Muriau (ar ôl y daeargryn)
Cerdd ar ôl daeargryn de'r Eidal, 23 Tachwedd 1980
Anheddau
yn clwydo ar fin creigleoedd,
hen draddodiad o fyw ar ben bryniau,
hen gymdeithas yn ddwfn yn rhychau
defodau'r tir ...
Nid mor hen
â'r ddaear ddofn a yrrodd don
ar fympwy i'r pentrefi hyn,
i ysgwyd y tyddynnod fel cychod
ar y cefnfor:
roedd y muriau i lawr yn druenus
ar sosbenni a gwelâu,
ar gyrff a chŵn a waedai'n llychlyd;
roedd y muriau i lawr ar y gymdeithas—
y tlodion â'u hychydig, y cyfoethogion â'u braint
ar agor i'r pedwar gwynt;
datgelwyd gwaelodion budr cyfiawnder
wrth grafu yn y malurion;
roedd wyneb eglwys yn deilchion ar lawr,
a'r offeiriad yn taeru yn ei ddagrau
mai miragl a'i hachubodd.
Roedd muriau i lawr yn Rhufain hefyd
a dyrnau'n curo ar ddrysau'r weinyddiaeth
am wybod lle roedd yr hofrenyddion, y trefnwyr,
a'r cynllun brys:
datgelwyd dynion cul a dall
yn cawdel-reoli bywydau'r bobl.
Ond draw yn y pentrefi chwâl,
o Sant' Angelo dei Lombardi i Pescopagano,
roedd tyrrau o bobl
yn rhoi carreg
ar garreg
yn y golau claer; yn cychwyn adfer,
a'r ddaear yn llonydd ennyd
yn ei hanes hir.
Bu farw oddeutu 3,000 o bobol tua diwedd 1980 mewn daeargryn yn ne'r Eidal. Bu cryn feirniadu ar ymateb aneffeithiol llywodraeth yr Eidal ar y pryd. Yn fwy diweddar, bu farw bron i 300 o ganlyniad i'r daeargryn yng nghanolbarth yr Eidal.
Enillodd y gerdd hon gan Lowri Gwilym (1954-2010) gystadleuaeth Cerdd yn y Wers Rydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cyffiniau 1981. Yn hanu o Drefenter, Ceredigion, roedd Lowri'n darlithio ar y pryd yn Adran Saesneg Prifysgol Bologna.
Dychwelodd Lowri i Gymru yn fuan wedi Eisteddfod 1981, i weithio yn y cyfryngau. Gorffennodd ei gyrfa fel Comisiynydd/Golygydd Ffeithiol S4C. Fe'i gwobrwywyd eto yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 2003 am gasgliad o gerddi gwreiddiol.
Gyda diolch i Meic Birtwistle.
Gallwch gyfrannu i waith y Groes Goch Ryngwladol yn y fan hon.
Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.
Dyddiad cyhoeddi: 26·08·2016