Cyfansoddi

CCCP 1964

Rhan 1


David Elwyn Lewis

Amser darllen: 4 munud

23·08·2017

Ar fore gwlyb a thywyll ddiwedd mis Hydref ym 1964 eisteddai'r bachgen 10 oed mewn caffi di-nod nepell o Orsaf Fictoria, Llundain. Arhosai'n eiddgar gyda'i rieni am frecwast; wedi taith dros nos o Gymru roedd y bachgen yn flinedig ac anniddig. Nid dyma'r tro cyntaf iddo brofi taith hir, anghysurus, ond dyma gychwyn taith hiraf ei fywyd - hyd yma. Wedi'r cyfan, nid arferol oedd i lanc o 'Stiniog eistedd mewn caffi dilewyrch yn Llundain yn aros am y trên i borthladd Dover; cam cyntaf taith a fyddai'n terfynu ar y Sgwâr Coch yn Moscow ymhen yr wythnos. Ychydig o'i gyfoedion ysgol a wyddai am Chwyldro Hydref 1917 a llai byth am y 47fed dathliad ohono.

Yn rhyfeddol ddigon, ni ystyriai'r bachgen na'i rieni'r daith hon yn wahanol i'r teithiau blaenorol y buont arnynt. Ymwelodd tad y bachgen â thiriogaeth y 'gelyn' y flwyddyn flaenorol. Ni ddangosodd y KGB unrhyw ddiddordeb ynddo ar y pryd a thybiodd na fyddai ei wraig a'i unig blentyn yn tynnu'r un sylw ychwaith. Ond amheugar iawn oedd agwedd cyfeillion a theulu at y daith hon i'r CCCP; onid oedd y Rhyfel Oer ar ei anterth?

Cychwynnodd y trên yn brydlon. Maes o law roedd porthladd Dover a chlogwyni gwyn-fudr arfordir Lloegr yn diflannu ar y gorwel. Araf iawn oedd y fordaith arw i borthladd Oostende, lle bu'r bachgen eisoes ar deithiau tramor eraill. Tybiai y gallai arogli'r frites mayonnaise ymhell cyn cyrraedd y lan. Er mawr siom iddo, ni chafwyd yr un sglodyn yng Ngorsaf Oostende a rhaid oedd bodloni ar Mars Bar. Siom pellach oedd canfod nad oedd y siocled, a gynhyrchwyd yn yr Iseldiroedd, yn blasu'n debyg i'r un arferol o Slough.

Wedi teithio ar draws Gwlad Belg a thirwedd ddestlus Gorllewin yr Almaen daeth y trên at y ffin â'r DDR. Yno bu'n rhaid i'r teithwyr ddisgyn oddi ar y trên er mwyn caniatáu i'r gwarchodwyr tiriogaethol, gyda'u cŵn Alsasaidd ffyrnig, archwilio pob twll a chornel. Cymerodd y bachgen loches y tu cefn i'w rieni. Doedd dim cymhariaeth rhwng ci defaid Tyddyn Gwyn a'r ddau fwystfil Tiwtonaidd yma. Ac ymlaen â'r trên am ddinas ranedig Berlin.

Ymysg y fintai frith o deithwyr a oedd wedi talu £59 y pen i deithio i gadarnle'r byd comiwnyddol, roedd hen ŵr trugarog o Scarborough, perchennog gwesty bychan yno, a byddai'r losin a gafodd y bachgen ganddo yn gysur yn ystod y siwrne ddiflas. Wedi mynd heibio dinas Berlin, daeth yr amser i noswylio a cheisiodd y bachgen gysgu ar y couchette, ond buan y sylweddolodd mai pethau swnllyd iawn yw trenau. Yn fuan ar ôl canfod cwsg stopiodd y trên yn ddisymwth ar y ffin rhwng yr Almaen Ddwyreiniol a Gwlad Pwyl. Unwaith eto, rhaid oedd disgyn oddi ar y trên i ganiatáu archwiliad pellach; chanfuwyd dim.

Llwm oedd y brecwast - dim tost a corn flakes fel y gobeithiai'r bachgen ond bara tywyll sur ac wyau seimllyd; o leiaf roedd y te a ddeuai o'r samovar yn boeth a chryf. Araf a diflas oedd y daith ar draws gwastatir llaith Gwlad Pwyl. Cafwyd seibiant byr rhag y diflastod pan welodd y bachgen seindorf filwrol yn ffarwelio â mintai o filwyr mewn gorsaf wledig. Dychmygodd y bachgen fod y milwyr ar fin mynd i ryfel, neu, o leiaf, brwydr go sylweddol. Disgynnai'r glaw'n ddi-baid a dechreuodd ffenestri'r trên wlitho. Pendrwm oedd y bachgen a meddyliai 'mor ddiflas yw Gwlad Pwyl'. Wrth ddynesu at y brifddinas, Warszawa, dechreuodd y trên sefyll mewn sawl gorsaf gefn gwlad. Eisteddodd gwerinwr oedrannus gyda gŵydd fyw dan ei gesail gyferbyn â'r bachgen. Gwisgai'r hen werinwr ddillad hollol ddu, esgidiau du marchog a chapan du milwrol ei naws ond yn hollol ddiaddurn. Ynganodd yr un gair ac ni wenodd. Felly hefyd y bachgen; syllu'n unig a wnaeth ar yr hen ŵr a'i ŵydd cyn troi at y ffenest i sychu'r gwlith. Parhau i dywallt yn ddi-baid wnaeth y glaw fel y caeodd y nos am y tir.


Yn 1964, yn fachgen ysgol o'r Manod, teithiodd David Elwyn Lewis ar y trên o Flaenau Ffestiniog i Foscow ar gyfer dathliadau'r Chwyldro. Dyma ran gyntaf ei ddyddiadur taith. Yn haf 1966 teithiodd gyda'i rieni, y diweddar Gwilym ac Elizabeth Lewis, mewn fan Bedford i Kiev yn yr Wcráin Sofietaidd, ond stori arall ydi honno.

'Y rheilffordd sy'n mesur amser f'Ewrop i' meddai Tony Judt. Darllenwch yn y fan hon fyfyrdodau y mab am ei dad, a'i argyhoeddiad bod teithio ar drên yn fynegiant materol o gymdeithas yn symud fel un corff, nid dim ond trwy ofod ond trwy amser.


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rwsia, Teithio, Chwyldro

 


Tybiai y gallai arogli'r frites mayonnaise ymhell cyn cyrraedd y lan

Dyddiad cyhoeddi: 23·08·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy…

Cyfansoddi


Marion Muller-Colard

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg (2014), yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y…

Cyfansoddi


Robert Walser

Cyhoeddodd Robert Walser ddarnau cyson ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt yn 1907-8 ac yn y cyfnod 1925-1933, gan gynnwys 'Llythyr gan Ewropead' ym Mai 1926. Mae nifer o'r darnau hynny ar ffurf llythyr sy'n cyfarch y darllenydd yn bersonol, yn lythyrau caru sydd wedi eu cyfeirio at foment ddychmygol. Yn wir, yn 1930, penderfynodd y papur wahodd nifer o…

Dadansoddi


Daniel Huws

Mae canu'n ymestyn lawer pellach yn ôl yn ein hanes nag ysgrifennu. Genir canu yn y cof ac yn y cof y'i diogelir. Cof sy'n gwneud dyn. Mae grym y cof dynol yn rhywbeth y mae pawb ohonom wedi cael achos o bryd i'w gilydd i…

Dadansoddi


Huw L Williams

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn…

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr…

Adolygu


Alun Llwyd

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â…