Croesair

Popeth yn Gymraeg

Croesair Rhifyn 10

Morus Venti
03·08·2019


Y mae gan naw ateb rywbeth yn gyffredin. Yn eu cliwiau, y mae’r chwarae â geiriau yn arwain at ffurfiau gwahanol o’r atebion. Y mae’r rhifau mewn cromfachau’n dweud faint o lythrennau sydd i’w rhoi yn y darlun.

Ar Draws

1          Anrhydedd cadair di-gefn sir yn ne-orllewin Lloegr (6)

5          Capiau hen geidwad gôl Chelsea, yn ôl y sôn (6)

10        Hyll fyddai un ffafr wedi ei difrïo (6)

11        Gyda hwn efallai y daliwch wyniad i gychwyn mewn rhan fas o’r afon (4)

13        Iardiau, pob un gyda thriawd o fuwch, dafad a hwyaden? (7)

14        Ffrwyth i bob un o bobl y byd, chwedl Dylan Solfach (6)

15        Merch sy’n dychwelyd gyda chystadleuaeth (4)

16        Yn dew ofnadwy ar ôl hynny (5)

17        Ymlynan yn weithgar i’r peth lleiaf (7)

18        Gwaedd cath oherwydd cicio gwaelod ei choesau? (7)

24        Man yn y môr sy’n swnio fel “Dwi’n caru gwyn” i’r trigolion (7; dau air)

25        Cyfoethogi, megis y lli gan y lloer (7)

27        Pantycelyn yn cymeryd rhan Avenger yn erbyn gŵr drwg (5)

29        Chwyldroadwr o’r Ariannin ers talwm yn bennaf rhywsut, er mai Llion oedd biau’r lle hwn (4)

30        Mae’n cynhyrfu wrth weld y coffrau’n byrstio (6)

31        Grantiau, er bod yn hynod aflwyddiannus heb fyddin (7)

33        Creu dillad cynnes yn Abergwaun (4)

34        OK. “Wern” o ryw fath sy’n ymhellach i’r de-orllewin nag 1 ar draws (6)

35        Mi allech starfio heb yr un eitem o’r fan hon (6)

36        Torrwch ynn toc, a chewch weld cwlwm (6)

 

I Lawr

1          Glaswellt carw na orffenna ar ben y Wyddfa (5)

2          Hwmian nodyn yn Llychlyn (7; dau air)

3          Wedi troi pennau sawl un, a robin (3)

4          Afon sy’n rhan o gartre’n teidiau (7)

6          Tywysog sy’n o gas? (5)

7          Gofalwyr Wali sy’n cyfrannu at ei hanci panci? (6)

8          Drama am gartref bregus yn yr anialwch, neu yn y Rhyl efallai (10; pedwar gair)

9          Gwyllt emynydd gyda chant yn ei ddilyn ym more oes (6)

11        Prifddinas â lli yn llanw (6)

12        Yma gwelir gwerth mewn trosedd deg, rhywffordd (10)

19        Arfau ffug sy’n llawn o goed (6)

20        Ciwb diderfyn ar gyfer Fiesta mewn tref brifysgol (7)

21        Wedi taliad rhaid i un fynd i gael sicrwydd (7)

22        Twt! ‘Dach chi bron iawn â chael clustan am hyn (6)

23        Gwell yw i chi, ddyn, ddilyn cylchgrawn Cymraeg (6)

26        Yna fydden ni yn dringo? (5)

28        Galwn i nofio’n y llyn hwn, a allai fod yn hallt (5)

32        Cerrig bedd? (3)

Pynciau:

#Rhifyn 10
#Croesair