Robert Walser


Berlin Stories

New York Review Books Classics, 160tt, $14.95, 2012

Llythyr caru gan Ewropead
Cyfansoddi

Llythyr caru gan Ewropead

‘Llythyr gan Ewropead’ o’r Berliner Tageblatt, 20 Mai 1926


Robert Walser

Amser darllen: 8 munud

23·01·2018

Yn y foment hon, rwyf wedi fy meddiannu gan dawelwch, rwyf wedi f'ymdreiddio gan y fath ysbryd o wrthrychedd coeth. Caf yr argraff fy mod bron yn rhy gytbwys fy meddwl. Mae hynny'n fy nharo yn rhyfedd braidd. Gan y ceir cymaint o lyfrau anghymedrol, sydd yn dweud gormod o bethau y gwyddom yn barod, darllen papurau newydd a wnaf i. Mae papurau newydd i mi yn farddoniaeth oherwydd eu bod yn fy nysgu am wahanol fathau o wirioneddau. Y mae rhywbeth ynof sydd yn fy rhwystro rhag rhoi rhwydd hynt i fy nychymyg, neu sydd o leiaf yn fy narbwyllo i ymatal. Nid wyf yn dychmygu dim amdanat ti ychwaith, oherwydd rwyf yn ystyried hynny yn gamwedd, ac os rwyf yn ysgrifennu atat yn y fan hon, mae hynny er mwyn cyfaddef i ti, rhag ofn y bydd hynny'n werthfawr, fy mod yn cyfeillachu â boneddiges sydd â'r meddwl gorau ohonof ac yn gyfrifol am lond dwrn o wragedd yn ei gwasanaeth, ac ar sail hynny, ni fedrwn mewn gwirionedd eu galw'n foneddigesau, byddai'n fwy addas eu galw wrth y teitl gostyngedig, gweithwyr. Mae'r wraig hon yn meddwl llawer ohonof, a hyd yn oed wedyn, ni fyddet yn mentro dal hynny yn fy erbyn, mewn geiriau eraill, gallaset yn hawdd wneud hynny, ond pa fantais fyddai i hynny, a pha ddrwg a fedr yr hyn sydd yn ddymunol i mi, ac nad ydyw yn tarfu arnat, ei wneud i ti? Gofynnaf i ti faddau i mi onestrwydd y geiriau hyn. Nid wyt yn dihoeni ar fy ôl, rwyf yn iawn i feddwl, ond dyma roeddwn am ddweud: y dyddiau hyn, rwyf yn gogwyddo'n gryf tuag at Ewropeaeth.

O hyn ymlaen, mae gennyt yr hawl i f'ystyried yn Ewropead dilys, mewn geiriau eraill, yn Ewropead diamheuol, ac os daw geiriau rhyngom, mi fydd gennyt y fraint o ymgomio gyda gŵr sydd eisoes wedi darllen, er enghraifft, Anatole France, nad wyt efallai'n ymwybodol y caiff ei ystyried â'r parch mwyaf gan bawb diwylliedig, oherwydd ei fod yn ddyngarwr o arddeliad. Mae fy llety cyfredol mor Ewropeaidd ag y mae gyffyrddus, ystafell fyddai, pe byddai ganddi'r gallu i siarad, yn mynnu cael ei chyfarch fel neuadd. Ond mae'r ystafell arbennig hon, ar yr un pryd, yn cadw tawelwch dwfn, mae'r ffenestri ar agor drwy gydol y dydd, clywaf dwrw clocsiau haearn yn pasio, mae'n teimlo fel cartref, ac roeddwn am ddweud wrthyt dy fod yn parhau i olygu cymaint i mi, hyd yn oed os nad ydyw'n weddus i gyhoeddi pethau tyner fel hyn yn agored, o safbwynt y rhai hynny yn ein plith sydd yn rheoli pob cymal o'u bod. Ar fy mwrdd ceir gweithiau gan awduron o bwys. Mae fy nghypyrddau dillad yn dalsyth, heb fod yn brin o ddyfnder cyfatebol; yno, gallaf roi popeth sydd yn llifo o f'ysgrifbin i gadw'n ddestlus, tan y rhoddaf yr hyn a gyfansoddais i brynwr plês am bris rhesymol. Mae llawer eisoes wedi ei ysgrifennu amdanat oherwydd, o'r holl bobl yr wyf yn meddwl amdanynt, y ti yw'r prif un, ac yn rhinwedd hynny, yr wyt yn chwarae rhan flaenllaw mewn cyhoeddiadau. Y mae'n amhosibl gwybod os ydyw hynny yn dy blesio, gan nad ydym eto wedi rhoi'r cyfle i'n hunain siarad â'n gilydd. Ond o siarad yn gyffredinol, ni fyddet yn drwghoffi'r hyn rwyf wedi ei roi i'w argraffu amdanat er, efallai y byddai ambell ddisgrifiad yn ennyn dy wg, i'r graddau fy mod yn falch o fod y cyntaf i ddeall hynny. Weithiau, nid oes modd i'r rhai a gerir rannu pleserau'r rhai sydd wedi cysegru eu hunain yn gariadus iddynt, ac y mae'r rhai sydd yn caru, yn llawer, llawer hapusach na'r rhai a gerir; mi fyddi'n deall yn well na neb, yn fy nhyb i.

Rwyf ar y funud, fel y dywedais, yn llawer tawelach fy meddwl. Cyn hyn, byddwn yn dy boeni gyda fy mhryderon. Roeddet yn edrych arnaf fel petaet yn plymio dy lygaid mewn coedwig yr oedd ei dryslwyni wedi peri gofid i ti, ond hoffwn gredu fod y goedwig wedi ei goleuo, ac yma rwyf yn siarad am fy nghyflwr meddwl sydd, heddiw, yn ymdebygu i ystafell wedi ei phapuro'n ddel, tra ar yr adeg pan oeddem wyneb yn wyneb â'n gilydd, roedd yn ymddangos efallai yn anghynnes, yn nenlofft wedi ei goleuo gan olau'r lleuad. Ar y pryd, nid oeddwn wedi llwyddo i esgyn i gyntedd Ewropeaeth. O ganlyniad, roedd f'ymarweddiad yn dy lygaid di yn aml yn anwaraidd, ac wrth gyfeirio at hynny rwyf yn fy nghyflwyno fy hun ger dy fron fel rhywun sydd, rywsut, yn esgusodi ei hun, heb fod mor ddi-chwaeth â dweud gormod. Ond am hyfryd i mi gael yr hawl yn ystod yr holl gyfnod hwn i fod yn gydymaith gwasanaethgar o fath i ti, heb hyd yn oed yr angen, yn y mater hwn, i ofyn dy ganiatâd yn llaes, mewn geiriau eraill, rwyf wedi ysgrifennu a dosbarthu yn gyhoeddus lyfryn bychan lle rwyt, rhywsut, yn eistedd ar fainc o dan ddail sydd yn d'amgylchynu gan siffrydion ac, ym mhob achos, mae'r siffrydion yn dymuno i ti'r gorau a chymaint o hapusrwydd â'u hawdur ysbrydoledig. Nid wyt yn agos at fedru dychmygu maint a gwir natur y sêl yr oeddet yn ei ysgogi ynof; ynghylch hynny, nid wyf yn disgwyl o gwbl i ti drafferthu dy hun, mi fyddai hi'n dasg rhy syrffedus. Mae f'ysbryd boneddigaidd yn fy rhwystro rhag dymuno i ti ddysgu sut yr oeddwn yn dy ganlyn, i'r graddau hyd d'addoli, medrwn ddweud, er bod i'r gair hwn, rwyf yn ddigon parod i gydnabod, gynodiad braidd yn bitw.

Ar y pryd, roeddwn yn taer ddymuno d'orchuddio â chusanau; o'r foment nad oedd fy nyhead yn cael ei wireddu, 'enciliais yn f'encil' a gadewais i'r holl dynerwch, a ystyriwn yn blentyn nad oeddet yn ei weld yn y golau gorau, lifo i'r llinellau'r ysgrifenwn er mwyn cadw fy hun yn brysur, ac mi ddaeth y llinellau hyn, ym mhen amser, o hyd i'w ffordd at bobl ddiwylliedig a'u darllenasant. Wrth reswm, ni ŵyr neb pwy wyt ti, oherwydd mi fedri ddychmygu'r gofal eithafol a gymerais wrth barchu pob math o gynildeb yn y grefft yr oeddwn wedi ymroi iddi, ac os rhoddais y llythyr hwn i'w bostio, nid oes gen i'r un cof o hynny, oherwydd er gwaethaf yr holl gyfeillgarwch y teimlaf tuag atat, mae ynof lais sydd yn fy rhybuddio rhagddot, gan ddweud dy fod, nid wyf yn dymuno credu i mi ei glywed, yn llawn malais, yn gwbl ansensitif tuag ataf, ei bod yn fwriad gennyt f'iselhau, nad wyt yn abl i fy mharchu, nad wyt yn ddigon parod ar gyfer hynny, ac yn hytrach, mai dy fwriad yw, nid oes ots trwy ba fodd, fy nrysu. Mi fyddwn i mor falch petai'r hyn rwyf newydd ei ddweud yn golygu fy mod wedi gwneud annhegwch â thi, mi fyddwn i mor falch, yn ysbryd moesgarwch, petawn yn gyfiawn wrth gredu yn ddiniwed ynot ac rwyf yn gwneud hynny, yn wir, ond y mae yna bobl sydd, yn y pethau hyn, yn meddu ar rai cysyniadau, mae'r bobl hyn yn bobl barchus ac mae angen cadw mewn golwg farn y bobl barchus hyn, a dyma finnau wedi dod at Ewropeaeth, yr ystyriaf fy hun, efallai yn annilys, yn perthyn iddi, mae'n fater o ffaith, hyd yn oed os ydyw hyn o'r braidd yn gredadwy, ac eto, i Ewropead fel yr ydwyf, o hyn allan, gwaharddwyd rhai pethau a ganiateir i'r neb diniwed, anghyfrifol. Nid wyf felly mor ddiddrwg ag yr oeddwn, rwyf yn teimlo fy hun wedi fy nhynnu gan yr ochr hon a'r ochr arall; ni all fy llygaid ddisgleirio wrth godi fy ngolwg tuag atat ond ar yr amod dy fod yn gwybod pwy ydwyf, dy fod yn adnabod fy ngwerth. Mewn un gair, yr wyf am gael fy mharchu. Mae hyd yn oed y rhai hynny sydd yn caru, heddiw, yn meddu ar urddas, ac rwyf yn siarad, yn syml iawn, iaith yr amseroedd rwyf yn byw ynddynt, a hyd yn oed os na fyddaf fyth, i sicrwydd, yn cofleidio un arall cyn dy gusanu di, ni fyddaf fyth yn dy gusanu cyn i tithau hefyd ddatgelu dy fod yn Ewropead.

Os wyt am ymrwymo, boed i ti fod â'r daioni i'w fynegi wrth yr hwn na ŵyr sut i'th gofleidio oni bai yn Ewropeaidd, yr hyn a olyga yn anrhydeddus, oherwydd mae'r amser wedi dod pan nad yw'n dderbyniol mwyach i un triw a selog dderbyn triniaeth ddirmygus; mae'n teimlo ei hun yn sefyll o flaen tribiwnlys y gymuned, hynny yw, o flaen cymdeithas, wrth wneud pa bynnag ddatganiad, oherwydd mae wedi penderfynu datgelu, bob amser, yr hyn sydd yn digwydd y tu mewn iddo. Rwyf yn edifar iawn, iawn am y darn hwn; ac rwyf hefyd yn edifar, ydwyf, na fedr yr un person, bellach, berthyn iddo ef neu iddi hi ei hun yn unig. Bydd yn rheidrwydd arnom oll wylio dros ein gilydd, rywsut, am gryn amser. Mae'r ffaith i ni gyrraedd y pwynt hwn efallai'n resyn. I ba antur fyddai calon wrol yn meiddio bwrw iddi, yn ein hamseroedd ni? Dechreuaf trwy holi amrywiaeth o bobl â digon o fodd ganddynt er mwyn gwybod pa mor bell y gall calon fynd yn ei serchogrwydd. Mi fyddi â'r hynawsedd i fod yn amyneddgar tan hynny, oherwydd rwyt yn haelfrydig, nid wyf yn amau, ond nid wyf yn amau ychwaith nad wyf innau hefyd yn haelfrydig, nid wyt eto'n ymwybodol o hynny. Nid yw'r hawl gennym heddiw, mwyach, i fynegi ein gorawen mor agored. Meddylia, yn hytrach, am y bobl niferus sydd yn dioddef, os caf d'atgoffa o hynny. Sut cloddiwyd y gagendor hwn rhyngom, a lle mae'r posibiliadau sydd yn dangos y caiff ei gau eto? Hoffwn dy weld un dydd yn gwneud rhywbeth da. Pwy sydd eto'n dda? Pwy sydd eto â gwroldeb daioni? Rwyf yn gofyn i ti un peth: paid â gwastraffu dy boen er mwyn ei gorfodi arnaf, oherwydd yna, byddai rhaid i minnau hefyd ymddangos fel yr hyn nad ydwyf, ac eisoes, rwyf wedi bod mewn sefyllfaoedd cyffelyb, a hynny yn aml. Mae hynny oll yn ofer. Pwy, yn ein dyddiau ni, fydd yn ystyried cariad a'i gusanau fel mwy na rhywbeth wrth fynd heibio, yn fwy na ffafr gyffredin, a phwy na fyddai'n ystyried anogaeth ddofn cyfuwch popeth, onid yw'n bleser?


Ganwyd Robert Walser (1878-1956) yn Biel, Y Swistir. Cyhoeddwyd 72 o ddarnau ganddo ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt rhwng 1907-8 ac 1925-1933, pan oedd Walser yn byw yn Bern. Ystyrir testunau Walser yn rhai o weithiau mwyaf arwyddocaol moderniaeth. Meddai: 'Mae gen i destun newydd bron yn ddyddiol.'

Daw'r darn hwn o gyfieithiad ar y gweill gan Sioned Puw Rowlands. Anogir unrhyw un â diddordeb yn y testun ac arbenigedd mewn Almaeneg i gysylltu, er mwyn ein cynorthwyo i wella'r cyfieithiad. Gellir darllen mwy am gyfraniad Robert Walser yn y fan hon.

Darllenwch erthygl gan J M Coetzee, 'The Genius of Robert Walser' yn y fan hon


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Cariad, Berlin, Llythyr

 


Mae fy llety cyfredol mor Ewropeaidd ag y mae gyffyrddus, ystafell fyddai, pe byddai ganddi’r gallu i siarad, yn mynnu cael ei chyfarch fel neuadd. Ond mae’r ystafell arbennig hon, ar yr un pryd, yn cadw tawelwch dwfn

Dyddiad cyhoeddi: 23·01·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Qing Niao

Mae'r Tsieineaid yn hoff o ddilyn ffasiwn ac wrth eu boddau yn trwytho eu hunain mewn moethusrwydd, lliwiau a phatrymau. Yn bwysicach na dim i'r Tsieineaid y mae gwneud yr argraff iawn: mae'r awydd i dynnu sylw yn gryf ond hefyd yr awydd i…

Adolygu


Mike Parker

Wrth ymddeol, troi at yoga neu jig-sos mae ambell un. Ond her go swmpus mae John Osmond – cyn-gyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ac, ar un adeg, ymgeisydd Plaid Cymru yn ei ardal enedigol, Sir Benfro – wedi gosod iddo'i hun. Mae wrthi'n…

Adolygu


Alan Llwyd

Rhyw fath o Bum Llyfr Kerddwriaeth sydd gen i, sef pum llyfr o farddoniaeth. Mae gen i lyfrgell eang o ryw dair mil o lyfrau yn fy nghartref, a bûm yn ddarllenwr mawr oddi ar fy arddegau cynnar. Mae cannoedd o…

Adolygu


Janet Aethwy

Te yn y Grug gan Kate Roberts (1959)

Bu'r llyfr hwn yn ddylanwad mawr arna i. Dyma un o'r darnau cyntaf erioed i mi ei berfformio ar lwyfan ac roedd geiriau Kate Roberts yn rhan annatod o’r cyfareddu. Bûm yn ffodus i’m hathro Cymraeg ar y pryd benderfynu…

Cyfansoddi


Morgan Owen

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a…

Dadansoddi


Emyr Glyn Williams

Ca va? Mae gen i rywbeth i'w ddweud am ffilmiau chwyldroadol yr 1960au. Dwi'n meddwl am ffilmiau fel If… (1968) gan Lindsay Anderson, Weekend (1967) gan Jean-Luc Godard a The Battle of Algiers (1966) gan Gillo Pontecorvo, a pham ei bod yn bwysig dal ati i'w gwylio nhw heddiw. Fel llawer o fyfyrwyr, gweithwyr, artistiaid a phrotestwyr…

Cyfansoddi


Christine James

Odd fel sa pawb ffor ’yn yn wara gêm wrth wilia unwath: rywla ar ’yd llethra’r oesodd glæn, fan ’yn, gollyngws rywun, rywbryd, aitsh; ac wetyn gosod pawb ar waith i’w ffindo.

Colofnau


Geoff Young

Testun real sydd yma, ond un cyfan gwbl gyffredin. Hynny sydd yn ei wneud, yn rhyfedd iawn, yn anarferol, yn ddigon i ennyn diddordeb y darllenydd eto drachefn. Nid oes yma’r posibiliadau ffotograffig fyddai’n denu’r rhelyw i dynnu llun. Ac eto, mae rhywbeth am…