Cyfansoddi

Mwyara


Ifor ap Glyn

06·12·2017

Rhwng 1914 ac 1918 bu chwarter miliwn o ffoaduriaid o wlad Belg yn byw dros dro ym Mhrydain. Daeth rhai i Gymru.

 

Medi 1914; 
cnwd toreithiog o fwyar
a daeth teulu de Vynck
i aros yn tŷ ni.

Roedd Tada wedi darllen yn uchel
am dymor y cwymp yn eu gwlad,
y cyrff yn lluwchio
fel dail ffawydd yn y strydoedd, 
a’r miloedd yn ffoi ...

Ac felly’r aethom i’w cyrchu o’r orsaf,
y triawd stond ar blatfform
a’u llygaid yn troelli fel mwg;
roedd eu byd i gyd lond eu hafflau...
a mab ’run oed â minnau, yn llaw ei fam.

A thrannoeth yn anghyfiaith,
ces f’anfon i fwyara, 
hefo fo. Cydgasglu’n fud.
Bysbigo a braichgripio
ar drywydd mwyar: 
braambes
nes inni droi’n fwyarddall;
y sfferau sgleiniog yn llenwi’n llygaid  
a’r rhai tewion yn ein gwatwar
o grombil clawdd a gorfrig gwrych:
te hoog!
rhy uchel!
Chwarddasom yn ddiniwed 
a’n cegau’n biws i gyd.

Dim ond wedyn y rhyfeddais
o weld y de Wyncks 
yn rhoi’u gofal i’r Arglwydd
– drwy gyfrwng mwclis!
fel llinyn mwyar duon ymhob llaw!

Roedden nhwthau, meddai Tada,
yn diolch, ’run fath â ninnau,
am fraint pob bore newydd
heb laddwyr babanod wrth law.

A dim ond wedyn y rhyfeddem
wrth wylio Mistar de Wynck 
â’i gŷn main ac angerdd manwl
yn cerfio’r ‘Ffoi o’r Aifft’ 
i dalu am ei le ...
a daeth Pentecost i’r papurau Cymreig!
Cafwyd Vlaamsch vor Belgen  
yn golofn wythnosol
i adrodd hynt yr oorlog,
y rhyfel hir
oedd fel cwlwm o’n cwmpas o hyd.

A dim ond wedyn ...
dros bedwar gaeaf gerwin
a’r mieri noeth fel weiran bigog
yn edliw inni’r rheswm
am ein cyd-fyw,
dim ond wedyn y byddwn innau
yn cofio am y tro cynta,
yn bramen plukken; yn mwyara.
Canys dyna pryd y troes cydymdeimlad 
yn weithred yn tŷ ni  
ac yn flaenffrwyth rhwystredigaeth 
i ferch ifanc oedd yn methu'n lân
â rhoi ein hiaith ni yn dy geg.

Felly rhois i fwyar duon
yn gusanau surfelys ar dy dafod syn;
a hynny bedair blynedd a hanner union
cyn i ti a’th deulu
orfod gadael fan hyn
er mwyn codi’ch henwlad friw yn ei hôl ...


Ifor ap Glyn yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Ef yw golygydd Canrif yn Cofio: Hedd Wyn 1917-2017 (Carreg Gwalch, 2017).

Ifor ap Glyn sydd wedi benthyg ei eiriau'n ogystal i arddangosfa agoriadol ffotogaleri y gofeb ym Machynlleth: 'ail-droediwn yr atgofion, rhag i’r derw a’r ffawydd golli’u llais’ (Cadw oed, 2016).

Rhag i’r tir golli ei lais: ffotograffau o dirwedd Ffrynt y Gorllewin yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan Aled Rhys Hughes a Peter Cattrell | 25 Tachwedd 2017 - 21 Ebrill 2018


Mae O'r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn werthfawr - na, yn anhepgor - wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i'r cylchgrawn.


Dyddiad cyhoeddi: 06·12·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Huw L Williams

Mae’r penderfyniad i streicio gan staff prifysgolion ledled Cymru a’r Deyrnas Gyfunol, yn wyneb y bygythiad newydd i gynllun pensiwn prifysgolion, yn codi cwestiynau sylfaenol am rôl y Brifysgol fel sefydliad. Mae hyn ar ben cynlluniau diswyddo sydd ar waith ar raddfa syfrdanol ac sydd…

Dadansoddi


Nerys Williams

Yn y chwedegau, anogwyd 'Mamau America' i yrru eu plant i'r sinema gan y bardd Americanaidd Frank O'Hara – yn chwareus felly. O leiaf byddai gobaith wedyn na fyddent yn stelcian yn eu llofftydd 'yn eich casáu cyn pryd, a chithau ddim wedi gwneud dim byd rhy…

Cyfansoddi


Marion Muller-Colard

Mae'r stori hon i blant gan Marion Muller-Colard, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Ffrangeg (2014), yn cyflwyno syniadau Hannah Arendt (1906-1975) ar ffurf hanesyn a lluniau unigryw gan Clémence Pollet. Mae'r athronwraig ar fin gorffen sgwennu ei llyfr olaf, ond wrth iddi bendroni dros y…

Cyfansoddi


Robert Walser

Cyhoeddodd Robert Walser ddarnau cyson ym mhapur dyddiol y Berliner Tageblatt yn 1907-8 ac yn y cyfnod 1925-1933, gan gynnwys 'Llythyr gan Ewropead' ym Mai 1926. Mae nifer o'r darnau hynny ar ffurf llythyr sy'n cyfarch y darllenydd yn bersonol, yn lythyrau caru sydd wedi eu cyfeirio at foment ddychmygol. Yn wir, yn 1930, penderfynodd y papur wahodd nifer o…

Dadansoddi


Daniel Huws

Mae canu'n ymestyn lawer pellach yn ôl yn ein hanes nag ysgrifennu. Genir canu yn y cof ac yn y cof y'i diogelir. Cof sy'n gwneud dyn. Mae grym y cof dynol yn rhywbeth y mae pawb ohonom wedi cael achos o bryd i'w gilydd i…

Dadansoddi


Huw L Williams

Nid ysgeler yw pob llais o'r ochr draw i Glawdd Offa. Yn ddiweddar, bûm yn ddigon ffodus i fynychu sesiwn benigamp Cymru dros Ewrop, yng nghwmni Anthony Barnett, sef cyfarwyddwr y mudiad Charter 88 a sefydlydd y wefan wych OpenDemocracy. Buodd yng Nghaerdydd yn…

Cyfansoddi


Mihangel Morgan

Rwy wedi golygu a diwygio wrth ailadrodd y stori ryfedd hon a gefais gan Merfyn Taylor y diwrnod hwnnw. Ac ers y siwrne drên honno bûm yn ddigon ffodus i gael gafael ar atgofion anghyhoeddedig Mona Moffat ei hun trwy law Dr…

Adolygu


Alun Llwyd

Ymhell bell yn ôl, cefais drip gorau'r flwyddyn i Bookland yn Wrecsam i brynu blwyddlyfr y cylchgrawn pop, Sgrech. Darganfyddais pwy oedd yn chwarae'r gitâr fâs i Trobwll, darllenais am (ond chlywais i ddim nodyn gan) T Dunlop Williams, a daeth 'canu pop Cymraeg' yn air yn ogystal â…