John Emyr


Golau trwy gwmwl

Carreg Gwalch, 181tt, £9, Hydref 2019

Cyfansoddi

Belfast

Stori fer


John Emyr

Amser darllen: 20 munud

16·10·2019

Murlun Haf 1969, Belfast

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd amlinell pob copa’n glir bellach, a’r haul yn llywodraethu. Rhwng cnoi tost a llowcio coffi, edrychodd ar fap tywydd y BBC − er nad oedd Gweriniaeth Iwerddon yn cael yr anrhydedd o fodoli ar y map hwnnw, roedd tywydd Gogledd Iwerddon yn cael sylw llawn.

Gosododd ei fagiau yng nghist yr Audi A6 roedd wedi’i logi ddechrau’r wythnos a gyrru’n hamddenol ar hyd yr A5, gan gyrraedd porthladd Caergybi mewn digon o bryd i barcio’i gar a byrddio’r Stena Adventurer. Diolchodd mai ond llond dwrn o bobl oedd yn y lolfa Hygge, a chafodd lonydd i fwynhau’r croesiad teirawr esmwyth yng nghwmni nofel ysgafn.

O Borthladd Dulyn, daliodd drên o Orsaf Connolly i Orsaf Ganolog Belfast ac ar ôl taith fer mewn tacsi cyrhaeddodd westy’r Dukes at Queens yn Stryd y Brifysgol. Yno, cafodd groeso gan y teulu a redai’r gwesty bach chwaethus. Ymffrostiai’r fenyw fod y stafelloedd i gyd wedi’u hadnewyddu ar gyfer ymweliad yr Uwchgynhadledd. 

Penderfynodd fynd am dro cyn noswylio, ac ymunodd â’r myfyrwyr oedd yn drwch yn y stryd a’r caffis a’r ganolfan gelfyddydol. Sylwodd wrth gerdded fod gwydr ambell ffenest wedi’i dorri’n deilchion, ambell dŷ wedi’i losgi a ffenestri a drws un arall wedi’u byrddio. Hawdd canfod pethau tebyg ym mhob dinas, meddyliodd. Crwydrodd Botanic Avenue a tharo i mewn i siop lyfrau No Alibis, a gweld copi o’r gyfrol Reporting the Troubles: Journalists tell their stories of the Northern Ireland Conflict wedi’i llofnodi gan y golygyddion. ‘Well-written, that one,’ meddai’r dyn wrth y cownter. ‘I know the editors.’ Bwriodd Glyn gipolwg ar y clawr cefn oedd yn rhestru enwau chwe deg wyth o gyfranwyr – newyddiadurwyr a darlledwyr a fu yn ei chanol hi yn ystod yr Helyntion, nifer ohonynt yn ddarlledwyr byd-eang bellach. Hwyrach y byddai’r gyfrol yn gymorth iddo i gasglu deunydd cefndirol ar gyfer ei erthygl am yr Uwchgynhadledd, meddyliodd, gan dynnu Mastercard o’i waled i’w phrynu.

Dychwelodd allan i’r stryd. Dynes yn cerdded heibio. Doedd hi ddim yn ifanc. Ddim yn hen chwaith. Ei gwallt eurfrown yn cau fel sgarff am ei bochau mewn ymgais aflwyddiannus i guddio craith oedd yn ymestyn o waelod ei chlust dde hyd at dro ei gên. Myfyrwyr yn chwerthin. Ymdeimlad o gynnwrf. Pawb yn disgwyl ymwelwyr o bedwar ban byd i’r Uwchgynhadledd fyddai’n dechrau drennydd. Câi cyfle i gasglu deunydd cyffredinol ar gyfer ei erthygl yfory, diwrnod i’r brenin – ond i newyddiadurwr â llygaid agored gallai diwrnod o’r fath ddwyn ffrwyth annisgwyl. O leiaf byddai’n gyfle iddo weld rhywfaint o’r ddinas. 

Yn ei wely y noson honno, darllenodd dalp go dda o Reporting the Troubles. Er mor dywyll oedd cyfnod y trais a’r lladd, roedd rhai o’r awduron yn fodlon cyfaddef iddo fod yn gyfnod cynhyrfus a llawn digwydd. Cyfnod pan ruthrai’r adrenalin. Gwawr eu gyrfa. Er mor gyfforddus oedd ei wely, cadw draw wnaeth cwsg. 

Drannoeth, wedi noson anesmwyth, cododd yn gynnar a chael blas ar ei frecwast poeth. Ar ôl prynu copi o’r Belfast Telegraph mewn ciosg cornel stryd, dechreuodd gerdded i gyfeiriad canol y ddinas. Am hanner awr wedi deg, ac yntau’n agos at Neuadd y Ddinas, roedd yn bryd iddo lyncu tipyn o gaffein. Dewisodd gaffi Ross yn Stryd Montgomery.

‘Shw’mae?’

Troi ei ben mewn syndod. Roedd dyn â barf wen yn eistedd wrth y ffenest, ei lygaid yn las a’i wên yn groesawgar.

‘Larry! Heb dy weld ti ers ... ers.’

‘Dyddiau coleg,’ chwarddodd y barfog. ‘Dyddiau’r hwyl a’r protestio,’ ychwanegodd â gwên. Ar ôl y mân siarad arferol mae’n gofyn, ‘Be ddaeth â chdi i Titanic Town?’

Cyn ateb, prynodd Glyn americano ac eistedd wrth yr un bwrdd crwn â’i gyfaill o’r dyddiau da.  

‘Comisiwn i sgrifennu erthygl.’

‘I bwy?’

‘Yr Independent.’

‘Am yr Uwchgynhadledd?’

‘Ia.’

Gweithio ar dy liwt dy hun wyt ti?’

‘Ia.’

‘Ma’n rhaid bod gen ti gysylltiada da. Pwy ofynnodd iti ddod yma?’

‘Y Golygydd.’

Chwarddodd Larry. ‘Mae’r Old Smoke yn tynnu newyddiadurwyr fel huddyg i botas.’

‘Yr hanes sy’n denu.’

‘Siŵr iawn.’

‘Pam ddoist ti ’nôl yma i fyw, Larry? Mi allet ti fod wedi aros yng Ngwlad y Gân. Roedd gen ti lais da yn y côr.’ 

‘Pam y bydd pobol yn dychwelyd at eu gwreiddia? Ein greddf ni i gyd ydi dychwelyd i fan ein geni, w’sti. Does gen i ddim cwilydd deud, roedd gen i hiraeth am Belfast. Wedi deud hynny, a minnau yn yr oedran yma – gad inni beidio manylu – dydi hiraeth ddim yr hyn roedd o’n arfer bod.’

‘Gwir,’ meddai Glyn, gan gofio’n sydyn am eu hoffter o sgyrsiau fel hyn yn y coleg pan oedd Larry’n dal ar bob cyfle i ymarfer ei ail iaith. ‘Ond dwi wedi cyfarfod ambell un yng Nghymru oedd yn arfer byw yma. Dy’n nhw ddim am ddychwelyd ar frys.’

‘Dwi’n synnu dim. Ond mae ’na ymwelwyr sy’n gwasgu i ddod i mewn yma hefyd ’sti. Wyddost ti fod ’na filoedd ohonyn nhw’n tyrru i weld y Walia’ Heddwch? Tynnu llun neu ddau ac wedyn diflannu fel dail yr hydref.’

‘Ar ôl trip mewn tacsi i weld y walia’ a deud “Done that”?’ 

‘Ia. Ac mae digon o’r walia’ i’w gweld hyd y lle ’ma. Wyddost ti fod ’na bron gant ohonyn nhw’n dal i rannu’n cymunedau ni?’

‘Pam hynny, Larry?’

Syllodd Larry drwy ffenest y caffi. ‘Dewis y bobol ydi cadw’r walia’. Ar hyn o bryd.’

‘Mi welais i bennawd yn y Belfast Telegraph: “Destroy the walls by 2023 say MLAs”.’

Gwenodd Larry ei wên sardonig. ‘Paid credu pob gair weli di yn y papura, boi. Ac yn sicr paid credu’r cyfan a ddywed ein cynrychiolwyr gwleidyddol. Maen nhw’n fodlon derbyn cyflog er eu bod nhw’n gwrthod siarad â’i gilydd ar hyn o bryd.’

‘Mi glywais i fod y rhan fwya o bobol isio symud ’mlaen â’u bywyda yn lle byw yn y gorffennol.’

‘Debyg iawn.’ Gwenodd y Gwyddel wên brofiadol. ‘Ma’ petha’n newid, wyddost ti, diolch i’r drefn.’

‘Pam hynny?’

‘Dyddia ansicr. Pobol ddim isio byw dan gysgod ddoe. Sylweddoli bod canlyniada Brexit yn fygythiad newydd.’

‘Aros yn yr Undeb Ewropeaidd oedd dewis y mwyafrif yma.’

‘Ia. Yn wahanol i Gymru.’

‘Pam hynny, tybed?’

‘Sylweddoli ein bod ni i gyd yn perthyn i’r un pentre byd-eang. Cofia di, mae pobol Gogledd Iwerddon, fel y Cymry, yn eitha hoff o fyw mewn swigan.’

‘Be fysa’n help i’w tynnu nhw allan o’r swigen?’

‘Sylweddoli bod ’na bwynt yn dod lle mae’n rhaid i bobol gydnabod bodolaeth ei gilydd a rhoi stop ar y meddylfryd llwythol. Stopio’r tywallt gwaed. Bod yn fodlon madda.’

‘Wyt ti ’di madda, Larry?’

Syllodd Larry’n syn fel petai newydd lyncu pry. 

‘Rho eiliad imi feddwl.’ Ymhen ennyd, atebodd. ‘Dwi ’di madda sawl peth mawr – terfysgwr yn lladd cefnder imi, er enghraifft. Petha o’r fath. Ond mae ambell beth bach yn dân ar ’y nghroen i o hyd. Gair neu ddau ddwedodd rhywun wrtha i flynyddoedd yn ôl. Neu wên slei oedd yn dangos eu hagwedd nhw tuag ata i. Ma’n anodd gen i fadda petha bach felly. Ond ma’ pobl eraill, rhai gwell na fi, yn y ddinas ’ma sy’n fodlon madda’r cwbwl ... y petha bach a’r petha mawr.’

‘Am iddyn nhw gael blas ar rwbath gwell?’

‘Ia. Pan mae pobol yn cael tipyn o fywyd normal wedi cyfnod o drais, mae hynny fel sawru Angel Delight. Unwaith maen nhw’n dechra cael ’i flas o, maen nhw isio mwy ohono fo.’

‘Mae hynny’n gam ymlaen.’

‘Ydi. Ond cofia, tra oeddan ni yn ein swigan byd gwaith yn yr wythdegau, roedd eithafwyr sawl carfan yma yn fodlon deud faint o bobol roeddan nhw wedi’u lladd. Mi wnes i gwarfod un dyn parafilwrol oedd wedi lladd pymtheg o’i elynion! Ac yn brolio’i gamp. Mi gafodd tair mil a chwe chant  o bobol eu lladd yn ystod yr Helyntion. Ac mi gafodd miloedd eu hanafu. Fydd yr atgofion am hynny ddim yn diflannu’n fuan.’

‘Sut ma’ hi arnat ti?’

Sychodd Larry ewyn gwyn y coffi oddi ar ei fwstas â’i napcyn.

‘Mi fydda i’n meddwl weithia y gallai petha fod wedi bod yn wahanol. Ond yn ei flaen mae bywyd yn mynd, Glyn bach. Dydi’r gyflafan waetha ddim yn para am byth. Ond y gwir plaen ydi hyn: fedra i ddim anghofio’n llwyr – er mor ddymunol fydda dechra o’r dechra gyda llechan lân.’

‘Pam ddaru’r holl beth ddigwydd?’

Syllodd Larry drwy’r ffenest fel petai’n gwylio ffilm o’r gorffennol. ‘Ro’n i’n disgwyl y cwestiwn yna. Yr un cwestiyna sy gan bob newyddiadurwr. I ddechra roedd y cwbwl fel chwara plant. Fel cefnogi tîm pêl-droed. Wrth gwrs, roedd yr hen ragfarna yno dan yr wyneb. Yr hen gasineb. Yn dod i’r golwg weithia mewn gwawd neu jôc. Wedyn, yng nghanol y chwedega, fe drodd y cwbwl yn sur. Yn rhywbeth llawer tywyllach.’

‘Pam?’

‘Mi gei di wahanol atebion i’r cwestiwn yna. Yn ’y marn i, dylai’r ateb gynnwys y gair “anghyfiawnder”. A’r gair “tlodi”. Diffyg chwarae teg hefyd. Coblyn o beth ydi hynny. Pobol yn teimlo’u bod nhw’n cael ’u hanwybyddu a’u gwasgu i gornel. Wedyn y saethu, yn Derry, pan oedd deg mil o bobol yn gofyn am beth mor sylfaenol â hawlia cyfartal.’

‘Mi welais i ffilm newyddion ...’

Mae’r atgofion ym mhen Larry yn fwy graffig nag unrhyw ffilm newyddion ac mae’n torri brawddeg Glyn â slaes ei atgofion. ‘Mi saethodd y Paras a lladd pedwar ar ddeg o ddinasyddion diarfau! Anafu deuddeg. Sul y Gwaed oedd hwnnw. Wedyn roedd y dre’n ddistaw fel y bedd, am dridia cyfan. Pobol yn gwrthod siarad â’i gilydd. Yr adar yn colli’r awydd i ganu. Wedyn mi lawiodd hi ... ond allai’r glaw tryma’ ddim golchi’r gwaed o’n meddylia ni.’

‘Ond mae ’na fwy nag un ochr i’r stori, meddan nhw. Dwi ddim yn siŵr pa fersiwn sy fwya credadwy.’

Fflachiodd llygaid Larry. ‘Dallta hyn. Dwi’n sôn am ffeithia sy wedi’u profi mewn Uchel Lys. Dwi ddim yn marchnata mewn newyddion ffug.’

‘Gair pwy ddylwn i ’i gredu?’

‘Mi goeliodd y Barnwr dystiolaeth y Cymro a welodd y cwbwl.’

‘Pwy oedd o, felly?’

‘Jack Chapman, cyn-filwr Prydeinig. Cymro. Mi welodd o’r lladd o falconi ei fflat yn Glenfada Park.’

Yn y man daeth y sgwrs gyda Larry i ben. Ysgwyd llaw a ffarwelio. Ar ôl i Glyn adael y caffi a dechrau cerdded i gyfeiriad May Street, meddyliodd am eu sgwrs. Er gwaetha’r holl gynnwrf a lladd, wnaeth Larry ddim troi ei gefn ar y ddinas. Pam hynny? Er ei ganmoliaeth i Belfast, gallasai’n hawdd fod wedi dewis byw rywle arall. Ond Belfast oedd cynefin ei deulu. Iddyn nhw, hon oedd y ddinas orau yn y byd. ‘Cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn fod,’ meddai’r ddihareb.

Wrth i Glyn gerdded ar hyd Great Victoria Street, penderfynodd bicio i mewn i westy’r Europa – y gwesty, o blith holl westai Ewrop, a fomiwyd fwyaf aml, meddan nhw – i holi am fap ar gyfer ymwelwyr. Cyn iddo ddechrau dringo’r grisiau at brif fynedfa’r gwesty enwog, daw dyn ifanc mewn gwisg drwsiadus tuag ato a gofyn, ‘Would you like a ticket to see the city, sir?’ Gan iddo gael budd o deithiau tywys yng Nghaeredin a Berlin, estynnodd am y Mastercard. Ond na, rhaid talu gydag arian parod. Iawn. Dilyn y dyn ifanc sy’n ei arwain am ychydig lathenni at fws bach sydd â’r swyddogaeth o gludo cwsmeriaid yr Europa at y prif fws Esgyn a Disgyn. Sylwa Glyn fod dau oedolyn arall yn eistedd yng nghefn y bws. Golwg eiddgar ar eu hwynebau dwyreiniol, eu camerâu lensys-hir yn barod i’w defnyddio ar y cyfle cyntaf.

A’r bws yn symud drwy lif y traffig, daeth Neuadd y Ddinas i’r golwg. Roedd baner Jac yr Undeb yn cyhwfan ar ben polyn o flaen yr adeilad hwnnw, a chododd y ddau ymwelydd o’r dwyrain ar eu traed yn gyflym fel pe baent am saliwtio, gan glicio’u camerâu i ddal yr olygfa.

Wedi cyrraedd y canol roedd yn rhaid anelu at y bws cyntaf oedd yn disgwyl gerllaw. Bws lliw du oedd hwn. Camodd Glyn tuag ato a dangos ei docyn i’r gyrrwr. Edrych yn dosturiol arno wnaeth hwnnw.

‘Wrong ticket mate.’

‘Why?’

‘Look over there. There’s your man. That them o’er there are Protestants, see. We’re the opposition ’ere.’

Mae’n gwawrio’n sydyn ar Glyn mai tocyn ar gyfer un o fysiau’r Protestaniaid sydd ganddo. Mae gan y Catholigion fflyd o fysys sgleiniog, ac mae’r rheini’n llifo heibio bob dau neu dri munud. Ond does dim golwg o fws fydd yn derbyn ei docyn ef.

Fel petai’n synhwyro o bell anesmwythyd Glyn, daeth un o’r gwerthwyr tocynnau a welodd o flaen gwesty’r Europa tuag ato. 

‘No worries, son. Your bus is on its way.’ 

Ar y gair cyrhaeddodd y bws deulawr cywir a stopio o’i flaen. Wedi dringo’r grisiau eisteddodd Glyn yn y sedd flaen i allu gweld yr olygfa’n well. Daeth eraill i mewn ac eistedd y tu ôl iddo. Wrth i’r bws ddechrau symud, sylweddolodd Glyn fod dynes wedi dewis y sedd wrth ei ymyl. Gwisgai gôt laes oedd yn glynu wrth siâp ei chorff. Doedd dim modd iddo weld ei hwyneb gan fod ei gwallt yn gorchuddio’i hanner. Yna, wrth iddi droi ei phen a’i led-gydnabod gyda hanner gwên, fe welodd Glyn y graith oedd yn ymestyn rhwng gwaelod ei chlust dde a’i gên. Hi oedd yr un a welodd yn gynharach wrth ddod allan o’r siop lyfrau ar Botanic Avenue. Beth ddaeth â hi yma? Pam oedd hi wedi dewis eistedd wrth ei ymyl?

Unwaith roedd y bws wedi symud allan i ganol llif y traffig, clywid llais y wraig oedd yn gyrru yn hysbysu’r teithwyr mai taith awr oedd hon. Drwy wisgo’r clustffonau roedd modd iddyn nhw glywed ei disgrifiad hi o bopeth o bwys a welid ar y daith. Yn syth bìn daeth llif o wybodaeth i’w clustiau am adeiladau a phobl, a ffeithiau o bob math am y plethwaith unigryw sy’n nodweddu Belfast.

Dyna’r crenau mawr Harland and Wolff, neu Samson and Goliath ar lafar gwlad. A dyna’r Titanic Quarter sgleiniog sy’n rhoi cyfle i ail-fyw trychineb suddo’r RMS Titanic yng ngogledd Cefnfor Iwerydd ar 15 Ebrill 1912. Cafodd 1,500 o bobl eu lladd yn y trychineb, ac yma y cafodd y llong foethus ac ansuddadwy ei hadeiladu. Ar ôl i’w hysgerbwd trist gael ei ddarganfod ar waelod y môr yn 1985, cynyddodd y diddordeb yn ei hanes.

Parablai’r tywysydd yn ddi-baid wrth iddi yrru’r bws i gyfeiriad Stormont, yna heibio i rai o’r murluniau milwrol ac ambell ddarn o’r Wal Heddwch cyn symud yn araf drwy draffig Shankhill a Falls Road. Wrth i’r bws sefyll a disgwyl i oleuadau traffig newid o goch i wyrdd, sylwa Glyn ar stryd fechan, cul-de-sac o bosib, sy’n ymuno â’r briffordd. Yno fe wêl ddau gar plismyn, eu sgwariau melyn a glas yn amlwg, a pheiriant gwyn ar olwynion bach yn synhwyro’i lwybr fel Droid o Star Wars o gwmpas y ceir. O syllu ar y fraich wen a’r llygaid electronig, mae’n amlwg mai dyfais dadffiwsio bom ydi’r robot hwn. Mae symudiadau gochelgar y ddau blismon, sy’n cuddio tu ôl i brifet gardd gyfagos, yn ategu natur eu gorchwyl. 

‘And now, the Queen’s Quarter.’

Mynd rhagddi i barablu am hanes rhan nesaf y daith a wna’r fenyw, gan ddewis peidio â thynnu sylw’r ymwelwyr ar y bws at yr argyfwng diogelwch sy’n digwydd gerllaw.

Wrth iddyn nhw agosáu at y Brifysgol a’r Gerddi Botanegol, dechreuodd rannu un o’i jôcs am yr Helbulon. Ar y pwynt hwn yn y daith, fel petai i anwybyddu’r jôc greulon, mae’r ddynes â’r graith ar ei hwyneb yn troi at Glyn ac yn ei gyfarch yn Gymraeg, ‘Dy’n ni bron yn ôl yn y man cychwyn. Wyt ti wedi mwynhau’r daith?’

Roedd syndod Glyn yn amlwg yn ei lygaid. ‘Sut gwyddost ti ’mod i’n siarad Cymraeg?’

‘Mi glywais i ti’n siarad Cymraeg yn nrws caffi Ross.’

Syllodd Glyn ar ei gwallt hir, ei chot ffasiynol a’i hystum soffistigedig. Pwy oedd hon oedd mor barod i ddefnyddio’r ‘ti’? Gallai yntau fod yr un mor hy.

‘Wyt ti’n byw yma?’

‘Ydw. Be amdanat ti?’

‘Ymwelydd, wedi dod yma i gynhadledd.’ 

‘Yr Uwchgynhadledd?’

‘Ia. Paid â deud mai newyddiadura wyt titha.’

Gwenodd y ddynes a sylwodd Glyn fod ei hwyneb yn brydferth er gwaetha’r graith.

‘Rydan ni’n ôl yn y canol. Beth am goffi?’

‘Syniad da.’

Cerddodd y ddau allan o’r bws ac i ganol y llif o bobl ar y Stryd Fawr. Yn y man, wrth iddyn nhw eistedd gyferbyn â’i gilydd yn y National Grande Café, gofynnodd Glyn beth oedd ei henw.

‘Lydia. A’th enw di?’

‘Glyn. Ers pryd wyt ti’n byw yma, Lydia?’

‘Mi ddaeth ’y nheulu yma i fyw yn y 1980au. Roedd ’y nhad yn gweithio efo’r Gwasanaeth Sifil. Colli ei waith yng Nghymru. Cael gwaith yma. Ei gamgymeriad mawr, meddai, oedd disgwyl gormod oddi wrth Gymru.’

‘Be ydi dy waith di?’

‘Rhyw lun o ddarlithydd, ym Mhrifysgol Queens. Cyn iti ofyn, yn yr Ysgol Seicoleg.’

‘Wyt ti’n mwynhau’r gwaith?’

‘Ydw. Mae darlithio’n ail natur i mi erbyn hyn. A dwi’n mwynhau goruchwylio gwaith ymchwil.’

‘Sut fath o ymchwil ...’ Cyn i Glyn orffen ei frawddeg, roedd Lydia, yn annisgwyl iddo, wedi sefyll ar ei thraed. ‘Esgusoda fi.’

Am eiliad tybiai Glyn ei bod am gerdded allan o’r caffi. Ond na, mynd i’r stafell ymolchi wnaeth hi. Pan ddaeth yn ôl at y bwrdd, ymddiheurodd am ei diflaniad sydyn. ‘Hen wendid,’ eglurodd. ‘Mi ddigwyddodd ar ôl y ffrwydrad.’

‘Ffrwydrad?’

‘Yr un a laddodd ’y nhad.’

Distawrwydd. Syllodd Glyn ar ei gwpan wag. ‘Mae’n ddrwg gen i ...’

‘Does dim disgwyl i ti wybod.’ Gwyrodd ymlaen ac edrych i fyw llygad Glyn. ‘Coelia fi, ma’ ’na lawer ohonon ni yn y ddinas ’ma.’

‘Dwi’m yn dallt.’

‘Pobol fel fi sydd â hyn wedi digwydd iddyn nhw.’

Cododd Lydia fynegfys ei llaw dde a’i osod ar waelod y graith. Ceisiodd Glyn osgoi rhythu.

‘Craith amlwg ydi hon. Wedi bod ar fy wyneb i ers ffrwydrad La Mon.’

Cofiodd Glyn iddo gael pryd o fwyd yn La Mon – gwesty a bwyty poblogaidd – pan ymwelodd â Belfast ddwy flynedd yn ôl. Cofiai Lydia’r lle fel yr oedd yn yr hen ddyddiau cyn y bomio a chyn i’r lle gael ei foderneiddio’n llwyr.

‘Ro’n i’n ifanc ar y pryd, yn mwynhau noson wobrwyo. Roedd ’na bedwar cant a hanner o bobol yn y gwesty pan ffrwydrodd y bom. Pelen fawr o dân. Mi gafodd deuddeg o bobol eu lladd, tri deg eu hanafu a’u creithio. Hon ydi’r graith amlwg ... Does dim disgwyl iti ddeall.’

‘Wyt ti’n deall?’

‘Nac ydw. Pan mae pobol yn troi at ladd, pwy fedrith ddeall peth felly?’

Trodd Lydia ei llaw nes bod ei chledr agored fel petai’n gwahodd ateb i’w chwestiwn.

‘Ydi dy waith di’n help iti ddeall?’

‘Dim ond i raddau. Dyna pam yr es i i’r maes.’

‘I chwilio am atebion?’

‘A chael ambell un.’

Unwaith eto daeth distawrwydd yn ymwelydd slei i’w sgwrs. Sylwodd Glyn ar y bobl o’i gwmpas. Pobl debyg i werin trefi bach Cymru, yn llawn sgwrs a mân ddiddordebau eu byw bob dydd yn y dref neu’r ardaloedd gwledig. Fel petai hi’n darllen ei feddyliau, meddai Lydia, ‘Digon cyffredin yr olwg, yn tydyn? Ond mae’n anodd i neb ddychmygu be sydd yn eu meddylia nhw.’

‘Rwyt ti’n sôn am yr Helbulon.’

‘Taw piau hi. Rhwng y llinella y cei di’r gwir.’

‘Mae’r lladd gwaetha drosodd.’

‘Ond ’dan ni’n dal i fyw efo’r canlyniada.’

‘Canlyniada?’

Cyn iddi ei ateb, gallai Glyn weld un crych ar groen ei thalcen yn crynu.

‘Ofn. Wyddost ti be ydi hwnnw?’

‘Pawb wedi profi ofn rywbryd.’

‘Dwi’n sôn am ofn go iawn. Sy’n rhan ohonot ti. Yn gwrthod cilio.’

‘Mi ddaru ti golli tad ...’

‘Tridia cyn y Pasg oedd hi. Ro’n i’n saith oed ac yn edrych mlaen at weld modryb o Gymru oedd bob tro’n dod draw i roi wy Pasg i mi. ’Nhad yn sefyll wrth y ffenest. Yn disgwyl i’w chwaer gyrraedd. Ac yn sydyn mi glywson ni glec ac mi welais i dwll yn y ffenest. Mi syrthiodd Dad i’r llawr. Gorwedd ar y carped. Mi blygais i lawr ...  gwaed yn pwmpio o’i ben o.’

‘Be ddigwyddodd wedyn?’

‘Aros efo fo wrth iddo fo drio anadlu. Sŵn ... sŵn garglo’n dod o’i wddw. Fasa diod o ddŵr yn help? Ddaru o ddim ateb.’

‘Ac wedyn?’

‘Wedyn mi glywis i lot o sŵn y tu allan. Sŵn ceir ... drysa ceir ...  sŵn traed yn rhedeg. Daeth dynas mewn gwisg plismon i mewn a rhoi ei llaw ar f’ysgwydd i. Ac mi ddwedais i wrthi fod Dad yn llonydd. Yn gwrthod siarad. Plygodd Lydia ei phen a gosod ei dwylo dros ei llygaid. Yna edrychodd ar Glyn a sibrwd, ‘Methu anghofio.’

Rhoddodd Glyn ei law dros law dde Lydia fel petai i’w chysuro. Tynnodd hithau ei llaw ymaith. ‘Dwi ddim isio cydymdeimlad. Trio deall ydw i.’

‘Oes modd deall peth mor ffiaidd?’

‘Ers blynyddoedd, dwi’n trio deall.’

‘Be ydi’r ateb?’

‘Cyn cael ateb, rhaid deall be ydi gwir gyflwr y bobol.’

‘Fedri di esbonio’n llawnach?’

‘Sbia o dy gwmpas. Be weli di?’

‘Pobol yn sgwrsio.’ 

‘Ia. Yn trio byw’n normal. Pan gei di gyfle, sbia i mewn i’w llygaid nhw. Fel y gwnes i sawl tro.’

‘Be welaist ti, Lydia?’

‘Dychryn. Pryder. Caledwch. Fel y dwedodd Yeats, “Too much sacrifice makes a stone of the heart”.’

‘Wyt ti’n sôn am bryderon sy’n arwain at salwch meddwl?’

‘Ydw. Anhwylder pryder ôl-drawmatig. PTSD – Post-Traumatic Stress Disorder. Cymdeithas mewn PTSD ydi hon. Pobol yn cofio. Yn methu anghofio. Ac weithia’n gweld y llofruddion yn eu mysg. Ddoe ddiwetha ym Marchnad San Siôr mi welais i ddyn mewn côt ddu. Golwg brysur arno fo. Golwg dyn ar frys. Wrth iddo fo gerdded allan drwy’r drws i May Street, mi glywais i fachgen oedd yn gwerthu dillad yn sibrwd wrth gyd-weithiwr, “Do you know who he is? He’s one of ’em that left the bom on the meat hook in La Mon.” Ac yn yr eiliad honno mi wyddwn i ... ym mêr f’esgyrn mi wyddwn ...’ 

‘Be sy’n medru helpu pobol wedi’r trawma i gyd?’ gofynnodd Glyn wedi rhai munudau o ddistawrwydd.

‘Yn ôl rhai, mae eu ffydd yn cynnig ateb. Yn ôl rhai eraill, dim ond gwleidyddiaeth sy’n gallu rhoi ateb teg. Dwi’n credu bod gan seiciatreg rôl fawr i’w chwarae. Ac amser ydi’r meddyg gorau, medd eraill. Fe gymer genedlaethau, meddan nhw. Ond y gwir ydi bod angen cyfuniad o’r cwbwl i roi ateb llawn. Fedrwn ni ddim dal ati i fyw mewn swigen. Mae’n rhaid inni fyw gyda’n gilydd. Yn bobol sy’n parchu’n gilydd.’

‘O leia mae ’na heddwch yma ar hyn o bryd.’

‘A diolch i bawb a weithiodd i wneud heddwch yn bosib. Ond cofia fod Brexit ar y gorwel. Mi allai hwnnw danseilio’r cwbwl.’

Cofiodd Glyn yn sydyn am yr wythdegau yng Nghymru. Pan oedd yr Helyntion yn eu hanterth yng Ngogledd Iwerddon, faint o sylw a roddodd o a’i gydnabod i’r holl dywallt gwaed? Doedd dim rhaid iddyn nhw boeni gan mai pethau eraill oedd yn hawlio eu sylw nhw. Doedd gwewyr cymdogion dros y dŵr ddim yn achosi eiliad o golli cwsg iddyn nhw, er bod y bobl hynny – oedd yn byw mor agos at Gymru – yn perthyn i’r un drefn wleidyddol, i’r un wladwriaeth. Ai swigen oedd Cymru hefyd?

Gwyddai’r ddau ei bod yn bryd i’w sgwrs ddod i ben. Os oedden nhw wedi dechrau siarad ar wastad dyfnach na’r cyffredin, profiad byrhoedlog oedd hwnnw. Roedd y ddau’n perthyn i ddwy gymuned fu’n gymdogion i’w gilydd ers cenedlaethau, ers dyddiau’r Mabinogi. Ond o ran deall ei gilydd yn llawn, roedd ganddyn nhw bont eto i’w chroesi. Ond go brin, meddyliodd Glyn, y byddai’r Uwchgynhadledd yfory yn gallu rhoi cystal goleuni iddo â’i sgyrsiau gonest gyda Larry a Lydia.

Cerddodd y ddau allan drwy ddrws y caffi. Gwibiai ceir drudfawr ar hyd y Stryd Fawr.

‘Diolch i ti am y sgwrs,’ meddai Glyn.

‘A diolch i ti.’

‘Gawn ni weld ein gilydd eto?’

Gwibiodd llygaid Lydia fel petai’n ofni ateb. Caeodd fotymau uchaf ei chot. Am eiliad tybiodd Glyn ei bod am estyn am gerdyn busnes o boced gesail ei chot a rhoi ei manylion cyswllt iddo. Ond na. Daeth cyfuniad o oleuadau traffig y cyfnos a chysgodion yr hwyr i guddio ei thalcen wrth iddi droi, heb ateb, a cherdded ymaith.


Cyhoeddir Golau trwy Gwmwl, cyfrol o straeon byrion gan John Emyr, fis Hydref 2019 (Gwasg Carreg Gwalch). Bydd y gyfrol yn cael ei lansio yn siop lyfrau Palas Print, Caernarfon ar nos Iau, Tachwedd 14 am 7 o'r gloch. Croeso i bawb.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Straeon byrion, Gogledd Iwerddon

 


Cymdeithas mewn PTSD ydi hon. Pobol yn cofio. Yn methu anghofio. Ac weithia’n gweld y llofruddion yn eu mysg

Dyddiad cyhoeddi: 16·10·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Grug Muse

Gan ymddangos mewn gofod diamser dechreuais siarad trwy fy nghlustiau yn y pnawn roeddwn eisiau diffodd y golau ond wyddwn i ddim pryd yn union roedd y golau am orffen canu roedd fy mreichiau wedi blino arwain yr unig beth y dois o hyd iddo o blith atgofion gorffennaf oedd yr offeiriad yn chwydu wedi’r priodasau ... 

Dadansoddi


Sioned Puw Rowlands

Fis Hydref eleni, yn fuan wedi cyhoeddi enw enillydd gwobr Nobel llenyddiaeth 2019 – Peter Handke (Griffen, Awstria, 1942) – cyhoeddodd PEN America eu bod yn gegrwth: ‘We are dumbfounded by the selection of a writer who has used his public voice to undercut…

Adolygu


Siân Melangell Dafydd

Sylwch ar ddarlun y nico bach, mor gysáct ei ystumiau, yn hedfan hyd glawr y gyfrol hon. Bron na ellir clywed fflap ei adenydd, ei gân benysgafn, sionc. Ond mae awgrym o rywbeth arall ar y clawr: darlun manwl berffaith cloc dant y llew…

Adolygu


Jerry Hunter

Mae hanes Unol Daleithiau America yn hanes ymerodraeth: dyna neges graidd y llyfr hwn. Yn ogystal â chraffu ar hynt imperialaeth Americanaidd, mae Daniel Immerwahr yn archwilio’r berthynas ryfedd rhwng dinasyddion yr Unol Daleithiau ac ymerodraeth eu gwlad. Fel yr awgryma teitl y gyfrol, ymerodraeth gudd ydyw o…

Adolygu


Mike Parker

Er na chefais gyfle hyd yma i gyfarfod â Daryl Leeworthy, awdur y gyfrol hon, rwyf wedi dod i’w nabod yn lled dda yn rhithfyd Twitter. Dywedodd wrthyf bod A Little Gay History of Wales yn ‘very “me”, as it were’. Ni allwn fod wedi cyfleu hynny’n…

Adolygu


Grug Muse

Dilyn hanes teulu ifanc o Grangetown mae’r nofel hon, a hynny yn sgil Brexit. Adroddir y stori o safbwynt tad ifanc o Gwm Gwendraeth, sef Carwyn. Dyma deulu bach niwclear dosbarth canol, efo morgais, y rhieni â graddau da i’w henwau, ac o leiaf un…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

1. y noson honno. 2. gadael yr Eglwys Gadeiriol. 3. dweud rhywbeth [fel hyn] wrtho fo [:]. 4. chwara teg, roedd yr hen gastrato na yn canu'n wych. Dwi wrth modd â'r math yna o sŵn – pedwar llais yn dod ynghyd felna, yn…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Mae'n haws gosod popeth mewn trefn. Llyma dechreu [sic] rhoddi trefn ar ... Rhaid eu rhestru: pry genwair / hunangenhedlahalogol / O bosibl ymysg y rhai a oedd wedi bwyta Liwsi a'r lleill ac amlygu'r esgyrn ...