Croesair

Croesair Rhifyn 7

Trip Busnes Grêt a Gwyllt

Morus Venti
28·07·2018

 

Bu’r hen Forus ar drip yn ddiweddar i brifddinas ac i ddinas go wyntog yn yr un wlad. 
Mae’r tri 24 ar draws yn atebion.

 

Ar Draws

1          Gweler 34
11        Pwysig, gyda’r Scarlets yn bennaf yn ei galon.  Dyna beth oedd Carwyn James (5)
13        Diben arddull darn o do? (4)
14        Bod yn bresennol ond amhersonol yn y bydysawd (4)
15        Gweler 1 i lawr
16        O barthed ‘y nghwm (5)
17        Dinas yn Yemen i ddiwygio (5)
20        Rwy’n lliwio nes bod hwn y tywyllaf oll (4)
21        Eneinio gan offeiriad gydag olew i gychwyn (4)
24        Yn ei filltir sgwâr, dychwelyd mae Jones Cefn Gwlad i’r man penodol hwn (7)
26        Yn rhyfedd, doctor yn methu’r taliad hwn yng Nghonwy ers talwm? (7)
27        Gwely afon sy’n sych am y tro, ond daw yn wyllt ar Ionawr 1af (4)
29        Ffordd fach yn New Tredegar? (4)
34,1     Gweler y teitl (15; dau air)
35        Dangos mwynhad ddiwedd Mehefin tra’n ffurfio dilledyn o edafedd (5)
37        Pwrs dyn sy’n gollwng anifail anwes ohono? (3)
38        Ffordd o gadw a dechrau rhannu’r rhan fwyaf o garw (4)
39        Sut hwntws?  Hwntws gwirion – nid North Walians yn bennaf! (4)
40        Galeri i’r anfarwol Ddic Aberdaron? (5)
41        Nid yw’n coelio mai crwydro mae dau’n dilyn rhyfeddol ehangder nad oes cychwyn iddo (10)


I Lawr

1,15     Babi i gyfansoddwr bychan twp?  Mae hynny’n hurt (8; dau air)
2          Pregethu newyddion da Luc o’r galon (7)
3          “Tom Tu Cefn” yw hwn i’r Sais (4)
4          Mae ganddo gastell newydd yng Nghymru, ac mae’n odli efo gweithdy 33 (5)
5          Diod i bawb yn y rhan fwyaf o hanner cyntaf rhaglen ar S4C (5)
6          Cwestiwn i ddilynwyr yr athroniaeth hon:  Eith bawd yn boenus wrth glapio ag un law? (7)
7,33     Mynach yn cynrychioli gwleidydd wrth iddo redeg mewn etholiad? (8)
8          Awydd gweld niwl yn codi o amgylch troed y Garn (5)
9          Gorchymyn i adeiladu cwch i anifeiliaid daear yn bennaf (6)
10        Cartref a oedd yn datblygu (4)
12        Amseroedd cyffrous a blesia un yn bennaf (7)
17        Nofia’n ôl, ond nid i Ystwyth efallai (4)
18        Cerflun i’w weld yn symud (4)
19        Mi gei di gludiant i’r drygioni chwareus hyn (7)
22        Popty ar gyfer ffa efallai wedi i chi dorri’r pen i ffwrdd (4)
23        Un i lawr o’r De?  Nage; i fyny o wlad Twrci (4)
24        Pobl mewn gwesty sy’n rhoi lloches i ddynion (7)
25        Kinnock, Corbyn neu Abse yn dechrau hudo boi o’r Bala i mewn (7)
26        Rhywle a allai gynrychioli bron y cwbl o’r cosmos i Bantycelyn  (6)
28        Planed y mis (5)
30        Rhai creision a grawnfwyd (4)
31        Rhan o goes caseg wydn (5)
32        Mae’n Wlad i Mi ... (5)
33        ... Mae’n Vlad i Tithau ...  1 i lawr yn ôl clebran rhai (5)
36        Gwirion yw e’, a lledrithiol (4)
38        Lein sy’n gychwyn rheilffordd eang ond digalon (3)

Pynciau:

#Croesair
#Morus Venti
#Rhifyn 7