Cyfansoddi

Darllen creithiau Merthyr


Morgan Owen

Amser darllen: 12 munud

11·01·2017

Fe ddaw’r rhod i’w throad llawn. Mae popeth yn dychwelyd i’w darddell yn y man ac ni waeth pa mor bell yr ei di o lygad y ffynnon, bydd rhyw lifeiriant yn dy hebrwng yn ôl―yn erbyn y llif, yn erbyn dy ewyllys o bryd i’w gilydd. Nid yw pellter yn angenrheidiol i’r dychwelyd hwn: gall fod yn siwrne drwy amser neu drwy ferddwr tywyll y cof a’i haenau aneirif o ystumio ac anghofio bwriadol. Ac er taw digon diafael yw’r sôn am bethau felly, mae’n brofiad cyffredin: ni fydd neb yn ffoi rhag ei fro yn llwyr am y rheswm syml na all fesur ei grwydradau heb wybod ym mhle y cychwynnodd. Fe ddaw rhyw sgytwad yn sgil dychwelyd yn ddiau, ac yn arbennig pan fydd yn digwydd yng nghyd-destun lle diriaethol; y pryd hynny, bron na ellir ei alw’n dröedigaeth, nid yn gymaint am fod y rhod wedi troi ac amser wedi treulio hen wynebau ond am fod cydnabod y pellter a deithiwyd yn gyfystyr â chydnabod dy ddiffyg ffydd trwy adael. Gallaf innau dystio i’r profiad hwn am i mi weld gogoniant mewn tir clwyfedig wedi i mi ei hir felltithio.

Pen y Fan o gronfa ddŵr Pontsticill / Nick Russill

O gylch fy nhref enedigol, Merthyr Tudful, fe gei dy wala o foelni ac, yn anad yr un nodwedd arall, rydym ni Gymry yn cysylltu moelni ag arucheledd. Llymder mynyddig yw pennaf nod ein tirlun, fe ymddengys. Tro at ba flodeugerdd bynnag o farddoniaeth Gymraeg sydd agosaf wrth law, a gellid maddau i ti am gredu taw un mynydd estynedig yw Cymru. Cyn i minnau ymgydnabod â’r byd y tu hwnt i furiau fy mebyd, a phan oedd Merthyr yn ganolbwynt fy mydysawd, cyfranogwn innau o’r moelni-addoliad hwn. Hawdd oedd cael fy swyno gan frogarwch o'r fath, a chylch fy mhrofiad mor gyfyng. Dysgu ymagweddu at y byd yr ydym oll, a dyma oedd fy ngwers gyntaf: câr dy fro. Roeddwn yn byw yng nghysgod mynyddoedd go adnabyddus ac ildiais i Ramantiaeth anfeirniadol. Ond bid a fo am hynny. Nid erys dim yr un fath, a buan y newidiodd fy amgyffred o foelni Merthyr.

Ond gwell fyddai i mi sôn peth am y moelni hwnnw’n benodol rhag i’r uchod ymddangos fel rhyw wag-ymadroddi hunan-gyfiawnhaol, a sôn hefyd am foelni amgen sy’n cymhlethu’r drafodaeth. Uwch ben Heolgerrig, fy rhan i o Ferthyr, saif Mynydd Aberdâr, ac er nad yw’n fynydd yn ôl y diffiniad swyddogol (nid yw’n uwch na 600m), mae’n agored, yn ddi-goed, yn frith gan ddefaid ac yn frwyn a grug mewn mannau. Rhag i’r enw ddrysu, nid Aberdâr yw’r mynydd hwn i gyd. Rhiniog ydyw: ar y naill ochr, Aberdâr; ar y llall, Merthyr. Ond nid oes gan y mynydd awdurdod dros y ffin a briodolir iddo. Hyd yn oed wrth gydnabod ei gadernid anferthol, caiff ei droi yn ffin at wasanaeth pobl.

Serch hynny, yn y fan hon―a fu’n sarnfa driw i mi gyhyd―mae yna foelni dynol, diwydiannol yn gymysg â’r moelni lled-naturiol, ystrydebol. A lled-naturiol yw’r moelni traddodiadol, yr eangderau anystywallt, am mai tir disbydd yw ein mynyddoedd honedig ‘ddilychwin’―neu fel mae’r Saeson sy’n heidio atynt yn hoff o’u galw, ‘unspoiled’. Maent wedi eu sbwylio’n drwyadl, wrth gwrs. Oni bai am filenia o bori a chlirio byddent yn go goediog, bob un, hyd yn oed yr Wyddfa. Mae coed yn tyfu ar gopâu mynyddoedd sydd ddwywaith yn fwy na mynyddoedd uchaf Cymru, yn y llecynnau pellennig hynny lle nad yw pobl eto wedi preiddio’r dirwedd yn gyfan-gwbl. Eironi pellach yw fod grug, y rhamantusaf o flodau’r Rhamantwyr Cymraeg, yn tyfu lle mae’r tir wedi colli ei faeth. Dangos clwyf a wna, nid gwylltineb. Tusw angladd ydyw.

Mae yna foelni dynol diweddarach hefyd: olion diwydiant. Ciliodd swyn y grug a’r poethwel di-ben-draw wrth i mi ddysgu taw canlyniad i ddofi dwys yw’r mynydd-dir Cymreig. Fe’i dofwyd fel anifail―a’i ladd. Yr hyn a oedd yn ‘naturiol’ wedyn, felly, oedd yr ecsbloetio a ddaeth yn sgil y dofi hwn: yr hen chwareli calchfaen gweigion, y tipiau sorod, llwybrau rheolaidd yr hen reilffyrdd a groesai’r mynydd wrth gludo’r glo a’r mwyn haearn a rwygwyd o’i grombil, a’r dref lwyd, lesg yn glaf gorweiddiog o dan y cyfan oll. Dywedir fod tonnau eithriadol a dychrynllyd yn gallu codi o fôr diddig heb rybudd a llyncu cychod heb adael namyn ddernyn, a bod y tonnau hyn, pan gyrhaeddant, yn dod mewn cyfresi o ddwy. Ac fe brofais i ddwy don dadrithiad yng nghyd-destun fy nhir fy hun. Trowyd tir rhamant yn dir melltigedig, wedi’i halogi gan law enbyd dyn.

Ond nid wal ddiadlam mo dadrith. Mae pellter yn lleddfu ar siomedigaeth, er garwed y bo―ac fe adewais dir melltigedig fy mebyd. Nid pellter llythrennol sydd bwysig yn hyn o beth, wrth gwrs, ond pellter ansoddol, goddrychol. Hynny yw, os yw’r ddihangfa’n teimlo’n bell, gellir ymddihatru o chwerwder unrhyw ddadrithiad. Gall rhywun fynd i ben arall y byd, wedi’r cyfan, a chael ei fod mor gartrefol yn y fan honno ag yn unman os yw’r amgylchiadau’n briodol. A dyna a gefais i, noddfa nad oedd Ferthyr Tudful. Digon cyffredin yw manylion fy alltudiaeth ac ni thrafferthaf sôn amdanynt: yr hyn sy’n werth sôn amdano, efallai, yw effaith lanhaol alltudiaeth, am mai trwy ei chyfrwng y mae dysgu gwerthfawrogi o’r newydd dirionder tir.

A dychwelyd at bridd sorodlyd Merthyr: nid dysgu caru clwyfau ein tir, a’r anrhaith sy’n adlewyrchiad o glwyfau ein cenedl, a wnes; yn wir, mae Cymru gyfan yn dwyn creithiau’r dinistr a ddaeth i’n rhan ac mae’n debyg y bydd yr hanes hwnnw yn ein cyfansoddiad gyhyd ag y bo’r genedl. Ond yn anochel, efallai, daeth nodau hiraeth yn sarffaidd i’m cyffroi. Deuthum yn fwy ymwybodol o’r sorod, un o nodweddion amlycaf y moelni ôl-ddiwydiannol, nag a fûm erioed. Ym Merthyr, mae ym mhobman. Os yw Bannau Brycheiniog yn adnabyddus am eu pridd coch cyfoethog, mae Merthyr yn nodedig am hollbresenoldeb ei sorod. Nid gormodiaith dweud taw hwn yw pridd rhan helaethaf y dref. Yn Heolgerrig, does ond angen crafu wyneb y tir er mwyn datguddio’r garreg lwydlas ryfedd hon, os gellir ei galw’n garreg hefyd. Gwyddys yn burion taw dyn ffôl sy’n adeiladu ei dŷ ar dywod – ond beth am ddyn sy’n adeiladu ei dŷ ar sorod? Dyn dewr yw hwnnw, am ei fod yn bwrw gwreiddiau ac yn gosod sylfaen ar esgyrn gorthrwm, ac yn codi aelwyd o ffradach hyll â gobaith yn brydio yn ei fynwes.

Bannau Brycheiniog / Nick Russill

Wedi i mi fwrw tair blynedd o alltudiaeth, dychwelais i Ferthyr am un haf olaf, cyn gadael ar daith annychwel. Chweg-chwerw yw goglais hiraeth pan wyt ti’n gwybod y byddi’n dychwelyd yn y man. Gall droi’n ymdrybaeddu hyd yn oed, mor foethus y gall fod. Ac fe gefais ymogleisio felly. Ond fe ddaeth diwrnod yr ysgaru terfynol yn ei dro.

Yr haf hwnnw, crwydrais y fro ar fy mhen fy hun, y cwm cyfan benbwygilydd, gan weld pethau nas gwelais o’r blaen, yn ogystal â’r argelion diarffordd hynny a oedd yn hysbys i mi yn unig. Meddalwyd popeth yng ngolau nychol diwedd haf. Roeddwn i wedi disgwyl y tywalltai llifeiriant o angerdd drosof wrth eistedd uwchben y dref y troeon olaf hynny, ac y gallwn droi’r llif i felin fy nychymyg a llenwi cyfrolau ag ing a galar a hiraeth wrth gymodi â’m bro ar awr ein hysgariad. Cafwyd cymodi, yn wir, ond digynnwrf ddi-lol ydoedd.

Gwelwn y tlodi a’r brwydro parhaus; gwelwn anrhaith y tir a’r moelni. Gwelwn hefyd yr unig bobl y byddaf yn gwir berthyn iddynt ac y byddaf yn teimlo’n ddiymdrech gartrefol yn eu cwmni; gwelwn yn y ceunentydd goedwigoedd afradlon yn warant na ddiffydd bywyd tra bo gobaith, fel glasgoed y dderwen sy’n glynu wrth grugen o slag du. Nid oedd yn gas gennyf bellach y creithiau. Nid gwarthnodau oeddent ond llawysgrif o hanesion gwrthodedig. Nid ysgrifennais y farddoniaeth yr oeddwn wedi dychmygu ei hysgrifennu am fy alltudiaeth olaf; fe’i darllenais o’m hamgylch, yng nghreithiau’r tir, a chreithiau fy meddwl glas wrth adael Merthyr.


Mae Morgan Owen yn astudio am radd MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Lluniau: 'Pen y Fan o gronfa ddŵr Pontsticill' a 'Tirwedd ym Mannau Brycheiniog' gyda chaniatâd caredig Nick Russill.

Gallwch ddarllen ysgrifau eraill, gan Eluned Gramich a Llŷr Gwyn Lewis, fan hyn a fan hyn

Darllenwch 'Gweld y byd fel y dylem' gan Sara Penrhyn Jones a thrafodaeth ar Land gan y ffotograffydd Fay Godwin fan hyn.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Morgan Owen

 


Mae grug, y rhamantusaf o flodau’r Rhamantwyr Cymraeg, yn tyfu lle mae’r tir wedi colli ei faeth. Tusw angladd ydyw.

Dyddiad cyhoeddi: 11·01·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…