Cyfansoddi

Radio


Qing Niao

Amser darllen: 3 munud

26·06·2019

Prif sgwâr Xining, prifddinas talaith Qinghai, ger llwyfandir Tibet, Awst 2014. Llun: Qing Niao.

Yn Tsieina, ceir diwylliant y sgwâr cyhoeddus: Sgwâr Tiananmen, Sgwâr y Weriniaeth, sgwariau bychain mewn trefi, a’r gerddi, a ddefnyddir ar gyfer ymgynulliadau mawr. Mae’r gofod hwn ar gyfer pawb; yn ystod y bore, maent yn aml wedi eu llenwi gan bensiynwyr, o bump tan naw. Fe’u gwelir yn dawnsio o gwmpas uchelseinydd. Ceir amrywiol ffyrdd o ddawnsio ar y sgwâr: ceir un arddull ar gyfer y bobl hŷn, sy’n golygu cydbwyso’r breichiau, symud y coesau, y cluniau, ond yn ysgafn; dibyna arddull y cylchoedd dawnsio eraill ar symudiadau egnïol, mwy amlwg, yn unol â galluoedd y corff. Ceir hefyd y gyfres sy’n perthyn i’r arddull gymnasteg genedlaethol: ers dechrau’r pumdegau, unwaith y dydd, mae hen gymnast yn dawnsio'n foreol wyth cyfres wahanol, ac ers 1997, yr wythfed ydi’r un y mae'r mwyaf o fynd arni. Yn nhrefi'r gogledd-orllewin, y ddawns Dibetaidd ydi’r un fwyaf poblogaidd, dawns o aberth i’r duwiau, lle byddai cylch o bobl ar un adeg yn dawnsio o gwmpas tân, neu’r man addoli, ond heddiw dawnsio o gwmpas yr uchelseinydd a wnânt. Mae gan bob cylch o ddawnswyr uchelseinydd mawr. Weithiau mae dau gylch dawnsio sydd ochr yn ochr â’i gilydd yn dechrau cystadlu, nid o safbwynt gwreiddioldeb y ddawns, ond ar sail cryfder y sain. Y gerddoriaeth uchaf ei chloch fydd yn ennill y gêm.

Nid ydi’r dawnswyr ar eu pennau eu hunain. Rhwng y coed mae grwpiau o gantorion yn canu i gyfeiliant cerddorion annibynnol. Ond does yr un gynghanedd i’w darganfod rhyngddynt. Gwelir gwŷr yn cerdded yn gyflym o gwmpas y sgwâr, yn gwylio’r lleill. Un llaw yn rowlio rhwng y bysedd dwy neu dair pelen mewn dur, mewn carreg, mewn arenfaen, a’r llall yn dal waled fawr sy’n cynnwys fflasg, papurau newydd, ac yn bwysicach na dim, radio fechan. Nid ydynt yn cymryd rhan yn y gemau creadigol; ânt o gwmpas eu pethau ar eu pennau eu hunain bob tro. Ond diolch i'w radio, maent yn rhan anorfod o’r sain hwn, yn rhan o’r ormes glywedol. Diolch i’w radio, maent yn gyfrwng cyfleu Newyddion i’r bobl ar y sgwâr. Mae’r radio fechan felly’n newid ei chyflwr: mae’n wrthrych cyhoeddus, ac mae’r gwŷr hyn – fe’u galwaf yn hysbysebwyr radio – yn plannu Newyddion cyhoeddus yn ein bywydau preifat. 

Bu Roland Barthes yn Tsieina yn 1972, adeg y Chwyldro Diwylliannol, lle ysgrifennodd ei ddyddiadur taith, Le carnet du voyage en Chine. Mae’n ddyddiadur taith di-hwyl, sy’n mynegi safbwyntiau gwleidyddol cryf; teimla’n ddiymadferth wyneb yn wyneb â’r sefyllfa yno. Adrodd hynt ei ddyddiau yn Tsieina a wna yn y llyfr hwn: yr hyn a wnaeth o un awr i’r llall, gyda phwy, ymhle, ac ati. Mae’n llyfr bychan sy’n ein hanesmwytho. Un rheswm am hyn yw'r corn lôn Tsieineaidd – ymadrodd trosiadol ydi'r corn erbyn hyn, sy’n cyfeirio at bethau sy’n cynhyrchu sŵn. Er enghraifft: dywedwn am wraig sy’n siarad llawer ac ar dop ei llais ei bod â cheg – neu gorn – sy’n twyllo. 

Sefydlwyd y corn lôn yng nghefn gwlad a threfi Tsieina ddechrau’r 50au, ar y polion trydan, gyda thri i chwe phen i bob polyn… Byddai cegau niferus y polion hyn wedi eu gwyro i bob cyfeiriad. Y Newyddion, gwleidyddiaeth, roedd rhaid i’r bobl wrando (boed iddynt ddymuno gwneud ai peidio). Amsugnir popeth o gegau’r polion trydan hyn. Flynyddoedd wedyn, dipyn wrth dipyn, trawsffurfia’r corn yn addurn. 

Wrth i Dechnoleg Newydd symud yn ei blaen gostyngir lefel sain gwrthrychau, maent yn dod yn fwy deallus, yn fwy cynnil, er budd bywyd haws, mwy chwim. Gyda hynny, mae bywyd torfol yn lleihau’n gylchoedd bychain, nes crebachu’n fywyd preifat. 

Crëwyd y gwrthrych, y radio, yn yr amgylchfyd diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol oedd ohoni ar y pryd, ac fe’i haddasir yn gynyddol ar gyfer bywyd bod bydd, preifat, ond nid ydi’r rhan fwyaf o Tsieinëaid wedi newid eu meddylfryd cyfunol. Nid yw hynny’n golygu bod gwell ganddynt rannu, dim ond mai dyma a ofynnir ganddynt gan fywyd cyhoeddus, y bywyd torfol: rhannu eu bywydau personol, er budd eraill. Mae pawb yn chwarae rôl ym mywydau eraill, ar hap, ac o anghenraid.

Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


Mae’r radio fechan yn newid ei chyflwr: mae’n wrthrych cyhoeddus, ac mae’r gwŷr hyn – fe’u galwaf yn hysbysebwyr radio – yn plannu Newyddion cyhoeddus yn ein bywydau preifat

Dyddiad cyhoeddi: 26·06·2019

Yn ôl i frig y dudalen

Adolygu


Tomos Morgan

Heb os mae angen cryn sensitifrwydd wrth ymhél – neu ymyrryd – â digwyddiad lle mae teimladau mor gryf ac emosiynau mor amrwd. Mewn cyd-destun newyddiadurol, er enghraifft, mae’n hysbys pa mor real yw perygl dwysáu trallod teuluoedd sydd eisoes mewn galar drwy gyhoeddi erthygl neu…

Cyfansoddi


John Emyr

Casglodd Glyn ei fagiau gan sylwi, drwy ffenest ei lofft, fod llechi’r toeau yn sych. Hyd yma, ar y bore hwn o Fai ym Mangor Uchaf, roedd y tywydd o’i blaid. Er iddo glywed chwyrniadau ffrae atmosfferig y cymylau uwchlaw’r Carneddau neithiwr, roedd…

Adolygu


Angharad Penrhyn Jones

Mae’r profiad o ddarllen y gyfrol hon fel eistedd ar soffa yn gwrando ar ferch alluog, ddidwyll a byrlymus yn adrodd hanes ei bywyd, paned mewn un llaw, hancesi papur mewn llaw arall, a digon o chwerthin. Mae’n lyfr mor hawdd ei ddarllen ar un ystyr, mor agos at rywun, y…

Cyfansoddi


Osian Wyn Owen

Pobol coleg fu’n clegar ‘nad oes byd na phlaned sbâr wedi hon’ a bod ‘i wedd yr haf gynhesrwydd rhyfedd ... 

Cyfansoddi


Rhiannon Ifans

Piciodd Ingrid i'r ardd i dorri cabatsien. Roedd hi’n ddychryn o oer, ac asgwrn ei chlun yn boen byw rhwng y gwynt main a’r eira’n pluo’n ysgafn o gwmpas ei phen. Ers dyddiau roedd yr awyr dywyll fel petai’n dal ei hanadl, yn gyndyn o ryddhau mwy na sgeintiad…

Cyfansoddi


Carl Chapple

Yn 2013 y dechreuodd fy niddordeb mewn dawns. Cynigiodd John Livingston, dawnsiwr a hen ffrind i mi, eistedd ar gyfer llun. Roeddwn yn gweithio ar gyfres o bortreadau o berfformwyr llwyfan ar y pryd – comedïwyr ac actorion yn bennaf ... 

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Dros y misoedd diwethaf aeth llawer ati i baentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar waliau ac adeiladau ar hyd a lled Cymru. O blith y rhai a welais i – mewn mannau cyhoeddus ac ar blatfform trydar – mae’r arwyddion fel petaent yn golygu amrywiol bethau i wahanol bobl. Gwelais un ag…

Adolygu


Dylan Huw

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni, crëwyd yr hyn a alwyd yn AGORA, o hen ddrysau a gyfrannwyd gan bobl Sir Conwy. Gofod canolog, cyhoeddus ac agored yn ninas-wladwriaethau Hen Roeg oedd yr αγορά yn wreiddiol; mae’r gair hefyd yn golygu 'cynulliad' neu 'man cwrdd'. Paentiwyd y…