Cyfansoddi

Y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant

Boz Groden
01·05·2019

Cyrraedd Hyde Park ar ddiwrnod cynta'r brotest. Cafwyd trafodaethau dwys a'r gwynt oer i'w glywed trwy'n cotiau.


 

 

Wrth i'r heddlu geisio cau un ardal, mae protestwraig mewn cadair olwyn yn paratoi i gymryd ei ffisig. Trefnwyd toiledau a llefydd newid i'r anabl ar y safle yn Marble Arch. Roedd yn dipyn o beth gweld pobl a oedd yn dygymod â chyflyrau cymhleth yn llwyddo i fynychu'r brotest. Yn aml iawn, nhw oedd y rhai mwyaf digynnwrf a mwyaf penderfynol yn ein plith. 

 

 

Gwirfoddolwyr yn y gegin stryd yn Oxford Circus toc cyn hanner nos. Roedd y stondin yn cael ei rhedeg gan wraig o Gaerfyrddin ac yn llwyddo i ddal i fynd drwy'r nos, rywsut neu gilydd. Wrth i blismyn blinedig gario protestiwr arall eto a gafodd ei arestio, mae arsyllwr cyfreithiol yn cadw cownt.

 



Ceisia'r Heddlu gadw wynebau syth a pheidio â dangos eu bod yn mynd i hwyliau wrth i'r protestwyr o gredoau amrywiol eistedd a chanu efo'i gilydd. 

 


Mynychwyr y brotest yn cysuro dyn di-gartref. Mae rhwng 12 a 24 o bobl yn byw ar y stryd yn ardal Marble Arch. Cawsant eu croesawu a'u bwydo am bythefnos gan griw y Gwrthryfel yn erbyn Difodiant. Nid oedd yn hawdd iddynt ddygymod â'n hymadawiad ar ddiwedd y brotest. Nid hawdd oedd i ninnau ychwaith eu gweld yn gorfod ymgodymu eu hunain o'r newydd eto. Dychwelodd Marble Arch i'w chyflwr blaenorol: ynys oeraidd mewn môr o draffig.



 

Pynciau:

#Y Cartŵn
#Boz Groden
#Newid hinsawdd