Croesair Rhifyn 6
Croesair

Croesair Rhifyn 6


Morus Venti

30·03·2018

 

Ar Draws

1          Esgeulus gamgymeriad cyn dechrau torri, megis Rapunzel (8)

11        Hyblyg Nesta ydyw, y gellir ei helaethu (9)

12        Pisyn yn dioddef gwawd sy’n dan din (7)

13        Coed sy’n mynychu y glannau’n bennaf (5)

14        Tynnu llaeth o’r ci, chwedl y Sais wrth fynd wysg ei gefn (5)

15        Ffedog i’r Bart direidus (4)

16        Gwywo mae’r Dewin Dwl i ddim (6)

17        Penderfyniad sy’n dda yn ôl maint safonol (6)

19        Fel teledu bychan cul simsan y gwelwch riant gyda’i frecwast arno (8)

22        Merch a allai fod yn soled wedi gorchwyl galed (8)

25        Gorsaf ynni niwclear a luchia fom ata’? (6)

28        Tŷ ydyw, un wedi ei adeiladu o gerrig (6)

30        Eich gwreiddiau a’ch aur (4)

31        Brathwn sawl ci sy’n dwyn ein cinio o’r diwedd (5)

32        Lladdfa yng Nghaerfaddon (5)

33        Anystywallt, hyn ydan, ac anodd ein trin (7)

34        Gallai newyddwr go arw fod â llawer o sôn amdano (9)

35        Seiniau’r coed yn Ystrad Fflur, neu hen dref gyda wal yn rhan o Wynedd (8)

 

I Lawr

1          Mae hedeg syth allan yn bosib i swyddogion sy’n trafod materion gwledydd tramor (12)

2          Coes, er enghraifft, a blew talcen rhyfedd (5)

3          Edrycha ar adar y nefoedd. Dere gyda hwy; mae’r potensial yno (7)

4          Sant gwyn yn creu hapusrwydd o’i amgylch e’ (7)

5          Cyfrifol tua chyw ceffyl (6)

6          Mae trychfilod bychain yn bwyta coed Peris a Phadarn er enghraifft (6)

7          Anghytuno am etifedd mewn ardal (5)

8          Oherwydd prinder bara ailsefydlant, ond nid yn gyfan gwbl, gadlas ... (5)

9          ... Ymborthwch i gael byw yn hynod, ac yna caewch eich cegau! (7)

10        Tarddiad dŵr – un sy’n ddibynadwy? (12; tri gair)

18        Os basent hwy yn creu creadur mewn ffilm, byddai’n rhaid rhoi colur amdano (7)

20        Ysgrifennu cerdd arbennig ‘Wyau Nedd’ (7)

21        Fe ddengys ddyn ar ôl un arall rhyfedd (7)

23        Claddu ganol gaeaf yn rhan o Gerrig-y-drudion (6)

24        Plygwch er mwyn Pantycelyn (6)

26        Un sy’n cefnogi rhai o foch Rwritania (5)

27        Mwyar cochion sydd i’w gweld ym mhen draw Cwm Rheidol efallai (5)

29        Gweithwyr dur yn dechrau crio (5)

 

Anfonwch eich atebion i’r cyfeiriad canlynol erbyn 1 Mai 2018, os gwelwch yn dda: O’r Pedwar Gwynt, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, Bangor LL57 2DG. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i’r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o’r het.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 6

 


Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…