Fel y Gwynt
Croesair Rhifyn 11
Fel y Gwynt. Y mae’r cliwiau Ar Draws wedi eu cyflwyno yn nhrefn eu hatebion yn y wyddor. Y mae gan yr atebion gyda * wrth eu cliwiau rywbeth yn gyffredin, ac nid yw eu cliwiau yn gyflawn. Gellid creu DANT SHÂN GP gyda’r llythrennau nad ydynt yn cael eu gwirio yn yr atebion hynny. Mae pob ateb i’w weld yn Geiriadur Prifysgol Cymru ar lein, heblaw am y tri gyda * wrth eu cliwiau.
Anfonwch eich atebion i’r cyfeiriad canlynol erbyn 1 Chwefror 2020, os gwelwch yn dda: O’r Pedwar Gwynt, Dôl Bebin, Rhydypennau, Aberystwyth SY24 5BE. Bydd tocyn llyfr gwerth £25 i’r datrysiad cywir cyntaf a ddaw allan o’r het. Llongyfarchiadau i Cerys Webber, Pontypridd – enillydd croesair Rhifyn 10 / Haf 2019 Morus Venti.
Ar Draws
2 Buasai’n mynd mewn trafnidiaeth ail-ddosbarth
9 Cerdd am lyn ar Ynys Môn
10 Mynwes a gares yn eithriadol
14 Perthnasau i’w caru’n bennaf gyda dyfnder dwys
15 Rwy’n gwybod ar ôl cael ergyd bod
rhai’n cario clecs yma
16 Plismon i greu atgynhyrchiad o’r gwreiddiol
17 Un yn tynnu llygaid rhywun a’i wneud yn anabl
18 Anysbrydol yw atgasedd y di-waith heb undeb yn bennaf
19 Drysau; mae rhif 2 yn cynnwys aur
20 Rhydd a rhyfedd yw Dilys, ond nid un astrus
23 Mae rhai i’w cael i ddadrithio gwartheg a datryswyr croeseiriau
26 *Yn un bag, torth bob (tri gair)
29 Tad arall gwallgof yn herwgipio
31 Allai alcemydd greu aur daint gyda’r sylweddau cemegol hyn?
32 Mae rhai’n meddwl mai dyma beth yw Johnson i’w San Steffan. Edrychwch i mewn i’r peth
33 *Bu ym Marathon
34 Hyfdra cusan gydag awgrym o angerdd ynddo
35 Gadewir y rhain wedi medi am saith o flynyddoedd i gychwyn, ac yna hanner cant
I Lawr
1 Sŵn ci yn bennaf, un dim iws a dienaid (5)
2 Coed tal, lle mae cerdd ysgafn ar y Sul digalon er dyrys (6)
3 Dynion da eu cyflwr yw olrheinwyr achau (7)
4 Yn bennaf, dim lleuad; heb ddim lle i’w weld oherwydd y tywylliad hwn (4)
5 Llinyn mesur o Ffrainc i Loegr (5)
6 Ar ôl cychwyn pryd mae Brigyn yn chwarae offerynnau fel y rhain (7)
7 Tenant yn rhentu i denant dan amod anarferol (6)
8 Dirgelwch yw’r ffordd y mae magïen yn ehedeg (6)
11 Cwynion gan fab Charles Lamb a phâr arall (9)
12 Dinistrio llwybr wrth galon cymuned (5)
13 Taro ar afon a rhyw fath o afon arall - mewn gwaelod dyffryn yn bennaf (9)
19 Ategu cartref ar gyfer tafarn (7)
20 Rêl het yw’r Gog ger pen draw Llanfairpwll (6)
21 Arteithiau Aeolus wrth chwythu (6)
22 Sir Trwyn? (6)
24 Os daw’n ôl mewn storm o eira bydd yn rhynllyd (6)
25 Defnydd gwydn gyda gwlân ynddo; cynhyrchir peth gerllaw Bangor (7)
27 Trawst dair troedfedd o dan adeilad? (6)
28 *Mae’n mynd fel y gwynt, neu fel bollt (5)
30 Llerpyn a gafodd ddyrchafiad yn Lombardia (4)