Cyfansoddi

Atgof

Stori fer newydd

Angharad Tomos

Amser darllen: 5 munud

17·07·2016

Y Blaned Lonydd, dyna sut byddai Ed yn meddwl am y lle. Roedd amser wedi aros yn stond yno. Deuai rhyw syrthni drosto gwta bum munud wedi iddo eistedd wrth fwrdd y gegin.

'… Dawal yma, Dad.'
'Dyna'r aflwydd pennaf.'

Doedd yna ddim yn digwydd yno, dim sŵn, dim byd. Dim ond tipian y cloc gebyst, fel petai'n gwneud sbort ar eu pennau. Cododd ei dad i wneud paned ac, er mor gloff ydoedd, gadael iddo wnaeth Ed. Syllodd ar y pot marmalêd, a'r pedair brechdan a gâi ei dad i frecwast, dim mwy, dim llai. Od oedd gweld marmalêd siop, a hwnnw mewn pot. Anathema fyddai hynny ers talwm. Dim ond ar ddysgl y'i caniateid ers talwm, a hwnnw'n stwff cartref yn ddi-feth.

'Panad?'
'Diolch.'

Marw wnâi pob sgwrs, megis matsien yn diffodd. Nid fod yr un ohonynt wedi llifeirio, ond ni fuont erioed mor chwithig â hyn. Llifo’n naturiol wnâi'r siarad o'r blaen, a dogn go lew o chwerthin. Falla mai gwrando wnâi ei dad ac yntau o'r blaen a bod y sioe wedi dod i ben bellach.

'Ydach chi eisiau'r newyddion?'
'Waeth inni heb.'
'Rhag ofn?'
''Mond rwdlan a chomic songs sydd yna.'

Doedd neb yn dweud 'comic songs' mwyach, meddyliodd Ed. Rhyfedd fel roedd popeth wedi ei biclo yno, gan gynnwys yr eirfa. Prociodd farwor y sgwrs.

'Falla fod rhywbeth wedi digwydd …'
'Mi gawn glywed yn ddigon buan.'

Gan bwy fasa nhw'n clywed? Roedd y tŷ hanner ffordd i fyny mynydd a 'run copa walltog yn galw heibio. Dyna oedd diben radio – rhoi gwybod i bobl beth oedd yn mynd ymlaen ym mhen draw'r lôn, a thu hwnt iddi.

'Sawl llwyaid o siwgr?'
'Un – mi wna i forol am hynny, Dad …'
'Waeth i mi wneud dwy nag un, dydw i'm yn cael y cyfle yn aml.'

Yr edliw fyddai'n cythruddo Ed yn fwy na dim. Gwyliodd y llaw grynedig yn gosod y gwpan o'i flaen. Te tramp a gaent erbyn hyn. Fyddai neb yn trafferthu efo tebot mwyach. Mi ddiflannodd y tebot a'r dail te. Un ddefod yn llai bob pryd bwyd.

Estynnodd llaw ei dad am y frechdan ac ymlafnio efo caead y pot. Taenodd y marmalêd dros y dafell, a'r gyllell yn gwrthod cydymffurfio. Roedd fel gwylio ffilm ar y cyflymder anghywir. Pam na ddeudai rywbeth – unrhyw beth?

Syllodd Ed drwy'r ffenest, a chlywed ei dad yn cnoi. Meddyliodd y dylai fwyta rhywbeth, i gymryd rhan yn y ddefod, ond nid oedd gan Ed archwaeth. Doedd yno fawr i'w fwyta prun bynnag. 'Mae hi'n dŷ Edwart yma' oedd ymadrodd ei fam ar adegau felly, a chwarddai ei dad gan mai Edward oedd ei enw yntau. Fyddai ei dad byth yn chwerthin rŵan. Hwnnw oedd y gwahaniaeth mwyaf – hynny a'r tawelwch.

'Mi wnaiff fore eitha,' ebe Ed.
Estynnodd ei dad am frechdan arall.
'Dydw i ddim yn cofio be oedden nhw'n addo,' meddai Ed wedyn. 'Ydach chi?'
'Nac ydw. Fyddan nhw byth yn iawn beth bynnag.'

Wfft iddo, meddyliodd Ed yn sydyn, a chodi i danio'r radio. Doedd y dyn ddim yn trio. I ba ddiben y galwai i'w weld os oedd o'n gymaint o surbwch?

Roedd parablu'r llais ar y radio yn perthyn i fyd arall. Byd y byw, a bywyd tu hwnt i Nant yr Arian. Byd lle roedd pobl yn sgwrsio a chyfathrebu.

'Beryg fod y tywydd wedi bod, Dad. Hitiwch befo.'

'Nid fi oedd yn poeni,' atebodd yntau, gan adael i'w fys cam godi'r briwsion olaf. Dyna a wnâi ar ddiwedd pryd – roedd o'n golygu llai o olchi.

Syllodd Ed ar ei oriawr. Roedd yr ymweliad bron â dod i ben. Ysai am gael dychwelyd i'w waith ac yn ôl i dir y byw. Arhosodd nes i'w dad orffen y baned. Cododd, ac roedd sŵn y drws yn cau tu ôl iddo yn rhyddhad.

*

Roedd yn dda gan Edward weld cefn ei fab. Roedd wedi dod i gasáu ei ymweliadau anfynych. Galw er mwyn galw a wnâi, galw rhag ofn ei fod wedi cael pwl ac yn fflat ar y llawr. Bryd hynny, câi ei sodro mewn cartref, a byddai cyfrifoldeb Ed gymaint yn llai.

Cododd i glirio'r llestri brecwast a theimlo'r stafell yn troi ar ei hochr. Daria'r bendro. Eisteddodd yn ôl yn ei sedd nes bod pethau wedi sadio. Ond dyna sut y bu pethau ers y chwalfa. Roedd ar fwrdd llong, a honno'n suddo'n gyflym. Gallai daeru fod ei gorff yntau’n gwegian, a'i afael ar bethau yn fwy ansicr. Doedd dim golwg fod y storm yn tawelu chwaith. Wrth ddeffro, deuai'r caswir amdano o'r newydd, a rhaid oedd canfod y cryfder o rywle i wynebu diwrnod arall. Yn aml, ni allai gredu'r hyn a ddigwyddodd. Byddai'n troi i weld gweddill y gwely yn wag ac yn fflat. Roedd hi wedi mynd, wedi diflannu, gan ei adael ar ei ben ei hun.

Taith ddiddiwedd ydoedd, yn mynd i unman. Diflannodd y capten heb sicrhau fod yna rywun wrth y llyw. Ofnai bob awr, gan y gwyddai y byddent yn taro rhywbeth hegar yn y man.  Dyna fyddai'r diwedd. Eto, rhygnai bywyd yn ei flaen, gan wneud sbort glân ar ei ben.

Y cwbl y medrai Edward ei wneud i gadw ei bwyll oedd dychmygu ei bod hi yno. Creu rhith o Elsa a chymryd arno ei bod yn eistedd wrth y bwrdd. Nad oedd ei chadair yn hunllefus wag, a'i bod wedi dychwelyd. Sgwrsiai efo hi am oes a fu, gan ddwyn i gof ei gwên a'i hosgo. Gallai weld ei llaw yn tollti'r te o'r tebot, a'r modd y byddai'n troi ei llwy. Syllasai arni gyhyd fel bod pob symudiad wedi ei serio ar ei gof. Dyna'r agosaf a ddeuai at ddedwyddwch.

Yna byddai Ed yn ymddangos o rywle ac yn sathru'r rhith yn llwyr. Agorai'r drws a gadael i wynt yr hen ogledd darfu ar bopeth. 'Sgubai bopeth yn ei sgil, yn llestri ac yn Elsa a phob atgof oedd yn gysylltiedig â hi. Mynnai siarad er nad oedd dim sylwedd i'w sgwrs. Dim ond geriach diystyr ddôi o'i enau. Pan âi pethau i'r pen, codai a chynnau'r weirlas, a byddai bregliach hwnnw yn styrbio Edward yn fwy na dim. Yn y diwedd, roedd unrhyw gyfathrach yn dipiau. Âi Edward i'w gragen, byddai Ed yn pwdu, ac nid oedd siâp ar ddim nes i'r drws gau’n glep, a gadael Edward drachefn efo'i feddyliau.

Tra oedd yn 'stachu i olchi'r llestri, daliodd rhywbeth ei lygad – y mymryn lleiaf o las ger talcen y tŷ. Doedd bosib …? Gadawodd y sinc, a mynd dow-dow tua'r drws. Doedd ganddo mo'i ffon, ond wrth gydio yn y dodrefn, fyddai o fawr o dro'n cyrraedd y rhiniog. Safodd yno, a gadael i wenau'r haul gynhesu ei wyneb. Anadlodd yn ddwfn, a llenwi ei ysgyfaint ag awyr iach. Oedd, roedd hi'n gynhesach o dipyn … Rhyfedd, roedd o wedi gwadu dyfodiad y gwanwyn y flwyddyn honno. Ddaru o erioed feddwl y deuai. Trodd i edrych wrth fôn y tŷ a dyna lle roedd bwtsias y gog, a'u glesni yn enbyd o dlws.

Mewn dim, ailffurfiodd y darlun yn ei feddwl. Newydd gychwyn canlyn yr oeddent, ac roedd yntau wedi gaddo dangos rhyfeddod iddi. Aethant am dro heibio'r Ffridd ac roedd hi wedi paratoi basged bicnic. Ffrog lliw hufen oedd ganddi a chôt weu felen – a dotiai at ei gwallt tywyll cyrliog yn donnau ar ei hysgwyddau. Chafodd o mo'i siomi wrth yr afon. Roeddent yno, yn garped o lesni, a'u harogl yn feddwol … Yn sydyn, gafaelodd yn ei llaw, a gwasgodd hithau. Roeddent yn Adda ac yn Efa yn darganfod rhywbeth am y tro cynta 'rioed. Trodd ati, a'i chusanu'n swil. Ers hynny, bob tro y gwelai'r blodyn glas, byddai ei galon yn curo'n gynt, a byddai'r atgof o'r hapusrwydd cyntaf hwnnw yn dygyfor ei enaid.

Trodd a mynd yn ôl i'r tŷ. Teimlodd yn 'sgafnach, a gwenodd. Profiad od oedd hynny, fel tase fo'n ymarfer cyhyrau oedd wedi bod ynghwsg ers tro. Peth melys iawn oedd atgof.

Enwyd cyfrol ddiweddaraf Angharad Tomos, Paent (Carreg Gwalch, 2015), ar restr fer Gwobr Tir na n-Og.

Doedd yna ddim yn digwydd yno, dim sŵn, dim byd. Dim ond tipian y cloc gebyst

Pynciau:

#Rhifyn 1
#Straeon byrion
#Cariad
#Angharad Tomos
#Henaint
#Y cof