Cyfansoddi

Dyddiadur myfyrdodau


Jan Morris gyda Twm Morys

Amser darllen: 5 munud

30·04·2019

Music Goes to War - Entertainment in Wartime London, 1943. 
Dennis Brain yn chwarae'r pumawd yn E fflat fwyaf gan Mozart, gyda phedwarawd llinynnol Blech,
mewn cyngerdd amser cinio yn y National Gallery (Wikimedia Commons)

 

Nid yn aml iawn y dyddiau diflas hyn y byddaf yn glana’ chwerthin, yn chwerthin llond fy mol a nerth fy mhen. Felly mae’n dda gen i ddweud i hynny ddigwydd ddoe, pan aeth Elizabeth a minnau i nôl y neges i le gwahanol i’r arfer, sef Pen-y-groes.  

Roedd cydnabod inni wedi gofyn oedden ni wedi bod yn y caffi newydd ar y stryd fawr, yn yr adeilad fu’n fanc cynt. Wyddwn i ddim am hwn, a draw â ni am goffi ar ôl dod o’r siop.

Bu cryn ddychymyg ar waith wrth atgyweirio’r lle, nes ei fod yn dal i deimlo’n ddifyr o fancaidd. Mae sêff fawr segur mewn un gornel, ac mewn cornel arall mae rhywbeth tebyg i swyddfa aml-lawr, hanner maint, a’r adeilad rhyfedd hwn berodd imi chwerthin.

Roedd ei lond o blantos bychain bach. Doedd dim cymaint â hynny ohonyn nhw go iawn, mae’n siŵr, ond roedden nhw yn tryforio mor wyllt a hwyliog dros yr adeilad rhyfedd, i mewn ac allan ac i fyny ac i waered, weithiau yn llithro i lawr ei risiau simsan, weithiau yn diflannu i’w grombil, nes bod y peth i gyd yn crynu.

Pwy oedden nhw yn union, neu beth yn union roedden nhw’n da yno, ni chawsom wybod, ond roeddent wrthi nerth eu deng ewin pan adawson ni nhw. Ac yn ddryslyd, yn anghrediniol, wrth ein boddau, gan dreulio ein coffis ardderchog a gafael yn ein bagiau, dyna ni’n honcian adre i normalrwydd, dan chwerthin. 

✒︎

Peidiwch byth â mynd yn hen! Dw i erioed wedi bod mor ymwybodol o’i anfanteision ag rydw i wrth gymryd fy mrecwast y bore ’ma. Mae’r cam-hwyl ar fy nghyfrifiadur wedi cadarnhau mor llydan yw’r agendor sydd rhyngof i a’r cenedlaethau sydd wedi dod ar fy ôl. Hanner yr amser, dydan ni ddim yn siarad yr un iaith. 

Pwy yw’r Gweinyddwr, sy’n gwrthod gweinyddu ar fy sgrin y bore ’ma? Beth ydi’r Ffeibr rwyf i fod i ‘uwchraddio’ iddi? Mae fy wyrion i yn rhugl mewn geirfa, ac o ran hynny mewn diwylliant, rydw i’n methu â’u meistrioli, ac rwyf yn ymbalfalu yn y niwl wrth chwilio am rywun ddaw i Drefan y bore ’ma i’m rhoi yn ôl ar ben y ffordd, (e.e. fy atgoffa i beth ydi fy nghyfrinair, a chyfrinair i beth ydi o, a beth neu pwy ydi’r Band Llydan).

Mae’r dyn yn brysur iawn y bore ’ma, meddai ei beiriant ateb, ac mae rhestr aros o hyd at ddeng munud i wneud apwyntiad. Mi aiff yn hanner awr o fiwsig merfaidd, yn saff ichi. Felly, dyma beth wnawn ni, chi a fi, os ydach chi am ymuno â mi. Mi ddywedwn ni: ‘Twll eich t*n!’ wrth y cwbwl lot ohonyn nhw, yr holl gybôl, y byd i gyd, y bore ’ma, ac mi awn ni am chwimdro bach sionc yn y glaw. 

✒︎

Roedd Dennis Brain, y canwr corn, yn ffrind annwyl i’n teulu ni. Y fo oedd cornor mwya’ disglair ei oes. Fe’i lladdwyd mewn damwain car ym 1957  –  roedd ganddo ddiléit mewn ceir cyflym. Byddaf yn aml yn meddwl amdano am y rheswm y bydd ei recordiad ef o 4ydd consierto Mozart i’r corn yn cael ei ddarlledu yn aml, ac mae hwnnw i mi bron yn annaearol o hardd. Mae artistiaid disglair eraill wedi ei recordio, ond does yr un i’m meddwl i wedi mynegi’r un dwyster a dawn yn gymysg. Mae’r cwbwl yn ymddangos yn haws i chwaraewyr corn heddiw, a phan fyddaf yn clywed dehongliad Brain, meddwl am ei farw annhymig y byddaf bob tro.
 


Roedd Brain yn gyfaill agos ac yn gyd-gerddor i’m brawd Gareth, cyfansoddodd fy mam gadenzas ar ei gyfer, ac mae o hyd heddiw yn bresenoldeb addfwyn yn fy nghof. Bûm weithiau yn holi ydi amgylchiadau trist ei farw rywsut wedi gwneud harddwch ei berfformiadau yn fwy dwys na dehongliadau ei olynwyr.

Wel, ddoe, dyma fi’n gofyn i gydnabod doeth o gerddor beth oedd ei barn hi am y syniad. Naci, meddai, nid ymyrraeth y nefoedd oedd wedi dyrchafu dehongliad Dennis Brain o’r consierto hwnnw yn uwch na’r lleill. Cyrn ei olynwyr sy’n wahanol: mae eu system falfiau yn fwy modern. 

Does dim rhaid gwneud aberth, felly, er mwyn creu celfyddyd fawr, ond efallai ei fod yn help weithiau!  

✒︎

Mae llawer o sôn heddiw yn y papurau am yr iaith Ffrangeg, fu unwaith yn lingua franca i un o ymerodraethau’r byd, ac sydd yn cael ei defnyddio o hyd, yn ôl rhai, fel arf ôl-imperialaidd i hyrwyddo goruwchafiaeth a gorchest Ffrainc. Chlywais i ddim beirniadu cyffelyb ar yr hyn adawodd yr Ymerodraeth Brydeinig ar ei hôl. Efallai fod yr iaith Saesneg wedi lledu mor bell mwyach nes bod ei thras imperialaidd wedi mynd dros go’.

Nid yng Nghymru! Roedd y papur gwyn hwnnw yn sôn yn wrthgilgar iawn am wneud Saesneg yn bwnc gorfodol mewn ysgolion meithrin Cymraeg, yn lle bod y plant yn cael sylfaen gadarn yn eu mamiaith yn gynta’. Dywedwyd wrthym wedyn mai camgymeriad oedd y cymal hwnnw. Ond lle mae mwg mae tân!   

Ryw hanner can mlynedd yn ôl, pan oedd yr ymgyrchu dros yr iaith wedi troi hyd lwybr tor cyfraith, gofynnwyd imi a fyddem yn fodlon rhoi cartre dros dro i ymgyrchwr ifanc oedd newydd ddod o’r carchar. Mi gafodd o a’i deulu fenthyg y fflat ar lawr ucha’r hen dŷ, ac am gyfnod buom yng nghanol y mynd a’r dod cyffrous. Ein gwestai i fyny’r grisiau oedd ein talisman carismataidd, llanc â dawn artistig fawr ddaeth yn enwog fel canwr, ac sydd hyd heddiw yn ymgyrchu dros bob dim Cymreig: Dafydd Iwan. Roedd ei bresenoldeb i fyny’r grisiau yn hudolus, a bwriais fy nghoelbren gydag ef. 

✒︎

Am yr eildro yn fy oes, rwyf newydd wneud buddsoddiad ariannol. Prynu cyfranddaliadau yn Hong Kong wnes i y tro cynta’, ac mi ’cadwodd y rheini fi yn y du am flynyddoedd. £100 mewn menter gymunedol i gadw tafarn y pentre’n agored ydi’r ail. Mae’r cwpwl sy’n rhedeg y lle (ac sydd hefyd yn gwneud marmalêd ardderchog, gyda llaw) yn ymddeol. Mewn pentrefi drwy’r wlad i gyd, mae hen dai tafarn gwag, a styllod dros eu ffenestri, wedi colli’r dydd i’r diwylliant seibr, os dyna ydi o – mi wyddoch beth sy’ gen i, p’run bynnag. Ond yma yn Llanystumdwy, mae’r Plu am ddygnu arni!

Achos hyd yn oed yn y cwr pellennig hwn o’n gwlad, rydym o dan warchae. Ond prin y byddai neb yn amau. Ar ôl mynd â’m siec i’r dafarn, mi yrrais i ben bryn cyfagos i fyfyrio am ’chydig. Roedd hi’n ddiwrnod heulog braf, ac roedd Cricieth (poblogaeth 1,800) islaw fel petai mewn arddangosfa, mor lân a sbriws yr olwg, yn gorweddian yn yr haul ar lan y môr, yn hen ei phen-saernïaeth, yn ifanc ei steil, a’i chastell hynafol yn goron, yn y cysgod rhwng Eryri a Môr Iwerddon.  

Peidiwch â chymryd eich siomi, gyfaill! Mae hagrwch cynnydd yng Nghricieth hefyd. Goresgynwyd ei stryd fawr gan siopau elusen a swyddfeydd gwerthu tai, ac mae hanner y tai dymunol hynny ar y bryn yn dai ha’ i’r bourgeoisie Seisnig, neu’n dai wedi eu codi ar gyfer y farchnad wyliau. Does dim banciau cyfeillgar yng Nghricieth bellach, efo rheolwyr cyfeillgar lleol, ond mae tair archfarchnad gosmopolitanaidd heb fod yn bell. 

Codwch eich calon! Mae o’n dal yn lle bach hyfryd, yn llawn Cymry, sy’n buddsoddi eu ceiniogau yn y Plu ac yn dal ei dir yn erbyn y byd seibr. A dydw i ond hanner y ffordd drwy’r pot marmalêd gefais i ’Dolig gan y tafarnwyr.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ydi amgylchiadau trist ei farw wedi gwneud harddwch ei berfformiadau yn fwy dwys?

Dyddiad cyhoeddi: 30·04·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…