Cyfansoddi

Rhedeg i bobman


Robert Lacey

17·08·2016


I bâr sy’n wynebu’r byd mewn leicra
nid y cyrraedd sy’n bwysig
ond amseriad eu camau, curiad calonnau,
cyd-ddyheu gewynnau, gwaed a nerfau.

Daw’r ras hon i ben yn chwys
anniben tu hwnt i’r llinell derfyn.
Roedd hi’n dda bod ar y blaen
ond eisoes maent yn cyfri

calorïau lled neis i de, cydbwyso
braster, protein a charbohydrad,
ystwytho cyhyrau wrth blygu, plygu
ac ymestyn at ryw fan anweledig ...

... ar y gorwel? Fry uwchben?
Llannerch gudd yn y meddwl diderfyn?
Bydd angen cael hyd i sgidiau rhedeg
clefer ar y diawl i gyrraedd honno.

Ar eu ffordd i rywle felly,
er bod swyddi cyfrifol yn torri
ar draws eu galwedigaeth.
O leia mae modd seiclo i'r gwaith.

Gyda'r hwyr maent wrthi'n ymarfer
eu rhwyfo medrus, yn gaeth i’r peiriant
ar lawr y gampfa, yn eu hunfan,
yn rhyw ddisgwyl glan gerllaw.
 


Cyfrol ddiweddaraf Robert Lacey yw Sut i fod yn hapus (Barddas, 2012). Mae’n Bennaeth Datblygu Casgliadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


Mae O’r Pedwar Gwynt yn gyhoeddiad annibynnol. Mae pob tanysgrifiad a chyfraniad yn hynod werthfawr wrth geisio sicrhau dyfodol llewyrchus i’r cylchgrawn.


 

Categorïau:

Robert Lacey, Barddoniaeth

 


Dyddiad cyhoeddi: 17·08·2016

Yn ôl i frig y dudalen

Dadansoddi


Morgan Owen

Beth yw wyneb poblyddiaeth? Wyneb blinedig, trist, trallodus. Nid yw’r ffromi a’r ysgyrnygu ond crychau egnïol, dros dro, ar y wyneb hwn; yn y dwfn y mae’r casineb yn llechu. A phrin mewn gwirionedd y bydd y casineb hwn yn brigo’n agored yng nghwrs y rhygnu…

Dadansoddi


Bethan Wyn Jones

I mi, un o linellau mwyaf dirdynnol y Gymraeg ydi hon gan Dafydd Namor: ‘Ni ddyly Mai ddeilio mwy.’ Fedra i ddim meddwl am lawer o bethau gwaeth na Mai yn methu deilio. Ond dyma ydi hanfod adroddiad a gyhoeddwyd 6 Mai 2019 gan y…

Adolygu


Rhianwen Daniel

Mae cymhwyso damcaniaeth ôl-drefedigaethol at hanes, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn gynyddol ffasiynol dros y blynyddoedd diwethaf. Enghraifft newydd o hyn yw llyfr Martin Johnes, Wales: England’s Colony? Yn y gyfrol hon, dadleuir i'r gwrthwyneb na ddylid dehongli’r berthynas rhwng Cymru a Lloegr mewn termau trefedigaethol.

Cyfansoddi


Dyfan Maredudd Lewis

Mi roeddwn innau fel chithau unwaith. Yn ddiriaeth o foleciwlau. Fe’m ganed ac fe’m maged o’r fron fel baban o’ch rhywogaeth chi.

Ystyriwch eich safle yn nhrefn daear, ar ba begwn o’r echel hon ydych chi’n trigo – daioni ynte drygioni? Tybed a yw pegynnau moesoldeb dynolryw mor glir
i…

Cyfansoddi


Casi Dylan

‘Wennol Bwlch a Chilhollt’ Caryl Lewis oedd y stori a’n cyflwynodd ni i’n gilydd. Stori gariad o’r casgliad Plu (2013), wedi ei hadrodd o safbwynt Emrys, mab fferm a glymwyd i’w aelwyd gan amgylchiadau, ac a arhosodd yno yn y gobaith y dôi ei gariad cyntaf ’nôl ato o’i theithio byd: ‘Roedd…

Dadansoddi


Angharad Closs Stephens

Symudais i Abertawe i fyw ddechrau mis Ionawr 2016, yn ystod y gaeaf hwnnw lle bu hi’n bwrw glaw am bron i ddeufis yn ddi-baid. Gyrrais i lawr mewn car benthyg oherwydd fy mod wedi dinistrio fy nghar fy hun naw mis…

Adolygu


Gruffydd Aled Williams

‘Epig o nofel fydd yn byw yn y cof’ meddai Jon Gower mewn broliant ar glawr y nofel hon. Anodd fyddai anghytuno: o ran rhychwant amser a chymeriadaeth dyma’r fwyaf uchelgeisiol o bum nofel Jerry Hunter, ac, fe ddichon, un o’r nofelau mwyaf uchelgeisiol erioed…

Adolygu


Ceridwen Lloyd-Morgan

Bu pobl yn hoff o wneud rhestri erioed. Cymorth i’r cof, mae’n debyg, oedd diben llawer o’r casgliadau o enwau, ffenomenâu, traddodiadau neu wybodaeth arall a fu’n boblogaidd yn yr Oesoedd Canol. Ar wahân i’r Trioedd, lle crynhowyd traddodiadau storïol mewn cyfresi o dri, bu bri ar restri o bump, o saith, naw,…