Cyfansoddi

Adfer paent pum canrif dyn

o gomisiwn Bardd Y Lle Celf, Ynys Môn, 2017

Llion Pryderi Roberts
11·04·2018

 

 

Gwaddol

ar ôl gweld gwaith Ifor Davies, 
‘Robert Recorde (1512-1558)’

 

Ar gynfas pumed canrif
dim ond ymylon gwedd
yw gwarged lliwiau’r galon
a’r meddwl cyn bod bedd,
fel pant ar garreg aelwyd lefn
y sgwriwyd iddo lendid trefn.

Ond gwyddor anghyfartal
yw’r cyffro mewn coffâd,
a chofnod gwaith ei ddwylo
yn ffrwydrad o barhad,
i adfer paent pum canrif dyn
yn rhwyg dwy linell fain ar lun.

 

Robert Recorde (1512-1558) gan Ifor Davies (olew ac offer mathemategol ar gynfas; manylyn yn unig)

Comisiwn Bardd Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, 2017

Mae Llion Pryderi Roberts yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mi fydd cyfrol newydd ganddo, Tipiadau, yn cael ei chyhoeddi fis Mehefin 2018 gan Cyhoeddiadau Barddas.

Pynciau:

#Barddoniaeth
#Celfyddyd weledol
#Llion Pryderi Roberts
#Y Lle Celf