Cyfansoddi

Syllu ar walia’

Detholiad o'r gyfrol newydd

Ffion Dafis

Syllu ar walia'

Y Lolfa, 192tt, £8.99, Medi 2017

Syllu ar walia’
Ffion Dafis

Amser darllen: 10 munud

04·10·2017

Na!

Chafodd fy rhieni fawr o drafferth efo fi pan o’n i’n tyfu i fyny. Mae yna strîc gwyllt iawn yndda i a dwi wastad wedi cael fy nenu at bobol wyllt sy’n gwthio’r ffiniau ond, yn y bôn, dwi’n reit geidwadol ac yn ymwybodol o fy ffiniau fy hun. Heblaw am ôl-gatalog sy’n cynnwys: cael fy nal yn dwyn yn Llandudno yn bedair ar ddeg ... cael fy nal yn smocio yn yr ysgol yn bymtheg oed ... Mam a Dad yn ffeindio potel o amyl nitrate yn fy mag yn ystod y flwyddyn gyntaf yn coleg ... a methu’r ail flwyddyn yn dilyn diffyg cyflwyno saith gwaith cwrs ... fe gawson nhw amser digon anghythryblus gen i.

Roedd tyfu i fyny mewn teulu hapus dosbarth canol Cymraeg yn gyfforddus a hawdd ac roedd yr ymgiprys anghyfarwydd â’r heddlu ac awdurdodau’r ysgol yn ychwanegu’r ddrama angenrheidiol i fywyd y ferch lawn asbri.

Er i mi ddatgan, wrth drafod y Mileniwm mewn dosbarth Bywydeg yn 1983, y byddwn – a minnau’n mynd i fod mor hen â 28 oed erbyn y flwyddyn dyngedfennol honno – yn briod â dau o blant erbyn hynny, tydw i erioed wedi gwirioneddol gredu hynny ym mêr fy esgyrn. Hyd yn oed pan oeddwn yn blentyn, a fy chwaer fach yn magu degau o ddoliau ac yn chwarae ‘priodas’ yn yr ardd gefn, doedd o ddim yn rhywbeth roeddwn i wirioneddol yn ei chwennych. Mae fy mherthnasau hirdymor i gyd wedi bod yn rhai i’w trysori ac mae pob un ohonyn nhw wedi fy siapio, ryw faint, nes fy mod y person ydw i heddiw. Ond tydw i erioed wedi dod yn agos at allu meddwl am ymrwymo i un person am weddill fy oes.

Dwi hefyd yn gorfod cyfaddef wedi blynyddoedd o bendroni, bod ’na rywbeth anaeddfed iawn amdana i pan mae’n dod at faterion carwriaethol. Dwi’n grochan plentynnaidd o styfnigrwydd, gorddamcaniaethu, safonau rhy uchel a diffyg safonau a dwi’n dal yn crefu cyffro. Mae bod yn onest am fy nheimladau’n broblem fawr i mi. Am ryw reswm dwi’n teimlo bod dangos ’mod i ‘angen’ rhywun yn wendid.

Anghofia i fyth fod yng nghefn tacsi gyda hen gariad a hwnnw’n gofyn, oriau ar ôl dod â’r berthynas i ben a minnau’n gafael yn dynn amdano, pam nad o’n i wedi dangos yn y gorffennol ’mod i ei angen fel hyn? Roedd wedi teimlo nad oedd yn ddigon i mi, ond y gwir amdani oedd ’mod i’n ei garu â phob tamaid o fy modolaeth a doeddwn i erioed wedi bod angen neb cymaint ag yr o’n i ei angen o yr eiliad honno. Doeddwn i erioed wedi dweud hynny wrtho. Ro’n i’n methu. Roedd hi’n rhy hwyr. Roedd ei galon wedi symud ymlaen at rywun fyddai’n ei rhoi hi yn ei phoced a’i chadw’n gynnes a saff am byth, ac roedd o’n haeddu hynny. Wrth fynd yn hŷn, dwi’n sylweddoli bod angen dweud wrth y bobol arbennig yn eich bywyd eich bod chi eu hangen nhw yn y bywyd hwn. Mae teimlo bod rhywun eich angen chi yr un mor bwysig â’r teimlad eich bod chi eu hangen nhw. Dwi’n hollol ymwybodol o’r broblem a dwi’n gweithio ar fod fel y genod mawr i gyd, ond dwi hefyd yn gwybod bod gwreiddyn y duedd hon wedi ei blannu ymhell iawn yn ôl.

Man cychwyn y diffyg oedd pan o’n i’n chwech oed. Roedd pobol pentref Dolwyddelan wedi trefnu parti ffarwél i’r prifathro ifanc oedd yn gadael yr ysgol fach gefn gwlad am borfeydd brasach dinas fawr Bangor. Dad oedd y prifathro hwnnw a doeddwn i ddim yn hapus o gwbwl efo’i benderfyniad hunanol. A dweud y gwir, ro’n i wedi crio’n solat yn nhoilet yr ysgol am dri mis cyfan ers i Mam a Dad dorri’r newydd echrydus i fy chwaer fach a minnau. Roedd fy eczema wedi penderfynu gwneud ei ymddangosiad mwyaf dramatig erioed i ddathlu’r digwyddiad. Roedd hyn yn gwneud fy ngwefusau’n debycach i rai merch Mick Jagger a Dolly Parton na merch Wil a Marian o Ddolwyddelan.

Coron y parti bondigrybwyll i blant y pentref oedd disgo lle byddai pob un o ddau ddeg tri disgybl yr ysgol yn chwyrlïo o gwmpas gyda’i gilydd, fel topiau gwallgo, gan gyrdlo’r pop a’r creision yn eu stumogau cyffrous ar yr un pryd.

Nid fi.

Roeddwn i mewn cariad dwfn efo Dafydd Efail Fach, ond oherwydd awch fy nhad i ddringo’r ysgol lwyddiant academaidd, roedd y garwriaeth yn gorfod dod i ben. Doedd perthynas ddaearyddol bell ddim yn mynd i barhau, yn enwedig gan y byddai o leiaf ddeng mlynedd cyn y byddai’r ddau ohonom yn gymwys i gael trwydded yrru a doedd y geiriau ‘ffôn symudol’, na ‘ffôn’ hyd yn oed, ddim yn ein geiriadur yn 1977.

A minnau’n gwisgo’r crys T brynodd ei fam i mi ar fy mhen- blwydd ac yn grachan feddal weflog o glust i glust (ydych chi’n gweld patrwm?), eisteddais yn y gornel, yn un lwmp o hunandosturi, yn disgwyl i fy arwr groesi’r stafell a gofyn am ddawns. Ein dawns ffarwél. Dyma’r hogyn fferm penfelyn a afaelodd yn fy llaw o dan y bwrdd a chynnig ei lefrith cynnes i mi bob bore am ddwy flynedd gyfan. Edrychodd ei lygaid gleision i fyw fy llygaid cochion clwyfus a chamodd y coesau bach gwyn â phlastar Mr Bump ar bob pen-glin tuag ataf yn nerfus.

‘T’isho dawnsio?’ gofynnodd.

Roedd fy nghalon yn taranu a minnau’n cosi drosta’i diolch i’r eczema. Dyma fy moment fawr. Yn y chwe blynedd roeddwn i wedi bod ar y ddaear, fues i erioed isho rhywbeth gymaint â hyn.

‘Na, dim diolch,’ atebais. Roedd y gwreiddyn wedi ei blannu. A does dim wedi newid. Pan fo’r byd i gyd o ’mlaen dwi’n dewis dweud ‘na’ ... Mi ddof. Mi dyfaf i fyny ryw ddiwrnod. Gobeithio.


Mam

Gallaf ei ddweud o bellach. Gallaf ei gyfaddef a’i dderbyn o. Tydw i ddim wedi bod yn hapus ers y diwrnod y collais i Mam. Ddim yn wirioneddol hapus. Wrth gwrs, tydw i ddim yn byw bob dydd yn cario fy ngalar ar fy ysgwyddau i bawb ei weld, ond tydw i ddim wedi bod yr un fath ag oeddwn i cyn Mawrth y seithfed, 1997. Tydy’r byd ddim wedi bod yr un fath ers y diwrnod hwnnw a fydd o fyth yr un fath eto.

Does ’na neb yn dweud wrthych am y boen uffernol sy’n eich bwyta yn fyw, yn crafu eich calon a lluchio eich perfedd tu chwith allan. Does ’na neb yn eich paratoi am yr udo mewnol ac allanol sy’n ddychryn i’ch clustiau eich hun weithiau, a does neb yn dweud y bydd gennych ofn pellhau o’r math yma o fod.

Toeddwn i ddim yn medru dweud y geiriau ‘Mae Mam wedi marw’ am tua blwyddyn ar ôl ei marwolaeth. Roeddwn i’n darganfod ffyrdd o osgoi rhoi’r geiriau mewn brawddeg rywsut oherwydd, yn fy nghalon, doeddwn i ddim isho derbyn ei bod hi, yn bum deg un oed, wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun yn y byd. Mae colli eich mam yn chwech ar hugain oed fel bod ar goll mewn drysfa goediog dywyll, yn trio chwilio am y dafnau o haul ysbeidiol rhwng y canghennau i gynhesu’r wyneb a’ch arwain tuag adra. Pan aeth Mam, fe aeth fy adra i.

Mae dwy ran i fywyd bellach. Bywyd efo Mam a bywyd heb Mam, neu i’w roi yn ei ffurf emosiynol, y dyddiau hapus a’r dyddiau di-angor. Tydw i ddim yn ymddiheuro am drymder y dweud am ’mod i’n gwybod y bydd y garfan sydd wedi colli yn deall. Roedd ceisio ymddangos fel person normal yn y misoedd wedi ei marwolaeth yn anodd. Roedd y coesau’n dal i fy nghario, roedd y gwefusau’n dal i symud a siarad yr un hen ystrydebau, a’r llygaid yn dal i wenu’n ddiolchgar wrth i bobol wingo eu cydymdeimlad i fy nghyfeiriad i. Ond y tu mewn roedd mwnci bach yr ymennydd yn cyfansoddi ei naratif ei hun. Nid fi ydw i rŵan. Tydy’r byd ddim yn gwneud synnwyr bellach a bydd popeth am symud yn araf o hyn ymlaen.

Tydy ffieidd-dod at farwolaeth byth yn eich gadael. Mae canser yn fastard ac mae’r ffordd mae’n dinistrio bod dynol, yn cicio’r anadl o’r corff, yn eich gadael yn fud. Mae’r chwydu, y gwaed a’r dafnau gwallt, y piso, yr aroglau halen ar y croen a’r cafnau llygaid gwag yn ddigon i’ch gyrru’n orffwyll. Mae dyddiau o ffwndro cyffuriol wedi chemotherapy a’r colli rheolaeth cyhyrol yn eich gadael yn oer. Ond nid unrhyw fod dynol oedd hon. Fy mam i oedd hon ac roedd yn rhaid gwylio’r lleidr di-egwyddor yn ei chipio o flaen fy llygaid a minnau’n methu gwneud dim. Drwy fynd â hi, mi aeth â darn ohona i. Mi gododd gyllell i stumog fy mywyd a’i rwygo.

Roedd hi’n 3.30 ar y pnawn Gwener hwnnw pan ganodd y gloch ar y ddirprwy brifathrawes. Roedd hi hefyd ddyddiau’n unig cyn Sul y Mamau. Roedd y siopau’n llawn o’r cardiau siwgrllyd, y balŵns a’r blodau bondigrybwyll. Go brin y gwyddem ni bump wythnos ynghynt, pan aeth hi i mewn i Ysbyty Gwynedd i leddfu haint ar syst ar yr iau, mai derbyn blodau ac nid eu rhoi y byddem ni ar y Sul arbennig hwnnw. Gall blodau fod yn hyll. Mae gweld lili wen fach yn mentro drwy erwinder y gaeaf, ac yn ennill ei brwydr flynyddol, yn fy atgoffa o’r frwydr gollodd Mam. Mae’r lili’n plygu ei phen wrth fy ngweld i bellach. Mae ei heuogrwydd yn amlwg.

Mae edrych ar y lleuad, bod yn Tesco a chamu i mewn i fàth poeth yn amlygu’r golled. Alla i ddim egluro pam, ond dyna’r peth efo hyrddiau hiraeth, maen nhw’n gallu dod o nunlle. Maen nhw’n ddisgwyliedig yng nghyngerdd Nadolig plant fy chwaer, a phan anwyd y plantos hynny (yn enwedig gan fod fy chwaer fach wedi mynnu geni tri ohonyn nhw i gyfeiliant ‘Nos Da, Mam’, Steve Eaves) ond y rhai gwaethaf ydy’r rheiny sy’n neidio o’r cysgodion ac yn eich llarpio fel arth.

Ddoe, mi es i i brynu anrheg i ffrind grefftus sydd wedi cael clun newydd. Camais i mewn i’r siop grefftau yn llawen efo’r bwriad o brynu pelen o wlân neu focs macramé iddi. A dyna lle’r oedd o. Y bocs i chwalu fy nydd yn deilchion. PAPER ART CARDS FOR ALL OCCASIONS. Bedair blynedd ar bymtheg ynghynt, Nadolig olaf fy mam, roedd hi wedi derbyn yr union focs yn anrheg gan ei ffrind. Wedi i’w chyfaill artistig ddangos sut oedd gwneud y cardiau i Mam – rhyw flodyn bychan cynnil gwyrdd ar un, adenydd pili pala piws ar y llall a rhosyn coch o bapur sidan ar un arall daeth yn amser i Mam ‘gael go’. Agorais y drws wedi awr o ddistawrwydd llethol a dyna lle’r oedd hi’n glitter a glud o’i chorun i’w sawdl. Tameidiau o bapur aur a choch yn hongian o’i wig a’r wên fwyaf ar ei gwefusau sych. Roedd y cerdyn yn un carnifal o flodau a malwod, o we pry cop a balŵns a bwnis. Cododd y campwaith amryliw efo’i llaw ansad. ‘Unwaith gychwynnish i, o’n i methu stopio. Mae o’n ridicilys, dydy!’ Dechreuodd y ddwy ohonom chwerthin, a droiodd yn grio ac yn udo. Gafaelais yn ei hesgyrn brau gan wybod mai’r cerdyn hwn fyddai fy nhrysor pennaf am byth. Rhedais allan o’r siop yn Canton â’r arth fawr ar fy sodlau.

Mae’n bwysig i mi fy mod yn ei chofio fel ag yr oedd hi. Mae’n hawdd mytholeiddio person wedi iddyn nhw farw ac mae hynny’n un o fy ofnau mawr. Tydw i ddim isho i Mam fod yn ddarlun dilychwin yn fy mhen. Dwi’n mynnu cofio ei ffaeleddau hefyd oherwydd mai yn y ffaeleddau hynny dwi’n dod i adnabod fy hun. Y gorsensitifrwydd, y blerwch a’r gorymateb. Mae hi’n fyw o hyd yndda i. Wrth i mi edrych yn y drych a gweld fy hun yn heneiddio, gwelaf ei hwyneb hi’n syllu’n ôl arna i. Ydy hi’n hapus efo pwy ydw i heddiw, neu ydy hi’n gallu gweld y dinistr mewnol y tu ôl i’r llygaid celwyddog?

Does dim yn eich paratoi ar gyfer y diwedd. Cysur gwag ydy gwybod y gwir. Pan ddywedodd y doctor fod ganddi rhwng tri mis a thair blynedd, dim ond y tair blynedd glywais i ac roedd hynny’n llawer yn rhy fyr. Bedwar mis yn ddiweddarach, wrth i fywyd lithro’n boenus ohoni, doeddwn i ddim wedi gofyn iddi am ei hofnau dwysaf. Mae hynny’n fy nghadw’n effro’r nos. Pam na fues i’n ddigon o ddynes i edrych i fyw ei llygadau a dweud ’mod i’n gwybod ei bod yn marw. Yn marw. Y gair na feiddiais ei yngan wrthi. Pam na luchiais fy anaeddfedrwydd o’r neilltu a gafael yn ei llaw y noson honno o flaen y tân, wrth iddi dagu ar ei bwyd, a thrafod ei hofnau? Wrth ei gwylio’n codi oddi ar y tŷ bach yn ward Alaw a tharo ei phen yn erbyn y sinc, wrth i’w choesau roi oddi tani, pam na wnes i gydnabod y dychryn yn ei llygaid a siarad am y diwedd? Pam na ddywedais i wrthi ’mod i’n mynd i’w cholli hi am byth?

Chwech ar hugain oed oeddwn i ac roedd gen i ofn cydnabod y gwir. Dwi’n barod rŵan, Mam. Roeddwn i’n barod pan glywais y griddfan olaf wrth i’r anadl ddianc o’i hysgyfaint.

Roeddwn i’n barod yr eiliad y rhoddais fy ngwefusau ar ei gwefusau glas a dychryn wrth deimlo mor oer oedden nhw. Ond roedd hi wedi mynd.

Heddiw, wedi bron i ddau ddegawd o hel meddyliau a chwarae’r sgyrsiau y dylem fod wedi eu cael, dwi’n sylweddoli mai dim ond un peth sydd angen ei ddweud. Dwi’n eich colli chi a tydw i ddim am i hynny newid fyth. Do, pan aethoch chi, fe aeth rhan ohona i ond gallaf ddysgu byw efo hynny. 

Caiff Syllu ar walia’ ei lansio yn Gwin Dylanwad Wine yn Nolgellau ar nos Iau, 5 Hydref 2017, am 7.30yh.

Bydd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda'r awdures Bethan Gwanas ac fe fydd yna gerddoriaeth fyw gan Osian Morris.

Diolch i wasg Y Lolfa am ganiatâd i gyhoeddi’r detholiad hwn.

Yn y chwe blynedd roeddwn i wedi bod ar y ddaear, fues i erioed isho rhywbeth gymaint â hyn. ‘Na, dim diolch,’ atebais. Roedd y gwreiddyn wedi ei blannu. A does dim wedi newid

Pynciau:

#Hunangofiannau
#Ffion Dafis