Cyfansoddi

Filò

Rhagflas o nofel

Siân Melangell Dafydd

FILÒ

Gomer, £8.99, Mawrth 2020

Siân Melangell Dafydd

Amser darllen: 15 munud

29·11·2019

O'r arddangosfa Lila gan John Blakemore. Gyda diolch i'r ffotograffydd am yr hawl i atgynhyrchu'r llun.

Ar y daith, y peth cyntaf wnaethom ni – cyn penderfynu pwy oedd yn foi go lew a phwy oedd yn fwli, cyn adrodd straeon ymuno â’r fyddin, a chyn rhoi enwau newydd i bawb, y peth cyntaf oedd rhannu clwyfau.

Roedd gennym bethau sydd heb fodoli wedi hynny: crach morgrug, clustiau sylffwr, pi-pi piws, siarcod yn codi o’n crwyn. Os allem ddychmygu’r peth, roedd o’n bodoli.

Cyn i ni gael ein hanfon i unlle fel soldati, roeddem i fod i gael brechiad teiffoid. Nid fod awydd hynny arnom. Roedd Elmo, Pietro, Giorgio a finnau – bois y Prealpi eraill hefyd, criw da – wedi bod yn ciwio i’w gael o rhag ofn i ni gael ein certio i Rwsia, ond hwnnw oedd yr union ddiwrnod pan benderfynodd y Saeson ein straffio ni hefo bwledi. Cavolo Inglesi! Jest pan oeddem ni’n magu dewrder i gael llond braich o nodwyddau aeth chwe awyren heibio, a bang, bang! Aethom i gyd o dan fyrddau’n reit sionc. Errore oedd o, ar eu rhan nhw. Doedd y Saeson ddim wastad yn gwybod ble roedden nhw’n mynd. Ond anghofiodd pawb am y brechiadau yn y caos. Roedd Tommaso yng nghynffon y ciw yn rhywle hefyd, yn dweud y byddai ei fam yn gwrthwynebu rhoi tyllau yn ei fraich. Diolch wnaethom ni i gyd ein bod wedi osgoi’r medics a’u nodwyddau ar y pryd, ond erbyn dyddiau’r Maloja roeddem yn beio teiffoid am bopeth: am wneud i’n trwynau deimlo fel trynciau eliffantod, neu roi pryfed cop maint yr anialwch rhwng ein clustiau. 

Roedd un ohonom yn ei fync yn methu rhannu ei glwyfau – 349753. Pharodd o ddim yn hir. Arwydd gwell os oedd dyn yn cwyno, yr adeg honno. Povero, roedd o’n denau fel stecco fel roedd hi, ac yna dechreuodd wneud synau fel iâr angen dodwy gan ddangos ei donsils a’r rheiny mor fawr ag Affrica rhwng ei ddannedd. Da fyddai wyau wedi bod hefyd, petai o wedi’u dodwy. Go brin, magari, ond fan’no roedd o, yn chwifio’i adenydd ac yn methu hedfan, methu dodwy, methu gwneud pa beth cavolo bynnag oedd o angen. Felly mae dyn ar y ffordd i weld ei well, yn llawn egni. Bu farw. Wrth gwrs. Gwell felly. Roedd ganddo lun o ferch dywyll mewn patsyn o india-corn ym mhoced ei frest, ac mae’n siŵr fod un yn ein mysg wedi’i benthyg hi wedyn. Amser brecwast, cyn i ni gael ein piece of bread, taflodd Sgt White fol y bachgen dros ei fraich a mynd â fo allan drwy’n drws i’r dec. Cerdded y planc wnaeth o, y bachgen yna. Boi dewr, y dewraf o’r dewraf, druan. 

✒︎

Roedd llau pen; broncitis; laryngitis; darwden; ecsema; asma; dolur rhydd; rhwymedd; chwd am ddim rheswm; clefyd melyn – a lliwiau eraill, yn ôl ambell un – cornwyd; clewyn; celwydd; esgyrn wedi torri; gewynnau rhwyg; cleisiau – ond cyn belled nad oedd teiffoid – alora, tutto bene.  

Y frech goch; meningitis; y pas; ffliw; diptheria; y clefyd coch; brech hefo brech arni; peils; diciâu; colpo d’aria. Roeddem ni’n arbenigwyr ar salwch.

Roedd migyrnau wedi chwyddo; poen cefn; cur pen; cerrig bustl; gowt; gwynt; dŵr poeth; ysgyfaint swnllyd; cariad.

Ond neb wedi’u llosgi. Doedd dim un ohonom yn beilot. Dim ond milwyr troed a’n traed yn bictiwr, wedi’u hailsiapio fel rhawiau a slefrod môr a chalonnau ych. 

Roedd Tommaso’n un da am wella drwy weddïo. Wir, roedd ei weddïau ar donfedd Duw. Achubwyd Elmo o’i hunllefau, un arall â phas neu beswch neu ysgyfaint giami yn gwella cymaint nes y gallai ganu hwiangerddi i rythm y môr cystal â Sex. Santa Bernadetta!      

Daethom at ein gilydd hefo fo yn y canol, ffrind Duw, pawb ar fync, yn pilio darnau o’n gwisgoedd yn ôl, yn dangos clwyf neu ddarn melyn, craffu a gweddïo. Roedd rhai eisiau help llaw; rhai eisiau llaw gan fod esgyrn eu dwylo wedi rhewi mewn siâp dal gwn a tydi hynny ddim yn beth defnyddiol i PoW. Roedd rhai eisiau pace, rhai eisiau gwell pen gwalltog i fod yn fwy bello i’r merched, rhai eisiau bod yn ‘well’ a ddim yn gwybod yn lle yn eu cyrff yn union i gychwyn.

Ond roedd Rodolfo hefyd yn ddoctor go iawn, meddai o. Doedd gennym ni ddim llawer i’w ddweud wrtho fo heblaw am y tro pan oedd yn rhaid torri coes chwith Oswaldo cyn i’w gorff cyfan droi’n wyrdd. Cawsom gyllell o fath gan Sgt White, anesthetig gan y cwc, ond Duw a ŵyr beth, ac roedd yn cwyno fel cinghiale am oriau. Yn y bore, roedd dannedd Oswaldo druan fel blodfresych, a’i goes wedi’i thaflu i rywle – i’r siarcod efallai. Ond doedd o ddim gwaeth ar ôl hynny.   

Ar y Maloja, ar ôl y clwyfau, roedd cariadon. Byddem yn galw Elmo yn Maria ar ôl ei Maria, Pietro yn Esmerelda, Tommaso yn Mamoni gan mai Mami oedd ei fyd o. Pwrs gan Mario, rywsut wedi’i gadw’n saff rhag yr Anzacs. Llun o ferch bochau crynion. Lledr coch. Petra, meddai. A chysgai hefo’i waled wag wedi’i gwasgu i’w frest fel bod honno’n siŵr o’i arbed rhag bwled. Bu pob un ohonom yn cysgu fel petai bwledi ar fin ein pledu, er mai diffyg bwyd oedd yn gwneud tyllau. Tyfai madarch hyd ein crwyn; ffwng bywiocach na ni.

Ac yna roedd ambell un heb gariad go iawn, na gwraig ychwaith. Rhy ifanc, rhy swil, rhy brysur. Ffodus, meddai rhai, dim ond un corff byw i boeni amdano. Neu anlwcus ddiawledig – poverini – erioed wedi rhoi ei law ar gorff merch. Ond ecco, ni allem gytuno ar bopeth, adar o’r unlliw ai peidio, carcharorion yn rhannu’r un aer ai peidio. Cipiodd un ohonom lun cariad y bachgen gerddodd y planc a’i roi yn ei boced ôl ei hun. Gwyddem pwy, ei gasáu a’i ddamio a damio ni’n hunain am beidio meddwl ynghynt na fo. Fin nos, gallem glywed ymyl bys ar bapur ffotograff o’i gyfeiriad o. Roedd dwyn cariadon yn ddigon cyffredin rhwng ffrindiau hefyd, yn enwedig rhai ffuglennol. 

Oeddem ni’n genfigennus o gariadon ein gilydd yn dawel bach? Yn dychmygu tynnu dillad Maria nes bod ei gwên welw hi’n O goch, yn O fawr, ac ysgwyddau ei ffrog felen am ei dwy ffêr. Oeddem. A Maria’n dlysach. Gymaint più bella nag Esmerelda, dyna’r gwir. A Petra’n edrych fel chwaer pawb – mwya’r piti. Hogan iawn, mae’n rhaid. Byddai sawl un ohonom yn deffro â’n llygaid yn biws-felyn. Ar Maria oedd y bai, a’n breuddwydion amdani.       

Ond yr un fath oeddem i gyd, Maria rhyngom ai peidio. Ragazzo ydi ragazzo, yr un breuddwydion gennym i gyd, hyd yn oed os oedd y manylion yn amrywio. Digon medrus, digon del. Hyfforddwyd ni sut i gerdded i’r un drwm, i wneud heb gwsg, i drin yfflon o ddryll – pawb yr un fath. Caru’n gilydd. A rhyngom ni, Sgt White yn patrolio. Byddai’n dod heibio bob rhyw hanner awr, cysgod lwmp ei wn ar ei glun. Dim ond y Giards oedd â gynnau erbyn hynny. Dim ni.  

Cydiais yn y syniad o Pina heb ynganu ei henw. Doedd pawb ddim yn rhannu popeth yn syth bin. Roedd hi’n fwy delicet na’r Marias a’r Esmereldas, a wyddwn i ddim, petawn i’n dweud ei henw yn uchel, efallai y byddai wedi diflannu’n gyfan gwbl. 

O’n gwlâu, roeddem yn gallu ymestyn a chyffwrdd bysedd ein gilydd yn y bwlch. Pietro yr ochr arall i’m gwely i. Gallem ddarllen gwefusau: un foch yn fflat ar y gwely â’n llygaid wedi’u lled-gau. Galwai rhai Sgt White yn llyffant, yn lwmp, yn hogan fach ac yn asyn y tu ôl i’w gefn; rhai eraill yn dweud Buona Notte, ’Note, ’Note ac eraill yn cyfnewid enwau o wely i wely: Maria, Esmerelda, Petra ...  [...]

✒︎

Doedd y Cymry ddim callach beth oedd contadin. Rhoesom oslef Eidaleg i’w gair Cymraeg, felly – fferm oedden nhw’n ei ddweud. Trodd fferm yn ferma – rhywbeth oedd yn perthyn i ni i gyd. Ambell ferma yn lle da, ambell ferma arall yn ein gwneud ni’n falch o fynd yn ôl i’r camp i weld ffrindiau ar y Sul. Y gorau o ddau fyd. 

Cyrhaeddom ein ferma fel cyrraedd ynys. Fe’n gadawyd dri chan llath o’r drws ffrynt, neu ar ben y ffordd, a rhywun yn dweud,

Dos – gan wybod mai ni oedd nesaf. Gwaedd,

Nant Rhiannon, Huws family, Fontana, 159042! 

Roedd y ffermydd yn debyg iawn i’w gilydd. Y tymhorau oedd yn newid, a’r cymeriadau, wrth gwrs. Yn gyntaf, gwraig neu ferch yn dweud llond ceg o nonsens a Bòs, Bòs, rhywbeth rhywbeth a Bòs. Deall fod o – y Bòs – yn bwysig ac yn air ddigon handi i’w ddysgu.

Cawsom welingtons. 

Buom yn cyfathrebu drwy arwyddion dwylo.

Gweithiom fel ffyliaid. Doedd dim syniad gennym pam. Wedi meddwl, aeth neb ati i’n gorfodi i weithio. Ein bai ni oedd gwneud hynny, neu ein dewis. Rhywbeth i gymryd lle sgwrs. Roeddem ar lwgu o hyd, ond roedden nhw’n ddigon hael hefo bwyd gan amlaf. Efallai mai hynny ...

A phan gawsom ni fwyd, roedd gan rai ohonom ofn cnoi’n rhy swnllyd a chael ein hanfon o’no. Buan y daethom dros hynny hefyd. 

Ferma Nant Rhiannon oedd y ferma a ofynnai amdanaf amlaf; gofyn am Beppe hefyd pan oedd y gwaith yn drwm. Y noson gyntaf – mewn gwely arall, eto fyth. O wely i wely, una cosa tira l’altra; roedd bywyd fel pigo ffordd dros afon heb wlychu. Daliais fy mol a’u bwyd nhw ynddo, aer oer ar fy mhen-lin tu hwnt i’r cwilt. Gwlâu culion oedd gwlâu benthyg, a gwrthbannau culach fyth. Nid matras palliasse blew ceffyl, fel y camp, oedd ar ffermydd. Cwsg dynion rhydd oedd brethyn a chotwm. O’r lle y gorweddwn i, roedd yr aer yn llac. Y noson cynt, roedd Lucio mewn bync lathen o’m trwyn, a’r noson honno teimlais golled bod mewn lle cyfyng. A phob un ohonom, o bell, yn rhannu’r un teimlad, am wn i. Roedd gofod. Ac wedyn roedd golau o’r gorllewin. A chwyrnu hefyd o’r gwely arall lle cysgai Trebor, y gwas fferm. Chwyrnwyr oedd y Cymry,
yn arbennig ar ôl cwrw – yfflon o sŵn. Pa syndod fod y gweision fferm yn ddibriod!

Pa air neu eiriau bynnag roedden nhw wedi’u dweud wrthom ni yn ystod y dydd, byddwn i’n eu hailadrodd wrth fethu cysgu. Eu dialetto nhw’n dalismonau yn y tywyllwch.
 

Tulipa – Garden of earthly delights, 1 (3) gan John Blakemore


Y noson gyntaf yn Nant Rhiannon allwn i ddim cysgu. Preoccupato, dyna’r drafferth, proprio. Ni allwn gofio lle rhoddodd y Bòs fy mhac. Fi oedd pia fo. Lle roedd o? Yn y gegin, y parlwr, y cwt dan staer? Dyna sy’n digwydd pan mae mwy o le ar gael – mae dyn yn ei lenwi ac yn colli pethau. I ddechrau, allwn i ddim darllen eu hwynebau nhw ddigon i wybod a ddylwn i roi fy mhac i lawr ar eu llawr nhw. Wedyn, ble oedd yn addas? Ac wedi’i roi o i lawr, panig. Ond doedd dim byd o werth ynddo fo. Niente di prezioso. Ond niente fi. Lira amhosib ei wario; braslun oeddwn i wedi’i wneud o Pina, ond roedd ei llygaid a’i dwylo’n rhy fawr ynddo; ffotograff o ferch arall oedd yn bwysig i ryw foi arall a finnau wedi’i hachub hi; Brylcreem; hances goch ... Lle roedd y pac? Feiddiwn i ddim mynd i chwilio amdano. Ac wedyn roedd eu bwyd nhw’n casglu’n gwmwl o bryfed genwair yn fy mol. 

Dylwn i fod wedi arfer mynd o le i le, o gamp i gamp, ond roedd teulu – rhywbeth precioso – yn fy nghadw’n effro, er y gwely, y cysur. Efallai y baswn i wedi cysgu’n well ar fy nhraed fel tylluan wedi’r cwbl. Y byd yn aildrefnu ei hun i greu stori ddel yn aros amdana i’r diwrnod wedyn a finnau fel bambino cyn dyfodiad San Nicolò. Dyna oedd Cymru i ni, gwlad santo dei regali. Ni – y bambini. A regali rif y gwlith – anrhegion i’w cael bob bore fel gwên gwraig uwchben sosban uwd, fel welingtons yn ffitio, fel haul bore bach ar farrug, fel te yn fy mol wrth i ni gerdded dros eu caeau nhw. Fel Cymraes yn dweud gair cyfrin, gair tu hwnt i’w byd hi – Bondì yn Solighese. A gwenu fel petai gair hud ganddi. Nid Bore Da. Nid Buongiorno. Nid Ciao. Nid Salve. Bondì, fel bore yn Pieve, fel merch o ’myd i, fel adre. Bondì i ddechrau’r dydd. 

Felly ffeindiais rywbeth arall i boeni amdano: beth petaen nhw’n fy nghael i’n amherffaith rywsut? Doeddwn i ddim yn proprio proprio holliach. Ac nid bachgen bron-yn-holliach oedden nhw wedi’i archebu, dybiwn i. Ar hyd fy mol, fel map gwlad ffuglennol, roedd marciau rhyw bla. 

Meddyliais am Beppino yn fy nghyhuddo o fod yn waeth na stupido. 

’Di’r tipyn doctor yna’n gwybod dim byd. Sut all dyn o dy faint di gael salwch dyn tew, d’wed wrtha i?

Non lo so.

Neu salwch plant. Faint ydi dy oed di, dimmi? Wel, efallai bo’ ti mor denau â ffon gerdded, ond dwyt ti ddim yn blentyn mwyach, Fontana. Mae’r rhyfel wedi cnocio hynny allan ohonot ti, ha! Ac mi weles i ti’n edrych ar Miss Bore Da.  

Mi welest ti’r blodau yma ar fy mol i, Beppi. Yli! Yli!  

Roedd y marciau wedi bod yno ers cyn inni adael yr Aifft. Madarch, ddwedon nhw, oedd yno. Cyn hir, yn magu gwreiddiau, a’r rheiny’n plannu eu hunain ym mha bridd bynnag oedd agosaf. Gorau po gyntaf i’r rhyfel ddod i ben, dywedais wrthyf fy hun, neu byddai’r pridd yn bridd go bell o adref. Mae madarch mewn symbiosis â’i gilydd ac â’r holl blanhigion drwy’r pridd, meddai Pietro; meddyliais amdanyn nhw’n rhannu nitrogen drwy fy nghorff. Gwell oedd peidio. 

Roeddwn i’n weddol hoff o’r madarch, er hynny. Allwn i ddim eu teimlo fin nos, wrth orwedd ar fy nghefn, ond roedden nhw yno, yn fy ngwreiddio yng Nghymru bellach. 

Mynnai Beppino, siawns os oedd ffansi merch gen i, fy mod i’n iach. Fod awch byw yn fy nghorff, a dyna’r unig beth oedd yn bwysig i’r bobl bwysig.  

Dwi’n cymryd fod gen ti. Oes? Oes gen ti awydd?

Oes, meddwn innau wrth Beppino y diwrnod hwnnw.  

Bachgen da! Yn Gymraeg ddywedodd o hynny, anche. Nid Eidaleg na Saesneg, ond Cymraeg ag acen dda. 

Gofynnais yr un cwestiwn yn y gwely cul yn ferma Nant Rhiannon y noson gyntaf yno. Wyt ti isio, allet ti? Nid dyhead am honno roddodd groeso i mi beth bynnag. Roedd godidogrwydd iddi, yn arbennig am ei bod mor lletchwith am y peth. Ond hefyd, mor welw fel gallwn i fod wedi gweld reit trwyddi, petai’r golau’n iawn. Golau Venezia fyddai wedi gwneud y tric: llawn llewyrch dŵr ond eto’n gynnes fel tu mewn i rawnwinen. Mewn golau fel yna byddai Gwyneth Harriet wedi bod yn dryloyw.

Ac felly, doedd dim cwsg, Madonna mia. Gwthiais fy nhrwyn i’r gobennydd, troi, pwnio, rhoi pen-ôl oer allan o’r flanced, trosi, meddwl efallai fod y dyhead wedi mynd. Allwn i ddim meddwl am ddim byd ond y lle newydd, Nant Rhiannon, yn dŷ hefo waliau lled braich a’r byd newydd yn y tywyllwch i bob cyfeiriad a sŵn cloc yn rhywle hefyd – cloc tic-toc swnllyd – a’r ffaith i mi addo mynd yn ôl i’r camp ddydd Sul ond, yn sydyn reit, doeddwn i ddim mor siŵr. Dim beic. Allwn i ddim. Ac roedd y lle’n rhy dawel i mi gysgu wedyn, ar wahân i’r tic-toc ac anadlu Trebor yn y gwely yr ochr arall i’r ystafell. Ac roedd hwnnw’n anadlu mor eiddil â chwythwr gwydr yn ei drwmgwsg – chwyrnu wedi tewi. Doedd gen i mo hynny fel esgus erbyn perfeddion nos. Disgwyliwn am anadl Oswaldo a Beppi o’r byncs yn y tywyllwch – neu Mario yn gwneud ei dablau – ond roedden nhw yn eu gwlâu culion eraill. Meddyliwn wedyn fod Oswaldo a Beppi yn farw yn eu cwsg. Deffrais o’m hanner cwsg a deall lle roeddwn i. Siŵr fy mod i wedi pendwmpian rywbryd.   

Dylwn fod wedi arfer. Sawl noson oeddwn i wedi cysgu ar fy nhraed? Ond o roi gwely i mi orwedd ar fy nghefn, doedd dim gobaith. Roeddwn i wedi blino gormod i gyrraedd cwsg. A hi – mor brysur – bron i mi feddwl: ‘peth fach brysur’. Mor bell oedd hynny o’r gwir. Sut oedd hi wedi tyfu mor dal mewn gwlad heb haul, a’i mam hi mor fychan?

Gwyneth. Tlws. Ewinedd caled ganddi, rhai sgwâr. Llaw yn crynu ar ymyl y drws, on’d oedd o? Ei hwyneb yn olygus ond nid yn hardd. Rhywbeth fel Madonna amdani – a’r peth odiaf un, welais i erioed berson mor welw. Y clytiau pinc ar ei bochau, ei thrwyn a blaen ei chlustiau yn ei gwneud yn real, proprio. Yfai fel pysgodyn a bwyta fel dryw. Dim gwin ar ei bwrdd, ond dyna roeddwn i’n ddisgwyl. Roedd hi wedi’i chreu i fod yn hanner cant, rywsut. Fyddai hi byth yn colli ei thlysni – hynny oedd ganddi – er mor od. Gwyneth. 

Gwyddwn ystyr ‘Gwyn’. Roedd dau filwr o Gymru yn Gwyn rhywbeth neu’i gilydd. Roeddwn yn adnabod hanner y ferch yma felly, penderfynais. Gwyn: bianca. A dyna oedd hi.   

Yn hogyn bach, arferwn wisgo crys llewys cwta gwyn i chwarae pêl-droed er mwyn i’r baw ddangos yn glir. Dyna oedd y ferch yma: gwelw-lân, perygl o’i staenio. Sensitif. Ei gwallt melyn â gwawr binc yn yr ymylon. Penderfynais hoffi Gwyneth. Roedd hi’n dweud Bondì fel petai’n iarll, iarll â mwstásh a bol mawr a phawb ofn dweud yn blwmp ac yn blaen ei fod yn dew: dyna pwy oedd ei Bondì hi. Iarll o Valdobbiadene. , , dyna wnes i’r noson ddi-gwsg gyntaf yna – penderfynu hoffi’r Gwyneth yna. Ond penderfynais aros cyn dod i unrhyw gasgliad am y lleill: y Bòs; y ddynes, Morfydd; a Trebor.          

Byddai Mario’n dweud bod iaith fel adeiladu wal sych, bod angen ffeindio’r darnau – eu bod nhw i gyd yno ond i ni fagu’r gallu i sylwi. Felly ystyriais yr ‘eth’ yn Gwyneth. Cawres. Duwies o ryw chwedl. Oedd chwedlau yn y wlad yma fel yn yr hen Rufain, tybed? Oedd ganddynt Maia, duwies twf, tybed? Ond allwn i ddim ffeindio geiriau Cymraeg i ofyn cwestiynau mor Eidalaidd. Ddim hefo’r chydig swmp o eiriau oedd gen i’n rhuglo yn fy mhen. Felly, gwnes fy stori fy hun iddi – , , ‘mawr’ oedd ystyr ‘eth’, mae’n rhaid, fel ‘issimo’ ar ddiwedd ansoddair. Weithiau, roedd iaith mor hawdd â hynny, hyd yn oed os oedd cymalau a chwestiynau am dduwiau ac enwau planhigion ac esbonio beth i’w wneud hefo pladur neu beth oedd yn fy mhen go iawn yn amhosib. Ond hawdd oedd dadansoddi Gwyneth, y gawres wen; petai hi wedi trio, gallai fod wedi lapio’i braich am fy ngwasg ddwsin o weithiau. Mewn oes arall, byddai wedi’i thaflu i’r llewod ac wedi byw. Byddai’n santes. Neu’n cael ei gosod fel piler i gadw palas yn solet yn erbyn tywydd drwg, ffrwydriad folcanig, daeargrynfeydd. A dyna ddywedais wrthyn nhw yn y filò nes oedd pawb eisiau cip arni.

Gwyneth. Roedd y syniad ohoni’n ddigon i gadw cwsg allan o fy nghyrraedd. Rhestrais bethau eto.  

Danadl poethion; uwd; araf; ffos; Rhosllannerchrugog. Cefndryd; ŵyn; mathau o laswellt; ffrwd geiriau yn prancio a meddyliau pell, nes sylwi fy mod i newydd ddeffro a ddim yn cofio’r ffin rhwng dwy stad ddeffro. Ond cysgu wnes i, mae’n rhaid, ac yn drwm.  

Cyhoeddir y detholiad hwn â chaniatâd caredig Gwasg Gomer. 

Bydd Filò gan Siân Melangell Dafydd yn cael ei chyhoeddi yn y gwanwyn. Mae arddangosfa o waith y ffotograffydd John Blakemore i'w gweld yn Galeri a Siop Lyfrau Penrallt, Machynlleth hyd 21 Mawrth 2020. 

Roedd y marciau wedi bod yno ers cyn inni adael yr Aifft. Madarch, ddwedon nhw, oedd yno. Cyn hir, yn magu gwreiddiau, a’r rheiny’n plannu eu hunain ym mha bridd bynnag oedd agosaf

Pynciau:

#Rhifyn 11
#Siân Melangell Dafydd
#Nofelau