Cyfansoddi

Y Lle Celf 2018 (II)

Detholiad o’r cerddi comisiwn II

Llŷr Gwyn Lewis
07·11·2018

City of Hué in 1968 recreated by Kubrick in East London in 1986 
Darlun gan James Moore

Mwyngrefft
(i waith James Moore)

Bydoedd pell oedd y rhai
a lygrwn i, a 'machau ar gontrol pad
fy arddegau. Saethu hwrod
ar draeth yn Miami; trywanu ellyllod
yn Hyrule a Spira, achub Zelda;
a liw nos, a'r dref yn dawel, esgyn
o'r sybmarîn i hel Natsïaid ynghyd
a'u llosgi â'm fflamdaflwr rhwng y sgwâr a'r stryd.

Weithiau, âi rhywbeth o'i le: glitsh yn y cod,
neu bicsel mewn rhyw gornel ar goll
i'm hatgoffa'n y parlwr tywyll fod
y cyfan led sgrin i ffwrdd
ac yn hawdd ei ddiffodd.

Mae'r byd i gyd ar gael
bellach i'w ail-greu a'i adeiladu,
ei fwyno'n grefft sy'n cropian fesul bloc.
Pob plentyn yn weledydd gyfarwydd-
wr, yn tynnu yma i lawr, i godi draw.

A'r bydoedd y buom
yn eu bomio â holl orfoledd
blaenau'n bysedd
wedi'u cynnau
heb obaith, bellach, eu diffodd byth.


 

Llŷr Gwyn Lewis oedd Bardd Y Lle Celf eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018.

Pynciau:

#Barddoniaeth
#Llŷr Gwyn Lewis
#Y Lle Celf