Cyfansoddi

Mapio’r ardd


Morgan Owen

Amser darllen: 8 munud

01·05·2018

Darlun o Hafod Uchtryd, Ceredigion gan John Warwick Smith, tua 1795

Buasai gerddi yn fy meddwl ers misoedd yn lluosogi: gerddi’r dychymyg effro yn gymysg â gerddi breuddwydion. Un ar ôl y llall yn llathru’n las, yn wahoddiad imi eu cribino am ryw ystyr neu’i gilydd. Yn fy mrwdfrydedd, palaf weithiau i’w trefnusrwydd a’u diwylliant a thrwy hynny gael cipolwg ar eu sylfaen briddlyd-gyffredin. Erys y sylfaen honno o hyd fel calon frau yn curo dan y rhyfyg.

A hwythau wedi eu hawlio oddi ar y gofodau eraill o’u hamgylch, llecynnau digon anarferol yw gerddi, ac mae eu ffinioldeb wedi gafael ynof: ble bynnag y bônt, pethau ar wahân ydynt. Nid wyf byth yn rhyw siŵr iawn ym mhle’n union yr wyf pan fyddaf mewn gardd, ond rwyf wedi bod mewn digon ohonynt i roi cynnig glew ar eu deall. Dyma glirio felly ddeilios gerddi fy meddwl ac, o’u llosgi, geisio darllen map mympwyol yr ulw, am fod yr ardd i mi yn llawn lleisiau ac ysbrydion ein gorffennol yn ogystal â phroffwydi ein dyfodol.

Pan fydd rhywun yn dod at Aberystwyth o’r canolbarth, rownd godreon Pumlumon, gwyrth yw gardd; gwyrth sy’n torri ar undonedd tirluniau diffaith y ffordd hon. Dyma ddwy wedd ar ymwneud y ddynoliaeth â’r tir am y pegwn eithaf â’i gilydd: ei dreulio’n llwch ar un llaw ac ar y llall gonsurio ohono basiant o ffrwythlonder. Ond yr un mor rhyfeddol, wedi’r diffeithwch, yw gweld tai carreg lwyd yn ymrithio’n urddasol o’th flaen tua phen y daith pan fydd y dref mewn golwg, a lle bo tai o’r math, mae gerddi. Yn un o’r gerddi hyn bu imi weld gwrthdaro mewnol yn ymddiriaethu, ac mae’r delweddau hynny’n dal yn y cof o hyd. Yn ddiweddarach y deuthum i’w deall; ryw ddiwrnod, bywiogwyd dail llipa’r prynhawn hwnnw yn y meddwl ac roedd yr olygfa’n anadlu unwaith yn rhagor ac yn pelydru â goleuni darganfyddiad.

Trefnusrwydd ac anhydrinedd sy’n benben mewn hen ardd mewn rhan hŷn o dref Aberystwyth. Brwydr barhaus a geir yn y gyfryw ardd i gadw’r anystywallt draw a chreu gofod sydd wedi’i garthu o eithriadau. Rhywle arall yw’r byd allanol a’i droadau anrhagweladwy. Yn yr ardd hon mae dyhead i ddofi a rheoli wedi ymwisgo â dail a blodau. Yr ochr draw i’r ffens, fodd bynnag, mae’r coed a’r chwyn gwrthodedig yn ddig, yn ysu am gael ymwreiddio yn y gweryd dethol: tyrra eu cysgodion ar ymylon yr ardd. Gwyddant cymaint y sylw a gaent ar lwyfan y lawnt. A gânt groesi? Mewn gardd o’r fath, bydd rhywun yn cyfryngu rhwng y byd allanol a’r gofod caeedig: dyma’r gwyliadwr sy’n cadw’r ffin rhwng y gwylltni a’r gwarineb, rhwng yr allt a’r ardd. Nid yw’r gwyliadwr yn yr achos hwn yn gynefin â gerddi o’r fath. Daeth ef i’r ardd hon o ryw le llwm a diarffordd lle mae ystyriaethau iwtilitaraidd yn gormesu ar estheteg arddwriaethol.

Gwêl y gwyliadwr draddodiad yn yr ardd hon yn welyau twt, a gofal cenedlaethau yn derasau lilïog a pherthi wedi’u tocio; ac er eu bod yn bert, maent yn gysglyd braidd yn ei olwg ef. Gwêl hefyd eithin a mieri a danadl yn palfu i lawr o’r allt, eu bysedd yn tapio ffens y ffin a holl nwyd chwyldro yn eu cyrch. Mae’r gwyliadwr yn gwerthfawrogi’r ceinder yng nghyfosodiad y ddau ofod hyn, yr ardd ag ôl llafur diwyllio arni a’r allt ddi-feistr sy’n ymddyrchafu yn nerth ei phenrhyddid. Gwêl drefn a therfysg yn ymryson. Mae’r gwyliadwr yn ei gael ei hun yn cadw’r ffin rhyngddynt, o’i anfodd i gychwyn – nes iddo adnabod a deall y gwrthdaro sy’n ymgeincio a thyfu o’i amgylch. Daw wedyn yn weledydd am fod ei weld yn gyfrwng gweithredol sy’n cynnig iddo ffordd o amgyffred a newid amgylchfyd yr ardd; gwylio’n oddefol yn unig a wna’r gwyliadwr. Cyfrifoldeb y gweledydd yw gadael i ddigon o’r allt anystywallt groesi ffin yr ardd. Gŵyr taw fel hyn mae adnewyddu trwy gymysgu; ond mae’n sicrhau hefyd fod y lilis yn para, am nad yw gwylltineb a newydd-deb yn ddim heb garreg ateb y cyffredin. Yng ngardd yr esgor, y rhai sy’n cadw’r ffin sy’n bwrw hadau newydd i’n plith, a’u blodau yw eu geiriau.

Gall gardd fod yn ynys, heb ei heffeithio ryw lawer gan ymchwydd a gosteg y tonnau o’i hamgylch. Mae’r math hwn o ardd yn weddol anghyffredin – gardd gyhoeddus fel arfer – ac fe’i ceir gan amlaf mewn dinasoedd. Mae awyrgylch swyddogol i’r gerddi hyn am eu bod yn eiddo i’r wladwriaeth; ond gofodau cyhoeddus ydynt eto i gyd, a chynefin naturiol i’r crwydryn a’r flâneur. Gwelir yn yr ardd hon awdurdod a siawns yn cyd-rodio, ac nid heb densiwn. Eu hynodrwydd yw eu bod nhw, ynghyd â’u haddurniadau, yn deillio o gyfnod arbennig. Ymddengys taw delfryd cynyddol ddieithr yw’r ardd gyhoeddus. Mae rhesymeg gyfalafol yr oes yn gwyrdroi hyd yn oed ein perthynas â’n hamgylchfyd ymddangosiadol agored yn berthynas economaidd.

Heb dâl, heb fynediad. Ond ni hawliwyd y gerddi hyn oddi arnom yn gyfan gwbl eto. Yng Nghaerdydd, gwn am sawl un, a'u nabod, hyd yn oed; ond Gerddi Alexandra sy’n ailgodi fynychaf yn y cof.

Awn i Erddi Alexandra’n aml: yn gyntaf fel ymwelydd; yn ddiweddarach fel dinesydd. Ar fy nhaith i’r Brifysgol, awn drwyddi (er gwaetha’r enw lluosog, yn yr unigol rydym yn ei thrafod) bob dydd, bron. Yn ystod y blynyddoedd cynnar, gwagle ydoedd, rhywle i ymgolli ynddo a phencawna. O dipyn i beth, deuthum i sylwi ar ei phensaernïaeth, a hithau’n rhan o Barc Cathays, canolfan ddinesig Caerdydd. Dyma ardal lle mae troad yr ugeinfed ganrif wedi ymgaregu’n gannaid, yn adeiladau cenedlaethol y gellir eu gweld o feinciau’r ardd. Ynddi, mae cerfluniau a chofebau rhyfel, ac ambell un ohonynt yn olion ymerodraeth: gwrthbwysir y rhain gan gofeb i wirfoddolwyr Cymreig Rhyfel Cartref Sbaen (a ddwg y geiriau hyn gan Dolores Ibárruri: ‘Ni fyddwn yn eich anghofio, a phan ddeilia olewydden heddwch eto – dewch yn ôl!’).

Gerddi Alexandra, Caerdydd (Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Nid y cerfluniau yw’r unig bethau i ddelwi yn yr ardd: delwodd amser. Yn ystod fy mhum mlynedd yn y ddinas, diflannai adeiladau’n aml, a chodai rhagor byth. Mae’r ddinas yr ymwelais â hi cyn setlo yno yn lle gwahanol iawn i’r un sydd yno heddiw: fel pob dinas, newid yw ei chyflwr naturiol. Ond erys yr ardd hon yn ofod lle mae amser yn bodoli ar wahân. Y tro diwethaf i mi ymweld â hi, a minnau’n dal i fyw yng Nghaerdydd, deuthum iddi o gyfeiriad Cathays i gael cip olaf ar y lle fel dinesydd. Canodd clychau neuadd y ddinas wrth i mi adael yr ardd, a gwyddwn mai alltud oeddwn bellach – fel yr ardd hithau yn ei ffordd ei hun.

Mae’r ardd olaf i’w thrafod gennyf eto i’w chloddio. Pan fo’r byd cyfan ar flaenau dy fysedd a geiriau’n teithio cyfandiroedd mewn clicad, nid yw’r geiriau’n symud o gwbl mewn gwirionedd. Does fawr o deithio (profiad amgenach na’r cyrraedd) yn y presennol holl-gyd-amserol. Mynegiant o ofod yw amser, a heb y daith, nid yw amser yn symud ychwaith. Dyna’r her felly: creu bwlch i daith flaguro ynddo; arloesi gardd ar y gweundir llwm ac, wrth i’r blodau cyntaf liwio’r maes, oedi, gorfoleddu – sylwi taw’r hyn sy’n digwydd rhwng deupen sy’n wir bwysig. Rhywbeth i’w groesi yw gofod, ac yn wir, dim ond wrth ei negodi fel hyn y mae’n bod o gwbl.

Ai dyma felly’r gyfryw ardd: gwerddon amseryddol lle mae’r blodau’n tyfu a marw, lle mae pethau’n ymagor mewn amser yn hytrach na chael eu llyncu ganddo am fod amser yntau wedi ymledu i bob cwr a chilfach yr un pryd yn ddiwahân? Cydnabod pellter yw cadw gardd drwy hollti amser yn ysgyrion bychain, fel taith fesul cam drwy’r bryniau. Wrth groesi’r tir (a chroesi amser felly), nid yr un person ydym yn gwmws am fod yr hyn a brofwyd rhwng y ddau bwynt wedi glynu wrthym fel llwch y llwybrau.

Mae’r ardd yn ofod arbennig yn hyn o beth am ei bod yn gartrefle i ddelfrydau; yma gall breuddwydion ddeor. Does syndod y rhoddir safle mor freiniol i erddi mewn chwedloniaeth o bob math. Nid arhoswn yn yr ardd, fodd bynnag, neu meudwyon a fyddem mewn byd sy’n gofyn am gymdeithas gryfach i wrthsefyll y darnio arnom a’n gofodau, ond wedi oedi ynddi, gwyddom beth yw pellter a thaith; gwyddom fod y tir yn llawysgrif ein hanes a ninnau’n ei hailysgrifennu bob cam; gwyddom beth yw ffin, am na ellir negodi ei ffiniau heb ddeall beth sydd o’u deutu. Wedi gadael encil yr ardd, gwelwn y byd o’n hamgylch yn gliriach; gwelwn y marw a’r blaguro parhaus.


Mae Morgan Owen yn byw yn Lerpwl ar hyn o bryd ac yn ysgrifennu a chyfieithu'n llawrydd. Ym mis Medi bydd yn cychywn ar ddoethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Ysgrifau, Morgan Owen

 


Pan fydd rhywun yn dod at Aberystwyth o’r canolbarth, rownd godreon Pumlumon, gwyrth yw gardd; gwyrth sy’n torri ar undonedd tirluniau diffaith y ffordd hon

Dyddiad cyhoeddi: 01·05·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Cyfansoddi


Ned Thomas

Braf oedd cael cymaint â deuddeg yn ymgeisio yn yr Her Gyfieithu eleni. Ers i PEN Cymru a'r Gyfnewidfa Lên noddi'r gystadleuaeth dyma'r nifer mwyaf a gafwyd yn cystadlu ar yr ochr Gymraeg, a hynny pan oedd gofyn cyfieithu o iaith leiafrifol. Yr…

Colofnau


Boz Groden

Marcsiaeth, Marcsaeth [yr e. prs. Marx+-(i)aeth] eb.

Damcaniaeth wleidyddol ac economaidd Karl Marx (1818-83) sy'n dal mai sylfaen economaidd sydd i weithredoedd a sefydliadau dynol ac y bydd Comiwnyddiaeth drwy frwydr ddosbarth yn disodli cyfalafiaeth.

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Es i am dro yn y wlad. Hynny ydi, es i am dro drwy'r caeau ar gyrion y dre. Roedd y meddyg yn mynnu'i bod hi'n broblem y tro diwetha es i i'r Lle Gwyn. Hynny ydi, y dre.

Cyfansoddi


Jerry Hunter

Yn y dafarn gwelais i Hi am y tro cyntaf. Roedd hi'n eistedd mewn cornel, a'r golau arni hi gan fod y cysgodion yn y llefydd anhgywir anghywir. 

Cyfansoddi


Tony Bianchi

Rhwng pladur a blaguryn; rhwng afal/ a’r anghofio sydyn;/ rhwng y gwaed a’r angau gwyn;/ o wynfa i bla: trwch blewyn.

Colofnau


Sioned Puw Rowlands

Hanner canrif yn ôl, ar 21 Awst 1968, rowliodd tanciau’r Sofietiaid i ganol prifddinas Tsiecoslofacia. Dros nos, caewyd y drws yn glep ar Wanwyn Prâg. Ymosodwyd ar y Tsieciaid gan chwarter miliwn o filwyr gwledydd Cytundeb Warszawa, sef yr Undeb Sofietaidd, Bwlgaria,…

Colofnau


Huw L Williams

Dyma eiriau John Stuart Mill, un o gewri’r traddodiad rhyddfrydol, yn ei draethawd ‘On Representative Government’. Rwyf wedi dyfynnu’r geiriau hyn droeon; maent hyd yn oed yn addurno’r pinfwrdd ar bwys fy swyddfa. A minnau’r unig Gymro Cymraeg mewn swydd lawn-amser ym maes athroniaeth, mae geiriau…

Colofnau


Dylan Foster Evans

Ai’r un person ydwyf heddiw ag yr oeddwn ddeng mlynedd, ugain mlynedd, ddeugain mlynedd yn ôl? Dyma gwestiwn oesol y gall y llenor a’r gwyddonydd fel ei gilydd geisio ei ateb. Mae un ystadegyn yn awgrymu bod oddeutu 98 y cant o’r atomau yn…