Adolygu

Codiad yr Ehedydd: Brexit cerddorol?

Tirluniau Ralph Vaughan Williams, Lili Boulanger a Rhian Samuel


Rhys Watkin

Amser darllen: 7 munud

09·01·2019

Cyflwynwyd cyngerdd o weithiau gan Ralph Vaughan Williams, Lili Boulanger, a’r Gymraes Rhian Samuel gan Gerddorfa Symffoni’r Coleg Cerdd a Drama fis Tachwedd, ar y thema ‘tirluniau’. Roedd cysgod Sul y Cofio a’r Rhyfel Mawr yn drwm ar y rhaglen, a gynhwysai The Lark Ascending (1914) a symffoni’r Pastoral (1922) gan Vaughan Williams. Roedd yn eglur hefyd yng nghydamseredd D’un soir triste gan Boulanger, a gyfansoddwyd ganddi yn 1917. Hyrwyddwyd y cyngerdd ar sail tarddle'r Pastoral ym mhrofiadau Vaughan Williams ar faes y gad. Ond tra gwahanol oedd Tirluniau (2000) Rhian Samuel, a fagwyd yn Aberdâr, o ran idiom gerddorol ac ysbrydoliaeth. Tirluniau cymysg felly, ac er gwaethaf gwerth cynhenid y darnau, teimlais mai rhyw gyfamod rhyfedd oedd canlyniad eu tynnu ynghyd. 

Ymysg ymatebion cerddorol i fyd natur mae'r Lark Ascending yn agosach at begwn estheteg ddynwaredol yn ôl rhai, a hynny er gwaethaf symbolaeth ymddangosiadol Gristnogol yr ehedydd yng ngherdd wreiddiol George Meredith, sy'n ysbrydoliaeth i'r darn. Y ffidil unawdol pia llais yr ehedydd, a chyfuniad o gyfeiliant harmonig ac ymgom a gyflenwir gan y gerddorfa. Dilynir yr esgyniad llythrennol hwn o’r bariau cyntaf un at y dyrchafiad olaf hudol drwy gyfrwng alawon yn seiliedig ar gerddoriaeth werin Seisnig. Yn wir, cymaint yw cryfder y darn hwn fel symbol (tra hyblyg) o Seisnigrwydd, ac o Loegr ddilys y dychymyg yng nghyd-destun plwyfoldeb gwleidyddiaeth gyfoes, nes hawdd deall yr ymrafael sydd wedi bod yn ddiweddar dros waith Vaughan Williams. Fe'i cofleidir gan rai fel rhyw fath o Brexit cerddorol ac fe'i defnyddiwyd, yn ddiddorol iawn, gan Jeremy Corbyn yn ystod yr Etholiad Cyffredinol yn 2017 (gweler Ben Cobley, 'Not simply a nostalgic nationalist' yn y cylchgrawn Unherd). 

Daliwyd sylw’r gynulleidfa’n gyfan gwbl ar y noson gan dechneg arbedus a phlaen yr unawdydd, a hynny'n cyferbynnu â sain driogllyd y gerddorfa ar adegau. Newid llwyr oedd Tirluniau Rhian Samuel (1944-) i'r gwead melys hwn o gefn gwlad Seisnig. Rhennir y gwaith ganddi yn bedwar symudiad: 'Cromlech Pentre Ifan', 'Hen Ŵr Storr' (colofn o graig ar ynys Skye), 'Castell y Bere', a 'Goleuadau yn y Bae' (yr olygfa hyd Bae Ceredigion o Aberdyfi). 
 

Y gyfansoddwraig Rhian Samuel yn canu yn y Tŷ Gwyn ar gyfer yr Arlywydd Johnson.
Fe'i gwelir yn sefyll yn y rhes gefn, i'r dde o law yr arweinydd. 


Gwaith modern heb os yw Tirluniau. Cafodd y darn ei chwarae am y tro cyntaf yn y BBC Millenium Proms yn yr Albert Hall. Mae'n galw am gerddorfa fawr, ac yn rhannu'n bytiau byr yn hytrach nag alaw a chyfeiliant; newidir y curiadau'n gyson a ffurfir grwpiau offerynnol bychain o blith y gerddorfa wrth i'r darn ddatblygu. Ceir ystod eang o offeryniaeth a thechnegau, yn enwedig ymysg yr offerynnau taro, a harmonïau mwys yn cynnig amrywiol ddehongliadau. Nodweddir y gwaith gan gyd-chwarae agos gan offerynnau unigol a chyfnewid nodau chwim. Gofyn am dechneg feistrolgar a wna hollti ffigyrau sydyn rhwng dau neu fwy o offerynnau, ac yn amlach na pheidio, roedd y gerddorfa gystal â'r her a osodwyd iddi. Roedd dawns heintus y seiloffon a'r piano yn y symudiad olaf yn arbennig o lwyddiannus wrth greu effaith goleuadau pell trefi Bae Ceredigion: bron i mi ddychmygu rhyw oes jazz yn atgyfodi yn Aberaeron. Effeithiol hefyd wrth greu naws oedd y cydbwysedd cerddorfaol yn y symudiad 'Castell y Bere' – i mi galarnad estynedig hardd oedd hon. 

Bu cynnydd sylweddol yng nghydbwysedd a chyd-chwarae’r gerddorfa yn ail hanner y cyngerdd, a gychwynnodd gyda darn trawiadol ac arddwys D’un soir triste Lili Boulanger (1893-1918; gweler ei phortread ar y dde). Chwaer yr athrawes gerddoriaeth adnabyddus o Baris, Nadia Boulanger oedd Lili, a daeth iddi lwyddiant cerddorol cynnar pan enillodd y Prix de Rome am gyfansoddi yn bedair ar bymtheg oed. Ond dioddefodd o afiechyd ar hyd ei hoes; Soir triste oedd y darn olaf iddi ei gwblhau yn ei llaw ei hun cyn ei marwolaeth annhymig. Daw grym y gwaith o'r curiad triphlyg cryf a sefydlir o’r cychwyn cyntaf, ac fe gyfoethogir y gerddoriaeth gan weadau o offerynnau traw isel fel y clarinét a basŵn bas, a gyplysir â bas dwbl wedi ei ymestyn yn is na'i ystod arferol. Hunllef o fath a awgrymir gan y gerddoriaeth a hynny trwy amrywio cordiau dwys isel, trwy gyfrwng deuawd grotésg rhwng y selesta a’r soddgrwth, a phatrwm o gynnydd heb ollyngdod nes, o’r diwedd, clywn y fortissimo anghytsain yn rhyddhau llais y gerddorfa. Tybed ai curiad tynged a glywir yn sain y timpani (gan atseinio Don Giovanni a chweched symffoni Mahler)? Dim ond dyfalu fyddai cyplysu hyn â’r Rhyfel Mawr neu gyflwr personol Boulanger, wrth gwrs. I mi, y dehongliad o'r darn hwn oedd llwyddiant mwyaf y noson.

I droi'n ôl at Vaughan Williams, parhau mae'r dadlau ynghylch ei symffoni fugeiliol. Mae rhai o'r farn, fel yr ensyniais, mai egwyddor o ddynwarediad yn hytrach nag ymdeimlad sydd ar waith. Wrth wraidd y darn ceir y traddodiad llenyddol â’i gast delfrydoledig o gymeriadau gwerinol (gan gynnwys angau); cawn hefyd gefn gwlad wedi ei gyfleu mewn cyferbyniad â’r trefol – safbwynt moesol o bosib sy'n awgrymu uchafiaeth y gwledig; ac yn erbyn y rhain ceir y ‘gwrth-bastoral’, sy’n ceisio mynegi ‘gwir’ gyflwr bywyd cefn gwlad, beth bynnag fo hwnnw. Mae i'r gerddoriaeth bedwaredd agwedd yn ogystal, sef cymodi llif amser gyda hanfod statig y ddelwedd dirluniadol a awgrymir.

Petai dehongliad y gerddorfa o’r symffoni hon wedi dioddef o driog cerddorol ehedydd yr hanner cyntaf, yna adieu fyddai hi wedi bod i allu'r darn i dreiddio. Mae chwarae clir a chytbwys yn hanfodol er mwyn clywed sut mae Vaughan Williams yn ymrafael yn ei symffoni ag agweddau’r 'pastoral' a’i atgofion ei hun. Bu'r cyfansoddwr yn yrrwr ambiwlans yng ngogledd Ffrainc yn ystod y Rhyfel Mawr, ac fe arsylwodd ar y cyferbyniad rhwng harddwch y dirwedd a'r gwaith o gasglu’r clwyfedig a’r meirw. Mewn llythyr at ei gariad, y bardd Ursula Wood, a ddaeth yn ail wraig iddo maes o law, mae'n dweud nad ŵyn bach sy’n prancio yn y tirlun hwn, 'it is really war time music'. Soniodd yn benodol am glywed biwgl unig yn canu dros y meysydd, llais a ymgorfforir yn ail symudiad y gwaith. Yn sicr, gorsyml fyddai defnyddio ystrydebau i ddibrisio gwaith Vaughan Wiliams fel gwaith cenedlaetholwr o Sais yn boddi mewn nostalgia. 
 

                                                 Ralph Vaughan Williams a Gustav Holst yn cerdded ym mryniau Malvern fis Medi 1921
                                                                                                                       

Er bod y naws yn y darn hwn yn ymddangosiadol freuddwydiol a chysgadol, mae ansefydlogrwydd harmonig yn atal y gerddoriaeth rhag setlo. Ar y noson, bu’r chwarae yn yr ail a’r pedwerydd symudiad yn arbennig o effeithiol yn hyn o beth. Ar yr adegau pan asiodd lleisiau’r gerddorfa gyda’i gilydd ac yn ysbryd y darn, codwyd y gerddoriaeth o’r meddylgar i’r gwirioneddol loyw. Nodwedd arall o adwaith Vaughan Williams i’r Rhyfel Mawr – y rhyfel mecanyddol cyntaf – yw’r defnydd o’r adran bres. Tra bod cyrn yn medru awgrymu bugeiliaid a da byw, gellir clywed yr offerynnau pres yn y fan hon fel atsain mecanwaith a metel milwrol yn ogystal. Daeth llais corn biwgl yr ail symudiad gan y prif drwmped, a ymadawodd i chwarae gefn llwyfan, ac yn y symudiad olaf seiniodd llais y tenor Jack Parry fel pe bai o fynachlog hynafol. Drwy osod y lleisiau uwchfydol hyn tu hwnt i’r ‘darlun’ ar y llwyfan cawn ein dadleoli o’r tirlun bugeiliol delfrydol a’n taro fel petai gan atgof angau meysydd y Rhyfel Mawr. Neu fallai mai’r dimensiwn bugeiliol yw’r sain wedi i’r gynnau ddistewi. 

Oherwydd yr elfennau croesdynnol hyn, tipyn o dasg yw crynhoi llwyddiant y cyngerdd. Byddai'r noson efallai wedi gweithio'n well fel rhaglen o gerddoriaeth yn deillio o gyfnod y Rhyfel Mawr – oni bai am waith Rhian Samuel. Ar y llaw arall, o’i gwaith hi y daeth teitl y noson a thrwy gyfrwng ei 'thirluniau', estynwyd y maes yn llydan agored nes i mi bendroni i ba raddau y gellir asio tirwedd diwylliannol Cymreig a Seisnig ac hefyd ai yr un yn ei hanfod yw hiraeth ym mhob man. Yn sicr, cafwyd ystod o ‘dirluniau’ – rhai yn fwy hygyrch na’i gilydd – a bu digon o amrywiaeth gerddorol i ymestyn y gerddorfa. Ond wedi meddwl, dyna i mi oedd gwendid y cyfanwaith ar y noson: mai cyfle i’r gerddorfa ddangos ei hun oedd y cynhyrchiad yn bennaf, yn hytrach na gwahoddiad agored i adlewyrchu o ddifri, i fyfyrio ar gyd-chwarae tirlun ac atgof.


Cerddor o Aberystwyth yw Rhys Watkin sy’n ymddiddori yn y berthynas rhwng cerddoriaeth a chynefin.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Cerddoriaeth, Tirluniau

 


Hawdd deall yr ymrafael sydd wedi bod yn ddiweddar dros waith Vaughan Williams, a gofleidir gan rai fel rhyw fath o Brexit cerddorol

Dyddiad cyhoeddi: 09·01·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill ... 

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…

Dadansoddi


Angharad Penrhyn Jones

Roedd y symptomau wedi bod yno am sbel – teimlo’n fyr fy ngwynt wrth ddringo’r grisiau adref, er fy mod yn heini; fy nghalon yn carlamu’n afreolus yng nghanol y nos; y deffro’n-rhy-gynnar-yn-y-bore er ’mod i wedi ymlâdd – ond aeth pethau i’r pen y dydd Sadwrn hwnnw. Aros mewn…

Colofnau


Jan Morris gyda Twm Morys

Y bore ’ma mi ddaeth llais siriol hen gyfaill annwyl yr un oed â mi ar y ffôn. Ond sirioldeb smâl oedd o, fel y bydd yn aml y dyddiau hyn. Bu hi’n clebran am sbel, yr un fath ag arfer, am hyn a’r llall. Ond o dipyn i beth…

Cyfansoddi


Boz Groden

llygod

a  Creaduriaid bychain gwyllt brown neu lwydaidd o deulu’r Muridæ, sy’n ysglyfaeth i gathod a thylluanod; ceir rhai gwyn dof; hefyd am anifeiliaid eraill tebyg ac yn ffig.; delwau o’r cyfryw ...