Colofnau

‘Ar fwrdd y llong’

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 8 munud

25·11·2017

Hen ysfa ddigon afiach ydi mynwenta, meddai T H Parry-Williams yn un o'i ysgrifau. Aeth yn ei flaen i ddweud: 'ond y mae rhyw swyn arbennig yn yr arfer, er hynny.' Mi fydda i'n ei chael hi'n anodd mynd heibio i fedd Kostas Axelos (1924-2010) ym mynwent Montparnasse heb droi ar fy sawdl a dychwelyd i ddarllen yr arysgrifiad: 'Mae gwahaniaethu'r hyn sy'n weddill oddi wrth yr hyn a ysgubir gan y gwynt yn gofyn gweld a byw yn ddwys, gan bwyso yn erbyn marwolaeth, heb iddi orchfygu fel y cyfryw.'

Dyn nad oeddwn i'n sicr ohono o gwbl oedd Axelos, tan i mi weld ei fedd. A oeddwn wedi gweld ei enw o'r blaen, wedi darllen ei waith hyd yn oed? Dwi'm yn siŵr. Mae'r bedd ei hun, er yn dwt, yn ddigon merfaidd a di-nod, o garreg lliw llefrith wedi suro, ac nid hawdd ydi darllen y geiriau pŵl. Mae'n debyg mai'r wyddor Roegaidd a dynnodd fy sylw gyntaf; ac mae esgyrn Axelos yn gorwedd nepell oddi wrth fedd nobl o farmor du Susan Sontag, ar ben y llwybr tarw y byddaf yn ei droedio wrth orfod croesi'r fynwent ar ruthr – nes i'r enw Axelos ddod yn rhyw fath o fynegbost i mi.

Bu Axelos yn weithgar gyda mudiad y Gwrthsafiad yng Ngwlad Groeg, pan oedd yr Almaenwyr a'r Eidalwyr wedi meddiannu'r wlad yng ngwanwyn 1941. Bu'n ymladd yn y Rhyfel Cartref a chafodd ei garcharu a'i ddedfrydu i farwolaeth gan y llywodraeth wrth-gomiwnyddol. Llwyddodd i ddengid, trwy nofio o'r carchar i gychwyn, ac yna, ar drothwy'r Nadolig yn 1945, yn un o ddau gant o ddeallusion ifainc a gafodd eu cyrchu gan Ffrainc yn ffoaduriaid ar long y Mataroa. Dyma daith hanesyddol bellach a ddygodd y deugant o Athen i borthladd Taranto yn Puglia, reit yng ngwadn bwtiasen yr Eidal; gadawodd cynifer o'r ffoaduriaid hyn eu marc ar y byd. Adeiladwyd y llong ym Melffast. Aethpwyd â phlant a oroesodd wersylloedd Bergen-Belsen a Buchenwald i Haifa ar ei bwrdd. Pennaeth yr Institut français yn Athen, y ffilanthropydd Octave Merlier, fu'n gyfrifol am drefnu ei bod yn codi'r Groegwyr wrth ddychwelyd. 

Fel y mwyafrif o'i gyd-deithwyr, cafodd Axelos loches a nawdd i astudio gan lywodraeth Ffrainc ac ym Mharis y setlodd. Aeth yn ddisgybl i'r athronydd Martin Heidegger. Datblygodd yn ei dro yn ffigwr canolog ym mywyd deallusol y cyfandir, gan greu corff o waith a ddylanwadodd ar nifer o feddylwyr mawr ein hoes.

Wrth groesi'r fynwent hon, a mynd heibio i eiriau drudfawr Axelos, mi fyddaf yn methu peidio â 'styried, hyd yn oed os ydi hynny ond am eiliad ddwy, beth mae'r meirw yn ei wneud ar dir y byw, a'r byw ar dir y meirw. Mi fyddaf yn meddwl weithiau am wenyn y bardd Almaeneg o Brâg, Rainer Maria Rilke: fallai mai ni bobl â'n traed yn dal ar y ddaear ydi 'gwenyn yr anweledig'? Y nhw sydd â'r dasg, yng ngweledigaeth Rilke, o gasglu mêl y 'byd hwn' a'i storio yng nghwch gwenyn aur yr anweledig, fel petai byrhoedledd yn plymio dyfnder Bod. Ein gwaith ni fel gwenyn ydi serio'r ddaear ddarfodus yn boenus angerddol i'n hanfod, fel y caiff ei rhin ymrithio eto – o'r golwg – yn ein hymysgaroedd.

Mae hynny'n dibynnu ar fod 'yn bresennol', a phrinhau a wnaeth y cyfleoedd i fod yn gyfan gwbl bresennol. Mae angen gwneud amser a datblygu'r gallu i ganolbwyntio ar gyfer hynny. Ac mae'r arfer o fod 'yn bresennol' yn ein bywyd beunyddiol wedi mynd mor annaturiol i ni nes bod yna lyfrau bellach yn cael eu sgwennu ar y pwnc ac yn gwerthu'n dda, yn arbennig adeg y Dolig. Rydym yn tueddu i feio technoleg a lluosogrwydd cynyddol y galwadau sydd arnom am hynny. Ond mi fydda i'n sylwi mai o fewn cyfyng furiau fy mhen, ynof i fy hun felly, y mae'r cyfyngder sydd yn fy rhwystro rhag bod yn bresennol, rhag dod i adnabod fy lle. Ai yr ego felly, yn hytrach na'r lle a'i wrthdyniadau, sydd yn fy rhwystro rhag gweld yr hyn sydd yno, rhag gwybod ei fod, fel finnau, yn ddarostyngedig, yn ansefydlog ac yn unigryw, yn un darn yn unig o rywbeth mwy?

Roedd T H Parry-Williams i weld yn hoff iawn o Hunangofiant Tomi (1912) gan Tegla Davies; cyfaddefodd ei fod yn tynnu dŵr y môr i'w lygaid. Ac yn ei ysgrif yntau ar fynwenta yn Llanfihangel Genau'r Glyn mae'n cofio fel y dywedodd mam Tomi wrth ei mab yn y llyfr: 'rwyt ti'n rhy ifanc i ddarllen cerrig beddi; mae eisio lot o addysg i fedru darllen carreg bedd'. Wrth fynd yn hŷn, mynd yn iau mae rhywun hefyd, mae'n debyg, ac fallai mai dyna pam mae T H Parry-Williams yn casglu ei bod hi'r un mor wir 'fod modd bod yn rhy hen i ddarllen cerrig beddi, "addysg" neu beidio'.

Beth ydi ystyr bod yn bresennol yng ngwhmni'r meirw? Ai mynwenta ydi hynny? Sut mae trawsnewid gofod 'gwag'  – ac esgyrn – yn drigfan 'fyw'? Ymdrech dila, hyd y gwn i, a fu ymdrech y Cymry ar yr wyneb, o gymharu â thraddodiadau'r Catholigion neu'r Eglwys Uniongred. Mae'r Groegwyr yn dal i lenwi mynwentydd â chanhwyllau a gwenith ddau Sadwrn bob blwyddyn i goffáu'r Eneidiau colledig, gan estyn parch cenedlaethol i'w hynafiaid.

Does dim modd Eu hatgyfodi. Ac eto, fel darn o gelfyddyd, mae ystyr gweithredoedd y gorffennol yn esblygu gydag amser; mae eu hystyr, mae'n hawdd anghofio, yn rhan annatod o'r presennol. Tybed onid ym mhrofiadau'r presennol y daw y gwneud a'r ymwneud hwn o hyd i'w lawnder, fel ag yn nhrem ôl-weithredol nofel fawr Marcel Proust, A la recherche du temps perdu (Chwilio am amser colledig, 1913-1927)? Neu stôl llwynog a dannedd Waterloo Marged Elias yn stori Siân Melangell Dafydd yn y rhifyn hwn, sy'n rhwystr i'w hepil pell rhag siarad Ffrangeg mewn swyddfa yn yr unfed ganrif ar hugain?

Mae celfyddyd yn medru estyn llaw a rhoi nawdd i'r gorffennol, gan gynnig tocyn ar fordaith i ddyfodol. Oherwydd mae gan gelfyddyd ffordd arbennig o ddygymod  – ffordd wahanol i bobl farwol  – a'r gallu i oroesi a gweithio fel petai'n danddaearol am ddegawdau, ys dywedodd Mererid Puw Davies wrth holi 'A ydi hi'n bryd inni glustfeinio am y llygod?' yn rhifyn Haf 2017 O'r Pedwar Gwynt. Mae'r gwirioneddau y mae darn o gelfyddyd wedi ei fwydo ynddynt yn medru dod o hyd i'w llais am y tro cyntaf o ganlyniad i ddyfalu mewn bywyd arall, a dyna fallai ydi'r teimlad dwys o gymdeithas sydd i'w ddarganfod mewn llyfr.

Pan fyddai oedolyn yn dweud wrtha i'n blentyn, 'Ew, ti'n lwcus, mae dy fywyd i gydo dy flaen', fel petai'r dyfodol yn garped coch i'w gerdded fel brenhines, mi fyddwn i'n teimlo ton o anniddigrwydd yn dod drostaf. Pam, meddyliwn, oedd y bobl 'fawr' yn sbio arnom ni blant fel ysbiwyr trwy ysbienddrych yn sylwi'n sydyn ar y sêr  – neu'n agosach ati, fel lladron trwy dwll y clo?

Yn nhrem y meddyliwr o'r Almaen, Walter Benjamin, a ddioddefodd yn enbyd oherwydd ei dras Iddewig, yng nghofal y presennol yn wir y mae ystyr y gorffennol. Mae'r hyn sydd wedi digwydd, sy'n perthyn i'r amser a fu, ynghrog, ei ystyr yn parhau'n benagored  – a dyna ein cyfrifoldeb cyfun fallai, gwarchod y cyflwr penagored hwnnw, rhag i ystyr gael ei thwtio, a'i rhoi i gadw.

Ymdrech ganolog Axelos oedd craffu a chlustfeinio, dan ddylanwad Heidegger, ar yr hyn a alwai'n 'chwarae'r byd'. Teitl ei gyfrol enwocaf oedd Le jeu du monde  (Gêm y byd, 1969). Diolch i'n cyflwr byrhoedlog, y ni 'wenyn yr anweledig' sydd yn cael y gwaith glew o blymio dyfnder Bod, a rhoi siâp am ryw hyd i 'chwarae' y gorffennol, yn ôl-syllol, a hynny trwy gyfrwng ein gweithredoedd ninnau  – a chyfrannu felly fel petai at bresennol diddiwedd. Oherwydd ni bobl â'n traed ar y ddaear pia'r penderfyniad i bwy y perthyn trigolion Cantre'r Gwaelod a ffoaduriaid tymhestloedd y gorffennol  – ac i bwy mae Mary Jones y Bala'n perthyn hefyd, neu'r hogan fach a adawodd ei phentref mynyddig yn Gansu yng ngogledd-orllewin Tsieina i gael addysg yn y dref, dim ond i ddychwelyd adref gymaint tlotach ei byd. Ai i rywogaeth fydd yn gorfod colli deigryn er mwyn medru clywed blas iachaol yr heli?

Er mai dŵr plastig (yn ôl canfyddiad yr arbenigwyr yn gynharach eleni) sy'n dilyn grym disgyrchiant am ryw hyd a llifo drwy'r tap yn fy sinc fan hyn, mae ideoleg cynnydd yn dal i 'mestyn ei hapêl a fy nal i weithiau yn barod i gredu, wrth olchi'r llestri, bod achubiaeth yn llechu ym mhen draw llwybr nobl, llwybr a gaiff ei adeiladu diolch i eli penelin a chwys Hanes  – y pen draw hwnnw sydd ar y cyfan, mae'n debyg, yn dod yn nes ac yn nes wrth i bob cenhedlaeth serio'u golwg o'u blaenau, torchi llewys a thramwyo i'w ffawd. Ond tybed ai, yn hytrach, i galon pethau y dylid sbio, a'r tragwyddol i'w ddarganfod nid yn y diweddglo ond yng ngwadnau chwyslyd ein sgidiau  – yr arogl lledrog, os byddwn ddigon lwcus, yn codi'n surfelys gyfoethog i lenwi ein ffroenau a'n hatgoffa ein bod yn 'gig a gwaed', a'r holl bydredd sy'n dod i ran y cyflwr hwnnw? Yn yr un modd, breuddwyd gwrach ydi cysur 'beth ydi'r ots gennyf i am heddiw, mi fydd y cyfan fory wedi mynd i'r pedwar gwynt', achos mi fydd 'heddiw' yn siŵr o orffwys fel stôl llwynog ar 'sgwyddau etifedd rhyw ddydd, ei gynffon lewyrchus yn cynhesu gwar, ei lygaid gwydrog yn oeri'r gwaed.

Mae'n debyg mai Diogenes oedd enw gwreiddiol y llong a gludodd y ffoaduriaid rhwng sawdl yr Eidal, Haifa ac Athen. Athronydd yng nghyfnod Hen Roeg oedd Diogenes, un o sylfaenwyr athrawiaeth Sinigiaeth, a fynnai gysgu allan a byw fel ci. O'r Groeg kynikos y daw'r gair Sinig, a'i ystyr wreiddiol, yn wir, ydi 'fel ci'. Credai Diogenes bod y ddynol-ryw yn byw bywydau artiffisial a rhagrithiol ac y byddent ar eu hennill o astudio sut mae cŵn yn byw  – trwy gyfarth yn onest ar y gwir, yn wahanol i bobl, sydd, yn ei farn o, unai'n twyllo neu'n cael eu twyllo.

Yn 2013, daeth criw bychan o Roegiaid ynghyd ym Mharis i wisgo dillad a stolau llwynogod, a chario cesys fel y rhai yn nwylo'r dau gant a gafodd y cyfle i ddianc ar fwrdd y llong efo Axelos. Tynnwyd lluniau'r gwirfoddolwyr a'u gosod i'w harddangos, ochr yn ochr â ffotograffau o'r giwed ifanc wreiddiol.

Tybed ai chwilio am amser oedd y rhai a gamodd i sgidiau ffoaduriaid Diogenes  – ai dyheu am reibiad swyn-gyfarthiad ci a Gwynt y Dwyrain, 'i [d]roi â'u hergwd crwn', ys dywed T H Parry-Williams, 'Olwynion y byd a'r bywyd hwn'?


Delwedd: dyfrlliw o'r Mataroa (Diogenes) yn hwylio ar drothwy'r Nadolig, 1945. Artist: anhysbys.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Tybed ai, yn hytrach, i galon pethau y dylid sbio, a’r tragwyddol i’w ddarganfod nid yn y diweddglo ond yng ngwadnau chwyslyd ein sgidiau

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…