Cyfansoddi

Siani Flewog

Detholiad o’r nofel

Ruth Richards

Amser darllen: 7 munud

17·10·2018

Marcwis Môn. Gyda diolch i'r Lolfa ac Archifdy Prifysgol Bangor am ganiatâd i atgynhyrchu’r llun


‘DEW,’ MEDDAI NOW-HOW, gan ryfeddu at lun y Marcwis yn ei deits gwynion, gyda phlethen hir a phagoda ar ei ben. ‘Tydi hwn ddim byd tebyg i’r crach arferol.’

Gwenodd Annie arno, ei phenelin yng nghledr un llaw ac un o sigaréts Senior Service Now yn hongian rhwng deufys y llall, mewn ystum a ddysgodd yn y pictiwrs.

‘Pam na ddoi di draw am baned cyn mynd i’r pictiwrs heno?’ gofynnodd iddo pan ddaeth draw i’r Golden Eagle am sgwrs yn gynharach.

‘Gwell na hynna,’ meddai yntau, ‘mi ddo i â photel o Johnnie Walker hefo mi!’ Doedd gan Annie yr un gwydryn a bu’n rhaid yfed y chwisgi o gwpanau te. Chwarddodd y ddau.

Llun o Henry Cyril mewn gwisg Tsieineaidd a ddewisodd Annie ar gyfer y ffrâm arall. Golygai hynny fod ei Cyril hi ac yntau’n edrych ar ei gilydd o bob pen i’r lle tân. Roedd y wisg yn ei hatgoffa o achlysur arbennig, sef Aladdin, pantomeim cynta’r Gaiety Theatre, pan ddaeth pawb a phopeth yn fyw am rywfaint, beth bynnag.

Pansy Bassett oedd Aladdin, wrth gwrs, a Henry Cyril yn chwarae rhan ei ffrind, Pekoe. Y ddau’n camu fraich yn fraich o flaen y goleuadau, yn ymestyn eu coesau gwynion del, fel pâr o geffylau sioe.

Doedd dim mymryn o amheuaeth ychwaith mai Billy Baldini fyddai’r Weddw Twanci a chynhesodd at yr orchwyl, gan ei fod yn llawer hapusach mewn dillad merched na’r du clerigol a fynnai The Importance of Being Earnest.

‘Bloomers,’ meddai’n bigog, gan balfalu dan sgert y wisg a ddaeth o Lundain. ‘Bloomers!’ gwaeddodd yn daer wrth Eluned.

‘Blwmeri?’ gofynnodd hithau.

‘Blwmeri!’ bloeddiodd yntau, gan fflapian ei ddwylo o gwmpas ei gluniau. ‘Blwmeri ha-ha!’

Deallodd hithau ar amrant a gwnaeth iddo’r blwmeri mwyaf, y disgleiriaf a’r gwirionaf a welwyd yn Llanedwen. Mr Keith ysgrifennodd y sgript, ond doedd o’n fawr o lenor. Gyda winc a chwifiad ei sigâr, honnai wybod yn union beth fyddai’n plesio. Iddo fo hefyd, fel cyfarwyddwr, rhoddwyd y gwaith o ehangu’r cast. Aeth i Lerpwl gyda llond waled o bres y Marcwis a dychwelodd gyda phâr o’r efeilliaid delaf erioed, hefyd horwth o ddyn cryf, criw o acrobatiaid a hen or-actor o’r enw Edgar Adcock.

‘Edgar Adcock!’ sgrechiodd Pansy a Billy Baldini a hithau yn eu dyblau, nes i Annie ofyn pam fod Edgar Adcock mor ddoniol.

‘You’ll know when you’ve ’ad it!’ meddai Mr Baldini ac Eluned hyd yn oed yn rhyw hanner ei gweld hi, gan wingo a phwffian;

‘Ww – yy!’

‘Edgar Adcock!’ chwarddodd Annie flynyddoedd maith yn ddiweddarach, wrth rwbio’i chyrtens net dros y bwrdd sgwrio. ‘O, doeddwn i’n ddiniwed.’

Abanazer oedd Edgar Adcock yn y pantomeim. Ac er iddo wneud sioe ohoni, yn rhuo fel llew a lluchio’i hun o gwmpas y llwyfan gyda’i lygaid yn rhowlio a’i freichiau’n chwyrlïo fel melin wynt, un tawel a phell oedd o gyda phawb, pan nad oedd yn llewyrch y goleuadau. Rhoddai’r argraff fod pantomeim yn gyfrwng annheilwng o’i ddoniau ac yntau, fel y dywedai’n aml, wedi bod ar un cyfnod yn understudy i Henry Irving. Ond, fel y dywedodd Pansy’n ddistaw bach, digon o waith y byddai’n adfeddiannu’r uchelfannau hynny byth eto, gan fod cynildeb mor bell o’i afael mewn perthynas â’i actio a’i yfed; ‘poor sod’. Ac wedi hynny, cyfeiriwyd ato yn ei gefn fel P S, y dyfarniad yn ffurfio ôl-nodyn ingol i floedd wag o yrfa.

Doedd Pansy ddim mor oddefgar tuag at yr efeilliaid, yr hyfryd Nelly a Nesta Norwood. Byddai’n cwyno wrth Annie ac Eluned eu bod fel heffrod ac yn eu hatgoffa hwythau nad oeddynt ddim ond pâr o soubrettes ymhongar. Ond er iddi ynganu’r gair gyda dirmyg pur, gwyddai Annie’n reddfol fod gwahaniaeth mawr rhwng soubrette a heffer. Hen drwynau bach oriog oedd y ddwy, yn cilchwerthin tu ôl i’w dwylo pan fyddai Mr Keith yn dwrdio Pansy. ‘Dic-shyn, Miss Bassett!’ bloeddiai wrth iddi hepgor yr aitsh a’i adfer pan nad oedd math o’i angen.

Deuai Nelly a Nesta o deulu theatrig, fe’u henwyd gyda golwg ar sut byddent yn ymddangos ar raglen – tair N gyrliog, a dwy O a D unionsyth ar ddiwedd y Norwood. Consuriwr oedd eu tad, a’u mam yn ei gynorthwyo gydag ystumiau cain, ei hysgwyddau a’i breichiau’n ffurfio clwyd addurnol i’w golomennod. Dywedodd Mr Baldini y byddai Mrs Norwood hefyd yn arfer tynnu fflagiau a phenwaig o dan fflownsiau’i sgert a’u lluchio at y gynulleidfa. Ond yna, cafodd y consuriwr, y colomennod a hithau gyfle i berfformio o flaen Tywysog Cymru, a byth ers hynny, byddent yn honni ‘apwyntiad brenhinol’ a rhoddwyd y penwaig a’r baneri o’r neilltu. ‘Common as muck,’ cytunodd Pansy.

Byddai’r efeilliaid yn tynnu’n ddidrugaredd ar Sydney druan. Y fo oedd y dyn cryf a baentiwyd yn aur i gynrychioli’r genie. Byddai’r ddwy yn fflyrtian un munud a’i swatio â’u ffaniau’r funud nesaf, yn ffeirio eu henwau a’u serchiadau nes iddo wegian mewn penbleth. Wedi cyflawni hyn, byddent yn tin daflu eu hunain ato gan chwerthin. A Sydney druan mor daer a gobeithiol nes llyncu eu castiau a’u hamrywiadau drachefn a thrachefn.

Y Victorinis – a chwaraeai’r plismyn doniol – oedd y ffefrynnau gan Annie. Acrobatiaid: tad a thri o feibion heini. Byddai’n eu gwylio’n ymarfer gyda’u trampolinau ar lawnt y Plas, Mr Victorini yr hynaf yn chwibanu a chlapio a’r hogiau’n hedeg a rowlio. Weithiau, câi fynd â phaned iddynt, hwythau’n ei gorchymyn i sefyll yn llonydd ynghanol y trampolinau a’r pedwar yn neidio dros ei phen, yn gwau drwy’i gilydd a hithau’n synhwyro grym dyrchafol yr aer o’u cwmpas.

Roedd Mr Victorini’n hoff iawn o Annie. Gresynai na fu ganddo ferch a hynny am resymau ymarferol yn gymaint â sentimental. Mor swynol, mor goeth meddai, byddai cael merch yn eu plith yn rhoi cydbwysedd i’w campau. A theimlai Annie ynghanol eu sboncio fel Victorini anrhydeddus. Dychmygai ei hun yn llonydd ar lwyfan mewn ffrog sidan binc a’r hogiau’n fflio o’i chwmpas.

Ond yna, byddai Mr Victorini’n gorffen ei de ac yn chwislo ar ei feibion ei bod yn amser ymarfer drachefn. ‘Bona char,’ meddai wrth Annie wrth ddychwelyd ei gwpan a byddai hithau’n casglu gweddill y llestri a dychwelyd yn fflat i’r Plas.

Brafiach o lawer oedd dychmygu ei hun yn aelod o deulu’r Victorinis na bod yn un o giwed Ty’n Clawdd a pho hiraf yr arhosai yng nghwmni criw’r theatr, y lleiaf yr uniaethai Annie â’i theulu go iawn. Prin y sylwodd fod Buddug wedi gadael cartref, er i Bessie Robaits gwyno’n dragywydd nad oedd hanner cystal â’i chwaer am dendio’r tŷ.

‘I be? Tydw i byth yma!’ snapiodd Annie.

Gyda theulu amgen y Gaiety Theatre y mynnai fod. Cawsai well lle yno a safle oedd yn llawer agosach i’r brig, yn enwedig wrth glosio at Eluned a Pansy. Henry Cyril oedd y penteulu ac yntau’n gymaint mwy llednais nag Arthur Robaits druan, yna deuai Mr Keith ac Eluned a thu ôl iddyn nhw, fel aelodau sefydlog y cast, Pansy a Mr Baldini. Ac o fod yn rhan o’r cylch goruchel hwn, gwyddai Annie y gallai deimlo trueni dros yrfa ddrylliog Edgar Adcock a sbeitio Nelly a Nesta cystal â Pansy.

Fel petai yntau wedi hen gefnu ar ei deulu bonheddig, gofynnodd Henry Cyril un tro beth oedd ‘beautiful family’ yn Gymraeg. Yn reddfol ac ar unwaith atebodd Eluned,

‘Tylwyth teg.’

‘Tylwiiith teeeg ...’ meddai’r Marcwis, gan lenwi’r ystafell â’i lafariaid.

‘Fairies,’ ychwanegodd Annie, gan esbonio fod tylwyth teg yn cyfeirio’n ogystal at greaduriaid del ac amryliw, gydag adenydd. Ar hynny, llaciodd Henry Cyril ei ysgwyddau a chydag ochenaid, lledodd ei freichiau megis cofleidiad a syllu’n ddiolchgar tua’r entrychion.

‘Dyna pwy ydan ni i gyd,’ gorfoleddodd Eluned, ‘tylwyth teg!’ Cytunodd y Marcwis, ac i ddathlu’r canfyddiad, moesymgrymodd yn osgeiddig o flaen Eluned ac Annie:

‘Diolch i chwi, ladies ...’

Cyhoeddir ail nofel Ruth Richards, Siani Flewog gan wasg Y Lolfa (Medi, 2018).

Fel petai yntau wedi hen gefnu ar ei deulu bonheddig, gofynnodd Henry Cyril un tro beth oedd ‘beautiful family’ yn Gymraeg. Yn reddfol ac ar unwaith atebodd Eluned, ‘Tylwyth teg’

Pynciau:

#Ruth Richards
#Nofelau
#Môn