Mihangel Morgan


Hen Bethau Anghofiedig

Y Lolfa, 138tt, £7.99, Tachwedd 2017

Hen Bethau Anghofiedig
Cyfansoddi

Hen Bethau Anghofiedig

Stori ysbryd (detholiad)


Mihangel Morgan

Amser darllen: 8 munud

03·01·2018

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr Gwenan Wyn Hopcyn, copi a wnaed cyn iddi drosglwyddo’r gwreiddiol i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Mawr ddiolch iddi am y gymwynas garedig hon. Yma rwy’n cyflwyno’r dyfyniadau yn eu crynswyth am y tro cyntaf, ac o ystyried eu cynnwys rwy’n falch iawn o allu gwneud hynny.

Doedd dim modd camgymryd Merfyn Taylor am neb arall er na welswn ef ers pan oedd yn un ar bymtheg oed, dros ddeugain mlynedd yn ôl. Oedd, roedd e mor denau â bwgan brain ac roedd ei wallt yn frith ac yn brinnach o lawer, ond yr un un oedd e o hyd, yr un wyneb anghymesur, tenau ar y chwith a thew ar y dde.

A hithau’n tynnu am y Nadolig, aros yng ngorsaf Crewe am drên i Aberdyddgu oeddwn i.

‘Merfyn!’ meddwn i. Edrychodd arna i’n syn a bu cymylau’r blynyddoedd beth amser yn clirio, ac yna, yn sydyn, pelydryn o adnabyddiaeth. Oedd, roedd e’n fy nghofio.

‘Wel! Wel,’ a dyma ni’n ysgwyd dwylo, braidd yn ffurfiol efallai i hen ffrindiau ysgol, ond dieithriaid oedden ni i bob pwrpas. Llanciau oedden ni yn ein hatgofion ond dynion canol oed nawr oedd yn cwrdd am y tro cyntaf, fel petai. A’r peth cyntaf a wnaeth oedd ymddiheuro, ‘Mae Cwmrêg fi’n rhacs, w,’ meddai gyda pheth cywilydd. Roedd e’n dweud y gwir. Chwarae teg iddo, fe adawodd yr ysgol heb yr un lefel O ac aeth i Lundain i wneud ei ffortiwn a’i enw. Gan fod ei fam yn byw gyferbyn â’m mam innau yn yr un stryd yn Nhregolew byddwn i’n cael peth o’i hanes o bryd i’w gilydd, yn ail neu’n drydedd law. Fel arall mae’n debyg y byddwn wedi colli pob cysylltiad ag ef a heb wybod dim amdano. Ond diolch i adroddiadau achlysurol a phytiog Mam gwyddwn am ei flynyddoedd o grwydro o jobyn i jobyn nes iddo ganfod ei droedle fel cynllunydd tai. Do, fe wnaeth rywbeth tebyg i ffortiwn a rhyw fath o enw iddo’i hunan yn ei faes, yn ôl ei fam, a oedd bob amser yn barod iawn i ymffrostio i ‘Merfyn ni’ fod yn gweithio yng nghartref rhywun oedd yn darllen y tywydd, neu rywun arall a oedd wedi actio mewn rhyw gomedi ar y teledu. Doedd e ddim wedi cyrraedd brig ei arbenigedd ond roedd e’n gwneud yn eithaf da, diolch yn fawr – dyna gasgliad Mam, o leiaf, ac fe gadarnhawyd hynny i mi y diwrnod hwnnw gan ei ddillad costus. Gwyddwn hefyd iddo fod yn briod a dod yn dad i efeilliaid a chael ysgariad a phriodi eto a chael plentyn arall ac iddo gael ysgariad arall ac wedyn iddo ‘droi yn hoyw a mynd i fyw gyda dyn arall’, i aralleirio Mam – dwn i ddim sut y cyflewyd hyn gan ei fam ef i’m mam i – a dyna lle roedd fy ngwybodaeth yn dod i ben. Bu farw’n mamau ni’n dau yr un flwyddyn, fel mae’n digwydd, ac wedi hynny aeth ffynhonnell fy newyddion amdano yn hesb. Roedd gyda fi dipyn o ddiddordeb yn ei fywyd ef ond doedd gyda fe ddim iot o ddiddordeb yn fy mywyd i; fel sy’n nodweddiadol o lawer o ddynion uchelgeisiol a llwyddiannus. Ei brif destun sgwrs oedd ef ei hun.

Synnu wnes i ei fod e’n aros am yr un trên â finnau.

‘Ond wi ddim yn byw yn Aberdyddgu,’ meddai, ‘etifeddu hen glamp o dŷ wnes i yng Nghwmhwsmon, pentre bach tua deuddeng milltir o Aberdyddgu.’

Doedd dim rhaid iddo ddweud wrtha i ble oedd Cwmhwsmon a finnau wedi byw yng nghyffiniau Aberdyddgu ers i mi raddio.

‘Lle bach ofnadw o ddiarffordd,’ meddwn i. ‘Ti’n bwriadu cadw lle mor bell o Lundain, ac o Dregolew o ran ’ny?’

‘Sdim cysylltiad â Tregolew ’da fi, nawr,’ meddai, ‘ddim ers i mi gladdu Mam. A phan ddaeth y tŷ ’ma i mi drwy ewyllys Anti Mona roedd i’w weld fel cyfle gwych. Cyfle i mi ailafael yn ’y ngwreiddiau ac yn y blaen. Lle bach tawel i ddod am dipyn o seibiant o’r hen ddinas fawr. Lle i’w adnewyddu ac inni arfer ein talentau,’ meddai.

Wrth i’r trên gyrraedd fe gymylodd ei wyneb.

‘Ond, aeth popeth yn ein herbyn ni yn y diwedd.’

Ar ôl inni fynd i mewn i’r trên a storio’n bagiau ar y silff uwchben, dyma ni’n eistedd gyferbyn â’n gilydd; Merfyn yn wynebu’r ffordd roedd y trên yn mynd a finnau’r ochr arall, y bwrdd rhyngom ni, gyferbyn ag ef, yn mynd wysg fy nghefn, fel petai. Pan gychwynnodd y trên o oleuadau’r orsaf roedd y nos o bobtu inni fel bol buwch ac erbyn hyn hyrddiai’r glaw ar letraws yn erbyn y ffenestri. Allwn i ddim gweld dim drwy’r gwydr ond düwch fel pydew. Prin oedd y teithwyr eraill ac wrth edrych mas dyna i gyd y gallen weld oedd ein hadlewyrchiad ni’n hunain ar y chwith ac ar y dde yn erbyn cefndir o inc du.

Wedi inni setlo aeth Merfyn ymlaen i ymhelaethu –

Prin ’mod i’n cofio Anti Mona. Hen fodryb oedd hi, chwaer Mam-gu. Mae ’da fi ryw frith gof ohonom ni’n mynd i’w gweld hi yn y tŷ mawr ’na yng Nghwmhwsmon. Cymerai’r daith o’n cartref ni yn Nhregolew oriau ac oriau i’n meddwl plentyn i, fel y teimlai Cwmhwsmon fel pen draw’r byd.

Roedd y lle yn orlawn o hen drugareddau bach, digon diddorol. Ond wiw i mi gyffwrdd â dim. Roedd ei golwg hi yn ddigon i ddychryn crwtyn bach. Golwg hen wrach. Sgerbwd byw oedd hi â llygaid glas dyfrllyd a dreiddiai i’ch meddyliau cyfrinachol ar un edrychiad. Doedd dim rhaid iddi ddweud gair. Ond rhaid bod yr hen le wedi gwneud rhyw argraff arna i yn f’isymwybod oherwydd wrth edrych ’nôl dros ’y ngwaith rwy’n gweld elfen o naws yr hen gartref ’na ym mhob stafell rwy wedi’i chynllunio. Yn union fel petawn i wedi bod yn treio cofio’r awyrgylch cynnes, nythlyd. Mae delwedd stafell fyw Anti Mona wedi bod fel palimpsest yn fy meddwl hyd f ’oes.

Dwi’n ei chofio hi’n eistedd yn gefnsyth ar gadair bren galed yn y canol yn rheoli popeth drwy’r sbectol fach ar ei thrwyn. Llygaid aderyn yn dilyn pob un o’n symudiadau, yn ymwybodol o bob gwrthrych. Roedd ei thrwyn yn hir a phigog a’i chorff yn ofnadw o denau ac roedd hi’n fenyw eithriadol o dal. Roedd ei gwallt yn frith, lliw dur, ac wedi’i dynnu’n ôl yn llym i belen gron berffaith o gocyn ar ei phen ac roedd ei dillad yn hynod o hen ffasiwn ac yn ddu i gyd. Creadures o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd hi. Ac roedd rhywbeth amdani wedi’i rewi, wedi’i ffosileiddio, fel petai. Doedd dim amheuaeth ’da fi taw dewines go iawn oedd hi ac y gallasai hi fod wedi peri i’r celfi ddawnsio a’i chath siarad neu fy nhroi i’n froga pe dymunasai.

Fe ddeuai cerdyn Nadolig bob blwyddyn gyda phapur deg swllt nes imi gyrraedd ’yn arddegau a phan newidiwyd yr arian stopiodd y sylltau, a byddai Mam yn hala un ati hi ac yn gweud wrtha i ar y ffôn o bryd i’w gilydd, ‘Mae Anti Mona yn cofio atat,’ a finnau’n gorfod meddwl am bwy oedd hi’n sôn. Yna bu farw Mam a heb yn wybod i mi fe lusgodd fy modryb ymlaen ar ei phen ei hun yn yr hen glorwth o dŷ ’na am flynyddau nes iddi gyrraedd oedran menyw hysbys. 


Hen Bethau Anghofiedig yw cyfrol ddiweddaraf Mihangel Morgan, un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt. Gellir prynu'r gyfrol yn eich siop lyfrau leol neu yn y fan hon


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Sgerbwd byw oedd hi â llygaid glas dyfrllyd a dreiddiai i’ch meddyliau cyfrinachol ar un edrychiad. Doedd dim rhaid iddi ddweud gair.

Dyddiad cyhoeddi: 03·01·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Mae gan bawb eu cofebion, am wn i; rhai’n swagro’u coffa yng nglendid marmor, neu sglein yr efydd wrthodwyd gan Horas, gynt. Mae eraill yn llai lluniaidd,
gwyfynod sy’n cnoi tyllau yng ngharthen amser, neu blaciau tolciog wedi eu hestyn drachefn o’r gist.

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Ar gynfas pumed canrif dim ond ymylon gwedd yw gwarged lliwiau’r galon a’r meddwl cyn bod bedd, fel pant ar garreg aelwyd lefn y sgwriwyd iddo lendid trefn ... 

Cyfansoddi


Llion Pryderi Roberts

Roedd Seurat wedi dotio at y traeth dan lewych haf, yn ffroeni oglau gwymon; at ruban aur o drai a dŵr y daeth ac erfyn bad i lyfnu’r gorwel union ... 

Cyfansoddi


Siôn Tomos Owen

Stori mewn lluniau

Un lôn i fewn, un lôn mas. Yr un hen stori am gymuned fechan yng nghymoedd de Cymru. Wastad yr un hen stori. Stereoteipiau o fywydau caled, brwydro plwyfol a’r bobol sydd yma o hyd. Ond y peth yw ... Mae…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Dwi wedi dechrau odli eto. Wn i ddim pam mae rhai pobl yn ei gael yn beth mor ddiddorol; dydi o ddim yn ddim byd mwy na rhywbeth fydda’ i’n ei wneud weithia pan fydda’ i’n siarad. Ond dwi ddim yn ei wneud rŵan achos…

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

‘Nid dim ond gwylio ffilmiau yr ydan ni, mae ffilmiau yn ein gwylio ninnau hefyd,’ meddai’r cyfarwyddwr o Rwsia, Andrey Zvyagintsev. Yn ei ffilm ddiweddaraf, Loveless, bob yn hyn a hyn, yn batrwm trwyddi, mae pobl yn gwirio eu ffonau bach neu’n tynnu lluniau ohonyn nhw eu…