Croesair

Croesair Rhifyn 2

Atebion yn chwythu yn y Pedwar Gwynt

Morus Venti
06·01·2017

Croesair OPG2

Mae dau o enwogion y 19eg ganrif a dau o'n cyfnod ni i'w gweld yn y grid gorffenedig. Mae’r atebion, gyfeillion, yn chwythu yn y pedwar gwynt!

 

Ar Draws

1 Gwadu enaid y pechadurus yw'r ateb i fywyd, y bydysawd a phopeth (11, tri gair)

10 Petai metel yn y wlad hon, byddai'n un fwy o lawer (7)

11 Mynd yn llwyd fel bara Cymreig? (5)

12 Gallai un sy'n 29 ddilyn un tlws i gig amheus (8, dau gysylltnod)

13 Pafin yn ymyl rhan fwyaf gorllewinol Bangor (4)

14 Ar gyfeiliorn, dyna un o'r rhain sydd fel pysgotwr unig ar Lyn y Gadair (4)

16 Tyrd di a thithau, linc di lonc hyd at hanner ffordd, cyn dechrau chwarae (4)

17 Gresyn bod gwers Ymarfer Corff i'w chlywed yn Saesneg (4)

19 Postmon Branwen yn cael brecwast costus yn gyntaf (6)

20 Ffon sy'n medru malu cwpan (5)

21 Gorau un o Rufain yn talu'r pwyth yn ôl (5)

23 Sitron yn arafu'n anghyson wrth fynd i mewn i le i droi'n ôl (7)

25 Eneinio er nad oes dim sôn am ddechrau credu (5)

27 Iâr ifanc yn dechrau clwydo ger coeden mewn mynwent (5)

28 Dyfal donc yn olaf a dyr ysbyty (6)

30 Cydnabod y lladrata ddefaid beth o'r amser (4)

32 Bodio rhywun yn y bỳs unwaith? (4)

34 Blingo 27 efallai (4)

35 Bachgen i eiddil (4)

36 Dyma le braf, gyda'r glaswellt yn sych, i yfed seidir, chwedl bardd ... (8)

37 ... Etifeddu peth o Bouteloua eriopoda (glaswellt) a gadael iddo sychu ger y tân (5)

38 Ffynnu fel y gwnaeth cariad Gronw (7)

39 Deinameit oedd cynnyrch blaenor fel Daniel yn bennaf (11, dau air)

 

I Lawr

1 Rwy'n adeiladu pentwr fasa'n codi dan arweiniad Dewi (5)

2 Tywysog cynhyrfus gyda chalon Wales yn agos ato yn peri sioc (8)

3 Ebillion ar gyfer sesiynau ymarfer corff? (7)

4 Meinwen geir mewn penbleth (4)

5 Cyn diwedd ymbelydredd, atgyfod rhyfeddol gyda dechreuad urddasol i'r gŵr hwn eleni (9, dau air)

6 Dyma fab ar y ffordd i mewn i'r ystafell yn sefyll ar ei ben yn hurt (6)

7 Gallai dewin drwg dienw newid ac achosi hyn (5)

8 Mi ddaru o fynd ger agoriad uffern, a thu hwnt cyn hynny, i bregethu dogma (10)

9 Dyn abl o ganol Hibbing. Hynod ydyw (8, dau air)

15 Dan y siswrn oedd llysenw teiliwr y dreflan tybed? (10, dau air)

16 Mae'n distrywio efeilliaid wrth fod mor llym (7)

18 Mod heb gychwyn ar fy sgwter allwn i fod (9)

20 Watshys mwy modern ar gyfer y traed? Fe ddawnsiwch gydag amseriad cywir yn y rhain! (8)

22 Hawddgarwch a bwydlen amrywiol (8)

24 Darn o gacen i Onllwyn mewn mwy nag un ffordd o siarad (7)

26 Mae gen ti gartref mewn groto. Un felly wyt ti – ddim yn gall (6, tri gair)

29 Erlid gwalch sy'n dyrnu (5)

31 Mae gan Maureen restr – fel y Llynges (5)

33 Ar hon, efallai, fe weli jwg i'w ganmol o'r Iseldiroedd (4)

Pynciau:

#Rhifyn 2