Cyfansoddi

Je ne parle pas français


Siân Melangell Dafydd

Amser darllen: 15 munud

25·11·2017

Dannedd bechgyn ieuanc o Ffrainc oedd yng ngheg Marged Elias. Un dant o’r geg hon ac un dant o’r geg arall – y gorau’n unig – a phob un wedi eu rhwymo’n ddwy res smart yn ei safn hithau. Weiren dynn wrth ambell un o’i bonion gwreiddiol – er bod y rheiny’n simsan – fel pyst i ddal y dannedd estron yn eu lle. Heb ei dannedd, teimlai’n gyfan gwbl borcyn, fel y byddaf innau heb glustdlysau.

Roedd Marged Elias ei hun wedi cael ei disodli gan ei dannedd erbyn i Nain adrodd ac ailadrodd ei hanes. Meddyliwn amdani’n ddiddillad, ddi-groen bellach, ei chnawd wedi diflannu yng nghoelcerth cof a dim byd ond y gwobrwyon gloyw yma ar ôl i’w chynrychioli. Dannedd a ddylai fod mewn bedd – na, beddau – yn Ffrainc.

‘Mi wyddoch chi ...’ meddai Nain, fel petawn i ddim yn gwybod, ‘fod arian wedi bod yn ein teulu ni, ar un cyfnod, a bod y Farged Elias hon, sawl cenhedlaeth yn ôl, wedi bod yn ddigon cefnog i brynu dannedd newydd.’ A phwysig oedd i ni ddeall nad dannedd ifori oedd ganddi hi, dim ffiars o beryg. Roedd y diffyg enamel ar bethau ffug fel hynny’n achosi pydredd cyn i chi gyfrif i ddeg.

‘Blas wermod a welingtons,’ meddai Nain, ond does wybod sut y daeth hi i’r casgliad hwnnw, a hithau ddim ond wedi cael tri filling du yn ei hoes. ‘Heb sôn am yr angen di-ben-draw am ffan i chwalu’r drewdod,’ meddai hi, ‘er mor ddel ydi ffan.’

Ta waeth, nid dannedd ifori hipopotamws, walrws nac eliffant oedd yng ngwên y Farged Elias – y cywilydd, meddyliwch – ond dannedd dynol, ffres. Waterloo, welwch chi, Waterloo oedd lwc y Farged Elias. Roedd anlwc Napoleon wedi darparu cyflenwad safonol o ddannedd gosod dibynadwy; pwy all gwyno am ryfel wedyn? (Nid yw Nain, fel arfer, yn rhoi cyfle i ni dorri ar ei thraws hi yma.) Aeth yr hen ferch i waelod ei phoced ac estyn dwy gini am bob dant. Roedd hi’n ddynes bropor, welwch chi. Doedd fiw iddi ymddangos fel dynes allai fforddio’r siwgr i bydru ei dannedd ond nid y dannedd newydd i guddio’i ddifrod. Roedd yr ateb yn syml felly: dannedd Waterloo.

Sut mae ymateb i stori fel yna? Neis iawn, wir, Nain. Wedi’r cwbl, roedd y stôl llwynog am ysgwyddau Nain yn ddigon i droi stumog unrhyw un a phrin y gallwn i ddweud gair wrthi – ai llygaid gwydr welais i yn y pen coch, a’r trwyn wedi ei wisgo’n denau fel rhyw hen sgarff? 

Dyna ddannedd mawr sy’ gennych chi, Nain!

Dim ond dau le oedd o unrhyw ddiddordeb yn Llundain. Smithfield oedd un: digon teg. Y deintydd Paul Jullion, Stryd Gerrard, oedd y llall, wedi hen ymddeol a mynd i’w fedd, mae’n siŵr, ond pwysig oedd y cyfeiriad, er mai twmplenni corgimychiaid dim sum blasus ar y naw gefais i yno. Dim un deintydd i’w weld ar gyfyl y lle, ond beth arall fyddai rhywun yn ei ddisgwyl a’r lle yn Chinatown bellach?      

Y rhyfeddaf peth: dechreuodd Marged Elias chwibanu mae’n debyg, a hynny yr union eiliad y gosodwyd y dannedd newydd yn sownd yn eu priod le. Gweithred anwirfoddol i gychwyn: diolch, gwych (gwich), chwythu (gwich), chwith (gwich). Dyna i chi beth! Cyn iddi feistroli ei sŵn, ei swyn, beth bynnag oedd o, roedd fel petai ganddi ail iaith. Ond nid chwiban bigog fel ffarmwr wrth gi oedd ganddi, cofiwch, ond melodïau chwim, nodau bychain fel petai’r dannedd wedi dod, nid gan fechgyn, ac yn sicr nid gan filwyr, ond gan haid o deloriaid dros y gaeaf. Roedd un peth yn sicr: eisteddai dannedd dynion ifanc Ffrainc yn dra gwahanol yn ei cheg i’w dannedd ei hunan. Er mor benderfynol oedd ei gŵr i dynhau’r gwifrau yn ei gên, ‘Na,’ oedd ei hateb. Na, gan fod gollwng melodïau yn ddamweiniol wrth yfed te yn ei phlesio. Ac roedd hynny gymaint gwell na gadael i fysedd trwsgl dyn ddod yn agos at ei dwy-gini-y-dant.

‘Fyddwn i ond chwinciad,’ meddai o. ‘Dim ond fel gosod ffens bren ydyn nhw, siŵr.’ ‘Rhag eich cywilydd chi am fychanu dawn Mr Jullion,’ oedd hi wedyn. ‘Roedd eu gosod nhw yn eu lle iawn yn broses mor gywrain â thiwnio telyn.’ A dyna, felly, oedd ei diwedd hi.

Ychwanegais innau un tro mai lleidr, o fath, oedd yr hen Monsieur Jullion, yn ogystal â deintydd a thiwniwr telynau, ond annoeth oedd hynny hefyd. I Nain, roedd Marged Elias yn berthynas, ac i minnau mae hi’n stori. Diolch felly mai fi oedd yn eistedd ar fy nwylo fel merch ufudd yn yr archifdy wrth i’r dyn yno awgrymu fod gan yr hen Farged Elias ffynhonnell incwm ddirgel, fwy na gwerthu wyau – hyd yn oed os oedd hi’n byw mewn lle a oedd, ar yr olwg gyntaf, yn rhy anghysbell iddi ddod ar draws unrhyw enaid byw fyddai’n ei thalu am wasanaeth.   

‘Na,’ meddai Marged Elias, yn bendant, ‘fyddai hi ddim yn cael ei ailthiwnio.’ Magodd enw iddi hi ei hun ar ôl hynny fel dynes a allai wneud i eosiaid gwympo’n gelain yng nghanol pwff o gân wrth i’r pethau bach truan gystadlu â hi, eu cyrff bach i’w darganfod yn big-agored a stiff ac yn rowlio ar eu boliau caled hyd llwybrau’r ardd. Cariai hancesi poced wedi’u brodio ag M.E. glas golau – arferiad i guddio’r hen ddannedd wrth siarad – a hynny’n gwneud iddi edrych fel petai hi’n bwyta rhywbeth cwynfanllyd wrth ynganu geiriau (gwich).

Felly fe’i plannwyd hi ag iaith o fath, un newydd iddi. Petai dysgu iaith newydd ond mor hawdd â hynny. A minnau, wedyn, wedi straffaglu â’r Ffrangeg. Troi rhywun yn ddi-oed mae dysgu iaith. Gorfod dysgu Diolch, o’r newydd. Y dant gwyn, y llygad gwyn. Carwn baned o de os gwelwch yn – diar mi. Dim ond geiriau plant o fewn cyrraedd. Dylwn i fod wedi chwibanu, wedi canu, yn hytrach na gwneud giamocs a dweud llawer o ddim byd. Cael ei haildiwnio oedd fy ngheg. Cyhyrau gwahanol eu hangen i ynganu grenouilles hefo’i ouill anynad, New York-aidd, amhosib ei ddiffinio’n iawn gan nad yw cyhyrau ein cegau ni’n ymestyn ffordd yna fel rheol.

Fe ŵyr pawb yn y teulu am fodolaeth Marged Elias a’r ffaith fod dannedd Ffrancwyr ieuanc, wedi eu dethol a’u cyfuno fel ag yr oeddent yng ngheg un Gymraes, wedi gwneud ei cheg yn ddeliach, yn ddi-os, yn llai drewllyd efallai hefyd, ond yn fwy na hynny, wedi llenwi ei cheg â synau o’r nefoedd, wir Dduw. (Pa iaith yw iaith y nefoedd, go iawn?) Sŵn fyddai’n taro gwerthwyr gwartheg yn stond wrth iddynt heidio’u hugain heibio’r giât oedd ganddi; gwneud iddynt ystyried y weinidogaeth wrth iddynt glywed bob nodyn ddeuai o Hafod y Wennol. Gwyddom y ganwyd hi ger Llanwddyn – ac fe’i claddwyd hefyd ger Llanwddyn, hefo’i dannedd a’i hancesi – ac iddi roi genedigaeth i bedwar babi yn ystod ei hoes. Wyddom ni ddim mwy na hynny.  

Es ar bererindod i chwilio am gartref yr hen Farged Elias, disgwyl nyth o fiwsig a mwsogl a brigau mân ac wedyn cael syndod mai dyna’n wir oedd yno. Tŷ sydd bellach yn ddim ond cwt gwynt. Oglau dail tamp a chloron y tu mewn fel y tu allan. Glaw wedi meddiannu’r drysau. Mae’n debyg bod aelod olaf y teulu wedi symud oddi yno yng nghenhedlaeth Nain.

Ar y ffordd i Lyn Llanwddyn y mae Hafod y Wennol, er nad oedd llyn yno yn oes Marged Elias, cofiwch: doedd dim golwg o’r argae tan 1881. Ond defnyddio’r un hen ffordd wnes i, honno sy’n dilyn o Rosygwaliau i fyny Bwlch yr Owen i ben draw’r byd, fel petai: y llyn. Ffordd rhy wledig i’w rhoi ar fap iawn hyd heddiw. Lle plaen. Slap o las ac un arall o wyrdd, a thrwy’r rheiny, un llinell lwyd a syth yn f’arwain i fyny at yr awyr. Dim ond fi yn y byd, a thipyn sgrwb o dir. Awyr fel adain gwylan fawr. Dim twrw, dim ond fyny fan’cw a fi. Ac ar bob tro, mynd ymhellach i mewn i’m meddwl, yn penderfynu ail-greu Marged Elias yma i mi fy hun. Gweld pontydd, nentydd, penglog dafad. Pwy ddewisai dŷ yn y fath le, mewn tirlun fel petai dan effaith lodnwm. Dim pwrpas i ffôn na dim.    

Rywsut neu’i gilydd mae’n gwneud synnwyr i mi, rai canrifoedd yn ôl, yn hytrach na’r piod welwn i’n crawcian mewn awyr fawr lwyd, fod morfilod wedi bod yno. Wir. Bloneg bol mawr morfil rhwng y bryniau. Mae asgwrn un o’r morfilod ar dalcen porthdy eglwys Sant Tydecho ym Mallwyd.

Felly dyma lle’r oedd yr hen Farged yn byw, yn smart i gyd: awyr uwch ei phen hi lle’r oedd morfilod yn arfer nofio a hithau’n gwenu’n fawreddog ar ei byd, wrth gwrs. Bellach, mae ei rhiniog hi’n graciau dant y llew. Mae lliw hen selotep o lyfr sgrap i’r rhowtiau rhwng ei waliau. A phan gamais i mewn, bron i mi ddisgyn yn glep ar fy nhin wrth lithro ar lysnafedd hen ddail.

Symudais o gwmpas y tŷ fesul pytiau, gan darfu ar ddadlau mân llinos werdd ac asgell fraith – yr un pâr ym mhob ystafell, rydw i’n siŵr o hynny – oedd wedi ymgartrefu yn y ffrâm o dŷ ac yn mynd â’u dadl i le preifat bob tro’r oeddwn i’n eu dilyn.

Clên oeddwn i eisiau bod, os gallwn i, ond roedd y lle wedi cael tro gwael, yn disgyn amdano’i hun yn ddyrys, brysur. Fel Rauschenberg. Fel un o’r hysbysebion mawreddog ’na mae rhywun yn eu gweld yn anialwch Arizona, a’u neges yn garpiau.

Roedd y tŷ, i fod yn onest, yn gïach. Roedd cennau ar y waliau lle dylai paent fod; ar dapiau sinc y gegin mae’r geiriau: ‘Edwards & Co England’, ar y sinc, ‘spank me with a spoon’. Gadawais farc bysedd yno wrth ddarllen.

Roedd aelwyd y tŷ’n ddigon mawr i osod dwy gadair o’i blaen. Eisteddais yno, â’m tin ar ddail masarn ar y llawr, llygaid wrth lefel ffril chwaethus o ffwng yn tyfu o’r wal, ac yno, holais Marged Elias. Beth oedd hi’n ei feddwl o fywydau’r bechgyn ieuanc yn ei cheg? Dywedodd fod bywyd preifat yn amhosib yn ei byd. Yna tawelodd. Pwyntiodd at amryw synau: ffesant, gwiwerod maint cŵn defaid yn y simnai.    

Ond roedd bywyd cyfrinachol yn fater arall. Bron i mi dynnu darn o’r ffwng ond ailfeddyliais. Dim ond ei gyffwrdd wnes i – od fel maen nhw’n galed fel pren yn hytrach nag yn feddal fel clust cwningen. 

Dyma i chi sut beth oedd ceg yr hen Farged Elias wrth iddi siarad: un dant plaen yn felynwy yn erbyn y lleill ac yn erbyn yr hances wen, a’r weiren ym môn ei deintgig, yng ngolau grât, yn ei gwneud hi, bob darn, rywsut, yn beiriant. Gwneud i rywun sylwi ar ei hymddygiad ei hun hefyd. Nid ar ddannedd rhywun mae person yn edrych wrth sgwrsio’n naturiol, ond ar lygaid fel arfer. Ond does wybod sut lygaid oedd ym mhen Marged Elias.

I fyny’r grisiau nesaf, a chwilio am lofft. Grisiau simsan a’u llond o gregyn lludw. Mae egin blanhigion yn twrio trwy’r lloriau; corneli’r llofftydd wedi meddalu’n grwm i gyd, fel petai les hen ddynes wedi ei dwyn o’i drôr gwaelod a’i gwasgaru hyd y lloriau i bylu a datgymalu’n we pry cop. Wrth sefyll yn yr ystafell lle dylai gwely fod, ar sgwaryn delfrydol ar gyfer dressing table, patshyn gwelw ar y llawr hyd yn oed, rydw i bron yn siŵr i mi glywed llais yn dweud ‘Swper ar y bwrdd’, o’r ystafell ‘spank me with a spoon’. Dim ond yr adar oedd yno, yr un hen linos werdd a’r asgell fraith yn dal i hollti blew, ond ar sil y ffenestr y tro hwn.

Nid oedd awyr i’w gweld o’r ffenestr, dim ond lintel yn gwgu’n isel. Fe fyddai unrhyw ddynes mewn tŷ fel hwn yn teimlo fod Duw wedi ei phinio hi i’r union fan yma ar y map, a hithau ond yn medru tygio yn ei erbyn. Llyffethair pori tir, fel petai. Siawns, i’r Farged Elias hon, bod Nefoedd, Uffern a Phurdan yn wledydd agosach na Ffrainc.

*

Yn nrych y car, rydw i’n tynnu fy ngwefus yn ôl er mwyn gweld fy ngheg yn llydan fel y byddai deintydd yn ei wneud. Rhyfelgar yw’r rhai pellaf. A’r gwreiddiau, maen nhw’n mynd i mewn i’r ên, ddwywaith hyd dant. Mae fy mys yn llithro dros lympiau’r gwreiddiau ar y cnawd gwlyb ac mae hyd yn oed hynny’n brifo. Dyn mewn car yn pasio heibio’n meddwl ’mod i’n od ac yn hŵt hŵt. 

*

Gyda gefail ac arddwrn, buan mae tynnu dannedd. Ond meddyliwch, beth petai angen gwagio hanner can mil o gegau? Mi fydda i’n meddwl amdanyn nhw weithiau, cyn cysgu, fel ’taswn i’n herio fy hun â hunllef. Dynion golygus, blith draphlith mewn mwd ar faes y gad liw nos. Dim un yn gwingo, o leiaf. Eu dannedd yn cael eu bachu o’u cegau, eu gwerthu, eu gwisgo gan bobl â phocedi dyfnion. Fy hen, hen, hen, hen, hen nain yn un. Dannedd sawl dyn ifanc oedd ganddi yn ei cheg, tybed? Ai dannedd Ffrancwyr oedden nhw wedi’r cwbl? A hithau lawn mor debygol eu bod wedi dod o gegau ein ‘bois’ ni hefyd: dannedd y gelyn a chynghreiriaid Wellington mewn un geg, yn rhannu’r un swper a’r un poer.

Dwi’n cael hunllefau eraill; dilyn ffilmiau maen nhw’n aml. Y ffilm honno, er enghraifft, lle mae gelen neu bryfyn o ryw fath yn mynd i mewn i benglog rhywun trwy eu clust tra bo nhw’n cysgu. Enw’r ffilm oedd ... ta waeth ... aeth y pryfyn yna ddim o ’nghof i, ac felly mi fydda i’n cysgu gyda chlustogau mawr yn dynn bob ochr i mi. A beth am y ffilm Poltergeist yna – does gen i’m clem pa un, rŵan – lle mae clown yn cuddio o dan wely plentyn sy’n cysgu’n dawel a’i goesau a’i freichiau’n hongian dros ochrau’r gwely? Ac yna mae’r clown yn popian i fyny a chipio’r plentyn yn ôl i’r byd oddi tano. Digon i roi’r hibi-jibis am oes. Fydd dim un o’m coesau na’m breichiau i’n dangos dros yr ymylon. Ond gall merch sengl gysgu mewn siâp od os mynnith.  

Marc Chagall oedd yn un am glowniau, a fydda i ddim yn un am Chagall. Enillodd y farn honno swydd i mi’n syth o’r coleg: dweud fod clown ar gynfas yn fwy tebygol o anfon twristiaid i’r vestiaire na’r billetterie, côt ac ‘o ’ma’, nid ‘tocyn’! Hynny a’r ffaith ’mod i’n siarad Ffrangeg; os oes gallu gen i drafod clowniau Chagall a Camus, siawns y gallaf hefyd drafod siartiau SWOT, iogwrt, dibrisiadau a ballu.

Yn ôl y bòs, roeddwn i wedi’u plesio nhw gan ’mod i’n deall sut mae pobl yn ymateb i ddelwedd. Nid yw gwên o hyd yn ennyn gwên, nac ydi, Marged Elias? Fy annwyl glown â dannedd wedi’u dwyn, ac ambell hen un lliw disel. Rôl yp, rôl yp, dewch i weld y ddynes â gwên i wneud i chi wgu, irio, rhedeg.

Tybed a yw pob un o’m cyndadau – cynfamau – yn eistedd yn dawel tu mewn i mi ac yn dirgrynu weithiau, yn tynnu sylw atyn nhw eu hunain, o’r bliw?

Mae’r pethau mwyaf od yn medru dychryn hefyd. Ar y ffordd i’r gwaith bore ’ma, roedd merch fach – prin roedd hi’n cyrraedd fy mhen-glin – wedi dychryn yn ulw o weld Laa-Laa o’r Teletubbies yn fyw ac iach ac yn cymryd y lifft i’r pedwerydd llawr. Laura Accounts – mae hi’n feichiog iawn, ac mewn smoc felen a legings heddiw. ‘Freaks me out too,’ meddai Laura, gan ystumio at ei bol.

On’d oes gan bawb arfwisg? Marged: dannedd dynion. Y dynion, les cuirassiers français: dim digon. A minnau: wel, crysau startsh a sodlau sy’n darparu’r bara beunyddiol, felly startsh a sodlau amdani. Clustdlysau, wedyn, defod foreol i baratoi ar gyfer y frwydr: dewis pa bâr wrth yfed cwpanaid o ddŵr cynnes a lemon, eu stwffio i mewn i’r tyllau wrth ddarllen e-bost, tost.  Rhai bychain cameo sydd gen i heddiw. Ychydig bach o vintage, dim problem, er ’mod i’n gweithio mewn blwch mawr gwydr ffasiynol, diffwdan. Mae angen rhywbeth i’w sadio fo i’r ddaear go iawn, i arbed y cwbl rhag troi’n swigen o wynt: dau bin bach i ddweud, yn y fan hyn yr wyt ti.

Tybed beth fyddai’n achosi’r ofn mwyaf i Farged Elias, yma, heddiw – heblaw am ei hofn i wenu’n llawn – beth fyddai’n ei hanfon, mewn ffrog steil ffilm Jane Austen, i guddio o dan ddesg? Yn Hafod y Wennol, roedd foltedd ei phresenoldeb yn dal yno, er bod ôl pobl eraill ar ei hôl hi hefyd. Haul o ffenestr y gegin yn goleuo’i hwyneb wrth iddi eistedd ar ochr chwith y lle tân, y waliau’n chwibanu a’i phoer yn yr aer o hyd. Ond eto fyth, mae hi yma yn fy nhŵr gwydr dihanes hefyd. Ysgrifennais, ‘spank – spoon’, yn y dail te yn y sinc amser cinio. Duw a ŵyr ym mha ymgyrch hysbysebu y bydd geiriau sinc Hafod y Wennol i’w gweld nesaf – bydd rhywun ar y chweched llawr wedi eu cipio a’u defnyddio i werthu celfi gegin cŵl Prydeinig i’r Parisiens: donne-moi une fessée avec une petite cuillère – falle ddim.    

Ymgyrch iogwrt sydd ar f’ymennydd i heddiw, a hynny i farchnad Cymru. Mae rhan helaeth o’r diwrnod wedi diflannu felly, a minnau’n hogi geiriau ar fy nhafod.

‘Siarad hefo ti dy hun yn fan’cw eto?’ meddai’r bòs, yn fodlon. Ond rhaid i mi deimlo’n unig, er yr ugain arall sydd yma, tu ôl i ddesgiau. Rhaid anwybyddu’r ymbalfalu a’r siarad mân mewn sawl iaith. Yn y Gymraeg ydw i heddiw; yn y Gymraeg rydw i wedi fy sodro.

Mae ‘delete’ yr allweddell yn sgil gorddefnydd ymhell cyn i mi gyrraedd. Ddwywaith, rydw i’n mynd â’r pendroni i’r gegin, gan sefyll uwchben llwy fach a photyn o’r iogwrt hwnnw, anghofio beth sydd i swper, y penwythnos, ffrog newydd, nes bod fy mywyd cyfan yn bodoli ar waelod potyn plastig gwag.

‘Rwyt ti yma.’

‘Ydw,’ rydw i’n dweud, ‘Ydw,’ wrth y bòs, cyn ystyried ffolineb y cwestiwn. Pipio am gornel yr ystafell ymgynghori mae hi.

‘Wyt ti’n meindio? ’Dan ni d’angen di am ychydig. Oes gen ti funud neu ddau i sbario?’ Mae hi’n edrych ar ei horiawr ac mae’n amlwg mai munud neu chweugain mae hi’n ei feddwl.

‘Esbonia’r problemau gawsom ni hefo’r cyfrif Wilson, wnei di? Tydi’n Ffrangeg i ddim yn côpio.’

Cwic-pronto, mewn â mi, ‘Drinc arna i heno,’ meddai hi o dan ei gwynt wrth roi clep i’r drws, ac mae golwg flinedig ar y tri: Catherine, Francois-Xavier, Paul.

Heledd, ysgwyd llaw, Heledd, ysgwyd llaw, Heledd, ysgwyd ... a hynny’n rhoi amser i mi gydio yng nghyhyrau’r geg yma a newid gêr. Ond geiriau Cymraeg sydd wedi bod yno trwy’r dydd, ers dyddiau, wythnosau maith; siâp gwahanol iddynt.

Mae papurau’r cyfarfod yn cael eu gwthio o flaen fy nhrwyn, ‘rhag ofn’, ac rydw i’n cael cynnig cadair a gwydryn plastig. Ond mae synau anghywir yn llechu yng ngororau’r geg, yn ddarnau sbâr, o’r ffordd. Fy neintgig yn teimlo’n boeth, noeth, pincwshin llawn llafariaid a dim un gair call yn ffurfio. Rydw i’n dweud ‘ym’ wrth ddarllen. Rydw i ar fin dweud ‘Je ne parle pas français’ – celwydd – ond mae’n rhy hwyr, a minnau yn yr ystafell a thri uwch-reolwr o’r swyddfa yn Ffrainc yn edrych yn ddiolchgar arna i. Ac rydw i’n daer eisiau bod yn berfformwraig y munud hwn, rŵan. Cychwyn chwrligwgan o eiriau rhywun arall. Ond mae’r lleiaf peth, je ne parle, yn paratoi ei hun ar fy nhafod ac yn berl caregog, Cymraeg anghywir.

Maen nhw’n diolch i mi, yn y gwagle llawn gwenu hwn. A rŵan mae’n amser i mi gychwyn, i ddweud.

Geiriau sydd ’na, fel dannedd ar fin disgyn o’u lle ac i’r llawr. A sŵn hefyd, rhyw drydar mân yn pylu’n ddim. Dim ond Marged Elias all esbonio’r teimlad yn fy ngheg, y geg anghywir. Hi, Marged, nid yn swatio o dan ddesg ond wrth f’ochr, yn gwenu o glust i glust.


Mae Siân Melangell Dafydd yn dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol America Paris ac yn rhedeg cwrs MRes mewn Ysgrifennu Rhyngwladol i Brifysgol Bath Spa.

Llun: Clown making up gan John Sloan (1871-1951), The Phillips Collection


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 5, Straeon byrion

 


Ychwanegais innau mai lleidr, o fath, oedd yr hen Monsieur Jullion, yn ogystal â deintydd a thiwniwr telynau

Dyddiad cyhoeddi: 25·11·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Cefin Roberts

Mae’r theatr yng Nghymru wedi colli dyrnaid creulon o’i mawrion eleni ac roedd clywed am farwolaeth Meic Povey yr wythnos ddiwethaf yn waldan greulon arall i bawb ohonom sy’n caru’r theatr Gymraeg. Roedd Meic yn actor, awdur, cyfaill a Chymro i’r carn ac un a fu’n dyfal osod…

Cyfansoddi


Jan Morris a Twm Morys

Glywsoch chi fi yn crio ddoe? Fy nghyfrifiadur, o bethau’r byd, oedd achos y dagrau. Yn ystod y bore, galwodd dyn fi i ddweud wrthyf beth oedd angen ei wneud ar frys er mwyn cadw’r cyfrifiadur i fynd. Wyddwn i ddim bod dim yn…

Dadansoddi


M Wynn Thomas

Roedd Tony yn un o gymwynaswyr mwyaf gwerthfawr Cymru a’r Gymraeg fy nghyfnod i. Roedd hefyd yn un o’r unigolion mwyaf egwyddorol a llachar o dreiddgar ei feddwl i mi ddod ar eu traws. Fe ddes i’w adnabod gyntaf ar ddiwedd yr wythdegau pan…

Cyfansoddi


Ifor ap Glyn

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru ... 

Cyfweld


Ruth Richards

Daeth yn amser i gyrchu hanfodion dianghenraid drachefn; y rhuthr blynyddol am anrhegion Nadolig. Ac os digwydd i chwi fod ym Môn dros y cyfnod hwn, fe welwch fod trefi Biwmares a Phorthaethwy'n prysur gystadlu am y farchnad mewn addurniadau, hylifau a…

Adolygu


Gideon Koppel

Dw i ar awyren Ryanair o Chania, ar ynys Creta, i Stansted. Er bod y profiad yn ddigon anghysurus – cawn ein gyrru fel anifeiliaid ar hyd y maes awyr a’n gorfodi i aros heb eglurhad fan hyn fan draw – mae yna deimlad…

Colofnau


Mihangel Morgan

Fis diwethaf roedd ffrind i mi yn cael ei phen-blwydd yn hanner cant oed. Pan oedd John Betjeman yn fardd y Frenhines cafodd ei feirniadu yn y wasg am beidio â llunio cerdd i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi pan gyrhaeddodd hithau’r hanner…

Dadansoddi


Steffan Gwynn

Mae’r Ffindir yn enwog am ei fforestydd maith a’i chant a mil o lynnoedd disglair. Dyma wlad yr haul ganol nos, a pheth cyffredin yw dal bws o’r ddinas allan i’r wlad er mwyn mwynhau’r tywydd braf gan gasglu llus neu fadarch mewn basged wiail…