Cyfansoddi

Olion yn Uffington

Detholiad o’r casgliad a ddaeth yn ail am goron Eisteddfod Caerdydd 2018


Frank Olding

04·10·2018

Y MAMAU

Cawn gwrso eu cysgodion
a chwilio am eu henwau cyfrin
ar allorau treuliedig;

cawn bori trwy ryw gyfnodolion sych
a olygwyd gan Brwsiaid moel
o ysgolheigion cyn chwalu’r byd.

Cawn ddysgu ynganu’n fanwl gywir
lafariaid byr breuddwydion epenthetig
a rhithiau metathesis.

Cawn olrhain nentydd troellog
ar eu hyd i’w llygad cudd
i fesur beddrod llanc o arwr

a’i gael weithiau’n chwech ac weithiau’n naw
ac weithiau’n ddeuddeg o droedfeddi
et ego solus probavi . . .

Cawn eu hela trwy’r llyfrgelloedd,
mewn neuaddau rhynllyd
ac ystafelloedd cefn tafarndai

cyn dychwelyd i’r man cychwyn
mewn glyn coediog yn yr haf
a drychiolaeth wib ar gil y llygad.

 

PABÏAU

Anghofiais eu gwasgu’n ddiogel
yng nghoflaid y brenhinoedd,
rhwng y delwau cerfiedig
a gwellhad y swp o ffigys.

Gwelet yn eu gweddi bengam
gur a dagrau’r gweddwon,
doluriau’r blynyddoedd milain.

Er i’w sgarlad wywo’n frown
a’u glesni’n felyn,
gallaf weld o hyd eu rhwysg a’u swae
hyd glawdd yn swydd Amwythig.

Caret wastad eu prydferthwch
gan gasáu o hyd y celwydd –
yr hen symbolau sy’n drech na’r gwir

ac er mor llipa eu petalau
rhwng dalennau myth,
gallaf weld o hyd dy lygaid craff
yr haf hwnnw yn swydd Amwythig.

 

UFFINGTON

March gwyn ar garlam hyd orwel glas
yn llatai hen gredoau –
ffrwyth awen hyn o dir,

ffrwyth sbonc y borfa grop
ac ernes glaw mân ar y gwynt,
persawr yr eithin ar ymyl y rhiw.

Yng ngoleuni clir y machlud,
cawn weld o ochr ddall y bryn
am eiliad y dirwedd gudd

a grëwyd trwyddo, ganddo, ynddo
yn ymddiddan rhwng dau fyd,
yn ddelwedd yn y drych.

 

Ffugenw Frank Olding yn y gystadleuaeth oedd Enlli.


Mae Frank Olding yn archeolegydd wrth ei waith ac yn byw yn y Fenni. Roedd yn gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Sir Fynwy yn 2016.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Barddoniaeth, Eisteddfod 2018

 


Dyddiad cyhoeddi: 04·10·2018

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Gareth Leaman

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y…

Adolygu


Dylan Huw

Artes Mundi, a agorodd ei hwythfed arddangosfa ddiwedd mis Hydref yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, yw gwobr gelf ‘fwyaf’ y Deyrnas Gyfunol – fel mae ei nodiadau i ymwelwyr yn hoff o’n hatgoffa. Er ei bod, o ran proffeil, yn parhau i geisio dal i…

Cyfansoddi


Boz Groden

gŵyl

Dydd neu ddyddiau pryd na chyflawnir gwaith beunyddiol, dydd neu ddyddiau o ddifyrrwch neu adloniant; diwrnod wedi ei neilltuo a'i gadw'n barchus yn flynyddol er coffa am ryw sant neu berson arbennig neu am ryw ddigwyddiad cofiadwy, dydd gŵyl (grefyddol), dygwyl, dydd cysegredig, gwyl-mabsant, diwrnod…

Cyfansoddi


Jerry Hunter

[Diweddariad. Cynnig arall arni] Aeth y stori o gwmpas y wlad. Ar ôl iddyn nhw glywed, daeth y dynion pwysig ynghyd a phenderfynu gofyn iddo ysgaru â'i wraig am gyflawni trosedd mor erchyll. Dyma'i ateb o: 'Does dim rheswm [...] ngwraig gan fy mod i'n gwybod…

Adolygu


Miriam Elin Jones

Mewn sioe gerdd lachar, How to Win Against History, y dysgais i gyntaf am fodolaeth pumed Marcwis Môn. Gyda’r fersiwn honno o stori anhygoel y dyn hwn yn fyw yng fy nghof – dyn a wariodd bob ceiniog o’i gyfoeth teuluol ar ddeiamwntiau…

Adolygu


Morgan Owen

Gorddefnyddir yr ansoddair ‘cynnil’ wrth adolygu a gwerthu nofelau Cymraeg: perthyn y gair i eirfa (an)feirniadol dra ystrydebol erbyn hyn, nad yw’n golygu odid ddim (ail agos i ‘cynnil’ yw ‘cignoeth’). Yn yr achos hwn, fodd bynnag, hynod briodol yw’r gair ‘cynnil’ a chlod mawr i’r awdur yw y llwyr…

Adolygu


Katie Gramich

Ym mhennod gyntaf ei lyfr dylanwadol The Dragon has Two Tongues (1968), sy’n sôn am ei ddatblygiad fel awdur, mae Glyn Jones – brodor o Ferthyr – yn datgan: ‘While using cheerfully enough the English language, I have never written in it a word about any country…

Adolygu


Dyfrig Jones

Prin fod unrhyw un yn ysgrifennu am hil yn Unol Daleithiau’r America heddiw â’r un angerdd, yr un dyfeisgarwch, yr un graen â Ta-Nehisi Coates. Ef, yn ôl Toni Morrison, yw etifedd James Baldwin, yr unig un a lwyddodd i lenwi’r gwacter sydd wedi bodoli ers…