Cyfansoddi

Beth yw draig?

Portiwgal v Cymru, Ewro 2016


Alfredo Noriega

Amser darllen: 5 munud

10·08·2016

Nid taith arferol yw hi. Dy'n ni braidd yn siarad, mae'r bychan yn syrthio i gysgu wrth i ni adael Brwsel ac mae yna ddeuddeg awr o yrru o'n blaenau. Yn Calais, mae'r bychan yn deffro ac, er ein bod ni wedi croesi'r Sianel sawl gwaith cyn hyn, mae'r twnnel dan y môr mewn trên yn antur bob tro.

Ry'n ni'n ‘collateral damage’ i ganlyniad y refferendwm. Fel llawer o Brydeinwyr sy'n byw ar gyfandir Ewrop, mae ein cynlluniau wedi gorfod cael eu hatal dros dro yn wyneb y dyfodol ansicr ôl-Brexit. Mae fy ngwraig yn un o'r gweision sifil Ewropeaidd hynny y bu cymaint o feirniadu arnynt; mae hi'n perthyn i ddosbarth hawdd ei gasáu, hawdd ei wneud yn fwch dihangol. Ond mae ganddi hi alibi: fi. Dinesydd gwlad o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd y gwrthodwyd dinasyddiaeth Ffrengig iddo er iddo dreulio deng mlynedd ar hugain ym Mharis. Ac ail alibi: y plentyn a aned i ni chwe blynedd yn ôl, plentyn y mae cymaint o waed yr Andes ag o waed Cymreig yn llifo drwy ei wythiennau; métis arall yn y byd hwn, a bachgen bach sydd eisoes yn siarad tair iaith (Ffrangeg, Cymraeg a Sbaeneg) ac sydd, yn fwy na hynny, mor gyffyrddus gartrefol yng Nghymru ag ym Mrwsel, yn Quito ac ym Mharis.

O'r diwedd, ry'n ni’n dechrau lleisio ein cwynion am Brexit. Mae f'ymatebion innau i hurtrwydd y byd yn chwyrn. Mae fy ngwraig yn llwyddo i ffrwyno’i theimladau hi’n well. Petai Prydain wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd am resymau economaidd neu o ganlyniad i anghytundeb gwleidyddol syml, byddem wedi ystyried y bleidlais yn ddim mwy nag enghraifft arall o chwiwiau'r bywyd democrataidd; ond y gweddillion ffasgyddol gwaethaf o orffennol Ewrop aeth â hi.

Ar ddechrau ein gwyliau yng Nghymru, dim ond y Bencampwriaeth Ewropeaidd sydd gennym yn ddihangfa. Bob hyn a hyn mae iwfforia'r pêl-droed yn ein meddiannu ni’n llwyr.

Cefnogwyr Cymru'n dathlu

Erbyn i ni gyrraedd Llundain dw i wedi blino'n rhacs ac ry'n ni'n penderfynu treulio noson mewn gwesty, a rhannu'r daith yn ddwy. Ry'n ni'n cyrraedd jyst mewn pryd i weld trydedd gôl Ffrainc yn erbyn Gwlad yr Iâ. Dw i'n meddwl eto am fy mab hynaf, chwech ar hugain oed, sy'n gobeithio am un peth yn unig: na fydd Ffrainc (ei wlad) yn ennill y bencampwriaeth. Dywedodd hynny wrthyf wrth i ni adael yr ysbyty, lle y bu'n cael llawdriniaeth ar fys y bu bron iddo'i golli mewn protest yn ddiweddar yn erbyn y Ddeddf Lafur newydd. Roedd e'n tynnu lluniau pan ffrwydrodd grenâd sting-ball yn ei ymyl a saethu darn o fetel i'w fys. Mae heddlu’r wlad yn byw ar eu nerfau. Mae hi'n gyfnod anodd i Ffrainc.

O'm rhan i, mae’r Ewros yn fy ngwneud i'n hapus, er gwaetha' trafferthion fy mab, er gwaetha'r eithafwyr, er gwaetha Brexit. Os oes arna' i un peth i fy nhad, fy niddordeb angerddol, afresymol mewn pêl-droed yw hwnnw. Ac os yw tîm yn gwisgo crys cenedl a wastrodwyd gan y Saeson, mae'r elfen afresymol yn cael y gorau ar yr elfen angerddol. Dyw Portiwgal ddim yn chwarae'n dda iawn, mae'r Saeson allan yn barod, mae yna ormod o bwysau ar dîm Ffrainc: mae'r duwiau fel petaent yn gwenu ar Gymru.

Mae tad fy ngwraig yn ffermwr wedi ymddeol. Mae ganddo gyfrifoldebau gwleidyddol yng Ngheredigion, yn ne-orllewin Cymru. Mae'r fferm ar lan y môr ac mae'r pentref agosaf, Ferwig, yn ffinio un o'i gaeau. Ry'n ni'n sefydlu ‘fanzone’ yno, i wylio'r rownd gynderfynol, ddeuddydd wedi cyrraedd o Frwsel.

Pleidleisiodd y rhan hon o Gymru dros aros yn yr UE. Dy'n ni ddim mor dwp â hynny, medd fy ngwraig, i'w chysuro'i hun ar ôl i fwyafrif o Gymry fynegi barn o blaid Brexit. Yn ystod y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon, bu cefnogwyr y gwrthwynebwyr yn gweiddi ar y dreigiau cochion: ‘We are not stupid, we voted in.'

Yn Aberteifi, tref fechan tua phum cilometr o'r fferm, mae'r awyrgylch yn drydanol, fel y dywedai sylwebydd pêl-droed. Ers naw can mlynedd, bu'r dref yn bwrw'i chwrs yn heddychlon ar lannau afon Teifi, ac yn cynnal ei chynrychiolaeth fywiog – os bregus – o iaith a diwylliant Cymru. Hunaniaeth sy'n ei gwahaniaethu hi a'r Saeson. A oedd yr hunaniaeth honno nawr yn esgus i wrthod yr Arall, y ‘gorthrymwr o'r Dwyrain Canol’ sy’n ffoi rhag rhyfel a ddechreuwyd i raddau helaeth iawn gan y Prydeinwyr eu hunain? Pam ddylai'r hyn sy'n ein diffinio ni fod yn gyfiawnhad dros beth o ymddygiad mwyaf bas y ddynoliaeth? Yng Nghymru, pleidleisiodd yr ardaloedd cenedlaetholgar dros aros yn yr UE fel modd i wrthod y Brydain honno.

Ar fore'r gêm, ry'n ni'n mynd i'r traeth. Mae hen wraig yn dechrau sgwrs. Y bychan, ein beiciau, gwyliau. A chi? gofynna. Pwy fyddwch chi'n cefnogi? Cymru, meddaf. Ond os bydd yna rownd derfynol yn erbyn Ffrainc, fydd e ddim mor siŵr, medd fy ngwraig. Amhosib, medd yr hen wraig. Os cefnogi Prydain am ddiwrnod, ei chefnogi am byth. Dw i'n dweud wrthi nad y Deyrnas Gyfunol dw i'n ei chefnogi ond Cymru. Ar ôl ambell frawddeg ffug-gwrtais ry'n ni'n ymbellhau. Mae'n siŵr ei bod hi wedi pleidleisio i adael, medd fy ngwraig. A fydd hi ddim hyd yn oed o gwmpas i weld y goblygiadau.

Am hanner awr wedi saith ry'n ni'n mynd, yn ein coch, i ‘fanzone' Y Ferwig; mae hi yn yr hen ysgol gynradd lle bu fy ngwraig yn ddisgybl, ddeng mlynedd ar hugain a mwy yn ôl. Mae'r adeilad yn enghraifft berffaith o ysgol wledig ag un athro, dau o bosib, ar gyfer rhyw 30 o ddisgyblion o bob oed. Dros y blynyddoedd, penderfynodd Cyngor Sir Ceredigion gau ysgolion fel Ferwig ac agor canolfannau mwy o faint. Mae'r un peth yn wir am y gwasanaeth iechyd. Realiti economaidd sy'n mynd â hi, yn erbyn anghenion pobl, yn y fan hon fel yng ngweddill y byd. Y tlawd a'r henoed sy'n dioddef yn y lle cyntaf – y rheiny a bleidleisiodd o fwyafrif llethol yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae yna gwrw, gwin, byrgyrs cig oen, pice ar y maen, baneri, chwech o sgriniau a hanner cant o bobl, trigolion ffermydd cyfagos Ferwig gan mwyaf. Shwd welwch chi bethau'n mynd? yw cwestiwn un o gyfeillion fy nhad-yng-nghyfraith. 2-0 i Gymru, meddaf. Wrth gwrs, yw ei ateb, ond heb Ramsey bydd hi'n anodd. Hanner cyntaf. Gobaith, hwyliau da. Ail hanner. Gôl gan Ronaldo, un arall gan Nani. Mae hi ar ben. Nôl adre' a’r bychan yn ei wely. Fi sy'n darllen ei stori amser gwely heno. Mae e'n dewis stori Chen Jiang Hong, Draig Tân, lle mae'r plentyn, Dong-Dong, yn gofyn i'w dad-cu: beth yw draig? Ar ôl yr Ewros, dw i'n gwybod yr ateb.


Ac yntau'n frodor o Ecuador, bu Alfredo Noriega yn byw yn Ewrop ers dros ddeng mlynedd ar hugain, rhwng Paris, Brwsel a Chymru. Cyhoeddwyd nofelau noir ganddo yn Ecwador ac yn Sbaen ac fe addaswyd rhai o’r rheiny ar gyfer y sgrin. Cyhoeddodd Mourir, la belle affaire yn Ffrainc yn 2013 yng nghasgliad ‘Ombres Noires’ gwasg Flammarion.

Cyfieithiad o'r Ffrangeg gan Owen Martell gyda chydweithrediad yr awdur a Nia Lewis.

Darllenwch yn ogystal: Ymuno a'r 'Mur Coch' yn Ffrainc gan Ifor ap Glyn


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Dyw Portiwgal ddim yn chwarae'n dda iawn, mae'r Saeson allan yn barod, mae yna ormod o bwysau ar dîm Ffrainc: mae'r duwiau fel petaent yn gwenu ar Gymru

Dyddiad cyhoeddi: 10·08·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…