Donavan Hohn


Moby-Duck: The True Story of 28,000 Bath Toys Lost at Sea

Union Books, 416tt, £20, 2012

Charles N Barnard


The Winter People: A Return to Cape Cod

Dodd, Mead & Company, 173tt, ail-law, 1973

Cape Cod
Cyfansoddi

Cape Cod

Ysgrif


Grug Muse

Amser darllen: 16 munud

30·11·2018

Marian terfynol rhewlifol ydi Cape Cod, a rhoi ei deitl daearyddol iddo. Mae’n ymestyn am 65 milltir i’r Iwerydd ac, ar ei uchaf, yn codi i oddeutu 96 metr. Rhyw 16,000–20,000 mlwydd oed ydi’r marian hwn, sy’n gymharol ifanc mewn termau rhewlifol, ond mae’n dynesu at ddiwedd ei oes, gan fod gwyddonwyr bellach yn amcangyfrif mai ychydig filoedd o flynyddoedd ar y gorau sydd ganddo ar ôl.

Rhwng y cyntaf a’r trydydd o Fawrth eleni, ysgubodd storm ‘ogledd-ddwyreiniol’ neu ‘Nor’easter’, a rhoi’r enw lleol arni, ar hyd arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau. Chwalodd drwy Cape Cod ar ei ffordd. Mae Nor’easters yn taro arfordiroedd gogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yn weddol reolaidd rhwng misoedd Hydref a Mawrth. Stormydd ydi’r rhain sy’n ffurfio pan fydd dŵr cynnes llif y Gwlff o’r de yn cwrdd â gwyntoedd oer y jetlif o’r gogledd.

Dwi’n gwglo llif y Gwlff, ac ar sgrin y cyfrifiadur o fy mlaen gwelaf fap yndangos tymheredd y môr mewn sgrechfeydd o liwiau cysefin, yn goch a melyn a gwyrdd a glas. Mae’r cyfandir yn silwét tywyll; i’r gwrthwyneb i fap arferol, lle mae’r môr yn un ganfas las undonog a’r ynysoedd a’r cyfandiroedd yn llawn manylion mynyddoedd, dinasoedd a ffiniau, yn y map hwn, y môr sydd yn gyfoeth o batrymau. Yng Ngwlff Mecsico, yng nghesail penrhyn Florida, mae nentig goch yn ffurfio. Ymlwybra ar hyd arfordir taleithiau’r de, ei hymylon yn breuo, yn fysedd coch sydd yn rhedynu ac yn ffurfio nentydd oren a melyn pellach wrth i’r dŵr oeri. Rywle ar gyrion Gogledd Carolina caiff ei gwthio oddi wrth yr arfordir; troella tua’r dwyrain i fôr o ddŵr gwyrdd, lliw afocado, wrth iddi hithau deneuo, droi’n oren ac yna’n felyn, cyn diflannu yn y gwyrddni.

Ar Fawrth y cyntaf, daeth gwynt oer, Arctig o Ganada, wedi ei gludo gan y jetlif i wrthdaro â’r cerrynt dŵr cynnes hwn rywle oddi ar arfordir Gogledd Carolina. Yn wahanol i gorwynt, aer oer sy’n gyrru Nor’easter. Mae aer pegynol yn croesi dros yr aer cynnes ar wyneb y dŵr gan greu ardal o wasgedd uchel sydd yn cynddeiriogi ac yn troi’n storm o eira, glaw, a gwyntoedd uchel, wrth iddi hyrddio yn erbyn yr arfordir.

Bedwar diwrnod wedi i’r storm ffurfio oddi ar arfordir yr Iwerydd, roedd y gwyntoedd wedi gostegu ac ar Fawrth y pedwerydd mentrodd trigolion Cape Cod allan o’u cartrefi i asesu’r difrod. Mewn rhai mannau yr oedd y gwyntoedd wedi hyrddio hyd at gyflymder o 95 milltir yr awr. Roedd cychod wedi torri’n rhydd o’u hangorfeydd, coed wedi disgyn ar ben tai, ar draws lonydd, a’r llanw chwyddedig wedi codi a llifo trwy dai, siopau a busnesau’r glannau.

Cafodd brigâd dân tref Barnstable gyfle i ddefnyddio’u cerbyd newydd ar gyfer ‘Achub ar Benllanw’ am y tro cyntaf – bwystfil o dryc milwrol efo gyriant pedair olwyn, wedi ei beintio’n lliw caci (er mwyn cynnal cyrchoedd achub cudd?), a gafodd ei brynu yn 1998 ar gyfer cangen Vermont o’r National Guard, fel ‘light-medium tactical Vehicle’. Caiff ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys i groesi traethau gwlybion. Erbyn mis Gorffennaf byddant wedi ei werthu i gyngor tref Chatham am $1500; bwriad y cyngor tref yw ei ddefnyddio i achub trigolion yn ystod llifogydd y rhagwelir y byddant yn taro’r dref yn fwy rheolaidd o hyn allan, wrth i’r hinsawdd gynhesu.

Ar draeth Nauset, ar ochr ddwyreiniol y penrhyn, y traeth lle dywedodd Sylvia Plath fod yr Iwerydd yn llifo’n ‘bean green over blue / In the waters off beautiful Nauset’ (‘Daddy’), roedd storm-wylwyr mentrus yn syllu ar fôr llwyd, yn pendroni: i ble roedd deuddeg troedfedd o arfordir wedi diflannu mewn cwta noson?

✒︎

Erydir arfordir Cape Cod rhwng tair a phedair troedfedd y flwyddyn, ar gyfartaledd. Roedd deuddeg troedfedd, felly, yn gyfwerth ag erydiad tair blynedd dros nos. Bu Liam’s yn gwerthu hufen iâ, onion rings, a chregyn bylchog o’r cwt ar faes parcio traeth Nauset ers 1989; bu stondin fwyd o ryw fath yno ers y pumdegau. Arweiniai llwybr pren o’i du blaen, drwy’r twyni uchel, i’r traeth islaw:traeth o dywod melyn a gwyntoedd yr Iwerydd yn chwipio’r dŵr yn donnau uchel, dŵr nad oedd byth yn cynhesu, yn wahanol i ddŵr traethau’r bae, neu ddŵr ochr isaf y Cape. Lle da i weld morloi, ambell Carcharodon carcharias, neu forgi mawr gwyn, os dyna’ch diléit.
 

Ben Muse yn achubwr bywyd ar lan y môr Cape Cod

Hwn oedd un o hoff draethau fy nhaid a oedd, fel cyn-aelod o Wylwyr y Glannau yn yr ardal hon, yn mwynhau dod â’i lwyth o wyrion i’r traeth wedi i weithwyr swyddogol y gwasanaeth achub bywyd lleol fynd adre am y diwrnod. Ar ôl rhoi rhywfaint o falast yn stumogau pawb ar ffurf pwcedi o nionod Liam’s, byddai’n ein harwain i lawr at y dŵr ac yn gwylio pawb yn sgrechian yn y tonnau o’i lecyn yng nghysgod tŵr y lifeguards. Byddai’n rhoi prawf arnom bob tro cyn inni fynd i lawr i’r dŵr:

‘Be ti’n ’neud os ti’n gweld morloi?’

‘Dod allan o’r dŵr.’

Mae morloi yn denu siarcod, a siarcod weithiau’n cael trafferth gwahaniaethu rhwng plant mewn siwtiau nofio a morloi blasus.

‘Be ti’n ’neud os ti’n cael dy ddal mewn rip-tide?’

‘Nofio’n gyfochrog â’r lan.’

Camgymeriad cyffredin pan fo rhywun yn cael ei ddal mewn rip-tide – sef y cerrynt cyfrwys, cuddiedig hwnnw sy’n ffurfio ar lan y môr, ac yn llifo oddi wrth y traeth, gan lusgo unrhyw beth neu unrhyw un sy’n cael ei ddal ynddo allan i ddŵr dwfn – ydi trio nofio yn ei erbyn, yn ôl am y lan. Gweithred ofer ydi hon, ac yn gwneud dim ond eich blino. Nofio’n gyfochrog â’r lan ddylid ei wneud, am mai sianel eithaf cul yw llwybr y cerrynt,fel arfer.Y cam cyntaf, felly, ydi nofio allan ohono, cyn trio nofio’n ôl am y lan.

Ar ôl i’n gwybodaeth am elfennau sylfaenol goroesi yn y môr gael ei phrofi, byddem yn rhedeg trwy’r cerrig mân i mewn i’r dŵr poenus o oer, gan ddycio o dan y tonnau uchaf, rhag cael ein taflu ar y traeth. Byddem yn amseru’r bylchau rhwng y tonnau mwyaf er mwyn dewis y tonnau gorau i blymio iddynt, a ddeuai fesul tair; o neidio ar yr eiliad iawn a dal y corff yn stiff fel bwrdd syrffio, gellid defnyddio’r rhain i syrffio i’r lan.

Ar Fawrth y deunawfed, bythefnos wedi’r storm, dymchwelwyd caban Liam’s. Yr oedd y môr wedi llyncu’r llwybr pren a’r traeth a’r twyni, ac wedi gadael Liam’s ar erchwyn dibyn– dim ond gweddillion concrit yr iard a’i hamgylchynai a safai rhyngddo a’r môr. Yn ddisymwth, yn ddirybudd ac yn ddiffwdan, felly, yr ysgubwyd y cwbwl ymaith.O’i ôl, gadawyd tirlun newydd, noeth a briw.

Mae yna hiwmor eironig mewn colli 28,800 o deganau bàth i’r môr. Mae’n ymddangos yn debycach i ddarn o gelf cysyniadol gan artist mawr sy’n dechrau mynd yn brin o syniadau nag i ddamwain amgylcheddol. Ym mis Ionawr 1992 syrthiodd 28,800 o deganau bàth oddi ar fwrdd llong yr Ever Laurel, rywle yng mharthau gogleddol y Cefnfor Tawel, a chychwyn ar eu siwrne ar hyd cylchgeryntau isbegynol ac isdrofannol gogledd y tawelfor, cyn cael eu golchi ar draethau Alaska ac Oregon.

Cymerodd dros ddegawd i’r hanes gyrraedd ystafell ddosbarth Donovan Hohn ar ynys Manhattan. Ond wedi i hanes y pedwar tegan plastig – y crwban, y broga, yr afanc, a’r hwyaden fach felen – gipio’i ddychymyg, aeth sêl Hohn i ddysgu am ffawd yr anifeiliaid bach plastig ag o i bellafion y blaned, i ffatri deganau plant yn y Pearl Delta yn Tsieina; i Ynysoedd Hawaii, i Ynysoedd Aleutia yn Alaksa, i Begwn y Gogledd, ac i ganolfan Woods Hole Oceanographic Institution, sef WHOI, neu ‘Hŵi’ ar lafar, Cape Cod. Yn y ganolfan hon, trwy gyd-ddigwyddiad, y syrthiodd yr amgylcheddwraig arloesol Rachel Carson mewn cariad â’r môr am y tro cyntaf, ar ôl treulio haf yno yn nauddegau’r ugeinfed ganrif. Hi oedd y ddynes a fyddai’n deffro’r gydwybod Americanaidd i beryglon ymyrraeth ddynol yn yr amgylchedd wrth gyhoeddi Silent Spring yn 1962.

Mae tirwedd Cape Cod wastad wedi newid, wrth gwrs. Ar wefan NASA, gellir gwylio cyfres o luniau lloeren o ochr ddwyreiniol y penrhyn yn esblygu rhwng 1984 a 2017. Mae llain hir o dwyni yn ymestyn o’i flaen, yn amddiffyn y tir rhag Môr Iwerydd, yn fys mawr gwyn yn ymestyn o’r gogledd i’r de. Yn 1984, North Beach yw’r enw ar y cwbl, â thref Chatham yn ymochel yr ochr arall i aber yr harbwr. Erbyn 1987, holltwyd y gwahanfur gan greu penrhyn ‘North Beach’ ac ynys newydd ‘South Beach Island’. Erbyn 1993,mae South Beach Island wedi ailymuno â’r tir mawr a’i hailenwi yn South Beach. Dros y blynyddoedd nesaf mae’r bys hwn yn tyfu ac yn magu sylwedd; mae ôl tyfiant i’w weld arno, a choeda llwyni’n dechrau magu gwreiddiau unwaith eto. Erbyn 2007, mae wedi tyfu ac ymestyn mor bell i’r de nes ei fod wedi ymuno â South Monomy Island.Alla i ddim ond dychmygu fod y truan hwnnw sydd â’r gwaith o enwi ac ailenwi’r tirffurfiau hyn wedi cael llond bol ac wedi rhoi’r gorau iddi erbyn hyn, gan nad oes yr un enw’n ymddangos ar y map ar gyfer y greadigaeth newydd. Yr un pryd, mae North Beach, y penrhyn hir hwnnw oedd fel petai’n dal ei dir, wedi ymrannu eto gan roi bodolaeth i ynys fechan newydd, North Beach Island. Ac ymlaen â’r broses. Mae’r briodas rhwng South Beach ac Ynys Monomy yn chwalu, yr ynys yn rhannu’n ddwy, a South Beach yn torri oddi wrth y tir mawr drachefn, gan ailddarganfod ei hunaniaeth forwynol, South Beach Island. Proses hypnotig yw hon, fel gwylio ymholltiad deuol mewn celloedd bacteria.

✒︎

Yn 1973 cyhoeddwyd The Winter People: A return to Cape Cod, gan Charles N Barnard, un arall o bererinion tywydd braf y Cape. Dychwelodd i’r penrhyn dros gyfnod y gaeaf, i weld sut le oedd y Cape wedi i wenoliaid yr haf droi’n ôl am y tir mawr. Cafodd gwmni’r rhai a fyddai’n byw ar y Cape drwy’r flwyddyn: y dyn rheoli traffig ar hyd y Cape Cod Canal, aelod o Wylwyr y Glannau, perchnogion siopau a busnesau, ceidwad y goleudy. Roedd rhai ohonynt yn gymeriadau digon cyfarwydd, i’w canfod yn y rhan fwyaf o drefi, eraill yn gymeriadau chwedlonol, yn rhan annatod o’r hyn sy’n gwneud Cape Cod yn un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd cyfandir Gogledd America.

Un o’r cymeriadau y sgwrsiodd Charles N Barnard ag o oedd fy nhaid, Ben Muse, sef perchennog y siop lyfrau yn y bennod ‘A bookshop for all seasons’. Erbyn 1973 roedd y teulu wedi byw ar y Cape ers rhyw bedair blynedd ar ddeg, a ’nhad, a oedd tua deg oed ar y pryd, yn seithfed o blith wyth o blant. Tydi llyfrwerthwyr brics a mortar ddechrau’r saithdegau ddim eto wedi breuddwydio am y newidiadau fyddai’n effeithio ar eu masnach yn sgil datblygiadau digidol – newidiadau y mae plant Ben yn gorfod ymdopi â nhw wrth ymgymryd â’r busnes yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain.
 

Parnassus Book Service, siop lyfrau Ben Muse (Llun gan Grug Muse)

Mi fuodd fy nhaid farw yn 2012. Dechrau’r haf oedd hi, y cyfnod rhwng i mi orffen yn yr ysgol a mynd i’r brifysgol. Tydi rhywun ddim yn cynnal ‘gwylnos’ yn y Gymru Brotestannaidd, a dydi’r gair Cymraeg ddim wir yn adlewyrchu fersiwn Pabyddion Gwyddelig-Americanaidd New England o ‘wake’ Catholig. Cyfarfod cymdeithasol o fath ydi o, yr arch yn eistedd ym mlaen yr ystafell yn barod i dderbyn teyrngedau a gweddïau’r rhai sydd ar ôl. Mae’r ystafell wedi ei haddurno efo lluniau a chasgliadau teuluol, y math o geriach mae rhywun yn hel atgofion uwch eu pennau. Parha’r gwylnosau hyn am oriau di-ben-draw, gan wneud angladd yn fusnes dau ddiwrnod (rhwng gwylnosa, y gwasanaeth, y claddu, ac wedyn y derbyniad yn y tŷ).

Mi ddechreuodd fwrw glaw yn ystod gwylnos Grandpa. Nid rhyw law mân, ond glaw go iawn, glaw Beiblaidd, glaw oedd yn gwneud i’ch esgyrn grynu ac yn peri i’ch calon ddyrnu mynd fel injan. Mi roedd o’n disgyn yn ddafnau tewion, y dafnau cyntaf yn staenio’r tarmac mewn cylchoedd o faint pum ceiniog, cyn i’r maes parcio i gyd droi’n un cae slic. Daeth pobl allan i’w wylio, gan estyn eu dwylo o dan y portsh i deimlo’r diferion yn taro cledr eu llaw. Ac yna’n sydyn, daeth fflach mellten, ac yna tair ... pedair ... pump ... a chrac taran yn diasbedain dros y lle.

Mi basiodd y storm mor sydyn ag y daeth hi. Torrwyd tensiwn a phwysau’r aer rywfaint ac roedd y gwres affwysol ychydig yn fwy tyner, bellach, o dan goleri ein ffrogiau duon.

✒︎

Dydi Dad ddim yn siŵr pa Nor’easter ydi’r gwaethaf o blith y rhai y mae o’n eu cofio. Lluwch 1978, efallai? Dyna’r storm a ysgubodd yr Outermost House i mewn i’r môr. Bwthyn pellennig oedd hwn, wedi ei adeiladu yn y twyni ar arfordir dwyreiniol y penrhyn yn 1925 ar gyfer yr awdur Henry Beston, a fu’n byw yno hyd 1927. Yn ei gyfnod, hwn oedd y tŷ mwyaf dwyreiniol ar y Cape. Y mae Barnard yn ymweld ag o yn ei gyfrol:

It is a little gray box standing on stilts driven into the sand. Its roof and side walls are shingled and are of almost the same color and texture. The trim around the door is white, as are the shutters, now closed. There is a small porch, two chimneys – one brick and one tin pipe – and a small copper weather vane mounted at one end of the roof ridge. This squeaked dryly in the wind, a faint, piping sound like a lost bird.

Rydym yn gyfarwydd â’r ddameg am y perygl o adeiladu tai ar dywod, ond mae pobol Cape Cod yn byw her barhaus i’r wers honno. O fewn rhyw bum mlynedd o gyhoeddi’r disgrifiad hwn, roedd tŷ Henry Beston wedi diflannu dan y tonnau. Gweddnewidiwyd traeth Coast Guard ar yr arfordir dwyreiniol yn yr un storm, gan ysgubo ymaith y baddondy a’r maes parcio.

Ac yn eu tŷ hwythau, gwyliodd Dad a’i frodyr a’i chwiorydd goed y goedwig oedd yn ffinio â’u gardd yn cael eu rhwygo o’r ddaear, gan glirio rhyw bum metr ychwanegol o dir a fyddai’n cael ei amsugno gan eu gardd gefn – lle i godi set o siglenni, a phlannu llwyni mafon cochion.

✒︎

Mae tywydd mawr yn rhywbeth sy’n codi yn aml yn sgyrsiau Barnard â’r bobl leol a gofnodir yn ei gyfrol. Y mae Warren Perry yn Ranger yn y parc cenedlaethol, y Cape Cod National Seashore, a grëwyd gan yr hogyn lleol John F Kennedy yn 1961:

‘Gulf stream’s changing things,’ he said. ‘The winters just aren’t as cold or snowy as they used to be.’ Once again he went to look at a chart. ‘See here. The coldest day last October was 33 degrees. The coldest day in November was 30. And in December, 23. Course, we had some snow, but it’s really the wind that does the damage. A northeast storm chews the Cape away like a bulldozer, moves the sand all the way from Nauset light down here to Race Point. Makes new bars and spits as it goes. Changes everything.

Mae Warren yn gweld y newid yn hinsawdd y Cape. Nid yw dylanwad llif y Gwlff yn gryf ar Cape Cod; mae dylanwad Cerrynt Labrador, sydd yn llifo i lawr o’r gogledd, yn dipyn cryfach. Dyna pam mae dŵr Nauset mor ddiawledig o oer, tra bo’r dŵr yn y bae i’r gogledd, a thraethau Swnt Nantucket i’r de, yn fwy gwarchodol a ’fymryn yn gynhesach. Ond waeth befo am gerrynt, mae’r Cape yn newid: y traethau, yr ynysoedd, y twyni, a’r traethelli’n cael eu mowldio a’u gweddnewid ym mhob storm. A thu hwnt i ffiniau’r Cape, mae’r blaned yn newid. Mae Warren wedi ei weld, a’i fesur. Ond pwy a ŵyr faint mae o’n sylweddoli, ar ddechrau’r saithdegau, beth yw goblygiadau’r cynhesu hwnnw, ac effaith dynion arno.

                                                      

Ar drywydd ei deganau plastig – y crwban, yr afanc, y broga a’r hwyaden, mae Hohn yn teithio i wylltiroedd Alaksa lle mae traeth-dyrchwyr wedi bod yn casglu degau, os nad cannoedd, o’r teganau bach lliwgar hyn ar draethau anghysbell. Y mae mapio’u trywydd hyd at y traethau hyn, ar ôl iddynt ddisgyn o’r llong i’r môr, yn weddol hawdd: gellir casglu eu bod wedi mynd o amgylch cylchgerrynt isbegynol gogledd y tawelfor, sy’n troelli yn groes i’r cloc, rhwng cesail Alaska a Gorynys Kamchatka, cyn cael eu chwythu ar lannau creigiog Sitka ac ynysoedd anghysbell Aleutia. Meddai Hohn:

The relationship between seeing and knowing helps explain, I think, why it is I was compelled to chase the yellow ducks lost at sea. In following their trail I’ve strived to raise, if only by a megapixel or two, the resolution of my own mental model of the world.

Ond y mae llwybr arall, damcaniaethol, y gallai rhai o’r teganau fod wedi ei ddilyn, llwybr fyddai wedi arwain y teganau at arfordir y dwyrain. Llwybr yw hwn fyddai wedi mynd â nhw drwy ddyfroedd yr Arctig. Mae’n drywydd llawer anos i’w ddilyn. Ac yna, rhaid ystyried y teganau na chyrhaeddai fyth unrhyw draeth – y rhai a gafodd eu breuo a’u chwalu’n ddarnau llai a llai o blastig, cyn cael eu llyncu gan anifail, neu ymuno â thywod y traeth; anos fyth eu dilyn a’u dirnad yw eu llwybrau hwy.

Chwilio am stori y mae Hohn yn y pen draw. Petai blwch aml-lwyth o beli ping pong, neu begiau dillad, neu wrthrych plastig ac iddo lai o apêl a chymeriad na theganau bàth plant wedi syrthio i’r môr y noson dymhestlog honno yn 1992, mae’n bosib mai dal i ddysgu plant Manhattan am farddoniaeth Emily Dickinson fyddai Donovan Hohn o hyd. Digon posib na fyddai wedi ceisio dilyn miloedd o flychau dosrannu tabledi i bellafion Alaska, nac wedi mynd i chwilio am boteli dŵr poeth yn yr Arctig. Yr hwyaid plastig gipiodd ei ddychymyg, ac ar ôl y rheini yr aeth, gan faglu ar draws Llain Sbwriel Gogledd y Tawelfor, ar long i’r Arctig i wylio’r tirlun hwnnw’n diflannu, ac i draethau anghysbell Alaska i weld sbwriel plastig yn hel yn dwyni synthetig yn un o amgylcheddau mwyaf anial y byd.

‘The Cape has already sown the seeds of its own destruction. I don’t know what’s going to happen.’ Mae’n debyg i fy nhaid ddweud y geiriau hynny rywbryd yn nechrau’r saithdegau. Yr oedd llyfr Rachel Carson, Silent Spring, wedi ei gyhoeddi ers bron ddegawd. Yr oedd yr Unol Daleithiau yn dechrau dod yn ymwybodol o effaith y diwydiant petrol ac amaethu gan ddefnyddio cemegion ar yr amgylchedd. Nid oes modd i mi wybod pa ddinistr yn union a ragwelai fy nhaid – gorboblogi’r Cape o bosib, effaith hunan-ganibalaidd y diwydiant twristiaeth rhemp ar yr ardal. Efallai mai dyna ydoedd. Dydi pobl ifanc ddim yn aros ar y Cape y dyddiau hyn. Yn yr haf mae’r boblogaeth yn medru cyrraedd miliwn. Yn y gaeaf, mae’n disgyn drachefn i 250,000. Mae’r busnesau’n dibynnu ar staff ymfudol sydd yn teithio yma o ddwyrain Ewrop ar fisas H-2B, neu Americanwyr sy’n mudo’n flynyddol i’r Cape yn yr haf ac i westai a phentrefi gwyliau Florida yn y gaeaf. Mae fy modryb, sy’n nyrs, yn treulio’i gaeafau’n gofalu am fabanod a anwyd yn gaeth i heroin, eu mamau ymhlith y miloedd sy’n dioddef o ganlyniad i greisis opioid y Cape.

Dwi ddim wedi dychwelyd i Cape Cod ers stormydd mis Mawrth 2017. Dwn i ddim a ydw i eisiau mynd yn ôl. Mae o’n dirlun newidiol, ac wastad wedi bod felly; dyna’r unig beth cyson amdano, mae’n debyg.

‘I’d rather see some other kind of natural disaster hit the Cape,’ says Mr Muse. ‘Summer makes strangers of us all. A good heavy snowstorm draws people together.’


Cyhoeddodd Grug Muse ei chyfrol gyntaf y llynedd (Ar Ddisberod, Cyhoeddiadau Barddas, 2017).

Llun yr hwyaden: Sheila Alvarado


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae yna hiwmor eironig mewn colli 28,800 o deganau bàth i’r môr

Dyddiad cyhoeddi: 30·11·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…