Cyfansoddi

Ingrid

Detholiad o nofel fuddugol y Fedal Ryddiaith 2019

Rhiannon Ifans

Ingrid

Y Lolfa, 176tt, £8.99, Awst 2019

Ingrid
Rhiannon Ifans

Amser darllen: 3 munud

25·09·2019

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad o eira mân. Llithrodd Ingrid y llafn yn isel drwy’r gwddw. Dyna dy ddiwedd di, gabatsien fach. Rhoddodd y pen ym mhoced lydan ei barclod. Gydag ymdrech gref y gwrthododd Ingrid y syniad o orwedd yn gynnes o dan y pridd, a’i chychwyn hi ar rafft o ddail cabaits i grombil y byd.

‘Ti’n cofio bod Klaus yn dod draw heddiw,’ meddai Gerhard dros ei wy wedi’i ferwi, ‘i helpu i docio’r gwrych sydd wedi sigo i’r ffordd, cyn inni gael dirwy.’ Pliciodd blisgyn ail wy heb sylwi arni’n syllu’n syn arno.

‘Klaus?’
‘Klaus. Mae’n byw ym mhen y stryd.’
‘Chlywais i rioed amdano fo.’

Gobeithiai Ingrid mai Klaus fyddai’n dal y gwellaif, neu fyddai wybod pa siâp fyddai ar y berth. Dau ddyn yn tin-droi hefo’r gwaith yn lle ei wneud o. Siarad mawr am drin gwrychoedd, tywydd bygythiol, a chwerthin am ben y tŵls llegach. Dyna’i hyd a’i led. Un peth oedd yn siŵr, fyddai hi ddim yn loetran yn y tŷ i wylio’r ddau yn gwneud dim. Newidiodd Ingrid ei hesgidiau diraen am fŵts cryf. Cipiodd ei chôt a’i botymu wrth groesi’r rhiniog. Allai hi ddim cael at yr awyr iach yn ddigon sydyn. Ie, heddiw amdani.

Wrth ddod allan i’r stryd gwelodd fod pobol y camerâu drud yn dal i alw ar eu hald. Ewrop mewn wythnos, Stuttgart mewn awr. Amser i weld dau beth, tŵr yr orsaf a Sgwâr y Palas – tri, a bod amser i redeg draw at y Tŷ Opera – cyn brysio nôl i’r bws a’r ffordd lydan i Heidelberg. Dim ond ambell belican yn yr anialwch oedd ar ôl i anadlu enaid y ddinas: y bryn porffor, y fforestydd yn esgyrn eira, S-Class, Porsche, grisiau cerrig, cadach molchi, cadach llawr, cadach llestri, llyfr cynilion, Hegel, Tomic, Schiller, Klinsmann, coffi cryf fel trwyth parddu, cwrw a sosej, bwrdeiswyr cefnsyth, marchnadoedd Filderkraut, tusŵau blodau, ailgylchu, ailgylchu, ailgylchu, Swabiaid Twrcaidd, Swabiaid Eidalaidd, Swabiaid brodorol, anthroposoffwyr, gwallt wedi’i blethu, torth wedi’i phlethu, Maultaschen, fanila, cnau castan o bwcedi tân, gwinllannau, hen swyddi, swyddi newydd mewn hen ddinas, dinas sydd â phopeth o bwys ynddi, neb yn aros i edrych, a phawb yn cwyno’i fyd.

Roedd Ingrid ar daith drwy’r ddinas ryfeddol hon – neu’r rhan orau ohoni. O’i chartref yn Heslach i lawr yn y dyffryn, byddai’n sawru pob eiliad nes deuai i ben ei siwrnai ymhen hir a hwyr.

Gyrrodd yr awel fain ias drwy ei gwaed, fel boreau oer ei phlentyndod gyda’i rhieni, brodyr, chwiorydd, neiniau, teidiau, ffrindiau a chymdogion. Cymaint o bobol. Cymaint o blant. Hi’n ddim mwy na mymryn yn ei dillad ysgol am y tro cyntaf. Mymryn eofn, a choler ei chrys yn rhwbio’i gên, yn gwbwl anystyriol o anferthedd yr eiliad.

‘Dyna’r olwg olaf welwn ni ar Ingrid ni,’ meddai ei mam o’r drws. ‘Croesi trothwy’r ysgol fydd ei diwedd hi.’ Ac mi roedd hi’n iawn. Câi Ingrid bleser anghyffredin yn yr ysgol, a Chatholigiaeth gyffredin gartref.

Yn y gwyliau, ei chyfrifoldeb hi oedd sgwrio’r bàth a’r tŷ bach cyn cinio, ac yn y pnawn chwynnu’r patsh radish, torri cabaits, torri saij, chwynnu a thorri, chwynnu a thorri, nes bod yr haul yn codi cawod goch o smotiau Vim dolurus ar ei dwylo. Yn yr ysgol câi stori antur am Villeroy yn Wallerfangen yn cyfarfod â Boch yn Mettlach ac yn sefydlu cwmni. Pan fyddai hi’n priodi byddai’n mynnu cael un o doiledau V&B i’w sgwrio, ac yn mynnu cyflogi garddwr fel na fyddai hi byth eto’n gorfod teimlo’r haul yn llosgi cemegion rhad i’w dwylo.

Roedd hi wastad yn gwybod y byddai’n priodi. Un o’i hoff ddifyrion pan oedd yn ei harddegau oedd ymarfer ei henw priod i weld p’un oedd yn canu orau – Ingrid Schneider, Ingrid von Adelshausen, Ingrid Luther? Teiliwr, uchelwr, neu ddiwinydd? Waeth p’un, ond roedd yn bwysig fod ei henw’n canu. Taenodd siôl dros ei phen a gwenu arni’i hun yn y drych. Byddai, byddai’n siŵr o briodi.

Mae Rhiannon Ifans yn arbenigo ym meysydd astudiaethau gwerin a llenyddiaeth ganoloesol. Yn gynharach eleni cyhoeddodd Red Hearts and Roses? Welsh Valentine Songs and Poems gyda Gwasg Prifysgol Cymru (2019). Enillodd Ingrid iddi wobr Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Dim ond ambell belican yn yr anialwch oedd ar ôl i anadlu enaid y ddinas: y bryn porffor, y fforestydd yn esgyrn eira, S-Class, Porsche, grisiau cerrig, cadach molchi, cadach llawr, cadach llestri, llyfr cynilion, Hegel, Tomic, Schiller, Klinsmann, coffi cryf fel trwyth parddu

Pynciau:

#Nofelau
#Eisteddfod