Cyfansoddi

Gair am eiriau

Václav Havel

Amser darllen: 15 munud

28·07·2018

Václav Havel yn ei gartref ar 29 Rhagfyr 1989, yn paratoi at achlysur ei urddo yn Arlywydd Tsiecoslofacia.
Llun gan Tomki Nĕmec  


Geiriau Lenin – beth oeddynt? Geiriau gyda’r gallu i’n rhyddhau neu, i’r gwrthwyneb, geiriau twyllodrus, peryglus, geiriau y’n caethiwir ganddynt, yn y pen draw? Parhau i gynnau anghytundeb chwyrn ymysg aficionados hanes Comiwnyddiaeth y mae’r ddadl hon ac mae’r anghytuno’n debyg o refru a chwythu am amser eto. Fy nheimlad i, yn ddieithriad, yw mai geiriau gorwyllt oeddynt.

A beth am eiriau Marx? A wnaethant gyfrannu at ddadlennu haen arall i fecanwaith cymdeithasol, a oedd ynghudd efallai? Neu ai dim ond hadyn tywyll yr holl goulags hynny a berthynai i’r dyfodol oedd ei eiriau? Ni wn yr ateb: y tebygrwydd yw mai gwir y ddeubeth hyn.

A geiriau Freud? Ai dadlennu a wnaethant gosmos cyfrinachol yr enaid dynol? Neu ai dim mwy na cheg ffynnon y celwydd hwnnw sydd bellach yn merwino hanner America oedd ei eiriau, sef ei bod yn bosib gwared ein gwewyr a’n heuogrwydd dim ond i ni eu cael wedi eu dehongli gan arbenigwr, am bris?

Ond mi fyddwn i’n mynd gam ymhellach ac yn gofyn cwestiwn hyd yn oed mwy pryfoclyd: beth oedd gwir natur geiriau Crist? Ai dechrau ar gyfnod o waredigaeth ac un o gyneddfau diwylliannol mwyaf pwerus hanes y byd oedd y geiriau hyn – neu ai ffynnon ysbrydol y croesgadau, y chwilysoedd, difodiant diwylliannol yr Indiaid Americanaidd, ac yn fwy diweddar, yr holl dwf yng ngrym y dyn gwyn; geiriau yn gyforiog o groesddywediadau, a arweiniodd at gymaint o ganlyniadau trasig, gan gynnwys y ffaith bod y rhan helaeth o’r byd dynol wedi ei ymddiried i’r categori digalon hwnnw a elwir gennym yn ‘Drydydd Byd’? Daliaf i feddwl bod Ei eiriau Ef yn perthyn i’r categori blaenorol, ond ar yr un pryd, ni allaf anwybyddu y pentwr llyfrau sydd yn amlygu i mi bod rhywbeth, yn anymwybodol felly, ymhlyg yng ngeiriau Cristnogaeth – rhywbeth sydd, hyd yn oed yn ffurf buraf, gynharaf y geiriau hyn, o’i gyfuno gyda myrdd o amgylchiadau eraill, gan gynnwys hirhoedledd cymharol y natur ddynol, yn abl i baratoi’r ffordd yn ysbrydol, rhywsut, hyd yn oed at y pethau dychrynllyd a restrais.

*

Mae i eiriau hefyd eu hanes.

*

Ar un adeg, er enghraifft, ar gyfer cenedlaethau cyfan o’r rhai a ormeswyd, roedd y gair ‘sosialaeth’ yn synonym cyfareddol ar gyfer byd cyfiawn, ar gyfer cyfnod pan oedd pobl yn abl i aberthu blynyddoedd lawer, eu bywydau hyd yn oed, i’r ddelfryd a fynegwyd gan y gair hwn. Ni allaf siarad am eich gwlad chi, ond yn fy ngwlad i, mae’r gair arbennig hwn – ‘sosialaeth’ – wedi ei drawsffurfio ers tro yn bastwn cyffredin a ddefnyddir gan fiwrocratiaid sinigaidd ac ariangar i guro eu cyd-ddinasyddion rhyddfrydig o fore tan nos, gan eu labelu yn ‘elynion sosialaeth’ a ‘grymoedd gwrthsosialaidd’. Mae’n ffaith: yn fy ngwlad, ers amser bellach, ni fu’r gair hwn yn fwy na llafar-gân i’w hosgoi oni bai bod rhywun yn dymuno codi amheuaeth. Bûm yn ddiweddar mewn protest ddigymell – nid un wedi ei threfnu’n benodol gan y disidenty; roeddem yn protestio yn erbyn gwerthu un o rannau prydferthaf Prâg i filiwnydd o Awstralia. Pan aeth un o’r siaradwyr ati i geisio atgyfnerthu ei gondemniad llym o’r prosiect, trwy gyhoeddi ei fod yn ymladd dros ei gartref yn enw sosialaeth, dechreuodd y dyrfa chwerthin. Nid oherwydd fod ganddynt unrhyw beth yn erbyn trefn sosialaidd gyfiawn, ond yn syml oherwydd eu bod yn clywed gair a ddefnyddiwyd ers blynyddoedd lawer fel llafar-gân, a hynny ym mhob cyd-destun posib ac amhosib, gan gyfundrefn sydd ddim ond yn gwybod sut i fanipiwleiddio ac iselhau pobl.

Am dynged ryfedd sydd i ambell air! Ar un adeg mewn hanes, roedd hi’n bosib i bobl ddewr, ryddfrydig gael eu gyrru i garchar oherwydd bod gair penodol yn golygu rhywbeth iddynt; ac ar adeg arall, yr oedd yr un bobl yn gallu cael eu gyrru i garchar oherwydd bod yr un un gair wedi peidio â golygu unrhyw beth iddynt, oherwydd ei fod wedi ei drawsnewid o fod yn symbol o fyd gwell i fod yn figmars teyrn delffaidd.

Nid yw’r un gair – nid ‘gair’ yn yr ystyr trosiadol a olygaf yn y fan hon – yn cynnwys yr ystyr a briodolwyd iddo mewn geiriadur etymolegol a dim arall. Mae pob gair yn adlewyrchu’r person sydd yn ei ynganu, y sefyllfa y caiff ei ynganu ynddi, a’r rheswm dros ei ynganu. Gall yr un gair, ar adeg benodol, ddisgleirio â gobaith dwfn; ar adeg arall, gall gyfleu pelydrau angheuol. Gall yr un gair fod yn wir un funud ac yn anwir y funud nesaf, yn goleuo un eiliad ac ar eiliad arall yn twyllo a chamarwain. Ar adeg arbennig, gall agor gorwelion gogoneddus, ar adeg arall, gall osod traciau ar gyfer archipelago cyfan o wersylloedd crynhoi. Gall yr un gair ffurfio conglfaen heddwch, ac ar achlysur gwahanol, danio peiriant-saethu â’i bob sill.

Mae Gorbachev am achub sosialaeth trwy economi’r farchnad a rhyddid mynegiant, tra mae Li Peng yn gwarchod sosialaeth trwy lofruddio myfyrwyr, a Ceauşescu trwy ddymchwel ei genedl. Beth yw ystyr y gair hwn ar wefusau’r cyntaf, a beth yw ei ystyr ar wefusau’r ddau arall? Beth, yn wir, yw’r dirgelwch hwn a achubir mewn ffyrdd mor anghymesur?

Cyfeiriais at y Chwyldro Ffrengig a’r datganiad gogoneddus a ddaeth yn ei sgil. Llofnodwyd y datganiad gan ŵr a fu wedyn ymhlith y cyntaf i gael ei ddienyddio yn enw’r testun gwâr a thrugarog hwn. Fe’i dilynwyd gan gannoedd ac efallai miloedd. Liberté, Egalité, Fraternité – am eiriau gwych! Ac mor arswydus y gall eu hystyr fod. Rhyddid mewn crys a ddadfotymwyd yn barod at y dienyddiad. Cydraddoldeb yng nghyflymder cyson cwymp y gilotîn ar amryfal yddfau. Brawdoliaeth mewn paradwys amheus wedi ei reoli gan y Goruchaf!

Mae’r byd bellach yn diasbedain gair rhyfeddol o obeithiol: ‘perestroika’. Rydym i gyd yn grediniol ei fod yn angori gobaith ar gyfer Ewrop a’r byd yn gyfan.

Mae’n anorfod fy mod yn cyfaddef, serch hynny, y daw cryndod drosof weithiau wrth feddwl y gallai’r gair hwn, un diwrnod, fynd yn llafar-gân arall, ac yn y pen draw droi yn bastwn arall eto i rywun ein curo ag ef. Nid meddwl am fy ngwlad fy hun yr wyf: pan mae ein llywodraethwyr yn ynganu y gair hwn, mae’n golygu rhywbeth yn debyg i’r geiriau ‘ein hymerawdwr’ yng ngheg Švejk, ‘Y Soldiwr Da’. Na, yr hyn sydd gen i mewn golwg yw hyn: bod hyd yn oed dyn dewr, dyn sydd bellach yn eistedd o dro i dro yn y Kremlin, yn cyhuddo gweithwyr ar streic, cenhedloedd gwrthryfelgar, lleiafrifoedd cenedlaethol, neu goleddwyr safbwyntiau lleiafrifol rhy amgen, o ‘beryglu perestroika’ – a hynny efallai dim ond oherwydd ei fod yn anobeithio. Gallaf ddeall ei deimladau. Mae’r dasg y mae wedi ymgymryd â hi yn un arbennig o anodd. Dim ond y llinynnau teneuaf sy’n ei dal ynghyd; gallasai unrhyw beth eu torri. Byddai’n ddigon i’n gyrru i gyd dros y dibyn. Serch hynny, ni allaf ond pendroni a yw’r ‘feddylfryd newydd’ hon yn cynnwys creiriau annymunol yr hen ffordd o feddwl. Onid yw’n cynnwys adlais o feddylfryd ystrydebol flaenorol a llyfrau defodau’r ancien régime? Onid yw’r gair ‘perestroika’ yn dechrau ymdebygu i’r gair ‘sosialaeth’, yn arbennig ar yr ambell adeg pan gaiff ei daflu’n ochelgar at yr union bobl sydd, ers cymaint o amser, wedi eu colbio’n anghyfiawn gan y gair ‘sosialaeth’?

*

Mae eich gwlad wedi gwneud cyfraniad dirfawr i hanes modern Ewrop. Cyfeiriaf at y don gyntaf o détente: yr enwog Ostpolitik.

Ond mae hyd yn oed y gair hwnnw ar adegau’n profi’n wirioneddol amwys. Roedd yn golygu, wrth gwrs, y llygedyn cyntaf o obaith ar gyfer Ewrop heb ryfeloedd oer na llen haearn. Ar yr un pryd – yn anffodus – roedd yna adegau pan olygai ildio rhyddid: y rhagamod sylfaenol ar gyfer pob heddwch real. Daliaf i gofio: yn nechrau’r saithdegau, roedd nifer o fy nghyd-weithwyr a fy ffrindiau o Orllewin yr Almaen yn f’osgoi oherwydd eu bod yn ofni y gallasai unrhyw ymwneud â mi - rhywun nad oedd yn llyfrau da ei lywodraeth – herio’n ddiangen y llywodraeth honno ac felly beryglu sylfeini bregus dechreuadau détente. Yn naturiol, nid crybwyll hyn er fy mwyn fy hun yr wyf, ac yn sicr nid mewn hunandosturi. Wedi’r cyfan, hyd yn oed yn y dyddiau hynny, y fi oedd yn eu pitïo hwy, gan mai y nhw ac nid y fi oedd yn rhoi’r gorau i’w rhyddid o’u gwirfodd eu hunain. Crybwyllaf hyn dim ond er mwyn dangos unwaith eto, o ongl wahanol, mor hawdd yw hi i achos da ei fwriad fradychu ei arfaeth gadarnhaol ei hun – a hynny eto fyth, mae’n ymGair am eiriau Václav Havel ddangos, oherwydd gair na fuom yn ddigon gwyliadwrus o’i ystyr. Gall rhywbeth fel hyn ddigwydd mor rhwydd nes ein dal yn ddiarwybod: mae’n digwydd yn dawel, o’r golwg, yn lladradaidd – a phan sylweddolwch, o’r diwedd, dim ond un opsiwn sydd yn weddill i chi: syfrdandod rhy ddiweddar.

Ond dyna’r union ffordd gythreulig sydd gan eiriau i’n bradychu – oni bai ein bod yn gyson wyliadwrus yn ein defnydd ohonynt. Ac yn aml – gwae ni – gall yr esgeulustod lleiaf, a dros dro yn unig, arwain at ganlyniadau trasig anadferadwy, canlyniadau sydd yn trosgynnu byd anfaterol geiriau ac yn treiddio’n ddwfn i fyd sydd ond yn rhy faterol.

*

Ac o’r diwedd, rwyf yn dod at y gair tlws yna, ‘heddwch’.

*

Ers deugain mlynedd bellach, yn fy ngwlad fy hun, rwyf wedi bod yn darllen wyneb pob adeilad a phob ffenest siop. Am ddeugain mlynedd, datblygodd alergedd ynof i’r gair hardd hwn, fel a ddigwyddodd i bob un o fy nghyd-ddinasyddion, oherwydd gwn ei ystyr – yma – yn ystod y deugain mlynedd hyn: byddinoedd grymusach fyth, yn ôl pob golwg, i amddiffyn rhyddid.

Er gwaetha’r broses hirfaith o wared y gair ‘heddwch’ o’i holl ystyr – yn waeth na hynny, ei drwytho, yn hytrach, â’r ystyr dirgroes i ystyr y geiriadur – mae nifer o Don Quixotes ym mudiad Siarter 77, a nifer o’u cyd-weithwyr iau yn y Gymdeithas Annibynnol dros Heddwch, wedi llwyddo i adfer y gair ac ailsefydlu ei ystyr gwreiddiol. Yn naturiol, bu’n rhaid iddynt dalu’n ddrud am eu ‘perestroika semantaidd’, hynny yw, am godi’r gair ‘heddwch’ yn ôl ar ei draed eto: am eu trafferth, bu’n rhaid i bron iawn bob un o’r bobl ifanc hyn, a arweiniodd y Gymdeithas Annibynnol dros Heddwch, dreulio nifer o fisoedd dan glo. Nid ofer oedd hynny. Achubwyd un gair pwysig rhag ei ddibrisio’n gyfan gwbl. Ac nid dim ond mater o achub gair yw hyn, fel yr wyf wedi ceisio egluro. Achubwyd rhywbeth llawer pwysicach.

Y pwynt yw bod pob un digwyddiad o bwys yn y byd go iawn – boed yn gymeradwy neu’n wrthun – â’i raglith ym myd geiriau.

*

Fel y dywedais eisoes, nid fy mwriad yma heddiw yw cyfleu i chi brofiad un sydd wedi dysgu bod gwerth i eiriau o hyd os oes modd mynd i garchar drostynt. Fy mwriad yw cyfleu gwers arall yr ydym wedi ei dysgu yn ein cilfach ni o’r byd, am bwysigrwydd geiriau, gwers sydd o fudd cyffredin: mae hi bob amser yn talu i amau geiriau ac i fod yn ddrwgdybus ohonynt, ac i fod yn ymwybodol na fedrwn fyth fod yn rhy ofalus yn hynny o beth.

Nid oes amheuaeth bod amau geiriau yn llai niweidiol na rhoi ein ffydd ynddynt heb warant.

A beth bynnag, onid amau geiriau a’r arswyd sydd o bosib yn llechu’n dawel ynddynt – onid dyma, wedi’r cyfan, wir alwedigaeth y deallusyn? Cofiaf i André Glucksmann, fy hybarch gyd-weithiwr a’m rhagflaenodd yma heddiw, siarad unwaith ym Mhrâg am yr angen i ddeallusion ddynwared Cassandra: i wrando’n dawel ar eiriau’r pwerus, i fod yn ochelgar ohonynt, i ragrybuddio ynghylch eu perygl, ac i ddatgan ar goedd y gallant ysgogi goblygiadau difrifol ac ysgeler.

*

Mae yna rywbeth yn y fan hon na ddylid gadael iddo fynd yn angof ac mae â wnelo â’r ffaith ein bod ni – yr Almaenwyr a’r Tsieciaid – ers canrifoedd wedi profi pob math o broblemau wrth geisio cyd-fyw yng Nghanolbarth Ewrop. Ni allaf siarad ar eich rhan chi, ond credaf y gallaf ddweud yn gyfiawn bod y drwgdeimladau, y rhagfarnau, y cynddeiriogi a’r bytheirio a fu, ac a gafodd eu megino mewn cymaint o ffyrdd dros y canrifoedd, wedi anweddu yn y degawdau diwethaf. Ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad i hyn fod yn y cyfnod pan fo trefn dotalitaraidd yn bwn arnom. Mae’r gyfundrefn hon wedi magu ynom y fath ddrwgdybiaeth o bob cyffredinoli, ystrydeb ideolegol, clichés, sloganau, stereoteipiau deallusol, ac yn apelio’n fradwrus i amrywiol lefelau ein hemosiynau, o’r isaf i’r mwyaf aruchel, nes ein bod bellach, ar y cyfan, yn rhydd rhag pob abwyd hypnotig, hyd yn oed o’r math traddodiadol genedlaethol a chenedlaetholgar sydd yn argyhoeddi. Mae syrffed llethol geiriau gwag, y cawsom ein mygu ganddynt gyhyd, wedi ysgogi ynom amheuaeth ddofn o fyd geiriau twyllodrus nes ein bod bellach yn fwy abl nag erioed o’r blaen i weld y byd dynol fel ag y mae mewn gwirionedd: cymuned gymhleth o filoedd a miliynau o fodau byw unigryw ac unigol y mae cannoedd o nodweddion ardderchog wedi eu cyplysu ynddynt â channoedd o ffaeleddau a thueddiadau negyddol. Ni ddylid fyth eu lluchio ynghyd yn dyrfa homogenaidd o dan dryblith o ystrydebau gwag a geiriau ofer, ac yna en bloc – fel ‘dosbarthiadau’, ‘cenhedloedd’, neu ‘rymoedd gwleidyddol’ – eu mawrhau neu eu condemnio, eu haddoli neu eu casáu, eu difrïo neu eu dyrchafu.

Dyma un enghraifft fechan yn unig o’r da a all ddod o drin geiriau gyda gofal. Dewisais yr enghraifft hon i weddu i’r achlysur hwn, ar gyfer y foment hon pan gaiff Tsieciad y fraint o annerch cynulleidfa y mae’r mwyafrif llethol ohoni’n Almaenwyr.

*

Y gair yw dechrau pob un dim.

*

I’r gwyrth hwn yr ydym yn ddyledus am ein dyngarwch. Ond ar yr un pryd, mae’n bydew ac yn fagl, yn rhwyd ac yn brawf.

Yn fwy felly, o bosib, nag y mae’n ymddangos i chi sydd yn mwynhau rhyddid barn, ac felly efallai’n cymryd yn ganiataol nad yw geiriau’n bwysig.

Maen nhw’n bwysig.

Maen nhw’n bwysig ym mhob man.

Gall yr un gair fod yn ostyngedig un foment ac yn haerllug ar adeg arall. A gall gair gostyngedig gael ei drawsffurfio’n rhwydd ac yn ddiarwybod yn air haerllug, ond proses anodd a hirfaith yw trawsffurfio gair haerllug yn air diymhongar. Ceisiais egluro hyn trwy gyfeirio at drallodion y gair ‘heddwch’ yn fy ngwlad.

Wrth i ni gyrraedd diwedd yr ail fileniwm, mae’r byd, ac yn arbennig Ewrop, wedi cyrraedd croesffordd ryfedd. Ni fu, ers tro, gymaint o resymau i gredu y byddai pethau’n newid er gwell. Ar yr un pryd, ni fu erioed sail cryfach dros ofni, petai popeth yn mynd o’i le, y byddai’r drychineb yn derfynol.

Nid yw’n anodd dangos bod yr holl brif fygythiadau sydd yn wynebu’r byd heddiw, o ryfel niwclear ac alanastra ecolegol i gwymp catastroffig cymdeithas a gwareiddiad – mewn geiriau eraill, y bwlch cynyddol rhwng unigolion a chenhedloedd cyfoethog a thlawd – yn cuddio, yn ddwfn ynddynt eu hunain, un achos sylfaenol: trawsffurfiad graddol yr hyn a oedd yn wreiddiol yn neges ddarostyngedig yn neges haerllug.

Yn haerllug, dechreuodd dyn gredu, yn binacl ac arglwydd y cread, ei fod yn deall natur yn gyfan gwbl ac y gallai wneud fel y mynnai.

Yn haerllug, dechreuodd dyn feddwl y gallasai feddiannu rheswm, y gallasai ddeall ei hanes ei hun yn gyfan gwbl ac, felly, y gallasai gynllunio bywyd bodlon i bob un; bod hyn, hyd yn oed, yn rhoi’r hawl iddo, yn enw gwell dyfodol i bawb (dyfodol yr oedd ef wedi darganfod yr unig allwedd iddo), i ysgubo ymaith o’i lwybr bob un nad oedd wedi ymserchu yn ei gynllun.

Yn haerllug, dechreuodd feddwl, oherwydd ei fod â’r gallu i hollti’r atom, ei fod bellach mor berffaith nes gwared y perygl o ymgiprys dros arfau niwclear, heb sôn am ryfel niwclear.

Yn yr holl achosion hynny, yr oedd yn anghywir. Mae hynny’n ddifrifol. Ond ym mhob achos, mae eisoes yn dechrau sylweddoli ei gamgymeriad. Ac mae hynny’n beth da.

A ninnau wedi dysgu o’r profiadau hyn, dylsem bob un ymladd ynghyd i wrthwynebu geiriau haerllug a chadw llygad barcud am unrhyw awgrym o haerllugrwydd llechwraidd mewn geiriau sydd, ar yr wyneb, yn wylaidd.

Yn amlwg, nid tasg ieithyddol yn unig mo hon. Mae cyfrifoldeb dros, a thuag at, eiriau yn dasg sydd yn sylfaenol foesol.

Yn yr ystyr hwnnw mae’n dasg sydd wedi ei lleoli tu hwnt i orwel y byd gweledol, yn y deyrnas honno lle triga’r Gair a oedd yn y dechreuad, ac nad yw yn air dyn.

Nid wyf am egluro pam. Cafodd hynny ei egluro’n llawer gwell nag y gallwn i fyth ei wneud gan eich hynafiad, Immanuel Kant. [25 Gorffennaf 1989]

 

Detholiad o araith Slovo o slovu (Nakladatelství Atlantis, 1990) a ysgrifennwyd ar gyfer achlysur derbyn Gwobr Heddwch Cymdeithas Llyfrwerthwyr yr Almaen, Ffair Lyfrau Frankfurt, 15 Hydref 1989. Fe’i traddodwyd yn absenoldeb Václav Havel, fis cyn y Chwyldro Felfed yn Tsiecoslofacia. Rhwng 2004 a’i farwolaeth yn 2011 cefnogai Havel y Blaid Werdd (SZ).

Cyfieithiad gan Sioned Puw Rowlands.

Dylsem bob un gadw llygad barcud am unrhyw awgrym o haerllugrwydd llechwraidd mewn geiriau sydd, ar yr wyneb, yn wylaidd

Pynciau:

#Rhifyn 7
#Václav Havel
#Tsiecoslofacia
#Cyfieithu
#Y Chwyldro Felfed
#Sioned Puw Rowlands