Colofnau

Mynd ar wyliau

Y Cofnod


Sioned Puw Rowlands

Amser darllen: 10 munud

22·07·2017

Fedra i ddim cofio pryd wnes i ddyheu ddwythaf am wyliau. Ond medraf gofio'n iawn yr olwg od ar wyneb pobl wrth i mi ddychwelyd bob hydref a mynegi llawenhad o fod yn ôl yn rhigolau bywyd.

Lawer gwaith holais fy hun am beth yn union yr ydym yn ysu wrth ddyheu am wyliau. Am gyfle i ddal gafael ar brydferthwch fallai, neu i dorri ar undonedd - i fod fwy fyth 'fel ni'n hunain', a hynny trwy fynd tu draw i gyfyngiadau bywyd bod dydd. Ar wahân i gerdded bryniau anghysbell neu nofio am y gorwel, dwi wedi meddwl fwy nag unwaith pa le gwell ar gyfer hynny na dinas ddieithr lle gellir ymgolli mewn strydoedd heb eu rhagweld, a chrwydro'n ddigyfeiriad.

Ond faint o ddinasoedd gwirioneddol ddieithr sydd ar ôl bellach yn ddigon agos at adre? Nid dinas drawiadol o angenrheidrwydd ond dinas lle mae haenau yn gwthio yn erbyn ei gilydd ac yn creu sefyllfaoedd ar hap, y ddinas wrth-ddelfrydol honno y gwnaeth Jane Jacobs ymdrech lew i'w hachub yn y gyfrol ddylanwadol The Death and Life of Great American Cities (1961).

Mewn darlith ym Mhrifysgol Harvard yn 1956, wrth drafod East Harlem, gosododd Jacobs ei hun yn darged i ddatblygwyr wrth annog y gynulleidfa o benseiri, cynllunwyr trefol a deallusion 'to respect - in the deepest sense - strips of chaos that have a weird wisdom of their own not yet encompassed in our concept of urban order'. Iddi hi, yn newyddiadurwraig ac ymgyrchydd, roedd cynllunio trefol yn ffug-wyddoniaeth, ac i'r unigolion pwerus yr oedd yn eu bygwth gyda'i geiriau, roedd hithau'n 'militant dame', yn 'wraig tŷ', yn 'amatur' nad oedd â'r hawl i ymyrryd mewn disgyblaeth a oedd wedi hen ennill ei phlwyf.

Er gwaethaf dylanwad pellgyrhaeddol Jacobs, prin bod modd crwydro fel flâneur mwyach yng nghanol dinas Caeredin, Barcelona na Phrâg, yn Amsterdam na Lisbon ychwaith. Ac yn sicr ddim ym Mae Caerdydd. Hyd yn oed ym Merlin neu Baris, peth anarferol ydi'r cyfle i ddarganfod y pleser hwnnw a ddisgrifiodd Charles Baudelaire o blymio ar hap i gronfa o egni trydanol y dyrfa. Mynegi natur gyfnewidiol prydferthwch yr oedd awdur Les Fleurs du mal (Blodau'r Fall, 1857). Defnyddiodd y term modernedd (modernité) i gyfleu cyflwr diaros, darfodedig bywyd mewn metropolis dinesig, a'r cyfrifoldeb a ysgwyddai celfyddyd dros ddal gafael ar y profiad hwnnw a'i gymhathu i'r tragwyddol. Erbyn heddiw, heb orfod sbio ymhellach na chyfandir Ewrop, mae cyfalafiaeth ddilyffethair a'i hunffurfiaeth yn dinistrio'r amgylchiadau sy'n caniatáu antur tebyg.

A phrin felly y medra i gymharu fy nadrithiad ersatz i, gyfalafwraig gyfoes, wrth grwydro dinasoedd Ewrop â dadrithiad coeth cyfalafwyr gleision troad y ganrif ddwythaf. Siawns bod isliw o bleser yn y dadrithiad cyfalafol cynnar hwnnw oherwydd ei fod yn meddu ar sglein profiad newydd, yn ddadrithiad a oedd yn cael ei droi a'i drosi am y tro cyntaf, yn steil profiadau cyntaf bywyd.

Mi fedra i ddychmygu'r cyfalafwyr gleision hyn yn cilio o dwrw brwnt strydoedd Paris i grwydro yn hindda bregus yr arcêds, ac yn gweld, gyda dealltwriaeth newydd, ddeisyfiadau iwtopaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - a'u methiant. Dyma'r arcêds a anfarwolwyd gan y meddyliwr eclectig o'r Almaen, Walter Benjamin. Fe'u dychmygaf yn wŷr talsyth, yn gafael yn osgeiddig-ofalus ym moeth y menig unigryw a thrysorau eraill ffantasïau a olllyngwyd i'r oesoedd a ddêl gan eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau. Tebyg mai ymdeimlo'n feddwol â delfryd naïf cymdeithas fwrdais gynnar y byddai'r rhai a grwydrai yn y canolfannau cyfalafol anaeddfed hyn, a nwyddau amheuthun yr arcêds fel pryfaid undydd prin, eu hadenydd yn dal y golau o'r toeau glaswydr. Ar yr un pryd, siawns mai dod i amau'n gynyddol werth gwirioneddol nwyddau y byddent o'u gweld wedi eu 'gollwng', ond hynny efo rhyw dinc o'r syndrom Mme Bovary fallai - hi a ysai i wario, er mwyn boddhau ei delfrydau rhamantus, yng nghlasur Gustave Flaubert (1857).

Methu cyn dechrau fyddwn i o drio rhoi cownt i mi fy hun am nifer y nwyddau, y pethau a ddeisyfais ac a brynais, yr ydw innau wedi eu 'gollwng' rhwng geni a chanol oed - mwy na fy mam yn sicr, a mwy fyth eto na fy nain.

A gofyn hen gwestiwn ydi gofyn sut y daethom i fod mor ddi-ddim fel pobl - os nad bob un - a chaniatáu nid yn unig i'r nwyddau bylu, ond i rym dadrithiad bylu hefyd. A hynny i'r fath raddau nes bod dadrithiad y gyfalafwraig gyfoes yn gadael nemor ddim o'i ôl ond sbwriel, y sglein wedi mynd wrth iddi foddhau awch bwystfil â chroen eliffant. Nes ein bod yn amlach na pheidio yn medru bodloni rywsut - am ryw hyd - ar yr argraff arwynebol, ar y teclyn tila diweddaraf a'r gyrchfan nesaf a gyflwynir ar blât, gan wybod yn iawn mai gorweddian fel hen geriach yn Nhomen Byd fydd eu tranc hwythau hefyd, gan wybod mai dim ond yn y byd y mae modd byw, ysgwydd wrth ysgwydd â'r pethau hyn, nid ar ben y byd, a bod pob penderfyniad yn benderfyniad ecolegol.

Ac eto, mi rydw innau heddiw, yn eironig ddigon ac er gwaetha'r protestio llafar, yn parhau i dderbyn ar y naill law nad oes disgwyl i bethau bara am oes, ac ar y llaw arall mai ffolineb ydi meddwl bod modd crwydro'n ddiymdrech i 'dir heb fap' ar gyfandir Ewrop, a thu hwnt - er bod adeiladau yn dod i lawr a rhai newydd yn codi fel petaem yn trigo yn Bucuresti Ceausescu, nid ym machlud oes aur yr Undeb Ewropeaidd. Digon naturiol - a chamarweiniol - ydi cofio mwy o antur ar strydoedd yr hen floc Comiwnyddol o dan Bresnief, neu hyd yn oed Gorbatsiof, nag ar ein strydoedd 'llewyrchus'.

Os mai dyna sut mae hi, fel y dywedodd Jacobs, does fawr o obaith i'n dinasoedd nac i fawr o ddim byd arall yn ein cymdeithas. Ond siawns nad ydi hynny'n disgrifio hyd a lled pethau'n llwyr 'chwaith. A beth am Torino a Nofi Sad i chwalu'r ddadl, meddai cyfaill wrtha i.

Dwi'n rhyw feddwl mai chwarae ar ein gwendid mwyaf sylfaenol y mae cyfalafiaeth neo-ryddfrydol, trwy'n perswadio i ildio i demtasiwn go ddwfn. Fallai, wedi'r cyfan, bod rhywfaint o ryddhad i'w ddarganfod yn nhranc enaid ein dinasoedd, ac wrth wraidd y parodrwydd i droi golygon tuag at Dubai a'i hysbryd llechen lân - am ein bod ofn y rhyddid di-ddal, penchwiban sydd i'w gael mewn dinas heb strwythur. Ydi dinas o'r fath yn rhy debyg i'r isymwybod? Haws ydi rhoi'r pen yn y cymylau a breuddwydio wrth ein hewyllys na phlymio i ddyfnderoedd hwnnw, digon gwir.

Gwae ni hefyd rhag magu ffydd fel y Swrealiaid! I'r Swrealiaid, y ddinas oedd prif asiant newid, a thrwy eu trwytho eu hunain yn seicopatholeg y bywyd dinesig, sef y gofod par excellence ar gyfer meithrin afresymoldeb dyn, roedd gobaith. Yn eu 'Beibl' hwy, gellir rhyddhau'r isymwybod yn y ddinas, nes ein hachub o'n cyfyngder cyfredol - pa bynnag gyfyngder fo hwnnw, boed bersonol neu genedlaethol. Dario nad yr un 'drefn naturiol' sydd i ddinas ar dir Ewrop heddiw; fod addewid ein hachubiaeth fwyaf dynol wedi ei werthu i 'ddatblygwyr'. Ond tebyg mai dyna'r rheswm dros ein parodrwydd i dderbyn cael ein tywys a'n bwydo ar blât gan y diwydiant twristaidd, a phocedu ein profiadau heb eu troi a'u trosi, heb eu byseddu'n ormodol - mae rhyddid yn medru bod yn beryg! 

Ac fallai mai dyna pam mae gwyliau yn ddiwydiant, ac yn ddiwydiant mor bwysig. Oherwydd mae'n fframio a ffrwyno deinameg breuddwyd, sy'n medru bod mor arswydus o agored, yn wahanol i synfyfyrio, sydd yn hunanymwybodol ac yn ein cysuro. A oes modd cael y naill heb y llall, y naill yn tynnu sylw rhag yr hyn y mae'r llall eisoes wedi ei weld? Bob tro y byddaf yn gorfod dychwelyd i ynys Mykonos, a hynny'n llawer rhy aml ac am resymau teuluol, mi fyddaf yn ailddechrau poeni am hyn. Dyma'r arch-ddinas wyliau gyfoes, ym mhob ystyr y gair dwi'n meddwl, wedi ei chario ar frig ton dirywiaeth yr unfed ganrif ar hugain.

Panagía Paraportianí

Eglwys Panagía Paraportianí, Chora Mykonos; parth cyhoeddus.

Chora ydi'r enw fel arfer ar brif anheddiad pob ynys yn y Cyclades. Ac fel llawer ynys arall yng Ngwlad Groeg, mae Mykonos fwy neu lai'n dref-ynys. Nid peth anghyffredin ydi gweld Chora'r ynysoedd hyn yn ymestyn eu coesau concrit pothellog a thagu'r tir bob modfedd, fel octopws wedi cyffio - neu, i'r gwrthwyneb, fel ar ynys Sikinos, yn troi cefn ar ddiflastod hardd y diffeithwch tu hwnt i'w pyrth.

Mor ddinesig, mor fydol-wag ydi Chora Mykonos - ers degawdau bellach, y cof am Jackie Kennedy yn fyw fel ddoe - ac mor wahanol i isymwybod Sigmund Freud. Wrth i'r chwaer-ynys, Delos, sydd wrth glun Mykonos, ddadlennu cyfosodiad a thrawsnewidiad haenau cywrain gwareiddiad Hen Roeg i lond cwch ar ôl cwch o ymwelwyr, diolch i waith yr archaeolegwyr, mae Mykonos ei hun fel petai'n gweithio'n groes, yn dangos ôl hen leidr diog heb fenig, lleidr sy'n cuddio'i gamweddau dan gôt denau ar ben côt denau o baent.

Erbyn diwedd Awst mi fydd y paent wedi rwbio'n fudr ac olion ffasiwn y llynedd yn codi'n dila i'r wyneb, fel rhyw froc môr anffodus, mewn ysbryd o Schadenfreude. Dyna lle byddan nhw, y broc môr, yn pryfocio uniongrededd hurt y pibau shisha a'r elfennau dwyreiniol sydd ar fynd 'leni, yn dystiolaeth o'r ffawd annymunol sydd eto i ddod i'w rhan - a'r rheini yn fwy na pharod, fel Sinic Oscar Wilde, i ddagan eu pris heb 'nabod eu gwerth. Ac ar ddechrau'r tymor nesaf mi fydd gweithwyr y gwestai, y tai bwyta a'r caffis, fel archaeolegwyr-o-chwith wedi gwallgofi, yn dal ati'n brysur i ail-wampio, i orchuddio drygioni proffid-un-diwrnod y llynedd efo'r ddelfryd ersatz ddiweddaraf - a ni 'bobl leol' yn cymryd arnom na welsom ddim byd, rhag mynd o'n coeau a thorri'r 'sbel' sy'n gwerthu'n rhy swel o lawer.

Wrth sbio i lawr o ben yr hen borthladd a gweld bywyd yn mynd rhagddo yn Chora, wrth weld y cychod bach yn gweithio'n ddiwyd i wagio'r llong fordaith ddiweddaraf am fore arall, mae'n anodd peidio â gweld y trefniant cyfalafol-gymdeithasol hwn fel modd o listio pobl yn eu dinistr eu hunain. Wrth drio anghofio am y domen poteli plastig yn crasu yn yr haul (dŵr môr sy'n dod o'r tap yn Mykonos) a chael blas ar gnoi y coesau octopws gwydn efo mymryn o ouzo, wrth weld yr ymwelwyr yn dod i ddibynnu ar y siop organig - a finnau yn eu plith - fel rhyw fath o eglwys uniongred wyrdroëdig y mens sana in corpore sano, mae'n gamp peidio â theimlo gafael y salwch enbyd hwnnw: salwch sy'n gwyrdroi'r union werthoedd y mae ein cymdeithas yn dibynnu ar eu dinistrio yn werthoedd i'w hanwesu am ein heinioes.

Fallai nad oes yna fawr o wahaniaeth rhwng y llongau mordaith, y maes awyr lle cychwynnwyd y daith a'r gyrchfan yn y pen draw. Sugnolion dienaid yr un creadur ydyn nhw - un derfynfa fodiwlar fyd-eang lle cawn ein styrio i aros, ac aros i ddyheu, ond byth yn ddigon hir i drawsffurfio. Nid ar ddifán Freud wedi'r cyfan, ond ar wely traeth yr arch-ddinas gyfoes y gorweddwn, i aros am yr espresso freddo, am y ddiod nesaf, am ran ym mherfformiad y bar nos diweddaraf, os nad y clwb nos - ac ambell un yn dal i obeithio y bydd yr adegau hyn o stasis yn ffrwydro'n rhywbeth newydd.

Ac os byddwch ar y lôn ar yr adegau hynny rhwng shifftiau, rhwng y cathod mawr yn prowla a'r llygod bach yn sgrialu rownd y cefnau i olchi cynfasau undydd, mi welwch bethau sy'n drysu: gwaed ar hyd y lôn ben bore, olion damweiniau angheuol, ond i gyd o'r golwg erbyn i bobl godi eto a styrio i aros am eu coffi.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mor ddinesig, mor fydol-wag ydi Chora Mykonos - ers degawdau bellach, y cof am Jackie Kennedy yn fyw fel ddoe

Dyddiad cyhoeddi: 22·07·2017

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…