Cyfansoddi

‘Un cyn ei throi hi’ - cerddi’r Fenni


Llŷr Gwyn Lewis

04·08·2016


'Cerddi wedi'u hysbrydoli gan ardal yr Eisteddfod a'r henebion sydd yn dyst i hanes Sir Fynwy a'r cyffiniau.

'Wrth ymateb i'r henebion hyn, ceisir dod i delerau â cholled bersonol trwy fyfyrio ar "farwolaeth" yr iaith a'n cyfeiriad fel Cymry hefyd.

'Nid yw dod yn ôl i'r fan lle cychwynnon ni yn gorfod bod yn arwydd o fethiant.'

– LlGL

 
Ffenest, Castell Rhaglan

            ‘Nid gŵr heb newid gware,
             nid llong heb fyned o’i lle’
            – Guto’r Glyn

            ‘Anwadal yw’r newidiau’
            – Hywel Dafi

Hen wŷr, a fu’n clodfori godre’r plas, y gwydr a’r plwm,
neu’n tynnu ar eich gilydd efo’ch in-jokes barddol,
pa les inni bellach eich darllen chi?

Rhyw ffraeo am adael, neu fynd, neu fynd i adael,
a Gwent fel mwynglawdd aur o’ch amgylch.
Pwy fyddai’n beio Hywel am licio’i le?

Ond wrth sôn am eich ymryson yn y neuadd ddi-do,
mae’r gwenoliaid-newydd-gyrraedd yn styrbio o glywed fy llais
ac yn hedfan allan trwy gwareli’r ffenest ddi-wydr;

ac mae’n well gen i feddwl, bob hyn a hyn,
mai allan efo Guto fyddwn i ar drywydd y lonydd,
yn gywydd gŵr i gyd ac yn hwylio’r porthladdoedd.

Cha’ i ddim gofyn am y ddau, wrth gwrs:
cael nawdd oer y cerrig yn gwarel ac yn ymgeledd
ond dal i allu taflu cipolwg o dro i dro

ar gaeau aur a gwyrdd ac awyr las,
wedi’u fframio’n gywydd gan ffenestri di-wydr.

 

Tŷ Tredegar I: y dreif

‘There are places in Wales I don’t go’ – R. S. Thomas

O hyd, fel petai Ifor Hael ei hun wedi’u plannu,
gelli weld y rhes o goed yn dirwyn yn dalog o’r tŷ
i ganol hen deyrnas Gwent. Ond ger stadau Basaleg
mi’u collet nhw; a chyn hynny, cei draffordd resymegol
fel rhwyg mewn ffrog, yn rhedeg yn syth drwy’u canol,
yn gyrru’r ceir yn ddeuol, ar letraws
i lefydd gwahanol.

P’run bynnag, mae arna i ofn be ffeindiwn fan honno:
Cymru, neu Gymry, gwahanol i mi fy hun,
trigolion tai te a bythynnod gwellt, sy’n lladd
ynganiad abatai’n doeau a’n hen neuaddau;
a hyd yn oed y tir gwyrdd, bras, a ffrwythlon ei had
yn foethus o afrad, yn drewi o bres,
yn teimlo fel brad.

Ond rhof y map heibio heb ynddo bin,
a throi at fapiau plygiedig ein bywydau:
haenau o bobman y buom, a llwybrau pob lle’n
cael eu cywasgu i drio creu cnawd a gwythiennau
heb esgor ar ddim o drwch, heblaw
dalennau anhylaw, y gelli weld trwyddynt
pan ddaw’n law.

 

Un cyn ei throi hi, Llanddewi Nant Hoddni

Dyma lle daw’r lôn i ben heb roi dewis inni:
un o’r llefydd sy’n mynnu d’atgoffa bob gafael
o rywle neu rywbeth arall; fersiwn o hen lawysgrif,
pileri fel haneri cwpled cywydd,

clwystrau sy’n atsain egwan o’r bryniau o’u cwmpas
a’r dafarn fechan sy’n swatio’n ei selerydd
fel llyfr yn cau amdanom, yn bownd o adleisio’r
noson pan ddois i o’r lôn uniongred drwy’r Mers

a’i distawrwydd a’i dagrau a’i horiau crog
i ehangder a golau a chlebar y Lansdowne
efo ’mrawd a’i gariad. Er ei throadau
roedd hi wastad am arwain i fanno’r noson honno.

Ond do’n i ddim wedi disgwyl i bawb oedd yno
fod wedi dal ati â’u byw, a ninnau ar stop:
y criw o Flaenafon ddaeth lawr i werthu’u cwrw,
y Canton born-and-breds â’u ‘a’ cyn leted â’r lôn,

a’r mwydryn a fynnai nad yw Cymru go iawn yn bod i’r de o Fôn:
oll heb weld eu bod nhw’n fyw, heb ddallt eu bod yn genedl,
heb wybod be allen nhw fod yn eu hamrywiaeth hardd.
A rŵan mod i’n chwil, rhwng dau beint a rhwng dau feddwl,

gad imi gael un bach cyn ei throi, un at y lôn,
mlaen i dŷ gwag, at ddagrau, ac at leisiau
sy’n llechu fel lladron ar beiriant ateb.
Neu nôl i Landdewi, i yfed ei hochor hi

o gwrw brag a’i flas fel llwch hen lyfrau:
nid i ddianc rhag y byd, ond dychwelyd iddo
o gymun, a’i weld ar ei waered, heb ei lonydd culion,
â llygaid meirw, meddw: â golwg Cymro.
 

Cwm Caerfanell

Onid codi uwchlaw pryderon ein dyddiau
ydi’r rheswm dros fentro i fyny i’r unigedd llwm,
a chael ein hatgoffa gan y gwynt sy’n chwipio
ein bod ni’n fyw o hyd, bod mwy i ni na desgiau:
y goruwch, a’r naturiol, sydd i’w canfod ar y llethrau?

Mwy fyth, felly, pan fo’r eira’n cuddio’r llwybrau,
a’r cwmwl wedi dod i lawr i’n cyfwrdd,
pawb yn gorfod dod o hyd i’w ffordd ei hun
a’r llithriad i ddifancoll ddim ond un cam gwag i ffwrdd
nes nad ydi chwerthin y chwarddiad gwrachaidd hwnnw

cyn ildio ’mhen pella caeedig y cwm, a throi’n ein holau
i’r union fan lle cychwynnon ni, yn g’wilydd o gwbl:
dod atom ein hunain yn ara deg, gan ganfod
olion ein traed yn dal yno, heb ddadmer eto,
ac olion traed eraill hefyd yn newydd a ffres.


Priordy Santes Fair, y Fenni

Pa mor hir, felly, all marw fod?
Fyth ers rhoi William Herbert i orwedd yn Nhyndyrn
yn lle’r fan hon efo gweddill ei deulu,
buom yn proffwydo’i ddod ers o leiaf hynny:
cân fel y marwor oer, a ganwyd ganwaith
i gyfarch ein tranc-ar-gerdded yn ehangder cadeirlannau,
marwnadu’n hunain, a dewis arwyr cydnaws
â’r marw gobeithiol hwnnw, nes i’n chwedlau
droi’n goeden Jesse o farwolaethau
nad ydyn nhw’n farw go-iawn, a gobaith wastad
o godi ac ail-gydio.

Mor wahanol i’r marw hwnnw:
ei ddal, yn hytrach na’i ladd yn syth,
cael cyfle i roi trefn ar y tŷ a chardod i’r tlodion
yna’r torri pen yn bendant, yn ddiwedd pennod,
a’r gwaed ar y gwair yn frychau lliw atalnod.
Mor bwyllog fu’r marw hwn, fel pwyso a mesur
ac yna diffodd peiriant cynnal bywyd:
marw terfynol, diffiniol; a dim ond digon
o amser i hel cusanau nos da.

Hwyrach, wedi’r cyfan, nad marw ydi hyn,
ac mai’r cyfan sydd ei angen, wir,
yw gallu gweld ein hunain yn byw yn rhywle arall:
troi ymyl yn ganol, troi’r map wyneb i waered,
chwilio, fel gwenyn, am graciau yn waliau Gwent,
yr hadau dan y rhedyn, a dechrau ail-greu.
Oherwydd os buom farw, buom hefyd fyw
o’r newydd ganwaith o’r blaen, heb ddallt nad yw
ein hiaith yn ddim ond rhwydwaith ar y we
a byw a marw'n ddim ond ffeirio lle.


Mae Llŷr Gwyn Lewis yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio ar drosi'n llyfr ei draethawd PhD ar T Gwynn Jones a W B Yeats. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Barddoniaeth

 


Dyddiad cyhoeddi: 04·08·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…