Cyfansoddi

Hen ieithoedd diflanedig

Detholiad o’r cylch o gerddi am siaradwyr y Fanaweg

Mihangel Morgan

Hen Ieithoedd Diflanedig

Barddas, 64tt, £7.95, Medi 2018

Hen ieithoedd diflanedig
Mihangel Morgan
03·10·2018

Gwn fod y Fanaweg wedi cael ei hatgyfodi gyda chryn lwyddiant yn ddiweddar, ac yn wir, maentumiai rhai na fu iddi farw gyda Ned Maddrell o gwbl. Ond credaf ei bod yn deg dweud iddi ddod i ben fel iaith draddodiadol gymunedol gyda chriw o hen bobl rhwng pumdegau a saithdegau’r ugeinfed ganrif. Dyma felly enghraifft o iaith yn trengi, fel petai, o flaen ein llygaid ac o fewn Ynysoedd Prydain.

Prin, hyd y gwelaf i, yw’r wybodaeth am fywydau ac am bersonoliaethau’r siaradwyr olaf, felly fy nychymyg a’m dyfaliadau i sydd ar waith yn y cerddi hyn. Go brin y byddai’r rhain wedi arddel yr iaith gydag eneiniad. Erbyn arolwg Kenneth Hurlstone Jackson yn 1950–1 doedd ond deg â gwybodaeth o’r iaith, a dywedodd amdanynt, ‘all have long ceased to use Manx as their daily medium of intercourse, mostly for many years.’ Mae’n bosibl hefyd taw dim ond ar derfyn eu bywydau y bu iddynt amgyffred pwysigrwydd yr iaith. Synhwyraf taw dyna’r gwir yn achos Ned Maddrell. Serch hynny, yn y darluniau ffantasïol hyn, rwyf wedi priodoli i bob un ohonynt deimladau serchus tuag at yr iaith. 

Ni chynhwysais leisiau'r deg ar restr Jackson yn y cylch o gerddi gan fy mod yn dychmygu'r sefyllfa ychydig ymhellach ymlaen ac yn nes at y diwedd. Bydd natur ddyfeisiedig a dychmygus y darnau hyn yn siŵr o fradychu f'anwybodaeth am yr ynys a'i thrigolion i'r sawl sydd yn wirioneddol gyfarwydd â hi. Ymddiheuriadau llaes iddyn nhw.

 

ELEANOR KARRAN

Un o gathod go iawn yr ynys yw hon,
Er bod cynffon ’da hi, fel y gwelwch chi.
Pe bai hi’n cael cathod bech ac un heb gynffon
Yn eu plith, byddwn i’n cadw honna.
Peidiwch â chwerthin
Ond pan ddaw hon i eistedd wrth y tân gyda’r nos
Bydda i’n dweud storïau wrthi –
Gwrach Glen Rushen, Jimi Traedsgwar,
Ac am y Taroo-Ushtey
Ac am y Moddey Dhoo,
Y ci mawr du a arferai fy nychryn yn blentyn,
Ac weithiau, caf yr argraff ei bod hi’n gwrando
Wrth iddi ddod ar f’arffed a chanu grwndi.

Arferai Mam neilltuo darn o deisen
Neu fara pan fyddai hi’n pobi,
Ar gyfer y tylwyth teg,
Er na fyddai hi byth yn eu henwi.
Fydda i ddim yn dweud storïau am y môr,
Ddim ers i’r mab gael ei larpio gan y tonnau,
Er bod rhai yn taeru bod cysylltiad cryf
Rhwng cathod a’r môr,
Ac yn ôl rhai, os oes cath ddu gartre
Chaiff neb o’r teulu foddi.
Wel, doedd dim cath ’da ni bryd ’ny.
Dyna pam, efallai.
Ond dwi ddim yn credu hynny.

Roedd gan fy mrawd gi ers talwm
A gollasai un o’i goesau,
Ond âi ar hyd y lle ar ei dair.
‘Efe yw’r Manäwr gorau,’ meddai ’Nhad.

 

HARRY BOYDE

Mi wna i siarad â rhywun
Ac, yn wir, dwi’n siarad â phob un.
Does dim byd gwell ’da fi na chlebran
Am hyn a’r llall, am iechyd a’r tywydd.
Roedd yn well gan ambell un
O’r hen rai yr hen iaith,
Yn enwedig yr hen bysgotwyr
Ers talwm, pan own i’n grwtyn.
Chlywech chi ddim iaith arall ar y cychod
Ac yn yr iaith honno y cyfarchwn
Yr hen fois bob tro
Gyda thipyn o gymŵedd
Gan ofyn am y gwynecon.
Wa’th mae pob hen bysgotwr
Yn diodde gyda’r gwynecon.
Dwi’n cofio’r hen Neddy Beg Hom Ruy
A allai siarad am yn hir yn yr hen iaith
Gan gofio caneuon, gweddïau a storïau
Dirifedi. Does neb tebyg iddo i gael nawr.

Dwi’n dal i gwrdd â John Kneen am glonc
O bryd i’w gilydd, ’dyn ni’n gymdogion, t’wel,
Ac mae yntau’n ddyn diwylliedig
Sy’n gallu darllen yr hen iaith hyd yn oed.
Fe luniodd perthynas iddo lyfrau dysgedig
Am yr iaith, nid ’mod i wedi gallu darllen yr un.
Ac mae Eleanor Karran yn siarad â’i chath
Yn yr iaith ers iddi gladdu’i gŵr,
‘Ti moyn lla’th?’
Mae rhai yn honni eu bod nhw’n deall pob gair,
Ond ddim yn gallu’i siarad,
‘’Run peth â’r gath,’
Meddwn i. Tynnu coes, t’wel.
Chwarae teg iddyn nhw,
Mae’n well na dim.
Ond dwi’n ddigon parod
I siarad yr iaith fawr hefyd.
Mwy o gyfle am glonc.

 

NED MADDRELL

Ni ddeuai’r hen eiriau yn ôl iddo’n rhwydd bob tro,
Nid fel y llanw yn cofleidio’r traeth ar bwys ei fwthyn,
Eithr rhaid iddo daflu’r rhwyd yn bell
Dim ond i ddal ambell i sgadenyn bach.

Gwyddai yn ei ben taw ansylweddol oedd ei ynys
Ond yn ei galon fe dybiai taw hyhi oedd y cyfanfyd.
Onid oedd ei glannau o ddywediadau yn cynnwys pob peth?
Edrychai ei lygaid pŵl dros y môr aflonydd,

Enfawr a bygythiol. Ond meddyliai am byllau
A nentydd croyw’i fro. Glynai ambell i air
Fel llygad maharen wrth greigiau’i gof
Ond golchwyd eraill i ffwrdd gan heli’r byd.

Geiriau bach syml, caregog am y gwynt
A’r haul, clecs am y tywydd,
Glaw ar yr awel, a naws oer ynddi heno.
Ond fel tarth dros flynyddoedd maith ei fywyd

Diflannodd yr hen rai y gallai gyfnewid
Y cymŵedd cyfarwydd hyn gyda nhw
Yn ei fodrybiaith.* Ac yn rhyfedd,
Nid mewn ogof y sibrydodd ei gyfrinach

Eithr i glust blastig rhyw declyn o drobwll
Ac wrth un o’r newydd-ddyfodiaid, dieithryn
A gasglai hen eiriau fel cregyn traeth
Na welai’i gymdogion ynddynt unrhyw ddiben.


*Fe ymddengys taw gan ei fodryb
y dysgodd Ned Maddrell y Fanaweg. 

Mihangel Morgan yw Gwynt y Dwyrain, un o golofnwyr O'r Pedwar Gwynt. Gellir prynu Hen Ieithoedd Diflanedig (Barddas, 2018) yn eich siop lyfrau leol neu gan Gwales.

Ac yn rhyfedd, nid mewn ogof y sibrydodd ei gyfrinach, eithr i glust blastig rhyw declyn

Pynciau:

#Barddoniaeth
#Mihangel Morgan
#Gwynt y Dwyrain