Fethesda ac er y buodd o farw cyn fy ngeni, efallai bod rhyw ymdeimlad o linyn cyswllt yma, o leisiau yn atsain drwy hanes fy nheulu. Roedd cymeriadau Prichard fel petaent yn siarad yn uniongyrchol â’m henaid:

Fel yna oeddan ni’n canu, yn dawal braf, heb neb wedi cynhyrfu na neb yn canu ar dop ei lais, run fath ag oeddan nhw chydig amser yn ôl. Oedd y llechi wedi stopio gneud twrw yn domen Chwaral hefyd, a’r gwynt wedi gorffen gwneud sŵn yn y dail. Oedd hi run fath â tasa yna lot o ysbrydion clên wedi dwad allan o’r coed a cerddad drwy’r bobol a rhoid eu dwylo ar dalcenna pawb a’u smwytho nhw.

Wrth imi ystyried y nofel dros ugain mlynedd yn ddiweddarach, meddyliaf am lechi oer, llynnoedd tywyll, niwl. Meddyliaf am ferch yn cael ei hesgymuno o gapel am ei bod hi’n disgwyl plentyn tu allan i briodas. Rhyfel. Gwallgofrwydd. Llosgach. Pam fod nofel mor enbyd o dywyll a thrist yn apelio ataf? Efallai bod rhyw gatharsis i’w gael o wynebu elfennau tywyllaf bywyd. Yn sicr roedd fy mywyd i ar Fynydd Helygain yn ymddangos fel bywyd go dda o’i gymharu â bywyd adroddwr y stori hon. Ac roedd yma hiwmor chwerwfelys hefyd.

Nid wyf wedi ailgydio yn y nofel ers y dyddiau hynny. Weithiau mae rhywun yn cael ei siomi wrth ddychwelyd at hoff nofel, fel cwrdd eto â hen ffrind am y tro cyntaf ers blynyddoedd a chanfod bod gagendor mawr wedi tyfu rhyngoch. Mae sawl un yng Nghymru wedi ceisio efelychu llais Caradog Prichard, wrth gwrs, a phob un wedi methu. Mi drïais i wneud hynny fy hun, felly nid wyf yn beirniadu neb am roi tro arni. Ond dim ond un Un Nos Ola Leuad wnaiff fyth fodoli. Mae’n gampwaith.


Selected Poems, 1946-1968 gan R S Thomas (Hart-Davis/MacGibbon, 1973; Bloodaxe, 1986)

Dyma’r llyfr a’m cymhellodd i astudio llenyddiaeth Saesneg yn y brifysgol. Un traethawd yn unig a ysgrifennais ar R S Thomas ar ôl cyrraedd Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth, o dan diwtoriaeth wych yr Athro Jane Aaron, ond fe’m hysgogwyd gan y bardd hwn i droi at yr holl feirdd Saesneg eu hiaith. (Mae yna eironi fan hyn, wrth gwrs, o ystyried pa mor angerddol oedd y bardd dros y Gymraeg.) Er hynny, dim ond gwaith R S rwy’n medru ei ddyfynnu o fy nghof. Ni allaf edrych ar hen adfeilion a hen waliau cerrig ar lethrau ein mynyddoedd hardd heb feddwl am ‘the smashed faces / Of the farms with the stone trickle / Of their tears down the hills’ side’ (‘Reservoirs’). Nid oes gen i lawer o gariad at y Thomas arall – mae Dylan yn defnyddio gormod o eiriau, a’r geiriau hynny yn oraddurniadol, gyda rhyw wacter yn perthyn iddynt, fel candi fflos. Mae R S, ar y llaw arall, yn cyfleu cymaint trwy gyfrwng y tawelwch rhwng y geiriau, y bwlch rhwng y llinellau, trwy’r hyn sy’n absennol. Ac roedd ganddo obsesiwn efo’r cysyniad hwn o absenoldeb. Yn yr absenoldebau y mae pethau mawr i’w canfod. 

Dyma fardd sy’n fodlon gwleidydda hefyd. Mae gormod o’n beirdd cyfoes, yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ysgrifennu mewn llais eironig, ôl-fodernaidd, hip. Efallai eu bod yn glyfar tu hwnt, ond nid ydynt yn fy nghyffwrdd. Ac yn y bôn, beth yw diben rhoi geiriau ar bapur (papur sydd wedi ei greu allan o goed!) os nad ydych am gysylltu efo emosiynau darllenydd, a’u newid mewn rhyw ffordd? Nid ymarfer deallusol yn unig mohono. Dylai ysgrifennu fod yn weithred sy’n chwyldroi pethau rhywsut, nid dim ond yn gyfle i ymarfer cyhyrau'r ymennydd.

Roedd R S Thomas yn chwyldroadwr yn ei ffordd, yn tynnu sylw at yr argyfwng ysbrydol, amgylcheddol a diwylliannol sydd wrth graidd ein bodolaeth – a hynny ymhell o flaen ei amser. Yn ddisgyblion chweched dosbarth, roeddem yn ein dagrau wrth ddarllen am y llwynog yn llusgo ei gorff gwaedlyd dros yr eira (‘January’); y dyn yn cau ei lygaid ar ei wraig ifanc ac yn eu hagor ar hen ddynes a’i chroen crychlyd, ond yn dal i feddu ar osgeiddrwydd aderyn (‘A Marriage’); y Cymry yn palu bedd ar gyfer eu hiaith eu hunain (‘Reservoirs’). Llwyddai Thomas i’n hatgoffa ni – criw o bobl ifanc jarfflyd yn yr Wyddgrug – am dreigl amser (‘a world in / servitude to time’), am greulondeb y ddynoliaeth yn erbyn byd natur, am y bygythiad i’n mamiaith. Fe fydda i’n dragwyddol ddiolchgar iddo am agor fy llygaid, ac i’n hathrawes Dr Siân Davies hefyd, a’n hysbrydolodd gyda’i chlyfrwch, ei doethineb, a’i sensitifrwydd.
 

Solitude: A Return to the Self gan Anthony Storr (The Free Press, 1988)

Rydym yn byw mewn cymdeithas sy’n clodfori’r cysyniad o gymdeithasu. Tybed sut fyddai R S Thomas, y meudwy myfyrgar, wedi ymdopi gyda’r drefn sydd ohoni? Mae disgwyl i ni feddu ar gylch mawr o gyfeillion, bod ar gael i ‘sgwrsio’ efo pawb ar y cyfryngau cymdeithasol doed a ddelo, ar gael bob awr o’r dydd a nos ar ein teclynnau symudol, gweithio mewn swyddfeydd agored, cymryd rhan mewn gweithgareddau tȋm, a rhannu elfennau mwyaf preifat ein bywydau gydag unrhyw un sy’n fodlon gwrando. Mae pwysau arnom fel rhieni i fynd â’n plant i gant a mil o weithgareddau, i fod yn aelodau o amryw glybiau, i ymwneud â theulu neu ffrindiau bob awr o’r dydd. Mae hyd yn oed y weithred o ddarllen wedi dod yn rhywbeth cymdeithasol erbyn hyn, gyda grwpiau llyfrau yn codi ar draws y wlad fel madarch.

Cawn ein rhybuddio gan golofnwyr yn y wasg y byddwn yn marw ddegawd ynghynt os nad ydym yn gymdeithasol: mae bod yn wrthgymdeithasol mor ddrwg i’ch iechyd ag ysmygu, mae’n debyg. (Duw a helpo unrhyw un mewnblyg sy’n gaeth i sigaréts.) Os ydych yn yfed mewn grŵp, rydych yn seicolegol iach, ond gwae chi os ydych yn mwynhau yfed gwydriad o win ar eich pen eich hun (un o’m hoff weithgareddau, fel mae’n digwydd, ynghyd â cherdded ar fryniau Maldwyn gyda dim ond ci yn gwmni). I’r sawl ohonom sydd yn naturiol fewnblyg, nid yw’r datblygiad cymdeithasol hwn yn rhywbeth i’w groesawu. Pan ddarllenais Solitude felly, rhyw dair blynedd yn ôl erbyn hyn, roedd fel teimlo awyr iach ar fy nghroen ar ôl cael fy nghau mewn cwpwrdd. Ar y pryd roeddwn yn treulio rhan helaeth o’r diwrnod ar fy mhen fy hun yn ysgrifennu, ac wrth fy modd yn gwneud hynny. Er hynny, roedd sawl un o fy nghwmpas yn awgrymu nad oedd hyn yn llesol.

Mae’r seiciatrydd Anthony Storr yn dadlau yn Solitude bod cael amser ar eich pen eich hun yr un mor bwysig â ffurfio perthynas gydag eraill. Mae’n ein galluogi i ddod i delerau â cholled, i fyfyrio ar syniadau, i fwydo’r dychymyg creadigol. Ei farn ef yw bod y gallu i fwynhau eich cwmni eich hun yn arwydd o aeddfedrwydd, ac mae’n ein hatgoffa bod nifer o’n hathrylithoedd yn y byd celfyddydol, gwyddonol ac athronyddol wedi bod yn greaduriaid meudwyol. (Peth rhyfedd yw darganfod eich hun yn byw mewn cymdeithas sy’n gosod athrylithoedd creadigol ar bedestal ac sydd, ar un pryd, yn creu amodau amhosibl i bobl greadigol weithio ynddynt.) Ond nid oes rhaid bod yn Wittgenstein neu’n Virginia Woolf neu yn eithriadol o aeddfed i gyfiawnhau treulio amser ar eich pen eich hun. Nid yw’n arwydd bod rhywbeth o’i le arnoch os ydych yn dyheu weithiau am gael bod ‘far from the madding crowd’, waeth beth ddywed y rhai allblyg uchel eu cloch yn ein plith. Mae pleser dwfn i’w gael o fod yng nghwmni’r sawl yr ydym yn eu caru, wrth gwrs, ac mae cymuned yn asgwrn cefn i’n cymdeithas. Ond cawn ein hatgoffa gan Solitude bod mwy nag un ffordd o fyw yn yr hen fyd hurt yma.

Mae Storr yn dyfynnu Charles de Gaulle:

Ynghanol berw pobl a digwyddiadau, llonyddwch fy nghwmni fy hun oedd yn fy nenu. Bellach, dyma fy nghyfaill. Beth arall sydd yn abl i’n diwallu wedi i ni ddod wyneb yn wyneb â hanes?

Cyhoeddwyd Solitude ugain mlynedd yn ôl, ym 1988. Erbyn hyn, mae nifer o awduron eraill wedi ymrafael â’r pwnc: gweler Party of One gan Anneli Rufus (2003) neu Quiet gan Susan Cain (2012). Ond roedd Storr, fel R S Thomas, o flaen ei amser. Ysgrifennodd lyfrau pwysig a diddorol ar ystod eang o bynciau eraill – o rywioldeb i gerddoriaeth – ac er bod rhai o’i syniadau wedi dyddio, mae’r hyn sydd ganddo i’w ddweud yn werth gwrando arno, yn enwedig i’r sawl sydd, fel fi, â diddordeb mewn seicoleg.
 

Hope in the Dark gan Rebecca Solnit (Nation Books, 2004)

Hawdd iawn yw anobeithio yn wyneb gwallgofrwydd y byd. Wrth ymgyrchu dros gyfiawnder cymdeithasol a materion amgylcheddol rwyf wedi canfod fy hun, ambell waith, yn edrych i ddyfnderoedd y pydew du. Mae Hope in the Dark, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu, yn cynnig cannwyll i ymgyrchwyr gwleidyddol yn ystod y cyfnodau tywyll. Nid ystrydebau ysbrydol mae Solnit yn eu cynnig yn y llyfr barddonol, grymus hwn, ond esiamplau penodol o ymgyrchoedd sydd wedi eu hennill a thystiolaeth gadarn bod ceisio byd gwell yn weithred gwbl resymol. Yn ei barn hi, mae pob ymgyrch yn llwyddiant yn ei ffordd, hyd yn oed os na welwn ni hynny ar y pryd. Mae cadw’r ffydd yn hollbwysig.

Darllenais Hope in the Dark yn 2009 ar ôl cymryd rhan yn y gwersyll hinsawdd cyntaf i’w gynnal yng Nghymru, ger safle glo brig Ffos-y-Fran ym Merthyr Tudful. Roedd y gwaith trefnu a chyfieithu a’r cyfarfodydd di-ri yn dipyn o laddfa. Ar ben hynny roeddwn yn mynd trwy’r broses o ysgaru ac yn gofalu am blentyn dwyflwydd oed. Yn ystod y gwersyll ei hun – penwythnos o weithdai a phrotestiadau, ffrwyth llafur misoedd o waith paratoi – cawsom ein siomi’n arw gan y wasg, a gan ohebydd teledu’r BBC yn arbennig. Roedd fel petai’n chwilio am reswm i’n pardduo: awgrymodd ar gamera ei fod yn disgwyl i bethau droi’n dreisgar. Grŵp o bobl heddychlon oedden ni, wedi dod at ein gilydd er mwyn tynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd; roeddem hyd yn oed wedi cynhyrchu llawlyfr swmpus dwyieithog oedd yn dyfynnu gwyddonwyr NASA ac yn ymhelaethu ar y drefn gynllunio. Nid y math o ymddygiad rydych yn arfer ei gael ymysg terfysgwyr. Roeddem yn gymysgedd o nerds amgylcheddol; economegwyr gwyrdd; gwrthdystwyr profiadol oedd yn awyddus i wneud safiad yn erbyn y gorfforaeth amlwladol oedd yn elwa o’r glo, Miller Argent (neu Killer Argent, fel yr oedden ni’n eu galw); a thrigolion lleol oedd yn byw gefn wrth gefn â’r safle gwenwynig. Ond cawsom ein gosod ar ein pennau mewn un categori, a’n gwawdio: hipis anarchaidd twp a threisgar. Deuais yn agos iawn, iawn at chwerwi, a rhoi’r ffidil yn y to.

Cefais fy achub gan Rebecca Solnit. Weithiau mae rhywun yn clywed y llais iawn ar yr adeg iawn. Yn ei geiriau hi:

I believe in hope as an act of defiance, or rather as the foundation for an ongoing series of acts of defiance, those acts necessary to bring about some of what we hope for while we live by principle in the meantime. There is no alternative, except surrender. And surrender not only abandons the future, it abandons the soul.

Rwyf yn aml yn troi at y gyfrol hon pan mae’r tirlun yn dechrau tywyllu.
 

A Whole Life gan Robert Seethaler (Cyfieithiad o Ein ganzes Leben, Hanser, 2014; Picador, 2015, cyf. Charlotte Collins)

Mae llawer o sôn wedi bod am Gemau Olympaidd y Gaeaf yn ddiweddar. Bob tro y clywaf am y sgïo, meddyliaf am A Whole Life, llyfr a ddarllenais y llynedd ac na wnaf fyth ei anghofio. Wrth ystyried cyfrolau amgylcheddol pwysig, mae rhywun yn meddwl am Silent Spring gan Rachel Carsons (1962) neu The Road gan Cormac McCarthy (2006). Ond mae’r nofel fer hon, a ddarllenais ar un eisteddiad, wedi dylanwadu arnaf yn fwy nag unrhyw un o’r clasuron mwy amlwg. Mae’n anodd esbonio pam. Ond fe drïaf wneud hynny.

Hanes bywyd un dyn ffuglennol yn y Swistir ydi A Whole Life. Mae Egger yn byw mewn pentref yn yr Alpau ac yn adnabod ei filltir sgwâr fel cledr ei law. Dyma ddyn sy’n gwario y rhan helaeth o’i amser ar ei ben ei hun yn y mynyddoedd. Yn ystod ei flynyddoedd ar y Ddaear mae o’n dyst i newidiadau mawr yn ei gymuned fechan – caiff ffordd ei hadeiladu; daw twristiaid i’r cwm cudd, hardd; mae’r ffordd yn esgor ar ddatblygiad y diwydiant sgïo, sy’n arwain at fwy fyth o ymwelwyr. Mae’r mynydd ei hun yn endid byw. Hawdd yw anghofio hynny. Hawdd yw anghofio bod goblygiadau pellgyrhaeddol i bob gweithred dreisgar yn erbyn y byd naturiol. Mae’r goblygiadau i Egger, sydd wedi cael gwaith yn adeiladu’r gyrchfan sgïo, yn ddychrynllyd.

Does dim byd pregethwrol yma: nofel dawel, ddirodres yw hon am berthynas dyn gyda’i gymuned a’r byd naturiol, ac am foderniaeth. Efallai mai tawelwch y dweud sydd y tu ôl i’w phŵer ysgubol. Dyma ddisgrifiad Egger ar y mynydd (a noder pa mor gain yw cyfieithiad Charlotte Collins o’r Almaeneg i’r Saesneg):

The sun was low, and even the distant mountaintops stood out so clearly that it was as if someone had just finished painting them onto the sky. Right beside him a lone sycamore burned yellow; a little further off some cows were grazing, casting long, slim shadows that kept pace with them step for step across the meadow.

Ni allaf esgus bellach fy mod yn frwdfrydig wrth i bobl sôn am eu gwyliau sgïo. Yn sicr ni allaf gyffroi wrth feddwl am wylio’r Gemau Olympaidd, yn enwedig o ystyried eu bod wedi defnyddio eira ffug eleni, gydag eira yn dod yn rhywbeth prin erbyn hyn mewn rhannau o’r byd, o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Ac mae’r peiriannau sy’n cynhyrchu eira ffug yn rhyddhau mwy fyth o garbon i’r amgylchedd. Yr eironi! Er gwaetha’i ddelwedd wen a glân, mae’r diwydiant sgïo yn un budr, ac y mae’n cynrychioli’r holl ddiwydiannau budr eraill sy’n trin y ddaear fel rhywbeth sy’n bodoli dim ond er mwyn budd a phleser y ddynoliaeth. Mae hon yn nofel sy’n cyfleu cyfrolau, mewn ychydig iawn o eiriau, am yr hyn sydd wedi mynd o’i le a’r trywydd peryglus yr ydym yn ei ddilyn.

Pe byddai R S Thomas yn fyw, rwy’n tybio y byddai wedi ei mwynhau.
 


Angharad Penrhyn Jones yw cyd-olygydd Here We Stand: Women Changing the World (Honno, 2014) gyda Helena Earnshaw. Enillodd y gyfrol y wobr Bread & Roses Award for Radical Publishing 2015. Mae hi’n un o olygyddion O'r Pedwar Gwynt


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Angharad Penrhyn Jones, Pum llyfr

 


Pam fod nofel mor enbyd o dywyll a thrist yn apelio ataf? Efallai bod rhyw gatharsis i’w gael o wynebu elfennau tywyllaf bywyd

Dyddiad cyhoeddi: 28·02·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ruth Richards

Maen nhw'n edrych fel pâr o hipstyrs o ddwy wahanol genhedlaeth. Yr hynaf yn farfog (gafrog hefyd, fel mae'n digwydd), a'r llall yn eiddgar a braidd yn betrusgar dan ei gýt powlen. Mae'r ddau yn syllu arnom drwy'r math o sbectolau a ffafrir, hyd heddiw, gan bobl…

Cyfansoddi


Elin Haf Gruffydd Jones

Mae sefyllfa gyfredol Catalunya wedi bod yn fyw yn ein newyddion ers Hydref 2017. Gwelsom olygfeydd trawiadol o’r refferendwm dadleuol ar annibyniaeth drwy sgriniau gwefannau cymdeithasol, y cyfryngau darlledu a’r wasg. Cyhoeddodd y dyddiolyn ar-lein Vilaweb gyfres o gerddi gan feirdd ‘Proclames de Llibertat’ (Datganiadau…

Adolygu


O’r Pedwar Gwynt

Lle mae'r nofelydd Cymraeg sy'n abl i gymell cenedl gyfan i sefyll o flaen ei gwell? Dyma gwestiwn sy'n codi'n gyson yn sgyrsiau anffurfiol O'r Pedwar Gwynt. Gyda marwolaeth Philip Roth ar 23 Mai 2018, awdur yr enwog American Pastoral (1997), mae’r cwestiwn yn codi ei ben eto fyth.

Dadansoddi


Nerys Williams

Roedd hawliau atgenhedlu ac iechyd menywod yn perthyn yn naturiol i diriogaeth ddi-nod fy mhlentyndod yng ngorllewin Cymru'r saithdegau. Nyrs ardal a bydwraig oedd fy mam ac yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn mynd gyda hi ar ei rownds. Gwrando ar dapiau ar y stereo…

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…