Llŷr Gwyn Lewis


Fabula

Y Lolfa, 192tt, £8.99, Gorffennaf 2017

Hydref yw’r gwanwyn
Cyfansoddi

Hydref yw’r gwanwyn

Fabula, historia ac argumentum yn yr Ariannin


Llŷr Gwyn Lewis

Amser darllen: 25 munud

27·06·2017

Hyd yn oed o dan oleuadau strip y bwyty parrillada, roedd hon yn edrych fel gwledd o’r iawn ryw. Fyddem ni byth wedi mentro i mewn i’r fath le ar ein pennau’n hunain: y byrddau oelcloth coch wedi’u pacio’n dynn at ei gilydd ac eisoes yn orlawn, a’r waliau hefyd wedi’u llenwi â phosteri o hen hysbysebion cwrw Quilmes, mapiau a siartiau o’r wlad wedi pylu a glasu, a phortreadau o bobl na wyddem ni pwy oeddynt mewn fframiau goreuraidd, drws nesaf i faneri yn dwyn lliwiau ac insignia’r Boca Juniors. Roedd y lle’n llawn mwg a stêm ac oglau cig a ffrio a chlebran uchel a chlincian gwydrau. Ond gan fod Ciana a Marcos wedi mynnu bod yn rhaid inni ddod yma i brofi parrilla go iawn, mentro a wnaeth L. a minnau. Cymerodd rai eiliadau i ni gynefino â’r golau ar ôl tywyllwch y stryd tu allan. Roedd hi’n gynnes i mewn yma hefyd, a ninnau wedi’i gweld hi’n dechrau oeri am y tro cyntaf y noson honno. Roedd hi’n ddiwedd Mai, a’r hydref eisoes ar droed. Roedd y papurau’n llawn o sôn am haid o wyfynod – polillas oedd eu gair amdanynt – a oedd wedi disgyn ar Buenos Aires dros yr haf, yn goron ar haf cythryblus o streiciau gan yr heddlu a thywydd anwadal. Bellach roedd y trigolion yn falch o deimlo pethau’n dechrau oeri, a’r gwyfynod yn diflannu’n ôl i Uruguay o’r lle daethent.

Yn gynharach, roedd L. a minnau wedi mwynhau Quilmes mewn potel hynafol yr olwg ar do’r hostel, gan edrych allan dros dyrau a goleuadau llachar Buenos Aires dros ruthr traffig chwe-rhes yr Avenida de 9 Julio, ac Evita Perón ar ei thŵr yn gwylio’r cyfan. Hongiai adeilad ar hanner ei orffen drosom ar y chwith inni, wrth i’r dydd dywyllu’n gyflym ac yn gynnar. Yna gadawodd y ddau ohonom ddrysau a lloriau pren yr hostel a chlebar y sioeau gemau Sbaeneg ar y teledu, hel ein pesos a mentro allan at bafin sgwarog, craciog San Telmo, i gael ein cyfarch gan boster mawr yr ochr arall i’r stryd a hysbysebai, dan olau cras, ffilm o’r enw Muerte en Buenos Aires.

Anodd o hyd oedd ceisio ffeindio’n ffordd rhwng gridiau trefnus y ddinas. Byddai strydoedd anhrefnus, blith draphlith, llawn troadau, wedi bod yn haws eu cofio a’u hadnabod o lawer. Roedd y palmentydd eu hunain, hyd yn oed, wedi’u creu ar ffurf sgwariau bychain i gyd, fel pe bai’r sawl a’u gosododd wedi ceisio deall a gweld, wrth wneud, ymhle’n union yr oedd yntau ar y pryd. Neu efallai mai ceisio helpu’r rhai a fyddai’n dod ar ei ôl dros y palmentydd hyn yr oedd wrth arysgrifio microcosm bychan o’r ddinas i bob palmentyn. Teimlem ein bod yn camu i mewn i fap gyda phob cam. Ac fel gridiau’r ddinas ar y map, allwn i ddim penderfynu ai sgwariau ynteu diemwntiau oedd y rhain chwaith. Hwyrach bod ein synhwyrau ar ddifancoll rhwng yr holl newydd-deb; hwyrach y dibynnai’r cyfan ar eich ffordd o edrych arnynt. Byddai L., pe bai’n ymwybodol o’m meddyliau innau, wedi dweud wrthyf am beidio â mwydro ac am frysio, wir.

Recoleta, Buenos Aires (Llun: Owen Martell)

Ond roeddem wedi dod o hyd i’r lle yn y diwedd, a Ciana a Marcos yn aros amdanom y tu allan a ninnau’n falch o’u gweld. Yna ar ôl swper helaeth o provolone, morcilla, chorizo, stecen, ac amryfal ddarnau eraill amheus ond amheuthun o gig, wedi’i olchi i lawr â digon o Malbec a dŵr, aeth y pedwar ohonom i droedio’r gridiau hynny eto, a’r map bellach yn dechrau ymffurfio yn fy mhen. Does dim sy’n fwy brawychus na’ch cael eich hun am y tro cyntaf mewn dinas ddiarth heb na syniad nac amcan o’ch lleoliad na’ch cyfeiriad, heb y map yn eich pen. Cerddwch hyd y lle am ddigon hir ac fe ddaw hwnnw yn eich pen i’w le fesul stryd, fesul grid yn raddol. Ond chewch chi fyth mo’r diniweidrwydd brawychus, braf hwnnw’n ôl eto wedyn, y teimlad o fod yn llwyr ar goll hanner ffordd rownd y byd. Diolch byth, efallai, fod rhagor o ddinasoedd i’w cael i fynd ar goll ynddyn nhw nag y cawn ni fyth ymweld â hwy o fewn un oes.

Roeddwn i’n ddigon cyfarwydd â’r ardal bellach i sylweddoli nad oedd y llwybr roedd Ciana a Marcos yn ei gymryd tua’n cyrchfan nesaf yn un cwbl uniongyrchol; tueddem i droi’n ôl arnom ein hunain neu fynd heibio i ddau floc, pan fyddai un wedi’n cludo yno’n gynt. Haerllugrwydd, wrth reswm, fuasai crybwyll hynny wrth ddau a fagwyd yn y ddinas ac a’i hadwaenai fel y gridiau bychain bach hynny yn y croen ar gledr llaw. Dilyn yn ufudd oedd gwaith L. a minnau. Wrth droi un gornel a chyrraedd stryd fymryn yn ehangach, gwelsom ar y palmant gymeriad tal, llydan yn sefyll yn stond ar osgo. Daethom ato o’r tu ôl iddo, ac wrth ddod yn nes gwelsom yn fuan mai rhyw fath ar fodel neu gerflun plastig oedd hwn, a chanddo siwt a thei ac wyneb cartwnaidd, ei freichiau ymhleth a’i wyneb mewn rhyw ystum o hanner chwerthiniad, hanner syndod. Mynnais gael sefyll wrth ei ochr, a thynnu fy llun.

Wedi deall, roedd nifer o’r cerfluniau hyn wedi’u dotio o amgylch ardal San Telmo. Cymeriadau o gartŵn ‘Mafalda’ oeddent, cartŵn gweddol blentynnaidd yr olwg a gynigiai, er hynny, olwg ddychanol a deifiol ar wleidyddiaeth ddyrys y wlad. Roedd y model o Mafalda ei hun (merch ifanc, chwech oed, sy’n destun rhwystredigaeth a phenbleth i’w rhieni oherwydd ei chwestiynau treiddgar ac amhosib-eu-hateb ynghylch materion megis comiwnyddiaeth yn China, ond sydd hefyd yn meddu ar atgasedd nodedig at gawl) yn eistedd ar fainc yn union gyferbyn â fflat ei chreawdwr a’i harlunydd, Quino, mewn rhyw fath o wrogaeth barhaus iddo, bron fel ci yn aros yn ffyddlon am feistr na fyddai fyth yn cyrraedd adref.

Dyna pam, erbyn deall, yr oedd Ciana a Marcos, ei chariad, wedi bod yn ein harwain ar gyfeiliorn ymddangosiadol, er na olygai’r modelau hyn fawr ddim inni ar y pryd. Wrth gerdded tua’r gogledd wedyn, ar ôl i L. hithau fynnu cael tynnu’i llun yn eistedd nesaf at Mafalda ar y fainc, meddyliais am y cartwnau a’r modd y daethai eu cymeriadau allan o’r straeon fel petai, ar faintioli mwy na bywyd ei hun, i hawlio strydoedd y ddinas, a phobl yn tyrru i’w gweld er na wyddent fawr ddim am yr hanes, ac fel ninnau yn mynnu cael tynnu llun gyda hwynt, bron fel pe baent yn enwogion o gig a gwaed. Ond beth wedyn oedd y gwahaniaeth rhwng y modelau plastig hyn a’r cerflun carreg anferth o Mendoza a welsom yn y parc? Y rhain oedd cerfluniau hanesyddol y dyfodol.

Yn ddiweddarach, wedi’r cerdded maith ar hyd Avenida de 9 Julio brysur, lydan, ddi-ben-draw, cyrhaeddodd y pedwar ohonom floc uchel o fflatiau, cyn cael ein cyfarch gan y perchennog a’n harwain i lifft cyfyng, sigledig a’n cododd i’r llawr uchaf. Fe’n cyfarchwyd â chusan gan ddieithriaid llwyr, ac yno roedd dawnsio a mwg a miwsig cumbia a diod werdd gref a flasai fel past dannedd, a balconi lle disgleiriai’r holl stryd brysur, lydan oddi tanom. Yno roedd plant yn rhedeg reiat o gwmpas y fflat tra dawnsiai eu rhieni o’u cwmpas. Roedd sbliff yn cael ei phasio o amgylch yr ystafell a chawsom ninnau, allan ar y balconi, ein cornelu gan ddyn ifanc oedd yn meddwl mai ei gyfaill yntau oedd y boi doniola’n fyw, am iddo benderfynu codi pac am Sbaen, ond iddo gael ei ddiportio o’r wlad gwta ddeufis ar ôl ei chyrraedd.

Pan adawodd L. a minnau ryw deirawr yn ddiweddarach, roedd tramwyfa’r pafin wedi tawelu’n sylweddol, er bod y traffig yn dal i ruo wrth inni ymlwybro’n ôl at yr hostel yn San Telmo, a gridiau map y palmant yn wag unwaith eto. Mewn gwirionedd, pe bai L. a minnau wedi dewis addef y naill wrth y llall, yr oeddem yn annibynnol ar ein gilydd wedi teimlo dogn go helaeth o berygl ac ofn wrth ddychwelyd ar hyd yr Av. de 9 Julio, pob adyn blêr a’n pasiai bellach yn gwisgo golwg go filain yn ei drem, a’i osgo’n fygythiol. Ond dyma gyflymu’n camre ryw fymryn a distewi, yn falch o gyrraedd drws y llety mewn un darn ond yn falch hefyd o fod wedi cael profi goleuadau llachar a chorneli tywyll y ddinas hanner-gorffenedig.

Y bore wedyn roedd hi’n bwrw’n ysgafn, bron yr unig law a gawsom tra buom yn y wlad, a braidd na welech ben draw’r strydoedd trwy’r niwl. Ymlwybrodd L. a minnau drachefn hyd gridiau San Telmo, oedd yn ddieithr unwaith eto mewn glaw a golau dydd, a map y noson cynt fwy neu lai wedi’i ddifetha. Anelem am amgueddfa El Zanjón de Granados.

Ger Defensa daethom o hyd i ddrysau mawr pren, siâp grid, ym mlaen adeilad a ymddangosai’n debyg i bob un arall ar y stryd. Dyma ganu’r gloch, gan aros am beth amser, i’r fath raddau nes inni ystyried gadael. Ond agorwyd inni o’r diwedd a chamodd y ddau ohonom i mewn i ofod rhyfeddol. Safem mewn math ar hen dŷ a ddyddiai’n ôl, a barnu wrth ein safonau ninnau o’r henfyd, i tua 1800. Fe’n cyfarchwyd gan ŵr ifanc, a ymddangosodd fel pe o nunlle, ac roedd yn wir ddrwg ganddo a’i ymddiheuriadau’n llaes, ond os mai’n dymuniad oedd cael taith dywys drwy’r adeilad yn Saesneg, yna roedd rheidrwydd arno i’n hysbysu bod y wraig a arferai arwain y teithiau hynny yn bur wael ei hiechyd ac yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty. Ond byddai’n gwneud pob ymdrech bosibl i ddod o hyd i rywun a allai’n tywys. Efallai, awgrymodd â thinc o gyffro rhyfedd yn ei lais a’i lygaid yn bywiogi, efallai’n wir mai’r ‘director’ ei hun a fyddai’n ein harwain. Ynganodd y gair hwnnw nid yn y ffordd Saesneg ond yn y ffordd Sbaeneg. Gallai L. a minnau synhwyro, o dinc rhyfedd y gŵr ifanc, y byddai hyn yn fraint aruthrol pe bai’n digwydd. Felly y mae’r gagendor rhwng cyfandiroedd a rhwng diwylliannau o ddau ben gwahanol i’r byd yn ei amlygu ei hun pan gyferfydd y ddau, am wn i: mewn amrannau awgrymog ac yn nhinc y llais.

Diflannodd y gŵr ifanc ac roeddem ein hunain, drachefn, yn y gofod ysblennydd; rhyw fath o atriwm heb loriau uwch ein pennau a olygai y gallem weld hyd at y nenfwd. Roedd y brics coch wedi’u dadorchuddio ac wedi’u goleuo mewn modd artistig, nes na allem benderfynu a oeddem mewn tŷ tenement o ddechrau’r 19eg ganrif neu mewn oriel gelf. Safodd y ddau ohonom mewn distawrwydd nes ymhen hir a hwyr, eto fel pe o nunlle, yr ymddangosodd dyn penfoel, gwyn ei fwstásh, mewn pwlofyr las tywyll, trywsus melfaréd, a sbectol gron ar ei drwyn. Gwenodd arnom ac ar unwaith teimlem ein bod yng nghwmni rhyw henwr mwyn, neu daid, ond yr oedd rhywbeth hefyd yn ei wên ac yng nghyffyrddiad cadarn ei law pan fynnodd ysgwyd ein dwylo a awgrymai rhyw benderfyniad oedd yn ymylu ar lymder. Heb fawr ymdroi dechreuodd ein tywys o amgylch yr adeilad gyda chryn feistrolaeth a gwybodaeth drylwyr. Roedd ganddo nifer o idiomau a throeon ymadrodd wrth siarad a’m trawai i’n lledrithiol neu’n hudol; y math o briodweddau na allent ond deillio o gael y Saesneg yn wirioneddol yn ail iaith, nid yn rhyw iaith-gyntaf-arall fel y mae gennym ninnau. Bron nad clywed ei Sbaeneg drwy hidlydd a wnaem. Wrth inni basio ffenestr uchel mewn wal a wahanai ddwy ran wahanol o’r adeilad, ond a grëwyd ar gyfer siop nas adeiladwyd erioed, fe’i disgrifiodd fel ‘love letter to a marriage that never happened’. Trueni na allaf gofio’r lliaws troeon ymadrodd eraill a buprai ei sgwrs.

Holodd ni o ble deuem a beth oedd ein cefndir a’n gwaith. Roedd hyn yn bwysig, meddai, er mwyn iddo gael dewis pa straeon a pha fanylion i’w rhannu â ni, ‘because there are many ways of looking at a stone’. Wrth inni grwydro rhwng amrywiol lefelau y conventillo a chodi ac esgyn rhwng gwahanol haenau o’r adeilad, a dysgu drwy hynny am y ffyrdd y cawsai’r adeilad ei ddefnyddio dros y degawdau a’r canrifoedd, disgrifiai’r gŵr inni wahanol rannau ac arteffactau, megis y tanc dŵr seramig anferth a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach i storio blawd. Ar un adeg, bu’n floc o fflatiau i nifer o deuluoedd tlawd, a phan brynwyd y lle – roedd y gŵr yn hynod ofalus mai ‘we’ (‘ni’) a ddefnyddiai o hyd wrth grybwyll y prosiect – roedd mewn stad go druenus. Aeth â ni i lawr wedyn, ymhellach i grombil y lle, islaw lefel y stryd, nes ein harwain trwy gyfres o dwneli, eto i gyd â’u brics wedi’u goleuo’n gelfydd, a ymestynnai yn llawer pellach na’r hyn yr oedd modd i ninnau ei weld, nes inni gyrraedd un man lle’r oedd y palmant yn y llawr yn ymrannu’n ddwy ran, fel fforch, a’r ddau dwnnel wedyn yn ymestyn i ffwrdd i’r tywyllwch. Eglurodd yr henwr wrthym mai dyma’r lle a roesai’i enw i’r amgueddfa, y Zanjón de Granados, gan y golygai zanjón ryw fath o hafn neu geunant. Dyma’r ceunant lle cyfarfyddai dwy afon, unwaith, a’r man lle credid y cyfanheddwyd gyntaf pan ddaeth y Sbaenwyr, dan arweiniad Pedro de Mendoza, i sefydlu Santes Fair y Pêr Awelon. Daliai’r ddwy afon fechan i lifo o dan y palmant hwn, gan ddylifo maes o law i afon Plata, rai degau o fetrau i’r dwyrain.

Erbyn diwedd y daith, er nad oedd neb wedi dweud hynny wrthym yn uniongyrchol, roeddem wedi synhwyro mai’r dyn hwn yn wir oedd y ‘director’ ei hun. I wneud yn berffaith saff, hanner gofynnais iddo am hyn, ac atebodd yntau’n syth: ‘I am the man who did it.’ Soniodd am lythyr yr oedd wedi’i dderbyn rai blynyddoedd yn ôl gan hen wreigan a arferai fyw yn yr adeilad pan oedd, o hyd, wedi’i rannu’n slymiau. Roedd hi’n hynod ddiolchgar iddo am ei waith yn trawsffurfio a chadw’r adeilad, a bu hi’n anfon disgrifiadau helaeth ato o’r ffordd o fyw yno yn ei phlentyndod ac o gyflwr a ffurf y lle y pryd hwnnw. Er ei gobaith a’i deisyfiad i gael dychwelyd i weld y lle unwaith drachefn, bu hithau farw mewn damwain car cyn cael cyfle i wneud hynny. Yr oedd a wnelo hyn, eglurodd yr henwr, â rhywbeth na fyddem ninnau eto o reidrwydd, yn ifanc fel roeddem, yn gwybod fawr ddim yn ei gylch, gair sydd yn fy nharo’n awr, wrth imi geisio dweud yr hanes, yn anodd i’w gyfleu mewn un gair Cymraeg, ai tynged, neu ffawd, neu ragordeiniad: ‘destiny’ oedd y gair a ddefnyddiodd yntau. ‘Destiny’ a’i harweiniodd o, yn bensaer ac yn ŵr busnes ifanc ddechrau’r wythdegau, i brynu’r adeilad hwn a dechrau ei droi yn fwyty a gwesty moethus, ond ei fod wedi canfod y zanjón islaw’r adeilad, a’r twneli, a’r trugareddau i gyd, yn y broses, ac wedi penderfynu troi’r lle yn amgueddfa i fyd a ddiflanasai. Fyth oddi ar hynny, roedd wedi cysegru ei fywyd a’i waith i’r adeilad hwn, i’w adferiad a’i gadwraeth, yng nghwmni tîm o benseiri ac adeiladwyr, er mwyn bod, yn ei eiriau ei hun, ‘the archaeologist of memory, the custodian of this house of destiny’.

Ychydig a wyddai yntau, fodd bynnag, y byddai’r gair hwnnw a’r hyn oedd ganddo i’w ddweud nesaf, bron fel pe drwy ‘destiny’, yn lliwio ac efallai’n llywio’r cyfan a welem dros y dyddiau a’r wythnosau canlynol. Ceisiodd egluro’i deimladau am y tŷ hynod a’r modd yr oedd wedi newid cwrs ei fywyd trwy gyfrwng y ddau air Saesneg ‘story’ a ‘history’, gan honni mai dim ond un gair cyfatebol oedd mewn Castellano, ac y gallai ‘historia’ olygu stori neu hanes, ac yn wir nad oedd modd bob amser wahaniaethu rhyngddynt. Yn hynny o beth ni allai fod yn gwbl sicr beth oedd wedi digwydd iddo dros y deng mlynedd ar hugain a mwy diwethaf, a oedd hyn oll wedi digwydd go iawn, nac yn wir beth a gynhwysai’r tŷ ei hun a’r holl bethau a oedd wedi digwydd rhwng ei furiau dros y canrifoedd, ai ‘story’ ynteu ‘history’.

Cofiais innau am fy astudiaethau rai blynyddoedd yn ôl, a’r modd yr oeddwn wedi canfod mai ffenomen neu ffordd o feddwl gymharol fodern yw’n dull ni o wahaniaethu’n eglur rhwng ffaith a ffuglen, rhwng historia a stori, a rhwng historia, argumentum, a fabula. Cofiwn fel roeddwn wedi darllen cyfrol gan ysgolhaig o’r enw D. H. Green, a ddadleuai nad oedd cynulleidfaoedd canoloesol yn malio rhyw lawer p’un a oedd rhyw chwedl neu’i gilydd yn ‘wir’ ai peidio – hynny yw, a oedd yn ffeithiol a hanesyddol gywir. Na, iddynt hwythau, roedd a wnelo ‘gwirionedd’ yn fwy o lawer â’r cwestiwn a oedd rhywbeth yn gredadwy ai peidio: nid gofyn felly a oedd rhyw chwedl wedi digwydd go iawn (historia), yn gymaint â gofyn a allai o fewn ffiniau pethau credadwy fod wedi digwydd go iawn (argumentum). Ond y tu hwnt i hynny, gallai’r cynulleidfaoedd hyn hefyd dderbyn fod i rai chwedlau gymeriadau a digwyddiadau nad oedd modd yn y byd gredu iddynt fyw neu ddigwydd go iawn. Doedd hynny’n mennu dim ar eu mwynhad nac ar eu gallu i dderbyn yr amrywiol elfennau hyn o fewn yr un chwedl, heb ofyn ‘pa rannau o’r stori hon sy’n wir’ a beth sy’n ffrwyth y dychymyg. I mi roedd hyn yn awgrymu eu bod hwythau, yn eu ffordd, yn gynulleidfa dipyn mwy aeddfed na ni heddiw, gan eu bod yn derbyn yn llawen mai clytwaith o wirioneddau a chelwyddau yw pob stori dda mewn gwirionedd, ac yn gallu mwynhau’r stori, a’i hadrodd a’i thraddodi, doed a ddelo.

Wrth inni ffarwelio â’r ‘director’ hynaws ac wrth inni ymadael â’r Pêr Awelon rai oriau’n ddiweddarach, ni allwn ymysgwyd oddi wrth yr hyn yr oedd yntau wedi’i ddweud wrthym y bore hwnnw, a’r modd yr oedd wedi f’atgoffa o’r ffin hynod denau ac, yn y pen draw, gwbl ddibwys a diarwyddocâd honno, rhwng gwir a gau, rhwng beth sy’n real a’r hyn sy’n gynnyrch y dychymyg. Gyda’i eiriau ar ein meddyliau yr hedfanodd L. a minnau yn ein blaen, gan esgyn oddi wrth ddinas hanner-gorffenedig y pêr awelon tuag at gyflawnder diddiwedd y paith.

Amhosib bellach fyddai amgyffred yn iawn yr effaith a gafodd y ffaith inni ymweld â’r Pêr Awelon yn gyntaf ar ein hymweliad canlynol â’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, a hithau’n wacach a mwy diffaith yno, a’r Gaiman fel y bedd. Doedd dim modd dileu’r drefn honno, a’r dolenni a’r cysylltiadau a greodd ynom, na’i dad-wneud bellach. Y ffaith, er enghraifft, inni ymweld â Phortmeirwon (chwadal Twm Morys ac Iwan Llwyd), y fynwent anferth yn Recoleta, a’i phalasau enfawr o gerrig beddi i’r meirwon cyfoethog, cyn cael cyfle i ymlwybro rhwng cerrig beddi diffaith, moel, Piwritanaidd y Gaiman. Rhyfedd meddwl mai’r rheini, ac nid creadigaethau mawr coegwych Recoleta, a ymddangosai’n hen ffasiwn a threuliedig, bron yn kitsch. Mewn tref fel y Gaiman, lle’r oedd fel petai amser wedi aros nes y teimlai’r byd newydd hwn gymaint yn hŷn na’n henfyd ninnau, ni allwn lai na theimlo nad oedd y pensaer mwyn mwstasiog hwnnw, a’i gymysgedd o story a history, ymhell o’i le.

Wn i ddim beth roedden ni’n ei ddisgwyl gan y lle. Nid Cymru oedd yma; neu o leiaf, nid oedd Cymry yma. Ond roedd yr hydref yn fwy taer yn y fan hon, y dail yn frown ac aur eisoes, a ninnau’n teimlo’r oerfel. Un siesta parhaol oedd hi, ninnau’r unig gwsmeriaid yn prynu cig a chaws a bara a gwin o’r archfarchnad fechan, ac yn caru’r prynhawniau lle nad oedd neb. Roedd yr haul yn danbaid o oer.

Cawsom ein siomi droeon yn ystod y daith honno: roedd y felin yn Nolavon ar gau, a’r perchennog ar ei wyliau blynyddol yn La Plata gyda’i ferch; yn Nhŷ’r Bardd (marw) roedd y ddynes agor drysau yn gwneud ei neges yn y dref; yn nhŷ’r bardd (byw) yn Nhrelew cawsom ei fod wedi symud ers rhai blynyddoedd i Bariloche. Doedd dim sôn am fynd i fyny i Ffos Halen heb fod gennym ein car ein hunain, a dim ond trwy garedigrwydd a haelioni Anabel y llwyddasom i ymweld â Bod Iwan. Ar ôl cerdded yr holl ffordd o orsaf fysiau Porth Madryn, hyd y traeth eang a’r gwynt yn chwipio, at ogofâu’r fintai gyntaf, dyma gael hefyd fod amgueddfa’r glaniad ar gau a neb hyd y lle i agor inni. Roedd hi’n temporada baja drwy’r byd, pob atyniad wedi cau. Pam, wedyn, roeddem ninnau ein dau wedi disgwyl i’r llefydd hyn aros ar agor dim ond ar ein cyfer ni, fel petai gennym ryw hawl i ymweld â hwy, wn i ddim.

Un peth a’n trawai ni’n dau’n od oedd fuaned y tywyllai hi yn y Gaiman pan ddeuai’r nos ar ein gwarthaf. Roeddem newydd ddod o Buenos Aires, a oedd fel pe bai wedi’i goleuo’n barhaus (o leiaf yn y strydoedd hirion, llydain, prysur, os nad ymhob cilfach). Wrth gwrs, roedd y ddinas honno rai cannoedd o filltiroedd yn nes at y cyhydedd, er nad wy’n ddigon o arbenigwr meteorolegol i allu dweud a oedd hynny’n ddigon i beri gwahaniaeth y gellid sylwi arno. Sut roedd ffenomen mor naturiol, sef y ffaith ei bod yn nosi ynghynt wrth i’r hydref gau, wedi ymddangos mor annisgwyl inni? Oherwydd ein bod, mae’n siŵr, newydd lanio yno yn ystod ein mis Mai ninnau, lle roedd popeth gartref ar ledu. Pan yw rhywun yn byw yn rhywle, ac yn trigo yno’n feunyddiol, ychydig a sylwa ar y dydd yn ymestyn neu’n byrhau oherwydd natur raddol y peth; ond o gael ein taflu i ganol yr hydref hwn a’i chael mwyaf sydyn yn tywyllu, nid am naw neu ddeg y nos, ond am bump y prynhawn, roedd yr effaith arnom gymaint yn ddyfnach. At hynny, roedd yr holl dref fel petai’n syrthio i drwmgwsg tuag un y prynhawn, ac nid oedd i’w gweld yn deffro tan tua’r pedwar i bump, a lle byddai pawb yn yr hydref yng Nghymru, er enghraifft, yn meddwl oddeutu’r chwech o’r gloch am ei throi hi am adref, cau’r llenni, rhoi sosbennaid o rywbeth ar y stof a swatio, yma roedd pobl yn dechrau ymdroi ac ymddangos, a mynd o siop i siop yn gwneud eu neges.

Doedd dim amdani ond cydymffurfio, wrth gwrs; rhannu potel o win dros ginio a gadael i honno’n gyrru i gysgu am awr neu ddwy, cyn deffro wedyn a hithau ar dywyllu, a meddwl am gychwyn allan. O’r herwydd, mae nifer o’m hatgofion i o’r Gaiman yn chwarae yn fy nghof fel petai mewn rhyw hanner gwyll, neu fel arall yn gras dan olau trydan melynwyn ac yn cyferbynnu â’r tywyllwch wedi’i fframio yn y ffenestri.

A hithau eisoes yn bur dywyll y tu allan wrth i’r gloch ganu ac i ninnau gamu i mewn o’r stryd, ymwelodd L. a minnau â siop ddillad Lisabeta, neu Bet, ar y stryd fawr. Cael ein cymell i fentro yno a wnaethom, a hynny gan gyfaill inni a oedd yn dallt y dalltings, er mwyn cael clywed llond ceg o Gymraeg. Ond pwy yn ei iawn bwyll fyddai’n camu i mewn i siop ddinod, hen ffasiwn yr olwg, ar stryd fawr dywyll yng nghrombil De’r Amerig, er mwyn clywed llond ceg o’r hen Gymraeg? A beth oeddem ni i fod i’w ddweud?

Fel y bu, yr hyn a’n trawodd cyn dim arall wrth gamu i mewn oedd cynllun a gwedd y siop ei hun, gyda chownter mawr ac arno’n sownd bren mesur y gellid ei ddefnyddio i fesur a thorri defnydd, ac ar y waliau roedd silffoedd metel gwynion yn llawn bocseidiau a dilladach mewn bagiau plastig tryloyw blith draphlith. Bychan oedd y siop i gyd, ond llenwid y rhan fwyaf ohoni gan reseli metel ar olwynion, digon simsan yr olwg, yn drymlwythog gan ddillad. Ceid pentyrrau o hen gatalogau ar y carped llwyd y fan acw a’r merched ynddynt yn llawn colur a gwalltiau mawr, yn syth o’r wythdegau neu ddechrau’r nawdegau; ac ynghanol y cyfan yn ymbrysuro ac yn twtio rywfaint, roedd hen wreigan mewn gilet o gnu glas. Gryfed oedd effaith gyfun yr holl le hwn arnom, a’r modd yr oedd, rywsut, wedi’n cludo i ryw fan – rhyw hen siop yn niwl y cof a ninnau yn llaw’n mamau – yn syth o’n plentyndod, nes nad oedd cyfarch y wreigan hon yn Gymraeg, bellach, a dweud wrthi’n ymddiheurgar ein bod wedi meddwl galw heibio ers tro byd, yn ddim ond y peth mwyaf naturiol a greddfol posibl i’w wneud.

fabula

Safodd hithau’n stond pan welodd ni a phan glywodd ni, gan syllu arnom, a ninnau’n gallu’i gweld yn ceisio dirnad ai rhywun yr oedd hi’n ei adnabod oedd y ddau ifanc o’i blaen, ynteu rhywrai o ‘draw’. Tybed a deimlai ei hun yn heneb o’n blaen? Ond roedd yn gynnes ei chroeso ac os teimlai felly nid amlygodd hynny yn ei hwyneb na’i llais. Holodd ni’n dwll am ein cartrefi, ein rhieni, ein gwaith, ein rhesymau dros ddod draw, gan ychwanegu bob hyn a hyn mor braf oedd cael sgwrsio yn yr heniaith, a hel clecs am bob adyn byw hyd y dref. Yr oedd yn awyddus, meddai, wedi deall ein bod yn ffrindiau i Siwan, ein ffrind oedd wedi dod draw yno i ddysgu, i ddod o hyd i ŵr iddi er mwyn ei chadw yma. Cwynai fod ‘Bolifianos’ ymhobman bellach, wedi dwyn llafur y ffermydd, yn bla hyd y dref ac yn gwrthod na pharchu treftadaeth Gymreig yr ardal na dysgu’r iaith. O’r tu allan gallem weld y deisyfiad hwn fel un absẃrd: pam byddai’r sawl a deithiodd gannoedd o filltiroedd er mwyn cael arian prin, er mwyn bwydo’u lliaws plant, ac er mwyn adeiladu rhyw fath o fywyd, yn poeni’r un ffeuen am iaith farw o ben draw’r byd, a phawb yn medru’r Sbaeneg p’run bynnag? Yr oedd y ‘Bolifianos’, yn ôl Bet, yn hawlio – na, yn mynnu – llefrith gan y wladwriaeth i’w roi i’w plant, ac yna’n ei yfed eu hunain.

Buan y cawsom Bet oddi ar y trywydd hwn, ac i diriogaeth fwy diogel ei hatgofion. Roedd hi wedi’i magu ar un o ffermydd y Dyffryn, ond wedi symud i’r dref ar ôl priodi, i ddysgu yn gyntaf cyn ymgymryd â’r siop ddillad. Mor braf oedd hi, ategodd eto, i gael siarad Cymraeg â rhywun newydd. Roedd hi wedi colli’i gŵr rai blynyddoedd ynghynt: yn wir, holodd, a oeddem wedi clywed am y colledion niferus diweddar a oedd wedi dod i ran y gwladfawyr? Rhyfedd o beth, meddai, y ffordd yr oedd rhyw bump neu chwech o’i chyfoedion neu rai fymryn yn hŷn na hi wedi’u colli o fewn bwlch o ychydig wythnosau: to cyfan o wladfawyr wedi mynd. Yno y’m trawodd ac y cefais ragargoel o’r hyn a allai ddod i’n rhan ninnau ymhen rhai blynyddoedd hefyd: colli pump neu chwech yn golygu colli to cyfan. Roedd y peth yn syml o anochel.

Câi Bet fwynhad yn ddiweddar, serch hynny, o fenthyca llyfrau o’r llyfrgell symudol a byddai ei merch yn ei helpu i ddewis. Un hanes yr oedd wedi dod ar ei draws yn ddiweddar oedd hanes Nel Fach y Bwcs, ac yn ddirybudd reit dechreuodd Bet adrodd y stori inni yn ei holl fanylion. Troais i edrych ar L., ac roedd yn amlwg ei bod hi’n dilyn y stori bob gair, ond roeddwn innau’n cael trafferth clywed, braidd, ac roedd Bet wedi symud mor ddisymwth o’r hanes am golli’i gŵr i’r hanes am y llyfrau ac o hynny wedyn at hanes Nel nes na chredaf imi ddeall tan yn ddiweddarach, ar ôl i L. egluro wrthyf, mai adrodd hanes o lyfr yr oedd Bet bellach. Gymaint yr oedd hi wedi sôn am yr hwn a’r hon a’r llall, gan neidio o’r naill stori i un arall a chan enwi nifer o drigolion y dref nad oeddent yn hysbys i mi, nes mai un stori arall i mi oedd stori Nel yng ngenau’r wraig hon. Fe’m dryswyd hefyd gan na allwn gredu, wrth glywed y digwyddiad ar ôl digwyddiad enbyd y bu raid i Nel a’i theulu eu hwynebu yn nyddiau cynnar y Wladfa, fod hwn yn hanes ffeithiol wir. Roedd y dioddef parhaus yn ormod – dim ond melodrama o ffantasi rhyw awdur sentimental allai ddyfeisio’r fath ddioddefaint.

Bellach yr oedd Bet yn ei hwyliau, ac wedi cyrraedd y bennod pan oedd tad Nel a’r bechgyn ar daith i ffwrdd o’u cartref ar fferm y Llain Las, a hithau Nel wedi cael ei siarsio i edrych ar ôl ei mam. Pe câi ei mam feichiog ei tharo’n wael, roedd Nel i farchogaeth ar unwaith i ymofyn am ryw Mrs Jones. Dyna a ddigwyddodd, a hynny a wnaeth, ond iddi golli ei cheffyl a mynd ar goll yn y tywyllwch wrth gerdded tua chartref Mrs Jones. Y fath ofn a ddaethai drosti. Nid tan i’r wawr dorri y llwyddodd i ddychwelyd i’r fferm, a’i mam yn cysgu’n drwm a’i thad yn wylo drosti. A Bet yno yn dweud wrthym, ‘Ond, O! – roedd ei mam wedi marw!’, a’r dagrau erbyn hynny yn llenwi ei llygaid. Sylweddolais nad adrodd stori yr oedd Bet wedi’r cwbl, ond gweld y cyfan yn digwydd o flaen ei llygaid, a’i draethu wrthym fel pe o’i phrofiad ei hun, a holl alar y colledion niferus a ddaeth i’w rhan dros yr wythnosau blaenorol yn canfod ei ffordd allan trwy gyfrwng yr hanesyn bychan hwn am un o ferched cynta’r paith, hithau hefyd yr eiliad honno unwaith eto’n ferch fach.

Ddiwedd y prynhawn blaenorol, roeddem wedi mynd am dro i fyny at y bryn hwnnw lle trigai’r fynwent. Oeddwn, roeddwn i wedi gweld Tegai ar y teledu ddegau o weithiau, wedi clywed ei llais a dysgu amdani, wedi synhwyro’i chanoneiddio a’i gwynfydoli ymysg rhai hyd yn oed. Ond buasai farw gwta bythefnos cyn inni gyrraedd, a ninnau’n gresynu ac yn pitïo – eto fel pe bai gennym ni ryw hawl i’w gweld a’i chyfarfod. Bellach dyma ni wedi dod ar ryw fath o bererindod i weld lle’r oedd Tegai wedi’i rhoi i orffwys. Ond doedd dim maen eto, gydag enw, dyddiadau, cwpled o goffâd, dim blodau chwaith, holl baraffernalia galar. Bu raid inni holi’r garddwr a’i gi chweiniog i gadarnhau mai dyma’r union fan. Y cyfan oedd yno oedd bwlch rhwng dau fedd, rhwng tad a brawd, yn wir, a dim ond bloc sment a thamaid o darp drosto a hwnnw’n fflapio’n y gwynt.

Tybiai’r ddau ohonom wedyn mai dyna pam roedd yr holl dref wedi bod yn dawel, fel pe bai’n gwrthod datgelu’i rhyfeddodau inni ac yn methu ag ildio’i hanes, oherwydd ei bod yn annatod glwm wrth Tegai ei hun, neu’n lle a oedd wedi’i gloi yn ei phen a’i chof ac felly’n anghyrraedd o dan y sment hwnnw. Nid wedi cau oherwydd diffyg ymwelwyr y tymor isel yr oedd y tai te oll: ar gau mewn galar roeddent, ac mewn anghofrwydd.

Ni chredaf erioed o’r blaen i’r un o’r ddau ohonom deimlo cymaint o alar ar ôl rhywun na fu inni gyfarfod â nhw yn ein bywyd. Roedd ei habsenoldeb lle bynnag yr elem i’w deimlo’n eang a llychlyd a gwag fel paith.

Erbyn inni ffarwelio â Bet a chamu allan o’r siop, roedd hi wedi tywyllu’n llwyr, ac roedd y stryd wedi dechrau tawelu. Sylwodd y ddau ohonom ar yr amser: roeddem wedi colli’r bws i Drelew a cholli’r cyfle felly i gyfarfod â Siwan i gael tamaid o swper. Gyflymed yr oedd hanner nos yn cyrraedd yma, a’r prynhawn wedi’i golli i gwsg a neb yn bwyta tan ar ôl deg yr hwyr. Doedd dim modd cysylltu â hi chwaith i roi gwybod, a ninnau ar drugaredd y signal di-wifr a Siop Bara wedi hen gau. Doedd dim amdani felly ond mynd i’r ciosg ar y gornel i brynu pecyn o Twistos a photelaid neu ddwy o Quilmes oer, a’i throi’n ôl am Blas y Coed i’w llarpio. Ta waeth, caem weld Siwan, Anabel, Nesta a lliaws o rai eraill y noson ganlynol. Caem hwyl yn eu cwmni, ac wedyn roedd y paith yn aros, y daith hir ar fws a’r brêcio sydyn dros batshys o eira yn nadu inni gysgu a ninnau’n methu gweld dim o’r ehangder, dim ond deffro i dywyllwch a niwl a’r holl awyr yn cau ar Esquel ac ar Drevelin, nes i’r cymylau ddianc rai dyddiau’n ddiweddarach, a Gorsedd y Cwmwl yn aros amdanom, yn eira i gyd.


Enillodd cyfrol Llŷr Gwyn Lewis, Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa), y categori ffeithiol greadigol yng nghystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2015. 


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Straeon byrion, Llŷr Gwyn Lewis

 


Na, iddynt hwythau, roedd a wnelo ‘gwirionedd’ yn fwy o lawer â’r cwestiwn a oedd rhywbeth yn gredadwy ai peidio

Dyddiad cyhoeddi: 27·06·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Iolo ap Dafydd

Mae ffiniau nifer fawr o wledydd Canolbarth Asia a’r Dwyrain Canol wedi symud dros y canrifoedd. Ac mae llawer o bobl y rhanbarth yn parhau i gondemnio imperialwyr Ffrengig a Phrydeinig am ffiniau a gaiff eu hystyried yn rhai ffug. Syria,…

Cyfweld


Dyl Mei a Marged Tudur

Mae Rhywbeth i’w Ddweud yn gyfrol o ysgrifau am ddeg o ganeuon gwleidyddol a ysgrifennwyd rhwng 1979 a 2016. Ymysg y deg mae ‘Gwesty Cymru’ Geraint Jarman a ‘Gwlad ar fy Nghefn’ gan Datblygu. Dewisodd Dyl Mei ysgrifennu ei gyfraniad yntau i'r gyfrol am 'Talu Bils' gan Rodney Evans. Un o'r golygyddion, Marged…

Dadansoddi


Ned Thomas

Roedd hi'n adeg y cynhaeaf, a daeth llu o fedelwyr i Barcelona heb i'r awdurdodau sylwi bod dim anarferol ar y gweill. Ymunodd nifer o arweinwyr y dosbarth canol â'r gwrthryfel, yn eu plith y clerigwr Pau Claris, a gofir hefyd am iddo sicrhau…

Adolygu


Mared Llywelyn

Hawdd dychmygu bod llawer un ar bigau’r drain wrth weld taith Mwgsi yn dynesu a rhywun yn ymwybodol y byddai llygaid pawb ar y cynhyrchiad. Roedd yn addo bod yn brofiad anodd ac emosiynol ar y gorau, oherwydd nid stori wneud yw hon ond stori wir.…

Dadansoddi


Dylan Huw

Yn ei waith dylanwadol Cruising Utopia, mae’r theorïwr José Esteban Muñoz yn galw am ddealltwriaeth o fodolaeth hoyw â gyriad iwtopig yn ganolbwynt iddi. Mae e’n defnyddio 'criwsio' am ryw fel trosiad ar gyfer ei weledigaeth ef o’r modd y gallwn ddod i ddeall y potensial i gymunedau LGBT+ sy’n deillio o…

Cyfansoddi


David Elwyn Lewis

Ymlwybrodd y trên trwy faestrefi Warszawa, heibio'r adeiladau aml-lawr concrid a dienaid. Ychydig a wyddai'r bachgen ar y pryd bod y ddinas hon, gwta ugain mlynedd ynghynt, ac fel cynifer o rai eraill, wedi ei difa'n llwyr. Ar ôl iddynt gyrraedd y brif orsaf,…

Adolygu


Iwan England

Fe’m magwyd i lai na dau gan metr o ddrws ffrynt cartre’r awdur, Huw Lewis. Roedd ei blentyndod e’n cwmpasu’r chwedegau a saithdegau’r ganrif ddiweddaf, cyfnod allweddol yn hanes pentref Aberfan. Dyma’r adeg pan lwyddodd y gymuned i ailadeiladu, gan glirio olion trychineb 1966 a sefydlu…

Cyfansoddi


Ffion Dafis

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol…