Colofnau

Ffug-broffwydi

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

30·03·2018

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu hunain i’w postio ar-lein. Yn yr un modd ag y mae ffilmiau yn ein gwylio ni, mentraf gytuno efo Zvyagintsev yn y ffilm hon nad newid y ddynoliaeth a wnaeth ffonau symudol yn gymaint â’n dadlennu ni i’n hunain.

Dyma’r teclynnau sydd wedi hwyluso ffurfiant drychiolaethau yr oeddem, er gwaetha’n hunain, yn barod amdanynt. Hyll, ar y cyfan, ydi’r newyddion ffug sydd yn ein cyrraedd trwy’r dechnoleg, ond cael ein hudo gan ddarlun ohonom ein hunain wnaethon ni yn y lle cyntaf, fel Narcissus yn gweld ei adlewyrchiad yn nŵr y ffynnon. Gŵr ifanc nodedig am ei harddwch oedd Narcissus, yn ôl mytholeg Groeg. Yn Llyfr III Metamorffosis Ovid, dywed y proffwyd dall Tiresias wrth fam Narcissus y caiff ei mab fwynhau hir oes ar yr amod na wnaiff fyth ddal cip ohono’i hun wedi ei adlewyrchu. Mae’r stori’n adleisio hen ofergoel Roegaidd bod gweld delwedd o’r hunan yn beryg, yn dod ag anlwc, yn ddigon i’n lladd hyd yn oed.

Er i Brexit a Donald Trump ein hysgogi i ffurfioli’r ymadrodd yn ddiweddar, tydi ‘newyddion ffug’ ddim yn ffenomenon newydd mewn gwirionedd. Y cyfryngau a’r teclynnau a ddefnyddir heddiw i’w lledu sy’n newydd. Ceir digon o dystiolaeth bod ffugio newyddion ar waith mewn cymdeithas ers canrifoedd. Yn ei hastudiaeth o Natsïaeth a Staliniaeth, The Origins of Totalitarianism (1951), mae’r athronwraig Hannah Arendt yn ein hatgoffa bod celwydd wedi ei ystyried erioed yn arf cwbl gyfiawn mewn gwleidyddiaeth, yn wir yn rhan sylfaenol o wleidydda. Heddiw, rydym ninnau yn annog ein gwleidyddion i lacio’u tafodau, yn eu condemnio i siarad am bob dim ond y gwir, trwy fynnu eu geirwiredd a’u gwthio i’n gwarchod rhag y gwir ar yr un pryd. Ac eto, y nhw, ynghyd â’n newyddiadurwyr, sydd yn ysgwyddo rhan fawr o’r cyfrifoldeb am ddiffinio beth sy’n real. 

Wrth i ffugwyr y cyfryngau newydd ledu eu pŵer trwy’n teclynnau, cynyddu mae’r galw am ddyrchafu a chydnabod ein newyddiadurwyr ‘go iawn’. Ond mae miri’r creu, megis pleser pypedwr a wêl ddawns yn codi o ddirgryniadau’r llinynnau, yn gallu bod yn drech na didwylledd y newyddiadurwr mwyaf talentog hefyd - yn drech na’r cyfrifoldeb i fod yn driw iddyn nhw eu hunain, sy’n hanfodol os ydynt am fod yn driw i’w darllenwyr.

Creu ‘realiti’ - trwy gyfrwng ffuglen - y mae’r nofelydd yntau, realiti digon cydnerth i ddal gafael yn nychymyg y darllenydd a’i argyhoeddi o ryw wirionedd sy’n werth y drafferth. Ond tybed onid oes yng nghreadigaethau hyd yn oed y ffugwyr newyddion a’r ffug-broffwydi hefyd gymaint o wirionedd i’w ddarganfod amdanom ein hunain ag sydd yna o anwiredd? Wedi’r cyfan, mae realiti a rhith yn cydorwedd yn nelwedd Narcissus yn y dŵr.

✒︎

Mewn rhyw ysbryd meidrol digon tebyg i Narcissus Ovid, hela’r pethau hynny sydd yn adlewyrchu fy mhrofiadau fy hun y byddaf wrth ddarllen, nid ceisio dirnad diddordebau’r awdur. Dyna’r gwahaniaeth i mi rhwng darllen a sgwrsio wyneb yn wyneb efo person o gig a gwaed. Nid ystyried syniadau’r awdur a’u datblygiad y byddaf wrth snwffian fy ffordd drwy destun yn gymaint â chwilio am rag-olion fy meddwl fy hun, a’r awdur a finnau wedyn yn cerdded am yn hir yn llonyddwch gwyll y goedwig, yn ymsonau cyfochrog, a dim ond ambell dro yn troi a gweld ein gilydd yng ngolau’r lloer. Rhywbeth yn debyg ddywedodd yr hanesydd Eric Hobsbawm, wrth ddod yn ymwybodol o’i ‘ffaeleddau’ yn darllen gwaith y cymdeithasegydd Pierre Bourdieu - ffaeleddau cwbl angenrheidiol, mae’n ymddangos i mi. 
 

Golygfa o ffilm ddiweddaraf y cyfarwyddwr ffilm o Rwsia, Andrey Zvyagintsev

Ar ryw hynt fel yna yr oeddwn pan ddarllenais nofel drasig arall gan un o fy hoff awduron, enillydd Gwobr Nobel 2017, Kazuo Ishiguro. Mae The Unconsoled (1995) wedi ei gosod mewn dinas ranbarthol annelwig lle clywir sawr Dwyrain Ewrop yn codi fel tarth o’r strydoedd. Mae’r dinasyddion yn straffaglu i godi statws y ddinas i brifddinas ranbarthol go iawn ac yn flin efo’r lle am fethu bod yn fesur teilwng o’u balchder, o’u hoptimistiaeth. Ond maent yn methu gweld mai y nhw eu hunain ydi hyd a lled y ddinas. Mewn ymgais i gamu o’r merddwr hwn, penderfynir atgyfodi anrhydedd cerddor disglair yn eu plith, y pianydd a’r arweinydd Mr Brodsky. Ond beth oedd hanes yr hen eilun, Mr Christoff, a ddisodlwyd gan Brodsky?

‘Oh yes I remember very well Mr Christoff first arriving in this city. ... If no one had encouraged him, I’m sure he’d have been happy to melt into the background, give the odd recital at a private function, nothing more. But it was the timing, Mr Ryder. The timing was unfortunate. Just when Mr Christoff turned up in our city, we were going through, well, a sort of hiatus [...] there was a certain feeling ... well, a kind of unsettled feeling ... ’

Yn raddol bach, yn ddigon naturiol, mi wnaeth y wên deg a’r weniaith swyno Mr Christoff o’i wâl nes ei fod yn dechrau strytian ei syniadau yn agored: ‘I’ve flowered here,’ fe’i clywyd yn dweud droeon. Ond meddai un o’r dinasyddion: ‘My point, you see, sir, was that it was we who pushed him. I do feel sorry for him now - though I dare say I’m probably the only person in this city who does. As you’ve noticed, there’s a lot of anger directed at him.’

Wedi’r pylu ar fri Mr Christoff a’r dadrithiad mawr, disgwylia’r dinasyddion yn eiddgar am wythnosau lawer i gael eistedd yng ngŵydd ei gilydd mewn cyngerdd mawreddog nas gwelwyd ei debyg erioed o’r blaen. Ond teimlo rhyddhad a wna’r gynulleidfa wrth weld Mr Brodsky, y cerddor athrylithgar - eu seren wib? - yn disgyn yn glewt ar y llwyfan, y bwrdd smwddio a addaswyd yn ffon fagl ganddo am ei ben, yn symbol o’i hurtni a’i fedd-dod. Dyma nhw wedi eu hachub rhag gorfod gwrando ar y cyfan a oedd yn ddychryn iddynt. A dyma ddechrau hiraethu am yr hen eilun, Mr Christoff, a esgymunwyd: 

   ‘They’re very relieved he collapsed like that. They realise now they want something else. Something a little less extreme.’
   ‘Something not so different from Mr Christoff perhaps.’
   Stephan thought about this. ‘A little different. A new name, at least. They realise now Mr Christoff isn’t quite the thing. They do want something better. But ... but not that.’

✒︎

Gwnaeth golygfa erthylu’r cyngerdd gan Ishiguro, y rhyddhad a dreiddiodd drwy’r gynulleidfa pan sylweddolwyd na fyddai rhaid iddynt wrando eiliad yn hwy ar ddehongliad catalytig Mr Brodsky, i mi feddwl am yr hyn ddywedodd T H Parry-Williams am dyllau hen chwareli - bod iddynt ‘eu swyn a’u harswyd arbennig’, mai yno ‘y datguddir pethau cudd’. Dyma atyniad - a gwrthdyniad - dyfnder, ‘dyfnder y gallech weld ei ymylon a’i ochrau, a’i waelod hefyd weithiau. I fechgyn ysgol yr oedd bod ar ymyl hen ddyfnjwn fel hyn yn ias ynddo’i hun hefyd, heb sôn am gyffroadau’r gweledigaethau a geid wrth syllu dros yr ymyl ac o gwmpas.’

Tybed nad ydi newyddion ffug yn debyg i hyn, yn rhan ohonom, fel ag y mae adlewyrchiad mewn dŵr ffynnon - neu grombil chwarel - yn medru cynnig i ni syniad o’n dynoliaeth; fallai mai dyma realiti yng ngwir ystyr y gair, sef yr hyn sy’n gwrthod yn glir â mynd i ffwrdd, hyd yn oed pan nad ydym yn rhoi coel arno mwyach. Nid rhyw beth anghynefin sy’n cael ei orfodi arnom i wawdio ein cyneddfau fallai mo newyddion ffug, ond rhyw adlais o rywle cyfarwydd sydd yn ein hatynnu, fel Narcissus yn gweld ei lun, fel twll hen chwarel:

Weithiau byddai dŵr wedi cronni yn y twll - ac ymddangosai ei ddyfnder yn ddyfnach na mesur ei ddyfnder, ac âi’r cerrig a luchid i lawr iddo, nid yn unig o’r golwg ac i’r gwaelod, ond, i’n tyb ni, i lawr am byth i rywle. 

Ond er mai angenfilod oedd yn hen chwareli T H Parry-Williams - nid pysgod - ni ‘ddeuent byth i’r golwg’.

✒︎

Ar daith yr oeddwn, yn darllen a synfyfyrio fel hyn, i ymweld ag ysgol, ar ddiwrnod rhynllyd, di-groeso. Wedi i mi ymlwybro efo’r plant i ben draw lein y metro, tu hwnt i ddinas Paris, ac yna gogor-droi yn nhamprwydd croesffordd brysur, yn aros am fws, mi gefais fy hun mewn gweithdy gof, ar dir yr ysgol wledig hon, a gwres y tân yn denu. Mi sefais yno yn dadmer ac yn edmygu trefnusrwydd y lle. Roedd taclau siarp ryfeddol wedi canfod eu cornel, yn bictiwr ar y waliau. Doedd dim golwg o afael Cyfundrefn Iechyd a Diogelwch ar y ffowndri ac mi ddechreuais feddwl am ystyr hoff ymadrodd byd addysg: ‘y byd go iawn’. Medrwn ddychmygu’r athrylith Mr Brodsky yn bustachu yng ngwyll y gweithdy hwn yn creu ffon well, rhyw gyfarpar fyddai’n ei alluogi i sefyll yn hir ar lwyfan, nes rhoi lle, o’r diwedd, wedi’r nodyn olaf, i’r tawelwch ddechrau seinio.

Yn adlais croes, wfftiodd un rhiant ymhen amser wrth f’ymyl: mae hyn i gyd yn ysbrydoledig, wrth gwrs, ond Beth Am y Byd Go Iawn? Daliais i sefyll a gwylio’r plant yn taro’r haearn eirias. Cefais f’atgoffa gan y gwaith ar yr einion o bleser taro fforch diwnio a’i gosod i ddirgrynu ar seinfwrdd, a’r nodyn ‘la’ i’w glywed yn gymaint yn y traed ag yn y clustiau. Dechreuais feddwl eto am y diweddebau perffaith sy’n sail i ddiweddglo cymaint o ddarnau o gerddoriaeth. Meddyliais am Pythagoras a’r hwb a roddodd am ryw hyd, mae’n debyg, i ffiseg wrth geisio gweld y cysylltiad rhwng cerddoriaeth a’r gofod. Wrth ben einion y cafodd ei ysbrydoli. Dyma’r hyn a elwid yn ‘Musica Mundana’ - cerddoriaeth y sfferau; cynghanedd yr hyn a ddisgrifiwyd gan Platon fel cerddoriaeth y byd, ‘yr un bod byw gweledol, sydd yn ei amgyffred yn cynnwys yr holl fodau byw o’r un drefn naturiol’. Mae yna ryw drefnusrwydd bendigaidd yn perthyn i’r fath drefn gerddorol. Ac eto, mynd â ni i weld yr angenfilod, nid y pysgod, y mae Bach - sy’n feistr - yn ei ffiwgiau. 

Er bod pwyslais ar galigraffi ac ieithoedd yn yr ysgol hon, fel ag ar gysylltu’r ‘deall’ ag ‘ymarfer’, y corff â’r meddwl, yn groes i’r disgwyl, doedd yna ddim sôn am Tsieineeg. Mi roedd yna ddyfyniadau mewn Ffrangeg ac Almaeneg wedi eu paentio y tu mewn i lenni lampau ac, ambell dro, ddyfyniad yn sefyll yn bowld fel sentri yn rhwystro mynediad nes bod y llygaid nid jyst wedi darllen, ond yr ymennydd wedi ystyried. Ond byddai’r arwydd am ‘gerddoriaeth’ mewn Tsieineeg wedi canfod ei le’n hwylus iawn yma, meddyliais - gwn ei fod hefyd yn arwyddo ‘gorfoledd’. 

Fy synnu a wna cerddoriaeth, wrth ymchwyddo’n sydyn ynof, a diolch i’r synnu hwn, mae’n creu pellter rhyngof a fi fy hun. Nid yn unig yn fy mhen y mae cerddoriaeth yn symud; mae’n treiddio trwy weddill y corff ac yn achosi iddo ddirgrynu; ac wrth wrando ar gerddoriaeth yng nghwmni eraill, gallaf deimlo cyswllt greddfol â hwy, fel petai’r hwyl a’r corff, yr ymwybod a’r isymwybod, yn dirgrynnu mewn harmoni unsain, am ennyd. Dyma pam mae cerddoriaeth hefyd yn medru golygu gorfoledd: mae’n cyffwrdd yr hyn ynom a elwir gennym yn deimladau, yn cysylltu ein hamgyffred o strwythurau cerddorol gyda’n ffordd o fod yn y byd. 

Tybed ai un elfen angenrheidiol o’r gerddorfa fendigaid sydd ym mherfedd y mwyafrif helaeth ohonom ydi newyddion ffug? Gall ein twyllo am flynyddoedd - nes y daw cyfle, os ydym ddigon lwcus, iddi seinio yn dunllyd fain yn ein clustiau, nes cripian mêr ein hasgwrn cefn. Dyma hefyd, fallai, ddarn o’r drych yn nŵr y ffynnon - os byddwn ddigon dewr i adael llonydd i’r dŵr adlewyrchu - lle mae cydwybod y ddynoliaeth, ein cydwybod cyfunol, yn abl i’w weld ei hun yn ei holl amherffeithrwydd a deall y gwahaniaeth rhwng optimistiaeth a’r hyn sydd i’w ddirnad yn y dyfnderoedd yn unig: gobaith. Ond heb gydnabod lle’r ffug-alawon a’r drychiolaethau hyn ynom, nodau ansylweddol fydd yn codi ohonom a negeseuon ffug y byddwn ninnau yn eu gyrru rownd y sfferau.

Mae’r gau, yr anwir, yn medru bod yn offeryn i ysgogi’r diledryw. Mae gan y ffug-broffwydi hefyd eu lle, fel y ffugwyr newyddion. Efallai mai gwasanaethu’r ddynoliaeth y maen nhw mewn gwirionedd oherwydd y nhw sy’n ein gorfodi, trwy ein cymell i edrych, i grafu’r wyneb, i graffu i’r düwch i chwilio am y trydydd dimensiwn; i gnocio’r seinfwrdd hefyd i glywed pa mor ddwfn yr aiff y dirgryniadau ac i archwilio’r tonnau sy’n cyrraedd y clustiau nid yn y pen yn unig ond hefyd yn y galon; ac i gofio mai dim ond yng nghrombil dŵr ffynnon ein cydwybod, tu hwnt i’r pysgod chwim, y gwelwn ein hunain yn gyfan. Brenhiniaeth wag fydd teyrnas yr un sydd wedi meistroli popeth. Dyna pam mai’r dasg fwyaf wrth fynd ar ein hynt drwy fywyd, wrth hela’r twrch trwyth, ydi ymarfer synnwyr beirniadol - a gwrando’n astud ar ein greddf ar yr un pryd. Dysgu sut i arfer y ddeuawd honno ydi addysg ar gyfer ‘y byd go iawn’. 

Ambell dro, fel y ffilm neu’r llyfr neu’r darn cerddoriaeth sydd yn cadw oed yn ddiarwybod i ni, yn ein gwylio’n ddistaw, daw realiti hefyd i chwilio amdanom, a’n hachub rhag ein hunain. Meddai T H Parry-Williams:

Y mae’n ddiau gennyf fod rhywrai o hyd, fel y bechgyn gynt, yn casglu argraffiadau o hen chwareli, heb wybod iddynt eu hunain. Hwynt-hwy sydd yn darganfod ac yn dal yr hen bethau yn awr; ond y mae mor sicr gennyf â hynny y daw’r hen bethau hyn yn ôl a’u dal a’u darganfod hwythau - hen bethau anghofiedig o’r gorffennol yn dychwelyd i’r ymwybyddiaeth yn newydd-deb eu harwyddocâd.

Hen chwarel, - nid hen gredo na hen gromlech, nid cwpwrdd tridarn na jẁg hen-ffasiwn. Tomen a thwll - dyna i gyd.                                         

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Ceir digon o dystiolaeth bod ffugio newyddion ar waith mewn cymdeithas ers canrifoedd

Dyddiad cyhoeddi: 30·03·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Dyfrig Williams

Mae cyfrol ddiweddaraf Mariana Mazzucato, Athro yng Ngholeg Prifysgol Llundain, yn ddadl angerddol dros fuddsoddi a gwario er budd ein dyfodol. Yn ôl yr awdur, dylid ailfeddwl y berthynas rhwng marchnad a llywodraeth a bod yn gwbl lygatglir ynghylch pwy sydd yn…

Adolygu


Pedr Jones

Ar drothwy’r Rhyfel Mawr, roedd tueddiad gan y Cymry i gysylltu militariaeth â Seisnigrwydd, Eglwys Lloegr a gormes landlordiaeth. Yn y gyfrol bwysig hon gan Aled Eurig, sydd yn ffrwyth ymchwil archifol sylweddol, cawn ein hatgoffa bod nifer y Cymry a ymunodd â’r Fyddin yn…

Dadansoddi


Angharad Dafis

Aeth tridiau heibio bellach ers i gabinet Cyngor Dinas a Sir Abertawe benderfynu yn unfrydol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre. Bu’n dridiau anodd. Rwyf wedi bod yn galaru droeon am anwyliaid. Mae hwn yn alar gwahanol: galar am gymuned benodol iawn…

Dadansoddi


Mabon Llŷr Hincks

Benben â’i gilydd, mewn cydbwysedd perffaith, mae dau gerflun yng nghanol cylch. Heb fwy na lled bys rhyngddyn nhw, does dim dwywaith nad ar y bwlch bychan hwn yr hoelir ein sylw gyntaf. Nid sefyll yn urddasol a wna’r siapiau rhyfedd ychwaith, ond…

Adolygu


Llio Mai Hughes

Nos Wener, 15 Mawrth, perfformiodd Cymdeithas John Gwilym Jones eu cynhyrchiad cyntaf yn Stiwdio Pontio, Bangor. Ac Eto Nid Myfi oedd y ddrama, a phob tocyn wedi’i werthu. Roedd Pontio yn llawn bwrlwm wrth i’r dorf ymgasglu; yn eu mysg roedd myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, darlithwyr,…

Cyfansoddi


Emyr Lewis

Mae Lana Turner 'di colapsio! O'n i'n trotian heibio ac yn sydyn ddechreuodd hi fwrw glaw a bwrw eira a deudist di ei bod hi'n bwrw cenllysg ond mae cenllysg yn dy hitio di ar dy ben yn galad felly go iawn ... 

Cyfweld


Sioned Puw Rowlands

Roedd hi'n llonydd braf uwch ben moryd Dyfi fis Chwefror eleni. Yn gynnes. Roedd yr eithin wedi hen agor ei des melyn i'r cloddiau. A oedd pioden ddŵr – yr halcyon – wedi drysu a rhithnythu ar y môr gan leddfu'r dyfroedd? Fel y byddai ar fyrddydd gaeaf, yn ôl awduron…

Adolygu


Angharad Tomos

Da oedd gweld y theatr yn Pontio yn gyfforddus lawn ar nos Iau, 21 Chwefror ar gyfer y ddrama Anweledig. Roedd y cynhwysion cywir ar gyfer noson dda yno – Ffion Dafis yn gwneud sioe un wraig, ac Aled Jones Williams yn awdur. Ychwanegwch ddyfeisgarwch…