Cyfansoddi

Abermandraw

Pennod newydd


Rhys Iorwerth

Amser darllen: 5 munud

27·12·2016

Mae o’n cerdded wrth Afon Braw, yn trio meddwl pwy fyddai’n dod. Dechrau Tachwedd a’r dail yn boitsh, sanau’n wlyb. Ei dad a’i fam yn amlwg, os na fydden nhw wedi marw o sioc.

Hen dref ryfedd ydi hon. Mae’n siŵr y bydd pawb isio dangos wyneb, isio cael eu gweps wedi’u gweld. Yn ei hymbarélio hi draw yn eu siwts gorau, polish ar eu sgidiau, yn barod am beint yn y wêc.

Sbïwch ar y lli yna. Hon ydi’r afon ond nid hwn ydi’r dŵr. Fory sy’n dilyn heddiw sy’n dilyn ddoe, echelydd chwil y sioe ad infinitum, whatever ffwc.

Mae o’n edrych trwy’r twll yn y coed ar y cymylau glaw. Draw fan acw mae yna frigyn o dras, un mor drwchus nes ei fod o’n foncyff ynddo’i hun.

Abermandraw, go fuck yourself, baby. Mae’r parti ar fin dechrau go iawn. 

*

Un o nodweddion pennaf Abermandraw fel tref ydi’r ffaith ddiymwad nad ydi hi’n un sy’n tynnu, gan mwyaf ac ar y cyfan, ryw lawer o sylw ati hi’i hun na’i phobol.

Gwir y gair am y dryg-rêds achlysurol, am ambell fwrdwr rŵan ac yn y man, ac am ymweliad y tywysog â’r lle ugain mlynedd a mwy yn ôl. Ond yn anad dim, tref ddigon diddrwg-didda, chav-aidd mewn mannau ond nid mewn mannau eraill, ydi Abermandraw. Fel y ddynol ryw gyfan, bron iawn: yn gymysg o chav-aidd oll i gyd.

Yn nhyb llawer, mae’r diffyg hynodrwydd hwn yn resynus, a’r dref o’r herwydd yn un i’w hosgoi. Ond nid felly yn nhyb pawb, yn amlwg, neu fyddai neb yn byw yno. Ac nid tref fyddai hi wedyn ond rhywbeth arall.

Yn sicr ddigon, pe landiech chi yma un prynhawn a gofyn am guided tour (wnaech chi ddim), yna guided tour go ddiflas fyddai honno. Fel ym mhobman, mae’r iaith yma’n farw ac yn fyw, yn dibynnu lle sbïwch chi, ac mae cyfran helaeth o’r trigolion yn treulio’u dyddiau yn eu slipars mewn tai â’u muriau’n damp. 

Does yma’r un siop lyfrau, wrth reswm pawb, na chapel llawn na banc sy’n dal ar agor. Diflannu yn yr un modd wnaeth y siopau bwtsiwr, y groser a’r post. Mae yma lechen i fardd a aned yn un o’r strydoedd cefn. Ond does neb yn darllen gwaith hwnnw bellach, na cherddi’r un bardd arall chwaith.

Mi allai’r guided tour eich hebrwng at y brif stad o dai sy’n cynnal poblogaeth y dref, gyda help y gymdeithas dai leol. Neu mi allai beidio.

Rhag eich digalonni’n llwyr, dewch am dro at Londis a Spar, heibio’r ddau fwci, neu i’r twll yn y wal y tu mewn i’r Premier Stores. (Sy’n golygu nad twll yn y wal mohono, go iawn.) Neu, ar drywydd arall, i’r garej MOT sy’n dal i rygnu yn ei blaen – fel y mae’r rhan fwyaf o’r ceir – a gwledd-dai Mandraw Kebabs a’r Hung House, sydd hefyd yn gwneud chips.

Mae yma ysgol a lle doctor, a thair tafarn sy’n dal i ddenu potiwrs, hyd yn oed os mai mynd yn llwm ac yn llymach y mae’u gwedd (y tafarndai a’r potiwrs fel ei gilydd). Sef yr un y mae’r nytars yn mynd iddi, yr un wrth y bont, a’r Windsor Hotel.

Os nad ydi hyn yn ddigon, bymtheg milltir i ffwrdd saif tref farchnad fawr Caer-coll: pencadlys y sir, a phrifddinas ei phobol.     

Ac yn y fan hon, gyda’r sylw hwn, byddai’r guided tour ar ben.

Pan ymunwn ni â’r hanes, mae hi’n fore dydd Mawrth ym mis Tachwedd. Mae hi’n wlyb ac yn oer, fel y mae hi’n aml ar achlysuron o’r fath. Ac mae pawb, neu’r rhan fwyaf o bawb, mewn du.

Mi ddywedodd rhywun rywdro am Abermandraw: fyddai Duw ddim wedi creu y crap-hôl, ond fyddai o ddim am ei ddad-greu chwaith. Wel na fyddai debyg, ddim os ydi O’n edrych ar ôl Ei braidd. Ond mae’n hawdd gweld be’r oedd gan y sylwebydd hwnnw mewn golwg. Does yma ddim lot i’ch cythruddo, ond ddim lot i’ch cyffroi, like.

Ambell ffaith arall ichi.

Adeg etholiad, dim ond yr hen a ŵyr a dim ond y nhw sy’n pleidleisio.   

Mae mamau ifanc y dref yn treulio hanner eu hamser hefo’u prams a hanner hefo Facebook. 

Yn ardal brafiaf y dref (brafiaf yn yr ystyr: cyfoethocach) mae yna athrawon a chyn-rocstars, adeiladwyr a chynghorwyr yn byw.

Ac wrth gwrs, y ffaith ryfeddaf am Abermandraw, o blith yr holl ffeithiau sy’n bodoli amdani yn y byd, ydi nad oes yno, yn ôl pob diffiniad traddodiadol, yr un aber o gwbwl.

Mae’n wir bod Afon Braw yn ymlwybro’n dywyll rhwng ei strydoedd, yn powlio o dan y dafarn sydd wrth y bont. Cyn nadreddu i’r coed lle mae brigau trwchus a boncyffion du. Ond aber nid oes.

Sy’n golygu bod Abermandraw yn dref, wrth edrych ar darddiad ei henw, ac ynddi rywbeth mawr yn absennol. Dim ond nad oes neb erioed wedi gweld ei golli.

*

Gair ichi am berthynas Abermandraw â’r wlad sydd o’i hamgylch.

Tiriogaeth oedd y wlad honno unwaith a chanddi’i phobol ei hun a’i ffordd ei hun o feddwl. Ond roedd hi wedi diflannu i bob diben. Ac eithrio ar gaeau chwaraeon, doedd hi ddim seriously yn bod.

Cymathiad diwylliannol: dyna ddisgrifiad academyddion o’r datblygiad diweddaraf hwn, datblygiad oedd mor ddiweddar â sawl canrif oed.

Roedd ambell ardal fechan yn dal i drio brwydro’n erbyn y duedd, yn dal i geisio gwyro’n groes i’r graen. Mae’n bur debyg y byddai sylwebyddion allanol yn galw Abermandraw yn un o’r pocedi hyn.

Ond grym pwerus ydi grym y lli, fel y gall Afon Braw yn bendant dystio.

Oherwydd hyn, a nifer o bethau eraill, roedd sawl un yn tosturio wrth Abermandraw druan. Hithau ddim yn gwybod a oedd hi’n mynd ynteu’n dod.


Bydd cyfrol nesaf Rhys Iorwerth, Abermandraw, yn cael ei chyhoeddi gan Gomer yn 2017. 


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Rhifyn 2, Pennod newydd, Caernarfon

 


Mae mamau ifanc y dref yn treulio hanner eu hamser hefo’u prams a hanner hefo Facebook

Dyddiad cyhoeddi: 27·12·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…

Adolygu


Esyllt Lewis

Pnawn glawog, pawb bach yn fflat, naws oer yn yr awyr. Dydd Sadwrn ola’ Steddfod. Trodd sudd yr wythnos yn byllau mwdlyd dan draed. Brysiais draw o’r maes i Oriel Ffin y Parc cyn i’r falen Eisteddfodol allu gafael ynof. Dyma ofod gogoneddus yn y goedwig, yn gynnes ynghanol…

Cyfansoddi


Guto Dafydd

Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill. Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau…

Cyfansoddi


Beirniad: Aled Llion Jones

Cyhoeddwyd ar ddydd Iau wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst (8 Awst 2019) mai Morgan Owen yw enillydd Her Gyfieithu 2019. Yn hanu o Ferthyr Tudful, graddiodd gydag MA Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd yn 2017 ... 

Adolygu


Amrywiol

Dwi wedi darllen ac edmygu gwaith sawl awdur o Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diwethaf: Fintan O’Toole, Sally Rooney, Colm Tóibín, Sara Baume, Nicole Flattery. Gwelwyd datblygiadau gwleidyddol cyffrous yn ystod y cyfnod hwn, megis y refferendwm ar erthyliad y llynedd; mae’r genedl…

Adolygu


Huw Waters

Prif gonsýrn James Bridle yn y gyfrol hon yw tynnu ein sylw at y modd y cawn ein camarwain o ganlyniad i’n hymddiriedaeth mewn technoleg. Tueddwn i feddwl bod gallu technoleg i gasglu mwy a mwy o ddata o reidrwydd yn ein harwain…

Adolygu


Richard Crowe

Roedd 2006 yn flwyddyn nodedig yn hanes hoyw Machynlleth. Dyna’r flwyddyn y cynhaliwyd y seremoni partneriaeth sifil gyntaf yn y dref, ychydig fisoedd ar ôl i’r gyfraith ganiatáu hynny, a hynny rhwng dau o gymeriadau’r gyfrol hon, sef George a Reg. Yn dystion i’r seremoni roedd…