Cyfansoddi

‘Arweinydd’ (领袖)

Yr awdur yn ei elfen


Yu Hua

Amser darllen: 6 munud

02·08·2019

Hen boster propaganda, 1969


Mae Yu Hua (1960-) yn un o awduron cyfoes mwyaf dylanwadol Tsieina. Cyhoeddir yma ddarn o ysgrif o’i gyfrol ‘Tsieina mewn deg gair’ (2010), lle mae’n olrhain esblygiad ystyr y geiriau hyn a’r newidiadau a fu yn ei wlad dros y degawdau diwethaf. Cyfieithwyd ei waith i dros 40 o ieithoedd. Diolch iddo am yr hawl i gyhoeddi'r cyfieithiad isod.

✒︎

Flynyddoedd wedi marwolaeth yr arweinydd diledryw Mao Zedong, tyfu fel madarch mae’r efelychiadau yn Tsieina. Ers y 1990au, pan oedd mynd mawr ar gystadlaethau harddwch ar hyd a lled y wlad, sefydlwyd yn yr un gwynt gystadlaethau i ethol pob math o arweinyddion, gan greu ras benrhydd am y top: pen ffasiwn, pen popeth smart, pen cyfaredd, pen harddwch benywaidd. Ond, beth bynnag eu hunion ffurf, aros ym maes y pethau cain a wna’r cystadlaethau harddwch: ceir ‘Cystadleuaeth Fawreddog Harddwch y Gwalltiau Gwyn’ ar gyfer ymgeiswyr dros drigain oed yn unig, er enghraifft, a ‘Cystadleuaeth Fawreddog Harddwch Chwilboeth’  hefyd – dyma pryd y bydd merched glandeg yn yfed mwy nag sydd angen – ac i’r rhai hynny sydd wedi bod am lawdriniaeth gosmetig, ceir ‘Cystadleuaeth Fawreddog Harddwch Gwneud’.

Ond tydi cystadlaethau ar gyfer arweinyddion, ar y llaw arall, ddim yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau penodol, ac felly daw arweinyddion am ein pen o bob cornel, o bob math o gefndir. Arweinyddion ieuenctid, arweinyddion plant, arweinyddion y dyfodol, arweinyddion dyfeisiadau newydd, arweinyddion eiddo tirol, ac arweinyddion menter a busnes – mae digon ohonynt i roi pendro i rywun. A chymaint o arweinyddion ar led, yn naturiol mae yna lawer o uwchgynadleddau i’w mynychu – uwchgynadleddau sy’n honni gwneud bron iawn lawn cymaint â’r G8. Bellach, mae cystadlaethau arwain yn cynnwys arweinyddion daearyddiaeth a thechnoleg hyd yn oed, nes bod gennym arweinyddion mewn golygfeydd naturiol ac arweinyddion ymysg lifftiau hefyd. 

Dyma gyflwr Tsieina gyfoes wedi cyfnod Mao: erbyn hyn, mae gan y lifftiau, hyd yn oed, eu harweinyddion. A fory’n ddiwrnod arall, pwy a ŵyr ymhle y down o hyd i giwed newydd o arweinyddion yn torri allan. A phe cynhelid cystadleuaeth i ddewis y gair sydd wedi colli ei ystyr gyflymaf yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwethaf, yr enillydd, does dim dwy waith, fyddai ‘arweinydd’.

Yn y Chwyldro Diwylliannol, ar y llaw arall, roedd ‘arweinydd’ yn enw grymus, cysegredig, yn gyfystyr ag ‘Y Cadeirydd Mao’ – eiddo cyfyngedig Mao, gellid dweud. Ni fyddai neb bryd hynny wedi bod mor benuchel â haeru ei fod yn arweinydd, ddim hyd yn oed yn ei freuddwydion. ‘Cysegredig a dihalog yw’r famwlad’ oedd un llinell a ffefrid yn y dyddiau hynny, a gellid bod wedi defnyddio’r un geiriau, cysegredig a dihalog, ar gyfer y gair ‘arweinydd’ – ac ar gyfer y cyfenw Mao hefyd.

Yn y dref fechan lle magwyd fy ngwraig roedd undeb y gweithwyr. Adweinid y Cadeirydd wrth yr enw Mao. ‘Y Cadeirydd Mao’ fyddai’r bobl leol yn ei alw, yn ddigon naturiol, ac mi fyddai’n ddigon parod i ateb i hynny. Ond, o ganlyniad, daeth yn darged ar gyfer y Chwyldro Diwylliannol: onid oedd wedi gosod ei hun fel yr ail Gadeirydd Mao? Mi fyddai’n rhaid iddo dalu’n ddrud am hynny. Wedi ei frifo gan y cyhuddiad, gwnaeth ei orau i’w amddiffyn ei hun, a dagrau’n llifo i lawr ei ruddiau. ‘Jest dyna beth mae pobl yn fy ngalw i,’ protestiodd yn floesg. ‘Nid dyna sut dwi’n adnabod fy hun!’ Ond doedd y torfeydd chwyldroadol ddim am glywed dim o hynny. ‘Un peth ydi gadael i bobl gyfeirio atoch felly, os ydynt yn dymuno,’ meddent, ‘ond peth arall ydi ateb i’r enw hwnnw. Trwy gydnabod y teitl, gweithredoch yn wrthchwyldroadol.’

Yn blentyn, byddwn yn gresynu, a hynny’n chwerw, nad Mao oedd f’enw, yn hytrach nag Yu. Roedd yn achos loes i mi, yn boen ddofn y tu mewn i mi, nad oedd yr un o’m cyndeidiau wedi cael arddel yr enw Mao. Nid oeddwn yn sylweddoli bod Mao yn enw cysegredig a mawreddog i bobl Mao, ond hefyd yn enw peryglus. 

Trosiad arall cyffredin yn y cyfnod oedd ‘Mam y bobl’, sef y blaid gomiwnyddol. Wedi dwys ystyried, rhesymais fel hyn: os mai’r blaid gomiwnyddol oedd mam pobl Tsieina, dylai fod gan y bobl hyn dad yn ogystal, ond pwy? Daeth yr ateb o geg y ffynnon: yr Arlywydd Mao. Roedd rheswm yn dweud mai gwraig Mao oedd y blaid gomiwnyddol. Dim ond bod hynny’n codi’r cwestiwn: beth am wraig gyfreithlon Mao Zedong, Jiang Quing? Ar y pryd roeddwn yn un o filwyr bach coch y Chwyldro Diwylliannol, a dim ond yr egwyddor o unwreiciaeth a chydraddoldeb rhwng dynion a merched oedd yn gyfarwydd i mi; ni wyddwn y gallai dyn briodi mwy nag un wraig yn nghyfnod Hen Tsieina. Roeddwn ymhell o fedru dychmygu y byddai dynion yn Tsieina heddiw yn mwynhau cael meistresi a gordderch-wragedd. Roeddwn wedi hen wasgu fy mhen, nad oedd eto wedi cyrraedd ei lawn dwf, ond heb lwyddo i ddod o hyd i ffordd o gysoni’r hyn sy’n sylfaenol anghysonadwy.

Ar wahân i Mao, roeddwn yn ymwybodol o bedwar arweinydd arall, y pedwar yn dramorwyr. Yn f’ystafell ddosbarth yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol, hongiai portread o Mao ar y bwrdd du, ac ar y wal y tu cefn iddo, wedi eu gosod yn ofalus, roedd portreadau o Marx, Engels, Lenin, a Stalin – y tramorwyr cyntaf i mi eu gweld erioed. I ni, roedd steil gwallt Lenin a Stalin o fewn terfynau’r hyn a ystyrid yn normal, ond ni wyddem beth i’w wneud o Marx ac Engels, oedd â gwalltiau hir, hyd yn oed yn ôl safonau merched, oherwydd roedd merched yn ein tref ni – fel merched Tsieineaidd ym mhobman – yn cadw hyd eu gwalltiau at eu clustiau. Hyd y gwallt oedd y ffordd o wahaniaethu rhwng merched a dynion, ac felly roedd Marx ac Engels yn ein gadael mewn penbleth, yn arbennig Marx – roedd ei gyrls bron iawn yn gorchuddio’i glustiau, fwy neu lai fel y merched yn ein tref, y gellid gweld eu clustiau yn achlysurol yn unig o dan y cnydau gwallt. Roedd barf ffluwchog Marx, wrth gwrs, yn rhwystr rhag mynd i ddyfalu dim mwy am ei ryw. 

Wfftiai un o’r plant yn fy nosbarth at hyn, gan fynd mor bell â chyhoeddi, ‘Dynes oedd Marx.’ Am hynny bu bron iddo gael ei gyhuddo o fod yn wrthchwyldroadwr. Nid y fo fyddai’r cyntaf, wrth gwrs. Roedd un ferch yn yr ail flwyddyn wedi plygu portread o Mao gan adael plyg siâp croes ar draws ei wyneb; mi gariodd rhywun glecs amdani, ac wrth yr enw ‘yr wrthchwyldroades fach’ y byddem i gyd yn ei hadnabod. Ni lwyddodd i gadw ei dagrau’n ôl yn y gwasanaeth ysgol lle cafwyd adroddiad ar ei throsedd, ac mi igiodd grio cymaint wrth gyffesu nes prin oedd modd ei deall. 

Yna, cawsom ein galw at ein gilydd gan ein hathro blwyddyn gyntaf a gofynnwyd i ni ddadlennu pa greaduriaid gwrth-chwyldroadol eraill oedd wedi turio i’n plith. Pwyntiwyd bys at ddau blentyn bach. Nid oedd enw’r cyntaf yn gyfarwydd, ac mi gymerodd yr athro beth amser i ddeall mai plentyn teirblwydd pobl drws nesaf y clepgi ydoedd, a oedd yn euog un pnawn o wneud gosodiad adweithiol. ‘Mae’r haul wedi mynd i lawr,’ fe’i clywyd yn dweud. Yn y dyddiau hynny byddai Mao yn cael ei ddisgrifio fel haul coch llachar, felly fiw oedd trafod yr haul yn ysgafn, ac wrth iddi nosi, doedd dim modd dweud mwy na ‘mae hi’n tywyllu’. Wrth ddweud ‘Mae’r haul wedi mynd i lawr’, cystal iddo fod wedi dweud ‘Mae Mao Zedong ar lawr’. 

Yr ail dan amheuaeth oedd yr hogyn yn y dosbarth oedd wedi sylwi mai dynes oedd Marx. Yn wyn fel y galchen, collodd arno’i hun wrth gael ei holi gan yr athro. Powliai dagrau i lawr ei ruddiau, a snwffian crio a wnaeth pan ofynnwyd iddo a oedd mewn difiri wedi gwneud gosodiad mor adweithiol. ‘Dwi’n meddwl, ella do’ – pesychodd – ‘Mi–mi wnes i ddweud hynny.’ Rhoddodd ein hathro gyfle iddo ailwampio’r gosodiad: ‘Rwyt yn dweud dy fod yn meddwl i ti ddweud hynny, neu ai meddwl wyt ti fallai na ddywedaist di hynny?’ Ymateb yr hogyn, a oedd wedi rhusio’n lân, oedd mwy o udo a drysu, gan ddweud un funud ei fod yn meddwl: do, iddo ddweud y geiriau hyn, a’r munud nesaf fallai nad oedd wedi dweud hynny wedi’r cyfan. Hyd ddiwedd y cyfarfod condemnio, daliai i bendilio rhwng y ddau ateb. Trwy blannu amheuaeth ym meddyliau ei wrandawyr, ei achubiaeth oedd, ‘Dwi’n meddwl, fallai’, oherwydd yn y diwedd ddaeth dim o’r peth. 

Am gyfnod byr pan oeddwn yn fychan, roeddwn o dan yr argraff mai’r Cadeirydd Mao oedd enw llawn yr arweinydd. Roedd ‘Y Cadeirydd Mao’ ar dafodau pawb, ac fe’i hyngenid â mwy o gynhesrwydd yn y llais nag wrth ynganu ‘Taid’ neu ‘Tada’. Gydag amser, oherwydd bod pobl byth a beunydd yn llafarganu ‘Hir Oes i Syniadau Mao Zedong!’ ac yn canu ‘Coch yw’r dwyrain, mae’r haul yn codi,/ Esgorodd Tsieina ar Mao Zedong’, deuthum i ddeall mai cyfuniad o gyfenw a rheng swyddogol oedd yr enw ‘Y Cadeirydd Mao’ ac mai ei enw go iawn oedd Mao Zedong. Byddai cyfeirio ato wrth yr enw hwnnw mewn sgwrs, wrth gwrs, yn sarhad.

Yn ystod Gŵyl Dreigiau’r Cychod yn 2009, dechreuodd y neges destun ganlynol gylchredeg: Asiantaeth Newyddion Tsieina Newydd, Mai 28. Mae Academi Gwyddorau Tsieina wedi llwyddo i glonio Mao Zedong; mae dangosyddion corfforol y clôn yn cyfateb i ddangosyddion Mao ar ei anterth. Mae’r cyhoeddiad hwn wedi ennyn ymateb grymus yn rhyngwladol. Mae’r Arlywydd Obama wedi cyhoeddi y bydd yr UD yn tynnu’n ôl o Ddeddf Cysylltiadau Taiwan o fewn tri diwrnod, ac yn tynnu eu lluoedd milwrol o Asia. Mae Prif Weinidog Siapan wedi gorchymyn dymchwel Beddrod Yasukuni, wedi cydnabod bod Ynysoedd Senkaku yn perthyn i diriogaeth Tsieina, ac wedi cytuno i glustnodi gwerth 13 triliwn o ddoleri yn iawndal am oresgyn Tsieina yn 1937. Mae’r UE wedi codi ei gwaharddiad ar werthu arfau i Tsieina. Mae’r Arlywydd Medfedef yn Rwsia wedi cydnabod perchnogaeth Tsieina ar filiwn o filltiroedd sgwâr yn nwyrain Siberia. Mae Mongolia wedi nodi wrth y Cenhedloedd Unedig iddi fod yn rhan o Tsieina erioed. Mae Arlywydd Taiwan Ma Ying-jeou wedi addo cadw at yr holl drefniadau a gynigiwyd gan y tir mawr ynghylch ailuno ac wedi gwneud cais i fod yn ysgolor yn yr Archifau Cenedlaethol. Mae arweinydd Gogledd Korea Kim Jong-il wedi gyrru cyfarwyddiadau i’w gynrychiolwyr yn y Trafodaethau Chwe Phlaid i weithredu yn ôl canllawiau’r Cadeirydd Mao. Bu newid sydyn mewn materion cartref: o fewn pedair awr ar hugain yn unig mae swyddogion ar lefel y wlad, ac uwch na hynny, wedi dychwelyd eu budrelw, gwerth 980 triliwn yuan; mae pum busnes preifat wedi eu trosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus, mae 25 miliwn o groeswragedd rhyw wedi eu gwneud yn ferched gonest dros nos; mae’r farchnad stoc wedi saethu i’r entrychion; mae prisiau tai wedi gostwng 60 y cant; mae pobl Tsieina unwaith eto’n canu anthem yr oes: ‘Coch yw’r dwyrain, mae’r haul yn codi,/ Esgorodd Tsieina ar Mao Zedong arall.’


Cyfieithiad gan Sioned Puw Rowlands.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Yr ail dan amheuaeth oedd yr hogyn yn y dosbarth oedd wedi sylwi mai dynes oedd Marx

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfweld


Angharad Penrhyn Jones

Angharad Penrhyn Jones, Golygydd Cysylltiol O'r Pedwar Gwynt, sy'n holi Beti George am ei bywyd a'i phrofiadau fel darlledwraig ac ymgyrchydd.

Dadansoddi


Ned Thomas

Fel pawb roeddwn wedi clywed yn y newyddion am yr hyn ddigwyddodd ger Madrid ar 24 Hydref, sef codi gweddillion y Cadfridog Francisco Franco o'i fedd yn y Valle de los Caidos a'u trosglwyddo i feddrod teuluol yn y brifddinas. Digwyddodd hyn wedi brwydr hir yn y…

Dadansoddi


Caryl Lewis a Gwen Davies

Yn fy nofel Y Gemydd, defnyddir gemau (ar ffurf modrwyon), i gario addewidion a gobeithion. Er fod y cymeriadau yn perchnogi’r gemau hyn dros dro, perthyn i’r byd a’r cenedlaethau i ddod y maen nhw mewn gwirionedd. Ceir proses debyg wrth greu stori: mae’r awdur yn…

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…