Amrywiol awduron
Enaid Eryri
Carreg Gwalch, 136tt, £14.50, Tachwedd 2019
Genod Brynrefail
Detholiad o’r gyfrol ‘Enaid Eryri’
Llun gan Richard Outram, gyda diolch i wasg Carreg Gwalch
Mae ’na rai pethau sy’n aros – y mynyddoedd mawr:
yr Wyddfa, Moel Eilio ac Elidir Fawr, a’r bryniau llai
a welem drwy ffenestri’r dosbarth maths, ac na thrafferthem
ddysgu’u henwau, am mai un o waliau’r ysgol oedd Eryri i ni.
A’r onglydd a’r pren mesur ar y ddesg, crwydrai’n golygon
draw o hafaliadau union y bwrdd du
allan at lethrau mwy anufudd y copaon glas, mor glòs a blêr
â chriw o genod ysgol â’u breichiau ymhleth.
Ysgwydd yn ysgwydd ac yn gnawd i gyd,
nhw oedd y genod mawr y ciledrychem arnynt
fel petai o bell, a slei-astudio’u colur powld,
y gwrid a’r glas, a maint pob ponc a hafn a chrib.
ac dymor i dymor, bron heb sylwi, daethom yn un
â’u horiog fynd-a-dod, y cambyhafio cudd, a’i ôl
yn nhrywydd mwg trên-bach a lovebites grug.
Llancesi’r siacedi denim oedd ein gorwel ni.
Dibwys a diangen oedd y gwersi hanes, daear, llên
am goncrwyr a chwarelwyr, a thectoneg hen
eu symudiadau dirgel nhw. Gwyddem eisoes am y tân a’r rhew.
Nhw oedden ni. Ni oedden nhw.
Mor hawdd oedd mynd a’u gadael. Ymaith â ni
ar wasgar ac ar grwydr allan i’r byd
tu hwnt i waliau’r ysgol. Roedd hi’n bryd.
Eu tynged nhw oedd aros – dyna i gyd.
Mae hanner oes ers hynny. Ac eto, dyma ni, yn griw
o genod ysgol â’n breichiau ymhleth, yn glòs a blêr,
yn ganol oed, yn dal i gofio gwersi drud
ieuo’r llechweddau yr un pryd;
Yn griw o genod ysgol a fu’n syllu drwy
ffenestri’r dosbarth maths, ar griw o genod mwy
ddangosodd inni, yn eu graddau i gyd, arwyddocâd yr aros.
Y mynyddoedd mawr: yr Wyddfa, Moel Eilio ac Elidir Fawr.
✒︎
Daw 'Genod Brynrefail' o gyfrol newydd sbon Enaid Eryri fydd yn cael ei lansio am 6.30 yr hwyr ar nos Iau, 21 Tachwedd 2019 yn Stiwdio 1, Galeri, Caernarfon. Cyhoeddir y gyfrol gan wasg Carreg Gwalch. Bydd y ffotograffydd Richard Outram yno ynghyd â rhai o gyfranwyr y gyfrol: Myrddin ap Dafydd, Ifor ap Glyn, Bethan Gwanas, Haf Llewelyn, Sian Northey, Angharad Price, Dewi Prysor, Manon Steffan Ros, Angharad Tomos, Ieuan Wyn.
Crewyd Enaid Eryri gan y ffotograffydd a'r awduron ar y cyd. Rhoddwyd rhwydd hynt i'r awduron ddewis rhan o Eryri sy'n agos at eu calonnau ac ymateb iddo mewn unrhhyw gyfrwng.
Cydweithiodd Richard Outram ac Angharad Price y llynedd i greu cyfrol debyg o ffotograffau ac ysgrifau o’r enw Trysorau Cudd Caernarfon. Mae ar hyn o bryd yn dechrau cydweithio â’r Prifardd Ceri Wyn Jones ar brosiect fydd yn canolbwyntio ar ardal Aberteifi.
✒︎
Mae Enaid Eryri yn llyfr clawr caled, lliw llawn, a gellir ei phrynu yn uniongyrchol o'r wasg neu trwy Gwales. Dyma'r llefydd y mae'r awduron yn myfyrio arnynt yn y gyfrol:
Myrddin ap Dafydd: Coed Carreg y Gwalch, Llanrwst a Thre’r Ceiri / Ifor ap Glyn: Copa’r Wyddfa a Phont Gower, Llanrwst / Bethan Gwanas: Mart Dolgellau a Pharc Carafanau Dolgamedd, Brithdir / Haf Llewelyn: Eglwys Llanuwchllyn a’r Bermo / Sian Northey: Atomfa Trawsfynydd a Blaenau Ffestiniog / Angharad Price: Ardal Brynrefail ac Ardal y Llechi / Dewi Prysor: Castell Prysor a Bryn Cader Faner / Manon Steffan Ros: Rhiwlas a Thywyn / Angharad Tomos: Penygroes a Chwarel Moel Tryfan / Ieuan Wyn: Llanllechid a Sling
Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.
Dyddiad cyhoeddi: 20·11·2019