Cyfansoddi

Gwobr Stori Fer Tony Bianchi 2019

Anrheg


Geraint Lewis

Amser darllen: 12 munud

31·12·2019

 

Rtdfcttftg,m.kpgh

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Ond gwn i, ym mêr fy esgyrn (os yn wir fy esgyrn i ydyn nhw erbyn hyn), na fydd hynny’n bosib. Rwyf mewn ras yn erbyn y cloc. Cofnod sydd ei angen. Llawer mwy gwerthfawr na ffrwyth dychymyg. Mwy gwyddonol hefyd. Nid ple am help cymaint â chri fforensig o’r galon i rywun rywle wneud synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i mi. Anrheg hefyd, mewn ffordd, i genedlaethau’r dyfodol gael dehongli’r wyrth.

Canys dyna ydyw, heb os. Gwyrth. A braint. Cael fy nhroi yn fochyn.

Mae yna barc ar waelod yr ystad tai newydd wi’n byw ynddi yn Abertawe. Gwelaf nifer sylweddol o gŵn a’u perchnogion yn pasio’r tŷ bob dydd. Er ei fod yn dŷ brics digon cydnerth, nid tŷ gwellt na thŷ pren, dechreuodd rhyw nerfusrwydd cynyddol godi ynof pan fyddai unrhyw gi yn ymdebygu i flaidd yn pasio heibio ar y pafin. Huskies o unrhyw fath fyddai’r gwaethaf. Wrth weld ci o’r math hwn trwy’r ffenest byddai fy ystumog yn troi’n ddŵr. Byddai gweld mwy nag un ohonynt gyda’i gilydd yn fy ngorfodi i gwato tu ôl i’r soffa, gan afael yn dynn yn y rheiddiadur, fel pe bawn i’n disgwyl corwynt unrhyw eiliad i chwythu brics fy nghartref yn deilchion.

Nodwedd arall o’r newid rhyfedd a oedd yn egino ynof oedd yr ysfa i rolio mewn mwd. Roedd gen i ddigon o hunanreolaeth i gyfyngu hyn i'r parc, pan doedd neb arall o gwmpas. Roedd y wefr o gael mwd gwlyb ar fy nghefn noeth yn anodd ei ddisgrifio. Bydden i’n rhochian chwerthin yn y bath wedyn wrth ail-fyw’r profiad yn fy mhen. Achos, heb os, ac ni allaf bwysleisio hyn ddigon – profiad braf yw bod yn fochyn. Yn niwl fy nghof cofiaf fand o’r enw ‘Mochyn Hapus’. A dyna yn sicr oeddwn i. 

Ydw i.

Un prynhawn, a minnau’n ymdrochi ym mudreddi pant mwdlyd yn y parc, fe sylwodd rhyw fenyw arnaf yn fy siorts a trainers. Ni ddywedodd yr un gair, dim ond edrych arnaf fel pe bawn i’n wallgo’. Wrth i mi sochian socian yn y bath wedi’r ‘digwyddiad’ fe benderfynais wneud apwyntiad i weld fy meddyg teulu.

Doedd dim modd cael apwyntiad am dair wythnos.

‘Ydy e’n emergency?’ meddai’r dderbynyddes ar y ffôn, mewn cywair diamynedd.

‘Wel,’ meddyliais. ‘Alle fe fod,’ mentrais.

‘Beth yn gwmws yw’r broblem?’ parhaodd y dderbynyddes.

‘Mae’n un go sensitif,’ atebais, yn teimlo fy hun yn mynd yn fwy pinc. ‘Byddai’n well gen i ei drafod gyda’r doctor.’

‘Iawn. Ffonith Dr Griffiths chi ddiwedd y bore.’

Ar ôl sôn yn fras am fy symptomau, chwarae teg iddi, fe drefnodd Dr Griffiths apwyntiad brys ddiwedd y pnawn hwnnw. Peth da oedd gweld ei bod yn cymryd fy nghyflwr o ddifri. Yn ei swyddfa yn y feddygfa holodd yn fanwl am fy hanes diweddar. Soniais fy mod i newydd ysgaru oddi wrth fy ngwraig – cyn-wraig – Sonia. Cyfaddefais fy mod i’n gweld ei heisiau hi. Cefais ergyd aruthrol pan adawodd hi fi i fyw gyda dyn o’r enw Bleddyn, adeiladydd o Glydach.

Rhoddodd Dr Griffiths y gorau i chwarae â’r beiro yn ei llaw ac edrychodd i fyw fy llygaid, gan ddweud: ‘Wy’n credu bod e’n arwyddocaol taw adeiladydd oedd y dyn o Glydach. Yng nghyd-destun stori’r ‘Tri Mochyn Bach’, dych chi o bosib wedi ail-greu’r Bleddyn yma i fod yn flaidd go-iawn. Mae’n ddrwg gen i, Mr Dafis, ond ni welaf unrhyw arwyddion eich bod chi’n troi’n fochyn. Yn eich pen mae’r cwbwl.’

Mewn gweithred anwirfoddol fe wnes i rochian chwerthin i’w hwyneb.

Parhaodd y meddyg, ‘Galaru ydych chi, Mr Dafis. Galaru am golli eich gwraig. Gydag amser fe wellwch chi.’

Nodiais fy mhen yn gwrtais, heb gredu gair gan yr het ddwl o ‘arbenigwraig’.

Wrth ddod â’n sgwrs i ben holodd a oedd yna ryw ddigwyddiad, heblaw’r ysgariad, a allai fod wedi esgor ar y rhith o feddwl fy mod i’n fochyn.

Rhith?! Y fath hyfdra!

‘Nac oedd,’ meddwn, yn dechrau chwysu fel mochyn nawr ac am adael adeilad gwirion y cwac diawl gyda’r bwriad sarhaus o bisio’n gam yn ei maes parcio ar y ffordd ma’s.

Ond celwydd noeth oedd y ‘nac oedd’ hwnnw.

Canys dim ond rhyw chwe wythnos ynghynt fe brynodd fy mrawd, Lyn, anrheg pen-blwydd i mi. Cerflun o ben mochyn. Gwyddai’n iawn am fy hoffter o foch. Bues yn hapus iawn ym mlynyddoedd cynnar fy mhriodas wrth fyw mewn tyddyn bach yng Nghwm Tawe. Yn y cyfnod hwnnw fe gedwais chwech o foch.

Gosodais y pen mochyn mewn lle amlwg yn f'ystafell fyw: ar y wal uwch ben y lle tân, fymryn i’r chwith, nesaf at ddrych mawr. Yn y dyddiau cynnar hynny fe dreuliais oriau yn syllu i wyneb y mochyn ac yna'n syllu ar fy wyneb innau yn y drych. Nôl a ’mlaen, o wyneb i wyneb, gyda cherddoriaeth organ Hamdel Handel yn chwarae’n dawel ar fy seinydd Wonderboom newydd sbon.

Mae’r pen mochyn yn hardd mewn ffordd salw, rhywbeth tebyg i’r hyn mae ein cyfeillion Ffrengig yn galw’n belle laide, sef dynes dlos ond nid mewn ffordd gonfensiynol. Mae un o dyllau’r llygaid ynghanol cylch du ac mae’r gwddf â dwy linell wen yn rhedeg i lawr y naill ochr a’r llall, fel nentydd ar fynydd brwynog. Ceir hefyd batrwm cris-groes du yn blith draphlith dros yr wyneb, yn enwedig ar y trwyn. Lliw pinc disglair yw’r rhan fwyaf o’r darn, pinc llachar iawn, tebyg i’r sglein a welir ar ddefnydd porcelain.

Penderfynais taw pen mochyn benywaidd ydoedd. Fe’i gelwais yn ‘Dilys’ yn syth. Daeth yr enw o rywle, pwy a ŵyr ble? Fy hoff ran o Dilys yw’r ddau dwll llygaid, mwy fel agennau na socedau mewn gwirionedd. Sy’n gwneud i Dilys edrych fel pe bai’n cysgu.

Gan fod rhai o’m nodweddion mochaidd wedi dechrau tua’r un adeg ag i mi dderbyn Dilys yn rhodd gan fy mrawd, fe wnes i benderfynu canfod mwy o wybodaeth am y cerflun. Fe es i’r oriel lle prynwyd y darn, sef lle ym Mae Abertawe, ger y marina. Ar ôl gwneud ymholiadau am y cerflunydd, Nia Lewis Evans, fe drefnais i’w chyfarfod yn ei stiwdio yn ardal Sgeti o’r ddinas.

Roedd hi’n fenyw yn ei thridegau cynnar, gwallt cwta coch, llygaid mawr brown, gên sylweddol, wedi gwisgo mewn oferôls glas, tebyg i’r rhai a wisgir gan fecanics KwikFit yn yr hysbyseb deledu enwog. Rhoddodd groeso gofalus i mi. Dywedais fy mod wrth fy modd â Dilys. O glywed hyn chwarddodd yn braf, gan ddweud fy mod i’n gywir, taw o gorff mochyn benywaidd y daeth y pen.

‘Mae’n ddrwg gen i?’ dywedais, gan edrych ar goll braidd.

Yna aeth hi â mi draw i gwpwrdd pren yng nghornel y stiwdio. Agorodd Nia y cwpwrdd a gwelais hanner dwsin o benglogau ar y silffoedd. Eglurodd hi fod yna un o fochyn, dwy ddafad a thri phenglog cadnoid yno. Aeth ymlaen i ddweud ei bod hi’n defnyddio’r penglogau yn uniongyrchol yn y broses grochenwaith. Gosod clai arnynt a’u tanio i dymheredd uchel iawn, pan fyddai’r penglog o fewn y cerflun yn ymddatod a chwalu, gan greu patrymau lliwgar, annisgwyl.

Meddyliais am y patrymau cris-groes du ar drwyn Dilys druan ac yn sydyn fe deimlais ryw ddicter dwfn iawn tuag at y fenyw hy yma o’m blaen.

‘Rhag eich cywilydd chi,’ meddwn, gan ychwanegu ei bod hi’n llythrennol yn chwarae â thân, cyn taranu allan o’r stiwdio gan dynnu’r drws sinc yn glep swnllyd ar f'ôl.

Nid wyf yn ymddiheuro am roi disgrifiad go fanwl o’m hymweliad â Nia Lewis Evans. Yn wir, rwyf yn argyhoeddedig bod anrheg diniwed fy mrawd ynghlwm â’r newidiadau meddyliol a chorfforol sy’n digwydd i mi. Nid wyf yn berson arbennig o ysbrydol ond rwyf yn grediniol bod ‘enaid’ Dilys wedi fy meddiannu. Does dim ffordd arall o roi’r peth. Fy nymuniad wrth ysgrifennu’r pwt hwn o gofnod yw ysgogi gwyddonwyr y dyfodol i archwilio’r posibilrwydd hwn yn drwyadl, ymhell wedi i mi fynd i’r twlc mawr yn y nen.

Rhaid hefyd nodi nad oedd y profiad yn saws afal fêl i gyd. O fewn diwrnodau i mi ymweld â Nia Lewis Evans roeddwn i’n cael trafferth cysgu. Troi a throsi drwy’r nos a chael y breuddwydion mwyaf rhyfedd. Roedd un freuddwyd yn enwedig yn ei hailadrodd ei hun dro ar ôl tro, am y ci buan hwn, milgi Eidalaidd ond yn ymddwyn fel ci defaid, yn casglu nifer o gŵn eraill ynghyd, ac yn wir roedd y cŵn hynny yn brefu fel defaid! Nid oes gen i’r un syniad beth oedd arwyddocâd y freuddwyd. Rhywbeth arall i chi gnoi cil drosto yn y dyfodol, o bosib.

Fe wn i o’r gorau bod yr ymennydd yn gallu twyllo dyn, neu fochyn, yn enwedig yn hwyr y nos. Gwn hefyd fod pobol ag afiechydon i’r meddwl, twymyn ar yr ymennydd er enghraifft, weithiau yn cryfhau eu synhwyrau, yn enwedig eu synnwyr arogleuo. Mor gryf, yn wir, nes i rai pobol arogleuo coffi ffres neu fara newydd ei grasu neu betrol pan nad oes unrhyw olwg o’r un o’r pethau hyn ar eu cyfyl.

Roeddwn i’n gwyntio rhyw arogl arbennig iawn yn ystod y nos, ond heb unrhyw syniad beth y gallai fod. Arogl hen, llychlyd, powdrog, tebyg i ryw lwydni melys. Roedd hi mor rhwystredig peidio â gwybod beth ydoedd. Ro’n i wedi darllen yn rhywle bod moch yn cael eu defnyddio yn Ffrainc i ganfod truffles. Ceisiais ddyfalu ai dyna oedd yr arogl. A oeddwn i erbyn hyn yn gwyntio fel mochyn?

Wrth reswm, nid jest beth oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen oedd yn fy nghadw i ar ddi-hun. Roedd fy nghroen yn mynd yn fwy cwrs, gyda rhyw grychau cochlyd nodedig yn tyfu ar rannau ohono. Roeddwn i hyd yn oed wedi tyfu ambell gudyn euraidd ar f'ysgwyddau. Cefais siom pan edrychais yn y drych i weld a oeddwn wedi dechrau tyfu cynffon fach a chanfod nad oedd un yno.

Do’n i hefyd ddim yn bwyta’n dda. Gan geisio gosod rhyw resymeg yn sail i’m tynged annisgwyl fe brynais ychydig o fwyd mochyn ar-lein. Cyrhaeddodd tri chwdyn ugain cilogram o Heygates Breeding Sow Nuts fy nghartref, ynghyd â bocs mawr o Allen and Page Specialist Feed Pellets.

Ac ar fy marw, cyn gynted ag yr agorais un o’r bagiau Heygates dyna lle roedd e, yr union arogl a oedd yn fy nghadw ar ddi-hun ym mherfedd y nos. Roeddwn i wedi bod yn chwennych rhyw fwyd mochyn penodol heb hyd yn oed sylweddoli hynny.

Wi newydd edrych nôl dros yr hyn wi wedi ysgrifennu hyd yma a dylid nodi bod gen i ysfa enbyd i newid ‘Samuel Beckett’ yn ‘Hamuel Beckett’. Yn wir, yn fy nghynddaredd fe alwais ‘Samuel, Samuel’ fel yn y Beibl ers talwm. Wedi’r cwbwl, mae Samuel yn enw digon hawdd i’w gofio, yn enw hyfryd yn wir.

Dylid nodi hefyd bod ‘porc Nia L E’ yn anagram o porcelain a bod prif lythrennau enw fy meddyg teulu, Helen Owen Griffiths, yn sillafu HOG, gair arall am fochyn. Dim ond nodi’r rhain ydwyf, heb wybod eu harwyddocâd o gwbwl, os yn wir y bydd yna unrhyw arwyddocâd iddynt.

Sylwais hefyd ar nifer o gamgymeriadau bach, ‘sochian’ yn lle ‘socian’, ‘Hamdel’ yn lle ‘Handel’ ac yn y blaen, gan geisio fy ngorau i’w cywiro. Maddeuwch fy llithriadau, plis. Does gen i ddim esboniad amdanynt. Efallai fod y camgymeriadau geiriol hyn o bwys enfawr i chi, wn i ddim, ond teimlaf y dylid o leiaf eu nodi.

Wi hefyd am gyfaddef fy mod i’n dechrau cynhyrfu, yn enwedig ar ôl dihuno’r bore yma. Ro’n i wedi bod yn teimlo’n drwm yn ystod y nos, yn flonegog hyd yn oed. Ystyriais taw bwyta gormod o gnau blasus Heygates oedd yn gyfrifol. 

Ond na. Dihunais heddiw gyda chwe theth ychwanegol. 

Wi’n bendant fy mod i erbyn hyn nid yn unig wedi newid fy rhywogaeth ond wedi newid fy rhyw!

Efallai taw’r ffenomen newydd o gael wyth o fronnau go sylweddol oedd yn gyfrifol, ond roedd gen i ryw flys i yfed dŵr, ac nid jest dŵr o’r tap chwaith. Gorfodais fy hun i fynd i’r archfochnad archfarchnad rownd y gornel i nôl potel o fy hoff ddŵr. Dŵr arbennig ydyw, o Rwsia, ac mae e’n hen ffefryn gen i. Gwisgais hen grys-chwys a oedd llawer yn rhy fawr i mi, er mwyn peidio tynnu sylw at fy mronnau newydd. Sylwais wrth dalu ger y til bod goslef fy llais wedi mynd tipyn yn uwch. Edrychais o’m cwmpas, gan weddïo na fyddwn yn taro i mewn i rywun ro’n i’n ei adnabod. Chwarddais yn fewnol o ystyried y byddai hynny yn gwireddu’r ymadrodd ‘yr hwch yn mynd trwy’r siop’ i’r dim.

Pan gyrhaeddais adref a cheisio agor y botel sylwais fod fy llaw yn llawer mwy stiff nag arfer. Dyna o’n i’n golygu pan awgrymais fod y cloc yn tician. Y traed a’u carnau bach nodedig yw’r rhannau olaf i’w gosod yn eu lle yn fy nghorff newydd. Rywsut neu’i gilydd fe lwyddais i agor y botel a’i hyfed allan o gafn ar ford y gegin.

Yn yr eiliad neu ddwy ddiwethaf yma wi wedi gorfod mynd ar fy mhedwar. Wi’n teimlo fy nwylo yn caledu, ond rywsut wi wedi llwyddo i osod fy ngliniadur ar y llawr. Soch chi’n mynd i gredu hyn, wi wi’n gwybod, ond soch chi’n mynd i ’ngadael i lawr, ych chi?

Mae’r ddogfen yma yn gyfle gwich wich wich. Wi’n gwybod bydd fy mrawd Lyn yn grac, jest gadael nodyn fel hyn, ond falle ddim. Soch chi’n gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd wi wi wir i chi. Saws afal, craclyn, baaaa cŵn yn y nos, y wraig yn mocha â bildar, mochochochyn hapus ffiaidd. Hy, wel wi wi wi wir moyn gadael hwn fel anrheg i chi wi wi wi a wi wi newydd sylweddoli mod i heb deipio teitl i’r darn eto, sef ‘Traed Moch’. Af fi nôl i dreial gwneud hynny nawr mewn munud, ond mae’r dwylo yn boenus, boenus, soch chi’n gallu dirnad y fath boen.

Wi’n dechrau colli fy nghydbwysedd wi wi wir ichi. Wi’n credu af fi lan lofft ac agor y ffenest os fedra i, er mwyn cael ychydig o awyr iach.

Tra fy mod i yn f'ystafell wely edrychaf mewn drych sy’n pwyso yn erbyn y wal a sylwi fod fy mochyn moch chwith yn goch. Mae fy nhrwyn newydd oddfog yn biws gyda phatrwm cris-groes tebyg iawn i Dilys. 

Plis, derbyniwch fod hyn wi wi wi wi wi wir wedi digwydd i mi. Sonia i byth eto am Sonia. Soch chi moyn clywed hynna. Soch chi’n mynd i adael fi lawr nawr, ych chi?

Ond hefyd wi wi wi wi moyn i chi wybod bod rhywbeth tangnefeddus am y diwedd hwn.

Wi’n dawel derbyn fy nhynged.

Anghofiais i ddweud taw fy enw yw Pryderi. Ond fy enw fel mochyn fydd gwrthwyneb pryder, beth bynnag yw hwnnw. Hyder, falle? Mae cudynnau euraidd ar fy mhen, a mwy fyth ar fy sgwiwiwiwiwidde. Teimlaf fel angel. Wi’n mynd i hedfan i fyd arall. Trwy’r ffenest. Ymhell bell borchell mor bell i ffwrdd.

Soch chi’n gwybod ei hanner hi m//,/./.,mae MOCH YN gallu njk.m/. 

hedfan,,,,,,,,bv,bnbn n ,.[[[[[[[---  hjbhjkjkkm/kmkm,/l/,l//? Njm,n,.//////// cgf,m p[p[‘p

drxdtrki (Pryderi)


Mae Geraint Lewis, enillydd cyntaf Gwobr Stori Fer Tony Bianchi, yn hanu o Dregaron, Ceredigion. Graddiodd mewn Saesneg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1981. Bu’n ysgrifennu yn llawn amser ers 1984, yn bennaf ar gyfer y teledu ac mae'n sgriptiwr profiadol


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Fy nymuniad wrth ysgrifennu’r pwt hwn o gofnod yw ysgogi gwyddonwyr y dyfodol i archwilio’r posibilrwydd hwn yn drwyadl, ymhell wedi i mi fynd i’r twlc mawr yn y nen

Dyddiad cyhoeddi: 31·12·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Ned Thomas

Y mis hwn, hanner canrif yn ôl, daeth rhyfel Biafra i ben. Methodd yr ymdrech i sefydlu gwlad annibynnol i'r bobl Igbo (yn bennaf) yn ne a de-ddwyrain Nigeria. Parhaodd y rhyfel am dros ddwy flynedd a hanner, a lladdwyd o gwmpas…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Ysbrydolwyd Hel y Mynydd (12 Ionawr 2020, S4C) gan y ffenomen sakte-TV yn Llychlyn: ‘teledu araf’. Yn 2009 darlledwyd rhaglen saith awr hynod boblogaidd ar y sianel NRK2 yn dogfennu siwrnai drên o Bergen i Oslo, prosiect a ddisgrifwyd yn y New Yorker fel ‘the iconic slow-TV programme’ ac a sbardunodd genre newydd. Enghraifft…

Cyfansoddi


Geraint Lewis

Ro’n i wedi bwriadu ysgrifennu stori, wir i chi. Dyna oedd y syniad. Ro’n i’n teimlo’n weddol hyderus, yn gwybod am y diffiniad clasurol o orfod cael dechrau, canol a diwedd – er nid o anghenraid yn y drefn yna, chwedl Samuel Beckett.

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae pyrth dy fforest di, o wlad y Brutaniaid presennol, yn agored i’r eirias dân. Oni ddygwch ffrwyth yr awron, fe a’ch torrir rhag bod yn bobl.

Geiriau Morgan Llwyd yn Llyfr y Tri Aderyn (1653) yw y rhain, yn fynegiant o’r athrawiaeth a fyddai, yn ôl M Wynn Thomas, yn…

Cyfweld


Ivan Krastev

Wrth i'w gyfrol ddiweddaraf gael ei chyhoeddi – The Light That Failed: A Reckoning (2019, gyda Stephen Holmes) – bu Eurozine yn cyfweld ag Ivan Krastev, un o ddadansoddwyr amlycaf y newidiadau mawr ar waith yn Ewrop ar hyn o bryd, gan gynnwys cysyniadau sydd ynghlwm wrth Brexit megis 'y mwyafrif dan fygythiad'. Dadleua Ivan Krastev a Stephen Holmes…

Adolygu


Jane Aaron

Yn ôl rhagair Tegwen Morris, cyfarwyddwraig bresennol Merched y Wawr, ‘nid ffeministiaeth sy’n cael ei bortreadu’ yn y gyfrol hon ond ‘bywyd bob dydd’ menywod Cymru rhwng 1920 a 1960. Eto i gyd, yr hyn sydd yn debyg o daro darllenwyr yr 21g wrth iddynt droi tudalennau’r…

Dadansoddi


Keith Chapin

Cysyniad hynafol yw’r ‘aruchel’ a gafodd ei ddychmygu o’r newydd dro ar ôl tro. Hupsous yn yr hen Roeg, sublimis yn Lladin, sublime yn Ffrangeg a Saesneg, Erhaben yn Almaeneg: mae’n dynodi uchelder arbennig (neu’r safle oddi tano, sef ‘sub’ ‘limen’ – yn llythrennol, o dan drothwy). Roedd ‘arddull yr aruchel’ (stilus sublimus) â’i holl ddefnydd o drosiadau llachar, cymalau coeth ac ieithwedd gain, yn rhan…

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ...