Croesair

Croesair Rhifyn 3

6, Peth y Gallwch Gyfri Arno

Morus Venti
04·05·2017

Croesair OPG3Teitlau dwy eitem o 6 gan 1 i lawr (dau air) yw ‘Y 1 ar draws’ (tri gair) ac ‘Y 38’ (tri gair). Mae'r ddwy eitem yn crybwyll 24 28. Gallai'r llythrennau yn atebion yr uchod nad ydynt wedi eu cadarnhau gan atebion eraill ffurfio BRODIROEDD OER: AFON, TE, OREN. Ysgrifennwch enw'r 6, sef yr hyn sy'n cyfri, yn y bylchau o dan y darlun

 

Ar Draws

10 Lamp i'r meddwyn? (8)

12 Swynol nyrs yw un sy'n byw ar Hydra? (6)

13 Mae angen cam cŵl i ddymchwel dicter (6)

14 Ymddengys fod angen trydedd droed i gicio hwn mewn dawns ... (7)

17 ... mae'n medru yn y Gelli Gandryll (4)

19 Ma’s o drefn rhywfaint? Mae angen rhywbeth i asio yma (4)

21 Hadau a raeniest bob yn ail (4)

22 Tân anferthol oherwydd sigarét wedi ei gosod ger dail crin (7)

23 Fel petai wedi bod drwy'r felin (3)

25 Rhywfaint o anerchiad i ‘Arglwydd y Gân’? (3)

26 Cewch weld gìg: Plethyn ydyw gyda Blas y Pridd (7)

28 Aderyn ifanc yn llyncu pen neidr, y creadur bach (4)

29 Bedyddio mewn penwisg (4)

31 Hwrdd yn llyncu pen ôl bugail. Dyna beth yw bolgi barus (4)

32 Simsanu braidd mae gwreigan eiddil os yw'n gwrthod derbyn realaeth yn bennaf (7)

34 Tymor mewn beiddgar le ... (6)

36 ... a chornel yr Academi? (6)

37 Fe'u gwelwch mewn cae chwarae – 24 bach, a sinig amheus yn rhoi derbyniad iddo (8)

 

I Lawr

2 Rhyw fath o wrol ryfelwr yn y tîm? (4)

3 Gormes dychrynllyd yn y glaswellt (6)

4 Llinell o ddarn i feiolinau (4)

5 Diffyg bodolaeth yn peri cri uchel o gwmpas Califfornia (5)

7 Llwybr mewn adeilad (3)

8 Arwerthai'n llawn bywyd i geisio dangos y dewrder hwn ... (8)

9 ... a salm farddonol i'r creaduriaid (5)

11 Yn Golwg pery nwyd gwancus (8)

15 Gall hon ddangos tymer ddrwg, llyncu duw yr haul a chwythu tân (5)

16 Pysgod gwryw, creaduriaid bach y gwelwch berl ynddynt (8)

17 Lladd merch Penygelli wrth iddi fwyta brecwast? (8)

18 Hyfryd ysbrydoliaeth wedi cychwyn llinell (5)

20 Haleliwia! Pantycelyn yn cael ei eneinio gyda hwn (4)

26 Dod yn fore'n ddigalon er mwyn talu arian (6)

27 31: ‘Annigonol ydi wal America’. Mae hynny'n wir, yn llythrennol! (6)

30 Symud drwy'r Fenai yn simsan o Fôn i ... (5)

32 ... Gaernarfon yn gyntaf, ac yna hanner dwyreiniol Bangor rhywsut – mewn ‘cwch’ fel un y Jumblies (4)

33 Peth erchyll yn yr wybren? I'r gwrthwyneb (4)

35 Nodyn cyntaf ‘Suzanne’ mewn mesur penodol (3)

Pynciau:

#Rhifyn 3