Croesair

Croesair Rhifyn 9

Morus Venti
30·04·2019

 

Ar Draws

1          Ehedwr ag adain wael (8, dau air)
7          Dal i fyw mewn cyflwr delfrydol, heb fod yn sobr! (4)
10        Gwron sy’n cychwyn yn eiddgar yn y môr (4)
11         Mae’n bedyddio gyda dwfr, yr aelod selog hwn o’r Hen Gorff efallai (7)
12        Cawodydd cyntaf 17 o flaen dechrau’r haf sy’n arwain at dywydd gwlyb (9)
13        Rhywsut dysgodd gan Morus Venti i fod yn un croeseiriau (7)
15        Wedyn Trump bach, a’i well? (6)
17        Yr haf, efallai, mewn gwesty morol (5)
19        Mi wnaeth fynd ar ôl y cread, a darganfod ffiseg (8)
21        A barnu, er yn ansicr, paratoi tir ar gyfer aredig (8)
23        Colled i ganol Llanelwy (5)
24        Meddyg wyf i, a dyn anferthol (6)
27        Y fo, mae’n dod yn ôl gyda’r bwrlwm yn ei Brosecco (7)
29        Methu â chytuno efo Donna Anna efallai,
            tra bo delw a ’nghydwybod yn ymladd heb sylweddoli (9)
30        Troi ar hychod yn y pen draw, yn ffyrnig, wna chwech o berchyll
            cochion bychain bach? (7)
31        Ai yr aderyn lliwgar hwn neu’r llall? (4)
32        Ymerawdwr Rhufain yn dod yn ôl at ei goed? (4)
33        All darnio un greu hyn? Dim ond mewn croesair! (8)

I Lawr

1          Mae’r amser yn anramadegol! (4)
2          Gwenieithwr sy’n creu Pobol y Cwm efallai (7)
3          Swyddog ddaru wneudcymwynas (9)
4          Lliwio’ch gwallt fel pe baech yn heneiddio? Mae hynny’n dwyllo truenus (5)
5          Rhan o wyneb coed a’u DNA? (8)
6          Dyheu am awel i wyntyllu tân (6)
7          Esgusodi y purdan ffyrnig (7)
8          ‘Codwch y funud hon!’ ‘Y munud yma?’ (4)
9          Ocsiwnïer tir aredig wrth erw wyllt (8)
14        Ecsodus fel un Arthur i Afallon, chwedl T Gwynn Jones (9)
15        Mae’n ei ddarparu ei hun ag angenrheidiau yma tra bo yn stormus (8)
16        Dyma ddarn helaeth o wlad i gasglu cnwd ohono – gormod i’w amgyffred (8)
18        Wedi chwythu’r rhain, erlyn hedegog gadno yn bennaf ar chwâl (7)
20        Rhestr selebs hynod – a Duw Nêr (7)
22        Teimladau angerddol yn O2 (6)
25        Talcen lloeren fwyaf Iau yn ymestyn allan (5)
26        Byddai codi hwn yn anghywir cyn dechrau arhwylio (4)
28        Wele adyn ar gyfeiliorn (4)

Pynciau:

#Rhifyn 9