Cyfansoddi

Brân yn y Babell Lên

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

02·08·2019

Le Baiser de l'Hôtel de Ville gan Robert Doisneau (1950)

Mae ffotograff adnabyddus Robert Doisneau o’r gusan ddigymell ar y stryd ym Mharis yn dal i hongian ar waliau caffis a stafelloedd myfyrwyr bron i ddeg mlynedd a thrigain wedi iddo gael ei dynnu. Dyma un o’r delweddau sy’n parhau i fodloni ein dyhead am fannau yn y byd hwn lle ceir blas y diledryw ar bethau, lle nad ydi symudiadau yn ail-law a phrofiadau wedi eu treulio’n dyllau. Cofiaf ei weld am y tro cyntaf a sylwi ar y swyn yn osgo braich y ferch ifanc, sydd ar drothwy rhywbeth mwy, a’r foment yn gyfrinach gyhoeddus yn llifeiriant y stryd. Ond Dinasoedd y Dychymyg ydi’r rhain. Digon gwir, roedd pethau’n bosib – megis cusan – ar strydoedd Paris y pumdegau na welid eu tebyg ar strydoedd Efrog Newydd yr un cyfnod. Dyna’r rheswm efallai dros y mynd mawr ar luniau fel hyn yn y cylchgronau Americanaidd ar y pryd, golygfeydd lle daliwyd pobl wrth eu pethau yn ymollwng yn afieithus i’r foment. Ond llun a gomisynwyd gan gylchgrawn Americanaidd (Life) oedd Le Baiser gan Doisneau, nid llun a gipiwyd ar hap. 

Yn yr un awch croesdynnol â hwnnw ar dir piwritanaidd America’r pumdegau – yr awch am ryddid ond o bell – tynnir hyd heddiw o ddroriau’r cof ddelweddau eiconig eraill o’r un cyfnod. O Simone de Beauvoir, er enghraifft, y ffeminydd emblematig a arddelai briodas agored: hoelir ei llygaid arnom o dan goron o wallt a godwyd yn blethwaith cain am ei phen; neu Albert Camus yn dderyn diarth yn ei gôt law laes a’i sigarét ar sgi-wiff; a Jean-Paul Sartre yntau, gŵr de Beauvoir, fel hen afanc prysur yn crychu talcen dros ei sbectol gron, wedi llwyr ymroi i’r ddelfryd o wneud syms pen am gwestiynau mwyaf bywyd.

Er eu bod wedi eu ffeilio yn yr un drôr, ers dyddiau ysgol fel arfer, nid criw cymharus mo’r rhain. Bu’r briodas agored a charwriaethau de Beauvoir yn achos digon o helbul i Sartre. Ac mae’n debyg mai edrych i lawr eu trwynau ar Camus fyddai Sartre a’i ddilynwyr ar y Chwith deallusol. Er ei wobr Nobel yn 44 oed, dirmygid Camus am ei ddyneiddiaeth benwan, ei foesoldeb hefyd – a ystyrid yn giami oherwydd ei fod yn rhy oddrychol – heb sôn am ei ddiffygion fel athronydd. Ond yn ddiweddar, â golygon yn troi eto at weithiau’r Dirfodwyr (symptom efallai o gyflwr ein cyfnod), bu rhyw newid yn y gwynt beirniadol, fel petai’r hunan-onestrwydd sydd yn greiddiol i waith Camus yn cyfrif am fwy, dros amser, na chlyfrwch deallusol holl-gwmpasog Sartre, a fu’n gyfrifol am gamarwain nid yn unig ei ddilynwyr ond Sartre ei hun yn ogystal. Er nad yn erbyn ein gilydd, siawns, y dylid mesur gonestrwydd, cydnabyddid Camus fel y gŵr mwyaf gonest o’r ddau. Gellid dadlau mai’r gonestrwydd hwnnw oedd sail ei awdurdod deallusol, ac er gwaethaf ei ddistawrwydd ar hanes Algeria, mai dyna pam y mae’n siarad efo ni o hyd. 

Ond i ba raddau mae awdurdod awdur yn ddibynnol ar ei eirwiredd? Beth ydi gwerth didwylledd a dilysrwydd personol i’r darllenydd? Ydyn nhw’n berthnasol o gwbl wrth greu ffuglen? A phe baent yn amod gwerth, sut mae eu profi? Onid ydi’r hunan yn aflonydd, yn altro fel haid o wenyn, neu fel offeryn y mae’r gwynt yn ei chwarae, chwedl Denis Diderot, gwyddoniadurwr mawr y ddeunawfed ganrif? Ac os hynny, er mwyn bodloni gofynion dilysrwydd, ydi hi’n ddigon gwneud iawn am yr ansadrwydd hwn trwy ddilyn esiampl y cymeriad ‘Fo’ yn un o sgyrsiau dychmygol Diderot (Le Neveu de Rameau, 1891), a datgelu digon o wirioneddau amdanom ein hunain yn ddigymell, fel y dônt, yn llawn croesddywediadau, heb fynd ati’n ofalus i’w cyfiawnhau? Ai rhamant ydi meddwl bod blas y digymell mewn llyfr, fel mewn llun, yn brawf litmws dibynadwy? Sonia ambell awdur gwerth ei halen sut y mae’r sgwennu ‘go iawn’ yn dod wrth ymgolli, wrth ymroi i’r foment, heb wybod ei ben draw. Ac er mai actorion a adawyd yn rhydd ar y stryd oedd y ddau yng nghomisiwn Doisneau, ac felly nad llun ‘gwir’ mohono, gellid dadlau fod rhyw onestrwydd yn perthyn i’r ddelwedd, mai oherwydd hynny y mae’n dal yn y drôr yn y cof. 

Nid peth hawdd ydi sgwennu na byw yn ddilys, fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig arni. ‘Faint o wirionedd a fedr meddwl dyn ei oddef, faint y mae’n barod i fentro?’ meddai Friedrich Nietzsche (Ecce Homo, 1908), a wnaeth ‘ymladd dros y gwir’ yn brosiect bywyd – ‘bob cam o’r ffordd’. Gan gydnabod bod ‘mwgwd’ yn arf angenrheidiol os am oroesi, haerodd hefyd fod popeth, bron, sy’n agos at galon dyn y mae cariad a ffydd mewn bywyd yn dibynnu arnynt wedi eu haberthu i’r gwir. Mae angen ‘Mawredd eneidiol’ ar gyfer hynny, meddai, gan mai gwasanaethu’r gwir yw’r gwasanaeth mwyaf anodd: ‘Beth a olyga gonestrwydd mewn materion deallusol?’ ‘Bod yn llym wrth y galon, dirmygu “teimladau glandeg’’, a gwneud pob Ie a Na yn fater o gydwybod!’ (Der Antichrist, 1895)

✒︎

Dyfynnir egwyddorion rhyddid a chydwybod amlaf heddiw nid mewn seiat i awduron neu yn y Babell Lên ond mewn protestiadau gwleidyddol, fel yn achos y protestwyr yn Hong Kong yn ddiweddar. Ers mis a mwy erbyn hyn bu gwrthdaro gwaeth nag a welwyd ers degawdau yn erbyn y mesur estraddodi dadleuol, mesur y dadleuir y gellid ei ddefnyddio fel arf gwleidyddol gan Beijing, i yrru beirniaid y llywodraeth o flaen eu gwell yn Tsieina yn hytrach nag yn llysoedd Hong Kong. Digon rhwydd cymryd yn ganiataol bod y protestwyr yn daer o blaid gwarchod cynifer â phosib o’r hawliau a gynysgaeddwyd i’r diriogaeth pan gamodd Prydain yn ôl yn 1997 a throsglwyddo cyfrifoldeb ar gytundeb i Tsieina. Ond mae Tsieina hefyd, yn ei hysbryd nodweddiadol pellweledol, yn paratoi at ei chyfle, a ninnau bron i hanner ffordd at ddyddiad dod i ben y cytundeb hwnnw (2047). 

Tebyg y byddai Xi Jinping, arweinydd cyfredol Tsieina, yn gweld llygad yn llygad â Platon Hen Roeg Y Weriniaeth. Cydnabydda Platon mai democratiaeth ydi’r ffurf fwyaf deniadol ar lywodraeth, oherwydd bod yr ‘amrywiaeth cymeriadau, fel lliwiau cyferbyniol mewn gwisg batrymog, yn rhoi iddi wedd neilltuol ddeniadol’. Ond rhybuddia: mae democratiaeth yn ffurf ar lywodraeth sy’n sylfaenol ansad. Ysu am bleserau a wnawn fel dinasyddion, i’r fath raddau nes peri i’r economi fethdalu; ac rydym mor elyniaethus i awdurdod nes anwybyddu cyngor arbenigwyr; mor deyrngar i’r egwyddor o ryddid nes colli ein synnwyr pwrpas cyfunol. Mi fedraf adnabod fy hun ym mhob un o’r gosodiadau hyn. Ond wedyn beth ydi grym a rhyddid heb awdurdod a chydwybod? Grym a rhyddid peryg, debyg. Meddai Bagehot, colofnydd yr Economist: os am fod yn barod at arweinyddiaeth y digrifwr Boris Johnson darllenwch Y Weriniaeth (22 Mehefin 2019). 

Gwyddom mai drwgdybus oedd Platon o’r beirdd a bod cymeriad dyn o bwys mawr iddo. Does dim modd ei wared na’i llnau yn llwyr, fel y cydnabyddir gan Bagehot, waeth faint o hyfforddiant proffesiynol a drefnir; mae fel petai’n sticio ym mhob dim. Neu, fel yng ngeiriau ymadrodd cyffredin Groeg Heddiw: os nad ydi’r puteiniaid yn plesio, waeth i chi heb â newid y llenni. Gwyddom o brofiad hefyd waeth faint yr ymdrechir i dynhau cyhyrau’r frest, i reoli hen gyneddfau na wyddom yn iawn eu dechrau na’u diwedd, mae holl hanes natur un dyn, ei dylwyth a’i genedl yn llochesu yn ein cyrff, yn dal i swatio yno, ac yn medru codi heb rybudd – fel ci yn cyfarth yn y galon, yn ffyddlon i’w feistr cyntaf. 

Mae’n ddigon rhesymol yng nghyd-destun hir oes y tueddiadau dynol hyn i holi i ba raddau y mae didwylledd a dilysrwydd personol yn gallu bod yn gynneddf hunanol hyd yn oed, yn ystryw neu ysmaldod prynwriaethol, yn fodd o fwydo boddhad narsisaidd, fel y byddai neo-geidwadwyr ein cyfnod ni yn siŵr o ddadlau. Lambastiwyd Nietzsche yn rhy amrwd o lawer, er gwaethaf ei ymdrechion tanbaid, fel y drwg yn y caws a fu’n gyfrifol am fynd â’r Gorllewin ar gyfeiliorn, am ein harwain oddi wrth sadrwydd ein gwirioneddau cyffredin, a’n gyrru i droedio tiroedd simsan yr ôl-fodern. Tybed beth fyddai gan y neogeidwadwyr hyn i’w ddweud wrth David, y plentyn yn nofel yr awdur Nobel arall, o Dde Affrica, J M Coetzee, The Childhood of Jesus (2013)? Caiff David drafferth addasu i addysg ffurfiol; mae’n anabl i adio a thynnu, oherwydd iddo ef mae pob rhif yn unigryw, yn anghymesur â’i gilydd. Pan ofynnir iddo fel cosb gan ei athro i ysgrifennu ‘I must tell the truth’, yn lle hynny mae’n ysgrifennu ‘Yo soy la verdad, I am the truth’. Meddai un arall o gymeriadau Coetzee, Elizabeth Costello, alter-ego’r awdur sy’n traethu yn ei le, dim ond pan fo raid, ar bodia cyhoeddus: ‘I am offering myself to you in all my unreason. Let reason do what it wants with me. I am not an idea.’ Ond ai ysmaldod ydi hyn? Neu ymdrech i fod yn driw i rywbeth mwy na hi, neu fo, ei hun?

✒︎

Os nad trafod rhyddid a chydwybod a’r gwirioneddau mawr a wneir yn y Babell Lên ac yng ngwyliau llenyddol lluosog heddiw, beth sydd ar flaen meddwl awdur wrth sefyll i annerch cynulleidfa? O reidrwydd, rhywbeth gwahanol i arfer R S Thomas o sefyll ar ochr stryd â bag plastig yn ei law. Sut fyddai’r gynulleidfa yn ymateb i bresenoldeb Elizabeth Costello a’i siarad plaen sy’n anesmwytho, yr awdures fyd-enwog sydd yn ei chynnig ei hun yn arbrawf, yn ei holl onestrwydd, ac nad yw mwyach yn rhoi fawr o ffydd nid dim ond mewn syniadau ond mewn cred hefyd: ‘Belief may be no more [...] than a [...] battery which one clips into an idea to make it run.’ Neu’r awdur o’r Swistir, Robert Walser (1878-1956), a edmygir gan Coetzee ac yr ysgrifennodd amdano, sy’n dweud: ‘Mor ffodus yr wyf fy mod yn analluog i weld ynof fy hun unrhyw beth gwerth ei barchu na’i wylio! Fy mod yn fach ac i aros felly.’ A fyddai Walser ddigon ‘mawr’ i unrhyw un fedru ei weld, hyd yn oed, ar lwyfan? Meddai yn un o’i gerddi diweddar, a ddyfynnir gan Coetzee yn ei bennod ar Walser (2007): ‘Ni fyddwn yn dymuno bod yn fi ar neb./ Dim ond y fi all oddef fy hun./ I wybod  cymaint, i fod wedi gweld cymaint, a/ Dweud dim, fwy neu lai dim.’ 

Un arall a oedd yn llawn edmygedd o Walser oedd Franz Kafka. Yn ôl Max Brod, mae’n debyg y byddai wrth ei fodd yn darllen gwaith Walser ar goedd. Yn 1953, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg Goronwy Rees o sgyrsiau Gustaf Janosch â Kafka, â chyflwyniad gan Brod. Yn ei ragair cawn ein hatgoffa gan Rees fod pob gweithred o bob munud o bob awr o bob diwrnod yn foment mewn brwydr foesol i Kafka; mai fel hyn yr oedd yn byw: yn bythol wynebu’r posibilrwydd na ellid mo’i osgoi o fethiant moesol dychrynllyd, a’r posibilrwydd gwirioneddol ond amhosib o fuddugoliaeth. Ac meddai Brod: doedd enwogrwydd yn golygu dim i Kafka. Ffurf ar weddi oedd ysgrifennu iddo. Dywed Kafka yntau wrth Janosch, yng nghyfieithiad Rees: 

You describe the poet as a great and wonderful man whose feet are on the ground, while his head disappears in the clouds. Of course, that is a perfectly ordinary image drawn within the intellectual framework of lower-middle-class convention. It is an illusion based on wish fulfilment, which has nothing in common with reality. In fact, the poet is always much smaller and weaker than the social average. Therefore he feels the burden of earthly existence much more intensely and strongly than other men. For him personally his song is only a scream. [...] He is not a giant, but only a more or less brightly plumaged bird in the cage of his existence.

‘You too?’ holodd Janosch. ‘I am a quite impossible bird,’ meddai Franz Kafka. ‘I am a jackdaw – a kavka. The coal merchant in the close of the Tein cathedral has one. Have you seen it?’

✒︎

Cofiaf chwarae yn opera Die Walküre Wagner yn yr wythdegau, a Gwyneth Jones yn canu rhan Brünnhilde. Nid brân – kavka’r Tsieciaid – a chwythwyd gan wynt y meirw i grawcian negeseuon y tragwyddol ar dir y byw oedd hon, yn gwasanaethu ffawd ei hailenedigaeth ddu fel y glo. Teimlwn y llwyfan yn dirgrynu o dan fy nghadair, bod rhywbeth mawr ar droed, fel petai’r Duwiau wedi dod i lawr i’n plith, nid yn eu plu ond yn eu haur. Yn ôl y stori, Brünnhilde ydi’r Walküre sy’n disgyn i fyd meidrol dyn o deyrnas ddideimlad yr anfarwol. Roedd Brünnhilde Jones fel petai’n goresgyn gafael oer grym arni trwy ei gallu i drugarhau â dyn, ei gallu i deimlo cynhesrwydd aberth cariad yn y byd hwn, cariad at yr hyn sy’n feidrol. Cofiaf feddwl wrth chwarae beth oedd goblygiadau drysu’r anfarwol a’r meidrol fel hyn yn un gybolfa ddisglair ar lwyfan. Cabledd? Neu tybed a oedd y Duwiau angen dyn cymaint ag y mae dyn angen Duw neu Dduwiau? Ai awgrymu yr oedd Wagner fod dyn yn angenrheidiol i’r Duwiau, ac yn groes i’r ddysgeidiaeth Gristnogol, mai dyn oedd eu hachubiaeth hyd yn oed? Ai oherwydd mai’r ddynoliaeth yn unig sy’n rhydd i ddychmygu – ac yn rhydd i ddioddef – y camweddau angenrheidiol ar gyfer llywodraeth dragwyddol? Dyma a awgrymir gan Roger Scruton, fel y’i deallaf, yn ei gyfrol swmpus, The Ring of Truth (2016), ar y gyfres o bedair opera Wagner, Der Ring des Nibelungen (Die Walküre ydi’r ail). Mewn rhyw ffordd wyrdroëdig, yn rhan o’r un cwlwm, ai ein delfrydau sy’n ein hachub ninnau, mewn priodas gymhleth rhwng y meidrol a’r goruchaf – a hynny nid er gwaethaf, ond oherwydd tras bydol y delfrydau hyn? 

Wrth wneud ein gorau, fel sydd yn ein natur, i ymestyn at yr aruchel, i sicrhau tocyn sêt nid wythnos ond yn dragywydd ym mhafiliwn yr anfarwol, yn hytrach nag anelu i fod yn ben llyw, neu’n ben bandit fel Boris Johnson, yn ben campwr, yn ben llên, yn ben y diledryw fel Mao Zedong, os nad yn ben bach, beth am newid tact, llacio’r frest a gadael i’r gwynt, chwedl Diderot, wneud ei waith? Yn hytrach na mynd ati i ailddyfeisio ein hunain a’i berfformio, beth am roi gorau go iawn i feibl y neogeidwadwyr? Beth am sefyll ar ochr stryd, nid yn ein haur ond yn ein plu? Ac ailddarganfod ein hawdurdod a’n rhyddid trwy wrando, nid ar ein lleisiau ein hunain ond trwy blygu pen fel y brain, a chlustfeinio – am gyfarthiad yr hen gi sy’n pwnio’r galon?

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Doedd enwogrwydd yn golygu dim i Kafka. Ffurf ar weddi oedd ysgrifennu iddo

Dyddiad cyhoeddi: 02·08·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill ... 

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…

Dadansoddi


Angharad Penrhyn Jones

Roedd y symptomau wedi bod yno am sbel – teimlo’n fyr fy ngwynt wrth ddringo’r grisiau adref, er fy mod yn heini; fy nghalon yn carlamu’n afreolus yng nghanol y nos; y deffro’n-rhy-gynnar-yn-y-bore er ’mod i wedi ymlâdd – ond aeth pethau i’r pen y dydd Sadwrn hwnnw. Aros mewn…

Colofnau


Jan Morris gyda Twm Morys

Y bore ’ma mi ddaeth llais siriol hen gyfaill annwyl yr un oed â mi ar y ffôn. Ond sirioldeb smâl oedd o, fel y bydd yn aml y dyddiau hyn. Bu hi’n clebran am sbel, yr un fath ag arfer, am hyn a’r llall. Ond o dipyn i beth…

Cyfansoddi


Boz Groden

llygod

a  Creaduriaid bychain gwyllt brown neu lwydaidd o deulu’r Muridæ, sy’n ysglyfaeth i gathod a thylluanod; ceir rhai gwyn dof; hefyd am anifeiliaid eraill tebyg ac yn ffig.; delwau o’r cyfryw ...