Cyfansoddi

Strategaeth Carafanio 2023

Detholiad o gyfrol fuddugol Gwobr Goffa Daniel Owen 2019

Guto Dafydd

Carafanio

Y Lolfa, 272tt, £8.99, Awst 2019

Guto Dafydd

Amser darllen: 3 munud

14·08·2019

Llun gan Lawton Cook (Unsplash)


Yn ôl ar y lôn, ceisia Dadi dynnu ei sylw’i hun oddi ar sŵn y caneuon plant sy’n llenwi’r car. Mae mewn lle rhyfedd – wedi laru ar garafanio, a ddim eisiau noson arall mewn carafán am amser hir, ond eto’n dyheu am dripiau eraill.

Nid yw’n siŵr pam y mae’n mwynhau carafanio, a dweud y gwir. Ai dyma’r agwedd ar ei fywyd lle daw ei dueddiadau sadofasocistaidd i’r golwg? Ai hunanartaith yw’r pwynt? Ei ddwyn ei hun i brofedigaeth?

Carafanio yw derbyn nad yw bywyd mor gyffrous â’r disgwyl. Carafanio yw mynd o ehangder solet tŷ i swatio mewn clydwch bregus. Carafanio yw trio peidio â gwneud potsh o fagu plant. Carafanio yw sylweddoli bod marwolaeth yn dod – myfyrio 'myfyrdodau henaint llesg cyn dyfod dyddiau blin ei hydref oer'. Carafanio yw cogio perthyn yn rhywle lle nad oes gwreiddiau. Carafanio yw nesáu at bobol eraill, nes dysgu a yw’n eu caru ynteu’n eu casáu. Carafanio yw gweld ieuenctid yn dynwared cwmwl o fwg o sigaréts y gorffennol. Carafanio yw cael cip ar y cyntefig drwy aberthu cyfleustra.

Nid carafanio yw bywyd. Holl bwynt carafanio yw ymneilltuo oddi wrth fywyd. Ond drwy wneud hynny, mae rhywun yn deall ei fywyd yn well.

Felly ymlaen yr ânt. Mae gan Dadi strategaeth bum mlynedd ar waith er mwyn datblygu eu credensials carafanio. Ochr yn ochr â’r mân dripiau nawr ac yn y man dros fisoedd yr haf, i lefydd sydd o fewn awr neu ddwy i adref, mae’n fwriad ganddo fynd ar deithiau mwy estynedig – o ran pellter a hyd – gan gynyddu’r fenter bob blwyddyn.

Mae’n cyfri eu taith wythnos i ddau safle yng ngogledd Lloegr fel blwyddyn gyntaf, anuchelgeisiol y cynllun. Bu’n llwyddiant, er nad yw Dadi’n teimlo felly’r funud hon: chwe noson, ryw bedair awr o adref, a nhwthau’n teimlo erbyn hyn eu bod yn nabod ardal newydd sbon o’r wlad.

Yn ystod ail flwyddyn y strategaeth, byddant yn mynd i’r Alban ac yn cael pythefnos o glens, cestyll, lochs, a meysydd brwydrau. Diwrnod caled i ddechrau: gyrru’r holl ffordd i Glasgow – pum awr a hanner – a threulio tair noson yno’n gweld y ddinas a’r ardal gyfagos (gan gynnwys taith ar y cwch i Ynys Arran os bydd y plant wedi callio digon i’w trystio ar y dŵr). Gyrru i fyny wedyn am ddwy noson ger Glencoe i gael blas ar gerdded yn yr ucheldir. (O’r fan honno, nid yw’n siŵr a fyddant yn mynd i fyny i ochrau Inverness, ac i Aberdeen, am ddwy noson yr un – efallai y byddai’r pedair noson hynny, a’r oriau ychwanegol o deithio, yn gwneud y gwyliau’n rhy gormod.) Dwy noson yn Dundee wedyn, sut bynnag, gyda gwibdeithiau i St Andrews, Perth ac Arbroath, cyn mynd i Gaeredin am dair noson i orffen y gwyliau’n fuddugoliaethus gyda Mars bar deep-fried.

Y flwyddyn ganlynol, noda’r strategaeth (gyfrinachol, anysgrifenedig) y byddant yn gwneud rhywbeth tebyg, ond gyda thrip ar y fferi yn hytrach na phum awr o yrru i gyrraedd gwlad y gwyliau: Iwerddon. Guinness, gwrthryfeloedd, gwyrddni, mawn, a gweld yr Iwerydd o ben clogwyni trawiadol. Croesi o Gaergybi; tair noson ger Dulyn, yna mynd am Galway fel troedle i weld yr ynysoedd; dwy noson yr un yn Limerick a Chorc, a noson fach yn Waterford cyn dal fferi’n ôl i Abergwaun. Bwriada Dadi dorri’r siwrne gyda noson yn Sir Benfro er mwyn eu hatgoffa’u hunain fod y trip wedi bod yn seithug gan fod Cymru’n wlad yr un mor hardd bob blewyn ag Iwerddon.

Ym mhedwaredd flwyddyn y cynllun gogoneddus, byddant yn ailadrodd patrwm Iwerddon ond mewn gwlad bellach, ac ynddi fwy o gaws, haul a gwin: Ffrainc. Noson yng ngwaelodion Lloegr cyn croesi; noson yn Lille, a dwy noson neu dair yr un wedyn gerllaw ambell ddinas yn Normandi a Llydaw – Amiens, Rouen, Rennes, Nantes, Lorient, St Malo, picio i Jersey neu Guernsey efallai, yna’n ôl drwy Le Havre.

Erbyn blwyddyn pump, disgwyliad Dadi yw y byddant yn gymaint o giamstars ar garafanio nes y bydd modd iddynt gyflawni taith arwrol, aml-wlad, boncyrs o uchelgeisiol. Gyrru i Hull. Dal y fferi dros nos i Amsterdam am dair noson. Yna wythnos mewn cyfres o ddinasoedd ochr orllewinol yr Almaen: Düsseldorf neu Cologne, yna Frankfurt a Stuttgart. Croesi’r ffin i’r Swistir gan aros ger Zürich; ambell noson ym Milano neu ger Llyn Como jyst er mwyn cael mynd i’r Eidal eto; yna gweithio’u ffordd yn ôl am y gogledd drwy Ffrainc, gan oedi am ychydig nosweithiau yma ac acw – Genefa, Dijon, Paris, dyweder. Croesi o Calais yn ôl i Loegr.

Gŵyr Dadi yn ei galon na fydd hyn yn digwydd: byddai’n ddigon am ei briodas, ei iechyd meddwl, a’i garafán. Dydi hynny ddim yn ei atal rhag cyffroi’n bot am y syniad, yn enwedig y potensial i dicio llwyth o ddinasoedd oddi ar y rhestr o fewn un trip marathonaidd.

'Pam wyt ti’n gwenu?' gofynna Mami iddo.
'Dim byd. Ddeuda i wrthat ti tua 2023. Os byw ac iach.'

Carafanio yw sylweddoli bod marwolaeth yn dod – myfyrio ‘myfyrdodau henaint llesg cyn dyfod dyddiau blin ei hydref oer’

Pynciau:

#Nofelau
#Eisteddfod
#Guto Dafydd